Cynulliad Cenedlaethol Cymru
The National Assembly for Wales

 


Cofnod y Trafodion

The Record of Proceedings

 

 

 

 

 

 

 

 

 

Dydd Mercher, 12 Hydref 2011

Wednesday, 12 October 2011


Cynnwys
Contents

 

 

2......... Cwestiynau i’r Gweinidog Addysg a Sgiliau
Questions to the Minister for Education and Skills

 

28....... Cwestiynau i’r Gweinidog Llywodraeth Leol a Chymunedau
Questions to the Minister for Local Government and Communities

 

47....... Datganiad: Dulliau Llywodraeth Cymru i Sbarduno’r Economi
Statement: The Welsh Government’s Approach to Economic Stimulus

 

56....... Cynnig i Ethol Ymddiriedolwyr Cynllun Pensiwn yr Aelodau
Motion to Elect Trustees of the Members’ Pension Scheme

 

57....... Dadl y Ceidwadwyr Cymreig
Welsh Conservatives Debate

 

84....... Dadl Plaid Cymru
Plaid Cymru Debate

 

111..... Dadl Democratiaid Rhyddfrydol Cymru
Welsh Liberal Democrats Debate

 

140..... Dadl Fer
Short Debate

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

Yn y golofn chwith, cofnodwyd y trafodion yn yr iaith y llefarwyd hwy ynddi yn y Siambr. Yn ogystal, cynhwysir cyfieithiad Saesneg o gyfraniadau yn y Gymraeg.

 

In the left-hand column, the proceedings are recorded in the language in which they were spoken in the Chamber. In addition, an English translation of Welsh speeches is included.

 

 

 

 

 

Cyfarfu’r Cynulliad am 1.30 p.m.gyda’r Llywydd (Rosemary Butler) yn y Gadair.

The Assembly met at 1.30 p.m.with the Presiding Officer (Rosemary Butler) in the Chair.

 

Y Llywydd: Prynhawn da. Galwaf Gynulliad Cenedlaethol Cymru i drefn.

The Presiding Officer: Good afternoon. I call the National Assembly for Wales to order. 

 

Cwestiynau i’r Gweinidog Addysg a Sgiliau
Questions to the Minister for Education and Skills

 

Llythrennedd Ariannol

Financial Literacy

 

1. Mark Isherwood: Beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i hybu llythrennedd ariannol mewn ysgolion. OAQ(4)0036(ESK)

1. Mark Isherwood: What is the Welsh Government doing to encourage financial literacy in schools. OAQ(4)0036(ESK)

 

The Minister for Education and Skills (Leighton Andrews): We have embedded financial education in the curriculum to ensure that young people develop the skills required to manage money effectively and make informed financial decisions. Schools are supported to deliver effective financial education through the Welsh financial education unit, and secondees from local authorities are currently being recruited to the unit.

Y Gweinidog Addysg a Sgiliau (Leighton Andrews): Yr ydym wedi ymgorffori addysg ariannol yn y cwricwlwm i sicrhau bod pobl ifanc yn datblygu’r sgiliau sydd eu hangen i reoli arian yn effeithiol a gwneud penderfyniadau ariannol gwybodus. Mae ysgolion yn cael eu cefnogi i ddarparu addysg ariannol effeithiol drwy uned addysg ariannol Cymru, ac mae secondeion o awdurdodau lleol yn cael eu recriwtio i’r uned ar hyn o bryd.

 

Mark Isherwood: I welcome that answer, and the fact that you determined that the Welsh financial education unit would continue to operate after the independent evaluation, in which the general conclusion was that there should be a shift towards greater support and planning, incorporating financial education in curriculum delivery. How do you propose to develop that curriculum delivery and to incorporate, for example, qualifications such as those provided by the IFS School of Finance, which has been proved to be successful at schools such as Ysgol y Berwyn, Y Bala, not only with the staff, the headteacher and the head of business studies, but also with the pupils who gave evidence to the former Communities and Culture Committee inquiry into this area?

 

Mark Isherwood: Yr wyf yn croesawu’r ateb hwnnw, a’r ffaith eich bod wedi penderfynu y bydd uned addysg ariannol Cymru yn parhau i weithredu ar ôl y gwerthusiad annibynnol, a ddaeth i’r casgliad cyffredinol y dylid symud tuag at fwy o gefnogaeth a chynllunio, gan ymgorffori addysg ariannol wrth gyflwyno’r cwricwlwm. Sut ydych yn bwriadu i’r cwricwlwm gael ei gyflwyno a sut y byddwch yn cynnwys, er enghraifft, cymwysterau megis y rhai a ddarperir gan Ysgol Cyllid yr IFS, sydd wedi profi’n llwyddiannus mewn ysgolion megis Ysgol y Berwyn, Y Bala, nid yn unig gyda’r staff, y pennaeth a phennaeth astudiaethau busnes, ond hefyd gyda’r disgyblion a roddodd dystiolaeth i ymchwiliad y cyn Pwyllgor Cymunedau a Diwylliant i’r maes hwn?

Leighton Andrews: We have had the independent evaluation of the unit’s progress, and, as a result of that, we have agreed that the Welsh financial education unit will continue to operate after 2011. We are in the process of recruiting new staff to the unit to deliver a further work programme from 2012, working in partnership with local authorities to embed financial education in primary and secondary schools, including the qualifications that you are talking about.

Leighton Andrews: Yr ydym wedi cael y gwerthusiad annibynnol o gynnydd yr uned, ac, o ganlyniad i hynny, rydym wedi cytuno y bydd uned addysg ariannol Cymru yn parhau i weithredu ar ôl 2011. Rydym yn y broses o recriwtio staff newydd i’r uned i gyflwyno rhaglen waith pellach o 2012, gan weithio mewn partneriaeth ag awdurdodau lleol i ymgorffori addysg ariannol mewn ysgolion cynradd ac uwchradd, gan gynnwys y cymwysterau yr ydych yn sôn amdanynt.

 

Jocelyn Davies: Minister, I was surprised recently to see the results of a survey of young people that found that a sizeable percentage thought that the higher the annual percentage rate on a loan, the better the deal they were getting. You will also recall, Minister, that, earlier this year, Blackwood Primary School was held as an example of best practice for teaching financial literacy through using a number of interesting and exciting methods. I am sure that you would join me in praising its work. Estyn has stated that an effective way of co-ordinating financial literacy in schools is by appointing a member of staff who can lead on the matter. Do you have any plans to roll out such good practice across the nation’s schools, so that widespread financial illiteracy can be tackled?

Jocelyn Davies: Weinidog, yr oeddwn yn synnu yn ddiweddar i weld canlyniadau arolwg o bobl ifanc, lle yr oedd canran sylweddol o’r farn po uchaf y gyfradd ganrannol flynyddol ar fenthyciad, y gorau oedd y fargen yr oeddent yn ei chael. Fe gofiwch hefyd, Weinidog, yn gynharach eleni, y cafodd Ysgol Gynradd y Coed Duon ei chrybwyll yn enghraifft o arfer gorau o ran addysgu llythrennedd ariannol drwy ddefnyddio nifer o ddulliau diddorol a chyffrous. Yr wyf yn siŵr y byddech yn ymuno â mi i ganmol ei gwaith. Mae Estyn wedi datgan mai un ffordd effeithiol o gydlynu llythrennedd ariannol mewn ysgolion yw drwy benodi aelod o staff sy’n gallu arwain ar y mater. A oes gennych chi unrhyw gynlluniau i gyflwyno arferion da ar draws ysgolion y genedl er mwyn mynd i’r afael â’r lefelau uchel o anllythrennedd ariannol?

 

Leighton Andrews: You raise important points, and the recent Estyn report, ‘Money Matters’, looked at the provision of financial education for seven to 19-year-olds in primary and secondary schools in Wales. What we want to ensure is that the examples of best practice that you gave are rolled out across Wales. We have also worked to ensure that the credit union network is supported to provide information directly to schools; indeed, some schools work with credit unions, or have established credit union facilities on their premises, to enable young people to get a better understanding of safer ways to invest.

Leighton Andrews: Yr ydych yn codi pwyntiau pwysig, ac edrychodd adroddiad diweddar Estyn, ‘Materion Ariannol’ ar ddarpariaeth addysg ariannol i blant saith i 19 oed mewn ysgolion cynradd ac uwchradd yng Nghymru. Yr hyn yr ydym am ei sicrhau yw bod yr enghreifftiau o arfer gorau a roesoch yn cael eu cyflwyno ar draws Cymru. Rydym hefyd wedi gweithio i sicrhau bod y rhwydwaith o undebau credyd yn cael ei gefnogi i ddarparu gwybodaeth yn uniongyrchol i ysgolion; yn wir, mae rhai ysgolion yn gweithio gydag undebau credyd, neu wedi sefydlu cyfleusterau undeb credyd ar eu safleoedd, er mwyn galluogi pobl ifanc i gael gwell dealltwriaeth o ffyrdd mwy diogel o fuddsoddi.

 

Ailstrwythuro Addysg Uwch

Restructuring Higher Education

 

2. Nick Ramsay: A wnaiff y Gweinidog roi’r wybodaeth ddiweddaraf am ei bolisïau ar gyfer ailstrwythuro addysg uwch. OAQ(4)0045(ESK)

 

2. Nick Ramsay: Will the Minister provide an update on his policies for restructuring higher education. OAQ(4)0045(ESK)

Leighton Andrews: I shall be considering representations received on the Higher Education Funding Council for Wales’s reconfiguration proposals. The most pressing issue facing Welsh higher education is the future of the University of Wales, and I gave a statement on that on Monday and answered questions on it yesterday.  

Leighton Andrews: Byddaf yn ystyried y sylwadau a dderbyniwyd ar gynigion ad-drefnu Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru. Y mater mwyaf dybryd sy’n wynebu addysg uwch yng Nghymru yw dyfodol Prifysgol Cymru, a rhoddais ddatganiad ar hynny ar ddydd Llun ac atebais gwestiynau arno ddoe.

 

Nick Ramsay: As you say, currently, there are great concerns surrounding the situation with the University of Wales, so I would appreciate it if you could provide the Chamber with an update on that situation. Many young people in my constituency study at the University of Wales, Newport, and in light of recent weeks’ news that the University of Wales will cease to award degrees to graduates of Newport university, what are you doing to ensure that young people currently in the process of getting a degree are reassured that their study will deliver a qualification that is equitable to previous qualifications and which will provide them with the basis that they need to move into the world of work?

Nick Ramsay: Fel y dywedwch, ar hyn o bryd, mae pryderon mawr ynghylch y sefyllfa o ran Prifysgol Cymru, felly byddwn yn ddiolchgar pe gallech roi diweddariad ar y sefyllfa honno yn y Siambr. Mae llawer o bobl ifanc yn fy etholaeth i yn astudio ym Mhrifysgol Cymru, Casnewydd, ac o ystyried y newyddion diweddar na fydd Prifysgol Cymru yn parhau i ddyfarnu graddau i raddedigion o brifysgol Casnewydd, beth ydych yn ei wneud i sicrhau bod pobl ifanc sydd ar hyn o bryd yn y broses o gael gradd yn cael sicrwydd y bydd eu hastudiaethau yn arwain at gymhwyster sy’n gyfartal i gymwysterau blaenorol ac a fydd yn rhoi iddynt y sail sydd ei hangen arnynt i symud i’r byd gwaith?

 

Leighton Andrews: Degree-awarding issues are for the universities themselves to resolve. The situation with regard to the University of Wales, Newport is that the qualifications will exist for the next 12 months. There will, therefore, be a time period for it to resolve those issues. As I said in the Chamber yesterday, there is nothing wrong with a University of Wales degree that is properly earned, and we want the quality of that degree brand to be understood.

Leighton Andrews: Mae materion ynghylch dyfarnu graddau yn faterion i’r prifysgolion eu hunain eu datrys. Y sefyllfa o ran Prifysgol Cymru, Casnewydd yw y bydd y cymwysterau yn bodoli ar gyfer y 12 mis nesaf. Felly, bydd cyfnod o amser i ddatrys y materion hynny. Fel y dywedais yn y Siambr ddoe, nid oes unrhyw beth o’i le gyda gradd Prifysgol Cymru sydd wedi ei hennill yn iawn, ac rydym am i ansawdd brand y radd honno gael ei ddeall.

 

Vaughan Gething: As with others across the Chamber, I have been appalled at recent revelations regarding the University of Wales. However, the University of Wales has an impact on the potential restructuring of higher education, particularly given the well-known proposal that could see it effectively becoming a regional institution, but still carrying the name of the nation. Have you had any response thus far from the University of Wales about taking responsibility for the current problems, as well as about how the current problems may affect higher education in Wales, on a national and an international level, and the future structure for education here?

Vaughan Gething: Fel eraill ar draws y Siambr, yr wyf wedi fy siomi gan ddatgeliadau diweddar ynghylch Prifysgol Cymru. Fodd bynnag, mae Prifysgol Cymru yn cael effaith ar ailstrwythuro posibl addysg uwch, yn enwedig o ystyried y cynnig sydd wedi dod i’r amlwg y dylai fod yn sefydliad rhanbarthol i bob pwrpas, gan barhau i gario enw’r genedl. A ydych wedi cael unrhyw ymateb hyd yn hyn oddi wrth Brifysgol Cymru o ran cymryd cyfrifoldeb am y problemau presennol, yn ogystal ag o ran sut y gall y problemau presennol effeithio ar addysg uwch yng Nghymru, ar lefel genedlaethol a lefel ryngwladol, ac am strwythur addysg yn y dyfodol?

 

Leighton Andrews: You are right to raise the issue of the potential impact of these reputational issues affecting the University of Wales on higher education in Wales and on the country. I have had no response so far to the statements made by the Welsh Government in the past few days. The new vice-chancellor of the University of Wales needs to look carefully at the arrangements that he is putting in place to bring together that institution, the University of Wales Trinity Saint David and Swansea Metropolitan University. In that context, decisions will be taken, I assume, on the future of the University of Wales brand.

Leighton Andrews: Yr ydych yn gywir i godi’r mater o effaith bosibl y materion hyn o ran enw da Prifysgol Cymru ar addysg uwch yng Nghymru ac ar y wlad. Nid wyf wedi cael unrhyw ymateb hyd yn hyn i’r datganiadau a wnaed gan Lywodraeth Cymru dros y dyddiau diwethaf. Mae angen i is-ganghellor newydd Prifysgol Cymru edrych yn ofalus ar y trefniadau y mae’n eu rhoi ar waith i ddwyn ynghyd y sefydliad hwnnw, Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant a Phrifysgol Fetropolitan Abertawe. Yn y cyd-destun hwnnw, bydd penderfyniadau’n cael eu cymryd, yr wyf yn tybio, ar ddyfodol brand Prifysgol Cymru.

 

Simon Thomas: A allwch chi gadarnhau fod y broses ymgynghorol gan Gyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru wedi bod yn annibynnol ar y Llywodraeth?

Simon Thomas: Can you confirm that the consultation process by the Higher Education Funding Council for Wales has been independent of Government?

 

Leighton Andrews: We have been involved in a stakeholder engagement exercise on HEFCW’s proposals, and submissions have come into my department on the proposals that HEFCW has put forward. Therefore, no, I cannot confirm that.

Leighton Andrews: Rydym wedi cymryd rhan mewn ymarfer i ymgysylltu â rhanddeiliaid ar gynigion CCAUC, ac mae sylwadau wedi eu cyflwyno i fy adran ar y cynigion y mae CCAUC wedi eu cyflwyno. Felly, na, ni allaf gadarnhau hynny.

 

Simon Thomas: I thank the Minister for that clarification, which explains certain things for some institutions. He will know that the programme for government has a definite target of no institution in Wales being under the 75 per cent median of UK institutions by 2013. However, he will also know that the stakeholder engagement exercise that he has just set out states clearly that this is not based on evidence, but on a judgment call. If he now receives evidence from institutions against merger, setting out the evidence why they should have a different regional or strategic relationship with universities, will he use his judgment call to go with the flow of organic development in the sector, rather than forcing through any artificial changes?

Simon Thomas: Diolch i’r Gweinidog am yr eglurhad hwnnw, sy’n esbonio pethau penodol ar gyfer rhai sefydliadau. Bydd yn gwybod bod y rhaglen lywodraethu yn cynnwys targed pendant na fydd unrhyw sefydliad yng Nghymru o dan y canolrif o 75 y cant ar gyfer sefydliadau yn y DU erbyn 2013. Fodd bynnag, bydd hefyd yn gwybod bod yr ymarfer ymgysylltu â rhanddeiliaid y mae newydd ei osod allan yn datgan yn glir nad yw hyn yn seiliedig ar dystiolaeth, ond ar farn. Os bydd yn awr yn derbyn tystiolaeth gan sefydliadau yn erbyn uno, yn nodi’r dystiolaeth pam y dylent gael perthynas rhanbarthol neu strategol gwahanol gyda phrifysgolion, a fydd yn defnyddio ei farn i fynd gyda llif y datblygiad organig yn y sector, yn hytrach na gorfodi newidiadau artiffisial?

 

Leighton Andrews: We have a manifesto commitment in favour of a smaller number of stronger universities, which was, essentially, the policy position of the One Wales Government. The Cabinet of that previous Government endorsed proposals in the HEFCW corporate plan, which outlined the effective optimal size for higher education institutions in Wales. We will be proceeding properly to evaluate the responses received through the stakeholder engagement exercise and we will reach judgments accordingly as a Government, in line with our manifesto commitment.

Leighton Andrews: Mae gennym ymrwymiad maniffesto o blaid nifer llai o brifysgolion cryfach, a dyna oedd, yn ei hanfod, safbwynt polisi Llywodraeth Cymru’n Un. Bu i Gabinet y Llywodraeth flaenorol gymeradwyo cynigion yng nghynllun corfforaethol CCAUC, a oedd yn amlinellu’r maint gorau posibl ar gyfer sefydliadau addysg uwch yng Nghymru. Byddwn yn bwrw ymlaen yn iawn i werthuso’r ymatebion a dderbyniwyd drwy’r ymarfer ymgysylltu â rhanddeiliaid a byddwn yn cyrraedd dyfarniadau yn unol â hynny fel Llywodraeth, yn unol â’n hymrwymiad maniffesto.

 

Aled Roberts: Rhaid imi ddatgan buddiant fel llywodraethwr yng Ngholeg Iâl, Wrecsam. Cyfeiriwyd eisoes at ailstrwythuro addysg uwch, ac mae rhaglen trawsnewid hefyd yn y sector addysg bellach. A yw’n bosibl inni edrych i newid y berthynas rhwng addysg uwch ac addysg bellach fel rhan o’r sefyllfa hon, os yw’r problemau mae Simon Thomas eisoes wedi’u crybwyll yn achosi pryder i’r Gweinidog?

Aled Roberts: I must declare an interest as a governor of Yale College, Wrexham. The restructuring of higher education has already been mentioned, and there is also a transformation programme in the further education sector. Is it possible to look at changing the relationship between HE and FE as part of this situation, if the problems that Simon Thomas has already alluded to are causing concern to the Minister?

 

Leighton Andrews: Our higher education strategy, ‘For Our Future’, which was published nearly two years ago by my predecessor, made it clear that we look to ensure that the higher education system builds on the progression from further education, and that we expect further education institutions to work alongside higher education institutions. Those issues will be taken into account as we respond to the stakeholder engagement exercise.

Leighton Andrews: Yr oedd ein strategaeth addysg uwch, ‘Er Mwyn Ein Dyfodol’, a gyhoeddwyd bron ddwy flynedd yn ôl gan fy rhagflaenydd, yn ei gwneud yn glir ein bod yn ceisio sicrhau bod y system addysg uwch yn adeiladu ar y dilyniant o addysg bellach, a’n bod yn disgwyl i sefydliadau addysg bellach weithio ochr yn ochr â sefydliadau addysg uwch. Bydd y materion hynny’n cael eu hystyried wrth i ni ymateb i’r ymarfer ymgysylltu â rhanddeiliaid.

 

Aled Roberts: On the governance issue, which is causing us all a great deal of concern at the moment, will any aspect of governance arrangements within higher education be dealt with as part of the restructuring or the review of higher education? Are you able to make any announcements on that?

 

Aled Roberts: Ar fater llywodraethu, sy’n peri pryder mawr i ni i gyd ar hyn o bryd, a fydd unrhyw agwedd ar drefniadau llywodraethu o fewn addysg uwch gael eu trin fel rhan o’r ailstrwythuro neu’r adolygiad o addysg uwch? A ydych yn gallu gwneud unrhyw gyhoeddiadau ar hynny?

Leighton Andrews: We published the McCormick review of governance in higher education, before the election, and it was a manifesto commitment of my party that we would subsequently legislate on the governance of higher education. We will bring forward proposals for consultation in due course.

 

Leighton Andrews: Bu inni gyhoeddi adolygiad McCormick ar lywodraethiant mewn addysg uwch cyn yr etholiad, ac yr oedd yn ymrwymiad ym maniffesto fy mhlaid y byddem wedyn yn deddfu ar lywodraethu o fewn addysg uwch. Byddwn yn cyflwyno cynigion maes o law a fydd yn destun ymgynghoriad.

David Rees: On the flip side of Simon Thomas’s question, if mergers occur, will you assure me, Minister, that the mission statements of individual institutions are maintained? They are significantly different from each other and serve different communities within Wales. It is important that all our students in Wales have an opportunity to go to an institution in Wales to meet their aspirations.

 

David Rees: I droi cwestiwn Simon Thomas ar ei ben, os bydd uno yn digwydd, a wnewch chi fy sicrhau, Weinidog, y bydd datganiadau cenhadaeth sefydliadau unigol yn cael eu cadw? Maent yn wahanol iawn i’w gilydd ac yn gwasanaethu gwahanol gymunedau yng Nghymru. Mae’n bwysig bod pob myfyriwr yng Nghymru yn cael cyfle i fynd i sefydliad yng Nghymru i gwrdd â’i ddyheadau.

Leighton Andrews: Clearly, if the missions of individual higher education institutions are in accordance with our higher education strategy, as set out in ‘For our Future’, we will want to ensure that those missions continue in the future. 

 

Leighton Andrews: Yn amlwg, os yw bwriadau sefydliadau addysg uwch unigol yn unol â’n strategaeth addysg uwch, fel y nodwyd yn ‘Er Mwyn Ein Dyfodol’, yr ydym yn awyddus i sicrhau eu bod yn parhau at y dyfodol.

Colegau Addysg Bellach

Further Education Colleges

 

3. Mike Hedges: A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ddyfodol colegau addysg bellach yng Nghymru. OAQ(4)0038(ESK)

3. Mike Hedges: Will the Minister make a statement on the future of further education colleges in Wales. OAQ(4)0038(ESK)

 

Leighton Andrews: We are considering responses to the consultation on FE governance. The sector has responded well to the transformation policy. Its commitment to meeting the independent review of the structure of education services in Wales will provide valuable efficiencies and ensure that learners enjoy greater access to high-quality courses.

Leighton Andrews: Yr ydym yn ystyried ymatebion i’r ymgynghoriad ar lywodraethu addysg bellach. Mae’r sector wedi ymateb yn dda i’r polisi trawsnewid. Bydd ei ymrwymiad i fodloni’r adolygiad annibynnol o strwythur gwasanaethau addysg yng Nghymru yn darparu effeithlonrwydd gwerthfawr ac yn sicrhau mynediad gwell at gyrsiau o ansawdd uchel i ddysgwyr.

 

Mike Hedges: I agree with your proposals to merge colleges across Wales. However, I have concerns. I am aware that each institution has full autonomy over the curriculum and courses on offer. Will you tell me what the Welsh Government is doing to ensure that a full range of subjects and courses will be available in each of the new merged colleges?

Mike Hedges: Yr wyf yn cytuno â’ch cynigion i uno colegau ar draws Cymru. Fodd bynnag, mae gennyf bryderon. Yr wyf yn ymwybodol bod gan bob sefydliad ymreolaeth lawn dros y cwricwlwm a’r cyrsiau sydd ar gael. A wnewch chi ddweud wrthyf beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i sicrhau y bydd ystod lawn o bynciau a chyrsiau ar gael ym mhob un o’r colegau cyfunedig newydd?

 

Leighton Andrews: We want to ensure that learners have an effective choice before them. Sometimes, that will be undertaken by a single institution, and sometimes it will be undertaken by institutions collaborating with each other, whether they are FE colleges or whether they are school sixth forms. What we want to ensure is that we do not have unnecessary competition, where too many institutions are providing the same subject but with class sizes that are too small. Therefore, what we are looking for is proper collaboration between institutions to deliver a good range of subjects.

Leighton Andrews: Rydym am sicrhau bod dewis effeithiol gan ddysgwyr. Weithiau, fe fydd hynny’n cael ei wneud gan un sefydliad, ac weithiau bydd yn cael ei wneud gan sefydliadau sy’n cydweithio â’i gilydd, p’un a ydynt yn golegau addysg bellach neu chweched dosbarth ysgolion. Yr hyn yr ydym am ei sicrhau yw nad oes gennym gystadleuaeth ddiangen, lle mae gormod o sefydliadau yn darparu’r un pwnc ond gyda dosbarthiadau sy’n rhy fach. Felly, yr hyn yr ydym yn chwilio amdano yw cydweithredu priodol rhwng sefydliadau i ddarparu ystod dda o bynciau.

 

William Graham: With regard to the higher education sector, which is presently enjoying some confusion, how are you going to ensure that the future of higher education courses, particularly those taught in further education colleges, will be maintained and enhanced?

William Graham: O ran y sector addysg uwch, sydd ar hyn o bryd yn profi rhywfaint o ddryswch, sut fyddwch chi’n sicrhau bod dyfodol cyrsiau addysg uwch, yn enwedig y rhai a addysgir mewn colegau addysg bellach, yn cael ei gynnal a’i wella?

 

Leighton Andrews: Our higher education strategy, ‘For our Future’, made it clear that we are interested in the delivery of higher education through both higher education institutions and further education institutions. We have some excellent examples of where the further education sector is providing courses, often in collaboration with higher education institutions—Bridgend College is one example, but there are many others. What we want to ensure is that those activities continue and that further education colleges, where they wish, are involved in the awarding of foundation degrees.

Leighton Andrews: Mae ein strategaeth addysg uwch, ‘Er Mwyn Ein Dyfodol’, wedi ei gwneud yn glir ein bod am weld addysg uwch yn cael ei gyflwyno drwy sefydliadau addysg uwch a sefydliadau addysg bellach. Mae gennym rai enghreifftiau gwych lle mae’r sector addysg bellach yn darparu cyrsiau, yn aml ar y cyd â sefydliadau addysg uwch—mae Coleg Penybont yn un enghraifft, ond mae llawer o enghreifftiau eraill. Yr hyn yr ydym am ei sicrhau yw bod y gweithgareddau hynny’n parhau a bod colegau addysg bellach, os ydynt yn dymuno gwneud hynny, yn dyfarnu graddau sylfaen.

 

William Graham: Thank you for your answer, Minister. Will you enhance the Chamber’s understanding of your strategy, particularly with regard to part-time courses, which are so vital for our skills agenda?

William Graham: Diolch am eich ateb, Weinidog. A wnewch chi wella dealltwriaeth y Siambr o ran eich strategaeth, yn enwedig o ran cyrsiau rhan-amser, sydd mor hanfodol i’n hagenda sgiliau?

 

Leighton Andrews: I made a statement on the proposed fee arrangements for part-time students before the recess. We have made it clear that we see part-time study as an important part of the programme of delivery of higher education. We remain committed to it. We have seen some great successes in Wales through a number of institutions, not least the Open University.

Leighton Andrews: Gwneuthum ddatganiad am y trefniadau ffioedd arfaethedig ar gyfer myfyrwyr rhan-amser cyn y toriad. Yr ydym wedi dweud yn glir ein bod yn gweld astudiaeth ran-amser fel rhan bwysig o’r rhaglen o ddarparu addysg uwch. Mae ein hymrwymiad iddo’n parhau. Rydym wedi gweld rhai llwyddiannau mawr yng Nghymru drwy nifer o sefydliadau, yn enwedig y Brifysgol Agored.

 

Rhodri Glyn Thomas: Weinidog, mae gennyf gwestiwn penodol ichi ynglŷn â strwythurau llywodraethu sefydliadau addysg bellach. A gytunwch ei bod yn bwysig bod llais myfyrwyr yn cael ei glywed ar y cyrff llywodraethu? A oes gennych unrhyw fwriad i sicrhau bod hynny yn digwydd ar batrwm cyffredinol drwy Gymru gyfan ac yn yr holl sefydliadau?

 

Rhodri Glyn Thomas: Minister, I have a specific question on the governance structure of further education institutions. Do you agree that it is important that the voice of students is heard on governing bodies? Do you have any intention of ensuring that that happens in a uniform way across Wales and in all institutions?

Leighton Andrews: Certainly, we regard it as important that the voice of learners is heard within further and higher education institutions. One of the ways in which that can be done is through properly resourced student unions, but also through representation, as appropriate, on governing bodies. When we bring forward our conclusions on the FE governance review, I expect to have something to say on that.    

 

 

Leighton Andrews: Yn sicr, yr ydym yn ei ystyried yn bwysig bod llais dysgwyr yn cael ei glywed mewn sefydliadau addysg bellach ac uwch. Un o’r ffyrdd y gellid gwneud hynny yw drwy undebau myfyrwyr sydd â’r adnoddau priodol, ond hefyd drwy gynrychiolaeth, fel y bo’n briodol, ar gyrff llywodraethu. Pan fyddwn yn cyflwyno ein casgliadau ar yr adolygiad o lywodraethu addysg bellach, yr wyf yn disgwyl y bydd gennyf rywbeth i’w ddweud am hynny.

1.45 p.m.

 

Peter Black: Minister, I understand that the foundation degrees and higher education provision that FE colleges deliver are basically provided through a higher education institution, which, effectively, commissions the work from the FE sector. Have you given any thought to that work being funded directly by the Higher Education Funding Council for Wales, particularly in relation to foundation degrees, which FE colleges seem to be in a good position to deliver?

 

Peter Black: Weinidog, yr wyf yn deall bod y graddau sylfaen a’r ddarpariaeth addysg uwch a gyflwynir gan golegau addysg bellach yn cael eu darparu, yn sylfaenol, trwy sefydliad addysg uwch, sydd, i bob pwrpas, yn comisiynu’r gwaith o’r sector addysg bellach. A ydych chi wedi rhoi unrhyw ystyriaeth i ariannu’r gwaith hwnnw’n uniongyrchol gan Gyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru, yn enwedig mewn perthynas â graddau sylfaen, y mae colegau addysg bellach yn ymddangos fel pe baent mewn sefyllfa dda i’w darparu?

 

Leighton Andrews: As we take forward the programme of higher education reforms, we anticipate that more people will want to study closer to home, and that will be one of a number of issues that we will need to address.

 

Leighton Andrews: Wrth inni fwrw ymlaen â’r rhaglen o ddiwygiadau addysg uwch, rydym yn rhagweld y bydd mwy o bobl am astudio yn nes at adref, a bydd hynny’n un o nifer o faterion y bydd angen inni roi sylw iddynt.

 

Mick Antoniw: In view of the announcement that you made earlier in the year on funding arrangements and changes to the funding for the twenty-first century schools programme, can you give us an update on the current state of that programme and any timetables involved in applications for support?

 

Mick Antoniw: O ystyried y cyhoeddiad a wnaethoch yn gynharach yn y flwyddyn ar drefniadau cyllido a newidiadau i’r cyllid ar gyfer rhaglen ysgolion yr unfed ganrif ar hugain, a allwch chi roi’r wybodaeth ddiweddaraf inni ar gyflwr cyfredol y rhaglen honno ac unrhyw amserlenni sy’n ymwneud â cheisiadau am gymorth?

 

Leighton Andrews: We have asked local authorities to make submissions to us during the course of this term. Ideally, we would like to make a further announcement to the National Assembly before the Christmas recess. This is an opportunity for local authorities to look again at their programmes and at the prospects of bringing forward additional support from their resources on the basis of a 50 per cent intervention rate.

 

Leighton Andrews: Rydym wedi gofyn i awdurdodau lleol wneud cyflwyniadau inni yn ystod y tymor hwn. Yn ddelfrydol, hoffwn wneud cyhoeddiad pellach i’r Cynulliad Cenedlaethol cyn toriad y Nadolig. Mae hwn yn gyfle i awdurdodau lleol edrych eto ar eu rhaglenni ac ar y rhagolygon o ddod â chefnogaeth ychwanegol ymlaen o’u hadnoddau ar sail cyfradd ymyrryd o 50 y cant.

 

Paul Davies: Minister, you talked about FE colleges being able to deliver HE courses when appropriate. As you will be aware, Pembrokeshire College has been substantially disadvantaged due to a decision by HEFCW to cut its funding down to 21 per cent of the college’s current HE programme. That is a huge cut, and I am sure that you appreciate that it will have an enormous impact on the ability of the college to offer HE courses in future. It will also have a negative impact on local employers, who have relied on such courses in the past to improve employees’ knowledge and skills. I appreciate that you, as Minister, have to remain at arm’s length from HEFCW’s funding decisions, but will you acknowledge and agree that a decision such as this will have a huge impact on the ability of the college to deliver HE courses in Pembrokeshire?

 

Paul Davies: Weinidog, fe wnaethoch chi sôn am golegau addysg bellach yn gallu cyflwyno cyrsiau AU pan fo hynny’n briodol. Fel y gwyddoch, mae Coleg Sir Benfro wedi bod dan anfantais sylweddol o ganlyniad i benderfyniad gan CCAUC i dorri ei gyllid i lawr i 21 y cant o raglen AU gyfredol y coleg.  Mae hynny’n doriad enfawr, ac yr wyf yn siŵr eich bod yn deall y bydd hyn yn cael effaith enfawr ar allu’r coleg i gynnig cyrsiau addysg uwch yn y dyfodol. Bydd hefyd yn cael effaith negyddol ar gyflogwyr lleol, sydd wedi dibynnu ar gyrsiau o’r fath yn y gorffennol i wella gwybodaeth a sgiliau gweithwyr. Yr wyf yn sylweddoli bod yn rhaid i chi, fel Gweinidog, aros hyd braich o benderfyniadau cyllido CCAUC, ond a fyddwch yn cydnabod ac yn cytuno y bydd penderfyniad fel hwn yn cael effaith enfawr ar allu’r coleg i gyflwyno cyrsiau AU yn sir Benfro?

 

Leighton Andrews: HEFCW has to ensure that there is a balance between institutions in Wales in delivering higher education courses; it does so based on the units that it has assessed as appropriate. These are decisions for the Higher Education Funding Council for Wales; they are not decisions for me. 

 

Leighton Andrews: Mae’n rhaid i CCAUC sicrhau bod cydbwysedd rhwng sefydliadau yng Nghymru o ran darparu cyrsiau addysg uwch;  mae’n gwneud hynny ar sail yr unedau y mae wedi’u hasesu yn rhai priodol. Mae’r rhain yn benderfyniadau i Gyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru; nid ydynt yn benderfyniadau i mi.

 

Ieithoedd Tramor Modern

Modern Foreign Languages

 

4. Mohammad Asghar: A wnaiff y Gweinidog roi’r wybodaeth ddiweddaraf am sut mae Llywodraeth Cymru yn gweithio gydag ysgolion i gynyddu nifer y disgyblion sy’n astudio ieithoedd tramor modern yng nghyfnod allweddol 4. OAQ(4)0043(ESK)

 

4. Mohammad Asghar: Will the Minister provide an update on how the Welsh Government is working with schools to boost the take-up of modern foreign languages by pupils at key stage 4. OAQ(4)0043(ESK)

 

The Deputy Minister for Skills (Jeff Cuthbert): I thank Mohammad Asghar for that question. Through the ‘Making languages count’ action plan, we are promoting a range of activities to widen the opportunities for pupils aged 14 and over to study modern foreign languages. This includes new national vocational qualification provision and the development of foreign language units linked to the Welsh baccalaureate qualification.

 

Y Dirprwy Weinidog dros Sgiliau (Jeff Cuthbert): Diolch i Mohammad Asghar am y cwestiwn hwnnw. Drwy gynllun gweithredu ‘Sicrhau bod ieithoedd yn cyfrif’, rydym yn hyrwyddo amrywiaeth o weithgareddau i ehangu’r cyfleoedd i ddisgyblion 14 oed a throsodd i astudio ieithoedd tramor modern. Mae hyn yn cynnwys darpariaeth cymhwyster galwedigaethol cenedlaethol newydd a datblygu unedau iaith dramor yn gysylltiedig â chymhwyster bagloriaeth Cymru.

 

Mohammad Ashgar: I have expressed concerns that, during the third Assembly, there was a 14 per cent fall in the number of 15-year-olds entered for GCSE examinations for modern foreign languages. You have accepted the need to halt this worrying trend, and have also highlighted the importance of pupils learning languages such as Mandarin, Spanish and Arabic, given their increasing global importance. These three languages are among the four most-spoken languages, and are all official languages of the United Nations. However, only 1,645 15-year-old pupils were entered for GCSE examinations in Spanish in 2010, and only a handful had the opportunity to study—

 

Mohammad Ashgar:   Yr wyf wedi mynegi pryderon y bu gostyngiad yn ystod y trydydd Cynulliad o 14 y cant yn nifer y disgyblion 15 mlwydd oed a gofrestrwyd ar gyfer arholiadau TGAU mewn ieithoedd tramor modern. Yr ydych wedi derbyn yr angen i atal y duedd hon, sy’n peri pryder, ac yr ydych hefyd wedi tynnu sylw at bwysigrwydd dysgu ieithoedd megis Mandarin, Sbaeneg ac Arabeg, o ystyried eu pwysigrwydd byd-eang cynyddol. Mae’r tair iaith hyn ymhlith y pedair iaith a siaredir fwyaf, ac maent i gyd yn ieithoedd swyddogol y Cenhedloedd Unedig. Fodd bynnag, dim ond 1,645 o ddisgyblion 15 mlwydd oed a gofrestrwyd ar gyfer arholiadau TGAU yn Sbaeneg yn 2010, a dim ond llond llaw a gafodd y cyfle i astudio—

 

The Presiding Officer: Order. Are we getting to a question?

 

Y Llywydd: Trefn. A ydym ar fin cyrraedd y cwestiwn?

 

Mohammad Asghar: Only a handful went for Arabic and Mandarin. Since you launched the ‘Making languages count’ action plan last year, are you confident that progress is being made? Crucially, why is there no mention of modern languages in the programme for government?

 

Mohammad Asghar: Dim ond llond llaw a ddewisodd Arabeg a Mandarin. Ers i chi lansio cynllun gweithredu ‘Gwneud i ieithoedd gyfrif’ y llynedd, a ydych yn hyderus bod cynnydd yn cael ei wneud?  Yn hanfodol, pam nad oes sôn am ieithoedd modern yn y rhaglen lywodraethu?

 

Jeff Cuthbert: I could just say ‘yes’ to that question.

 

Jeff Cuthbert: Gallaf i jest ateb ‘ydw’ i’r cwestiwn hwnnw.

 

The Presiding Officer: Thank you. Shall we move on, then, or are you going to expand on that answer?

 

Y Llywydd: Diolch yn fawr. A gawn ni symud ymlaen, neu a ydych yn mynd i ehangu ar yr ateb hwnnw?

 

Jeff Cuthbert: I will, if I may. We acknowledge that there has been a steady fall in the take-up of modern foreign languages, and we are taking action to encourage greater take-up, through the 14-19 learning pathways and CILT Cymru. We have invested £675,000 in the latter this financial year to support its programme of work. I daresay that this matter will be referred to in the qualifications review that I announced two weeks ago.

 

Jeff Cuthbert: Gwnaf, os caf. Rydym yn cydnabod y bu gostyngiad cyson yn y niferoedd sy’n astudio ieithoedd tramor modern, ac rydym yn cymryd camau i annog mwy i wneud hynny, drwy’r llwybrau dysgu 14-19 a CILT Cymru. Yr ydym wedi buddsoddi £675,000 yn CILT Cymru yn y flwyddyn ariannol hon i gefnogi ei rhaglen waith. Mae’n debygol iawn y bydd y mater hwn yn cael ei gyfeirio ato yn yr adolygiad cymwysterau a gyhoeddais bythefnos yn ôl.

 

Jenny Rathbone: I recently attended an autumn festival celebration laid on by the Confucius Institute, which included presentations by children from several schools who are being encouraged to learn Mandarin. As Mandarin is by far the world’s most-used language, and is increasingly the language of business and crucial for promoting future business, could the Minister tell us how we will encourage more pupils to learn Mandarin?

 

Jenny Rathbone: Yn ddiweddar, mynychais ddathliad gŵyl yr hydref a gynhaliwyd gan Sefydliad Confucius, a oedd yn cynnwys cyflwyniadau gan blant o nifer o ysgolion sydd yn cael eu hannog i ddysgu Mandarin. Gan taw Mandarin yw’r iaith a siaredir fwyaf yn y byd, a’i bod yn fwyfwy yn iaith busnes ac yn hanfodol ar gyfer hybu busnes yn y dyfodol, a all y Gweinidog ddweud wrthym sut y byddwn yn annog mwy o ddisgyblion i ddysgu Mandarin?

 

Jeff Cuthbert: I thank the Member for that question. I accept that Mandarin is probably the language spoken by the greatest number of people in the world, but whether it is the most widely spoken is a matter for discussion. Nevertheless, we accept fully the desirability of improving our provision for the teaching of that language. CILT Cymru is working closely with the Confucius Institute at Cardiff University and the University of Wales Trinity Saint David, and has provided direct support for the Wales-China school project. Indeed, we have recently provided funding support of £45,000 for that purpose.

 

Jeff Cuthbert: Diolch i’r Aelod am y cwestiwn hwnnw.  Derbyniaf mai Mandarin, mae’n debyg, yw’r iaith a siaredir gan y nifer fwyaf o bobl yn y byd, ond ai Mandarin yw’r iaith y siaredir yn fwyaf eang? Mae hynny’n fater i’w drafod. Serch hynny, rydym yn derbyn yn llwyr y dymuniad i wella ein darpariaeth ar gyfer addysgu’r iaith honno.  Mae CILT Cymru yn gweithio’n agos gyda Sefydliad Confucius ym Mhrifysgol Caerdydd a Phrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant, ac mae wedi rhoi cymorth uniongyrchol ar gyfer prosiect ysgol Cymru-Tsieina. Yn wir, rydym wedi darparu cefnogaeth ariannol o £45,000 yn ddiweddar at y diben hwnnw.

 

Alun Ffred Jones: Dylai’r niferoedd sy’n astudio ail neu drydedd iaith yn ein hysgolion fod yn achos pryder mawr i’r Llywodraeth. Fodd bynnag, mae problem arall, sef ansawdd y dysgu a’r addysgu. Yn y 1970au yr oedd cryn dipyn o ddatblygiadau yn y maes hwn, ond nid yw pasio arholiad TGAU mewn ail iaith erbyn hyn yn golygu eich bod yn gallu siarad yr iaith yn rhugl, neu hyd yn oed yn hanner rhugl. Felly, beth mae’r Llywodraeth yn ei wneud i geisio hyrwyddo dulliau dysgu sy’n golygu bod y rhai sy’n llwyddo yn yr arholiadau hefyd yn gallu siarad yr iaith?

 

Alun Ffred Jones: The numbers studying a second or third language in our schools should be a matter of great concern to the Government. However, there is another problem, and that is the quality of the learning and teaching. In the 1970s there were considerable developments in this area, but passing a GCSE exam in a second language these days does not mean that you can speak the language fluently, or even half fluently. Therefore, what is the Government doing to try to promote teaching methods that mean that those who succeed in the exams are also able to speak the language?

Jeff Cuthbert: I thank Alun Ffred Jones very much for that question. I think that I have already answered the question, at least in part, by referring to the work that we are doing with CILT Cymru and to the new units that we have developed. I also expect this matter to be referred to considerably in the qualifications review. Teaching methods have to be appropriate, whatever the subject being taught. I am sure that we will want to take that matter on board.

 

Jeff Cuthbert: Diolch yn fawr i Alun Ffred Jones am y cwestiwn hwnnw. Credaf fy mod eisoes wedi ateb y cwestiwn, o leiaf yn rhannol, drwy gyfeirio at y gwaith yr ydym yn ei wneud gyda CILT Cymru ac at yr unedau newydd yr ydym wedi’u datblygu.  Rwyf hefyd yn disgwyl i’r adolygiad o gymwysterau gyfeirio at y mater hwn yn helaeth. Mae’n rhaid i ddulliau addysgu fod yn briodol, beth bynnag yw’r pwnc sy’n cael ei addysgu.  Yr wyf yn sicr y byddwn yn awyddus i gymryd y mater hwnnw i ystyriaeth.

 

William Powell: As a former teacher of modern foreign languages, I share the Minister’s commitment to this important area. In recent years, there has been a sharp fall-off in the number of native-speaker language assistants employed in our schools. Would the Minister agree that the development of a programme to increase the number of assistants would be desirable and should be a priority for the Government?

 

William Powell: Fel cyn athro ieithoedd tramor modern, yr wyf yn rhannu ymrwymiad y Gweinidog i’r maes pwysig hwn.  Yn y blynyddoedd diwethaf, bu gostyngiad sydyn yn nifer y cynorthwywyr iaith gyntaf a gyflogir yn ein hysgolion. A fyddai’r Gweinidog yn cytuno bod y gwaith o ddatblygu rhaglen i gynyddu nifer y cynorthwywyr  yn ddymunol ac y dylai fod yn flaenoriaeth i’r Llywodraeth?

 

Jeff Cuthbert: As I have said—for the third time now, I think—CILT Cymru is working on this matter on our behalf. If it makes that recommendation, I am sure that we would consider it seriously.

 

Jeff Cuthbert: Fel yr wyf wedi dweud—am y trydydd tro yn awr, yr wyf yn meddwl—mae CILT Cymru yn gweithio ar y mater hwn ar ein rhan. Os yw’n gwneud yr argymhelliad hwnnw, yr wyf yn siŵr y byddem yn ei ystyried o ddifrif.

 

Arolygiadau Ysgolion

School Inspections

 

5. Bethan Jenkins: A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am arolygiadau ysgolion. OAQ(4)0040(ESK)

 

5. Bethan Jenkins: Will the Minister make a statement on school inspections. OAQ(4)0040(ESK)

 

Leighton Andrews: Anne Keane, y Prif Arolygydd Addysg a Hyfforddiant, sy’n gyfrifol am arolygiadau yng Nghymru. Mae Estyn yn annibynnol ar Lywodraeth Cymru, a dylid cyfeirio unrhyw ymholiadau am faterion gweithredol at y prif arolygydd. Mae gan arolygu annibynnol rôl allweddol i’w chwarae o ran dal ysgolion i gyfrif.

 

Leighton Andrews: School inspections in Wales are the responsibility of Ann Keane, the Chief Inspector of Education and Training. Estyn is independent of the Welsh Government and issues relating to operational matters should be referred to the chief inspector. Independent inspection plays a key role in holding schools to account.

 

Bethan Jenkins: Diolch am yr ateb. Mae’n debyg y byddaf yn ysgrifennu at yr arolygydd penodol gyda’r cwestiwn hwn. Yr wyf yn datgan buddiant gan fod fy mam yn athrawes. Bydd y Gweinidog yn gwybod bod rota pump i chwe blynedd ar hyn o bryd o ran arolygiadau ysgolion. Felly, er bod ysgolion yn cael hysbysiad o tua 15 diwrnod gwaith cyn bod arolygiad yn digwydd, mae nifer o ysgolion yn aros am yr amlen i ddod drwy’r post, ac yn barod wedi paratoi ar gyfer yr arolygiadau penodol hynny. A yw’r Gweinidog yn credu y dylid cael adolygiadau yn y fan a’r lle heb roi gwybod i’r ysgol o flaen llaw, er mwyn caniatáu i rieni a phawb arall sy’n ymwneud â’r ysgolion gael darlun cliriach o’r hyn sy’n digwydd yn yr ysgol o ddydd i ddydd?

 

Bethan Jenkins: Thank you for that answer. I am sure that I will be writing to the specific inspector with this question. I declare an interest as my mother is a teacher. The Minister will be aware that there is a five to six year school inspection rota at present. Therefore, although schools are given around 15 working days’ notice of an inspection, many schools are waiting for the envelope to come through the post, and have already prepared for those particular inspections. Does the Minister believe that there should be spot inspections without advance notice to the school, to allow parents and others who are involved with the school to have a clearer picture of what goes on in the school from day to day?

Leighton Andrews: I think that the new common inspection framework, which Estyn has embarked upon in the last 12 months, is proving to be a rigorous form of inspection. It is more reliant on full-time inspectors directly employed by Estyn. It demonstrates to schools that there is a rigour in the inspection process, and that is to be welcomed.

 

Leighton Andrews: Yr wyf yn meddwl ein bod ni’n gweld bod y fframwaith arolygu cyffredin newydd, a gychwynnwyd gan Estyn yn y 12 mis diwethaf, yn ffordd drylwyr o arolygu. Mae’n fwy dibynnol ar arolygwyr llawn-amser a gyflogir yn uniongyrchol gan Estyn. Mae’n dangos i ysgolion fod trylwyredd yn y broses arolygu, ac mae hynny i’w groesawu.

 

William Graham: Minister, do you agree with Councillor Peter Fox—the Welsh Local Government Association’s lead spokesman on education—that the WLGA remains fully committed to local government being the best place to deliver education? How do you intend to support local authorities in improving the delivery of education and to ensure that that is reflected in future school inspections?

 

William Graham: Weinidog, a ydych yn cytuno â’r Cynghorydd Peter Fox—llefarydd arweiniol CLlLC ar addysg—fod CLlLC yn parhau i fod yn gwbl ymrwymedig i sicrhau mai llywodraeth leol yw’r lle gorau i ddarparu addysg? Sut ydych yn bwriadu cefnogi awdurdodau lleol i wella cyflwyno addysg ac i sicrhau bod hynny’n cael ei adlewyrchu mewn arolygiadau ysgolion yn y dyfodol?

 

Leighton Andrews: We work closely with the Welsh Local Government Association and its education spokesperson, Councillor Peter Fox, who is the leader of Monmouthshire County Council. I am interested in the questions that you have raised, because, from my understanding of your party’s policy, you want to fund schools directly, and that is not the policy of the Welsh Local Government Association.

 

Leighton Andrews: Rydym yn gweithio’n agos gyda Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru a’i llefarydd addysg, y Cynghorydd Peter Fox, sef arweinydd Cyngor Sir Fynwy. Mae gennyf ddiddordeb yn y cwestiynau yr ydych wedi’u codi, oherwydd, yn ôl fy nealltwriaeth i o bolisi eich plaid, yr ydych am ariannu ysgolion yn uniongyrchol, ac nid dyna bolisi Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru.

 

Prydau Ysgol am Ddim

Free School Meals

 

6. Kirsty Williams: A wnaiff y Gweinidog amlinellu’r gwaith mae ei adran yn ei wneud i wella cyrhaeddiad disgyblion sy’n cael prydau ysgol am ddim. OAQ(4)0046(ESK)

 

6. Kirsty Williams: Will the Minister outline the work his department is doing to improve the attainment of pupils on free school meals. OAQ(4)0046(ESK)

Leighton Andrews: Outcomes for pupils on free school meals are unacceptable. Tackling deprivation is at the heart of my 20 actions for schools. The banding system will demonstrate which schools are performing well in addressing this issue.

 

Leighton Andrews: Mae’r canlyniadau ar gyfer disgyblion sy’n derbyn prydau ysgol am ddim yn annerbyniol. Mae trechu amddifadedd yn ganolog i’m 20 o gamau gweithredu ar gyfer ysgolion. Bydd y system fandio yn dangos pa ysgolion sy’n perfformio’n dda wrth fynd i’r afael â’r mater hwn.

 

Kirsty Williams: Thank you for that answer, Minister. I agree that the current statistic on the attainment of pupils who receive free school meals is deplorable. It is a section of society that we need to do much more to help. What action does the Government intend to take, and what additional support might the Government be able to provide for those children to improve their access to opportunities and improve the outcomes that they are able to obtain?

 

Kirsty Williams: Diolch ichi am yr ateb hwnnw, Weinidog. Yr wyf yn cytuno bod yr ystadegyn cyfredol ar gyrhaeddiad disgyblion sy’n derbyn prydau ysgol am ddim yn druenus. Mae hon yn rhan o gymdeithas sydd angen llawer mwy o help gennym. Pa gamau y mae Llywodraeth yn bwriadu eu cymryd, a pha gymorth ychwanegol y gall y Llywodraeth ei ddarparu ar gyfer y plant hynny i wella eu mynediad i gyfleoedd a gwella’r canlyniadau eu bod yn gallu cyrraedd?

 

Leighton Andrews: The performance of pupils who receive free school meals is at the heart of the school banding system that we are introducing. Simple GCSE results league tables hide the outcomes for disadvantaged young people. We have made the gap in attainment between pupils who receive free school meals and pupils who do not a key measure for schools. Not only do we want high standards, we want high standards for all. The purpose of the banding system is to ensure that there is support in place for schools that need it.

 

Leighton Andrews: Mae perfformiad disgyblion sy’n derbyn prydau ysgol am ddim wrth wraidd y system fandio ysgolion yr ydym yn ei chyflwyno. Mae tablau cynghrair canlyniadau TGAU syml yn cuddio’r canlyniadau ar gyfer pobl ifanc dan anfantais. Rydym wedi gwneud y bwlch mewn cyrhaeddiad rhwng disgyblion sy’n derbyn prydau ysgol am ddim a disgyblion nad ydynt yn fesur allweddol i ysgolion. Yr ydym ni nid yn unig am gael safonau uchel, ond rydym am gael safonau uchel i bawb. Pwrpas y system fandio yw sicrhau bod cefnogaeth ar gael i’r ysgolion hynny y mae arnynt ei hangen.

 

Darren Millar: Minister, a free meal that is available in many schools in Wales is breakfast. Do you agree that pupils are better off staying at home and having breakfast with their parents than being given breakfast by their teachers? Do you accept that to allocate £38 million for a universal free school breakfast policy is inappropriate given the financial challenges facing your Government? [Interruption.]

 

Darren Millar: Weinidog, pryd o fwyd am ddim sydd ar gael mewn llawer o ysgolion yng Nghymru yw brecwast. A ydych yn cytuno bod yn well i ddisgyblion aros gartref a chael brecwast gyda’u rhieni yn hytrach na  chael brecwast gan eu hathrawon? A ydych yn derbyn bod dyrannu £38 miliwn ar gyfer brecwast ysgol am ddim i bawb yn bolisi amhriodol o ystyried yr heriau ariannol sy’n wynebu eich Llywodraeth?  [Torri ar draws.]

 

The Presiding Officer: Order. Can we hear the reply, please?

 

Y Llywydd: Trefn.  A allwn ni glywed yr ateb, os gwelwch yn dda?

 

Leighton Andrews: We are committed to the free breakfast scheme, as we said in our manifesto. We know that the party opposite is not.

 

Leighton Andrews: Yr ydym wedi ymrwymo i’r cynllun brecwast am ddim, fel y dywedasom yn ein maniffesto. Rydym yn gwybod nad yw’r blaid gyferbyn wedi gwneud hynny.

 

Leanne Wood: Minister, I am of the view that the reason why so many pupils in our schools are not fulfilling their potential, and end up not in work or in employment, is because of a lack of direction at crucial stages of their schooling. That could be overcome if a right was introduced that guaranteed young people training or work opportunities should they decide not to stay on in school or if they were unlikely to excel academically. In the Australian state of Victoria, there is a managed individual pathways programme that ensures that state school students aged 15 and over are provided with a plan and associated support in order to make a successful transition from school into further education or full-time employment. Would you be prepared to consider that in Wales?

 

Leanne Wood: Weinidog, yr wyf o’r farn mai’r rheswm pam nad yw cymaint o ddisgyblion yn ein hysgolion yn cyflawni eu potensial, ac yn y pen draw nad ydynt mewn gwaith neu mewn cyflogaeth, yw oherwydd diffyg cyfeiriad yn ystod camau allweddol yn eu haddysg. Gallai hynny gael ei oresgyn pe bai hawl yn cael ei chyflwyno sy’n gwarantu hyfforddiant neu gyfleoedd gwaith i bobl ifanc pe na baent yn penderfynu aros yn yr ysgol neu pe baent yn annhebygol o ragori yn academaidd. Yng ngwladwriaeth Victoria yn Awstralia, mae rhaglen llwybrau unigol a reolir yn sicrhau bod myfyrwyr yn ysgolion y wladwriaeth 15 oed a throsodd yn derbyn cynllun a chefnogaeth gysylltiedig er mwyn symud yn llwyddiannus o’r ysgol i addysg bellach neu gyflogaeth amser llawn. A fyddech yn barod i ystyried hynny yng Nghymru?

 

Leighton Andrews: We have already introduced 14-19 learning pathways, supported by the system of learning coaches. We have doubled the number of vocational qualifications on offer to young people. We have made significant progress, not least as a result of the policies of the last Government when it embedded the 14-19 learning pathways in the system.

 

Leighton Andrews: Rydym eisoes wedi cyflwyno llwybrau dysgu 14-19, a gefnogir gan y system o anogwyr dysgu. Rydym wedi dyblu nifer y cymwysterau galwedigaethol sydd ar gael i bobl ifanc. Rydym wedi gwneud cynnydd sylweddol, yn bennaf o ganlyniad i bolisïau’r Llywodraeth ddiwethaf pan oedd yn gwreiddio’r llwybrau dysgu 14-19 yn y system.

 

Cyfleusterau Addysg yn Nyffryn Clwyd

Education Facilities in the Vale of Clwyd

 

7. Ann Jones: Pa gynlluniau sydd gan Lywodraeth Cymru i wella cyfleusterau addysg yn Nyffryn Clwyd. OAQ(4)0049(ESK)

7. Ann Jones: What plans does the Welsh Government have to improve education facilities in the Vale of Clwyd. OAQ(4)0049(ESK)

 

Leighton Andrews: Following the submission of their strategic outline programmes, all local authorities will submit their outline programmes of investment to the Welsh Government in the next month. I expect to make an announcement of the running order of the twenty-first century schools programme in December.

 

Leighton Andrews: Yn dilyn cyflwyno eu rhaglenni amlinellol strategol, bydd pob awdurdod lleol yn cyflwyno eu rhaglenni amlinellol o fuddsoddiad i Lywodraeth Cymru yn ystod y mis nesaf. Yr wyf yn disgwyl cyhoeddi trefn rhaglen ysgolion yr unfed ganrif ar hugain ym mis Rhagfyr.

 

Ann Jones: You are probably aware that the college in Rhyl, which is part of the Llandrillo campus, has won the Association of Colleges Beacon award for widening participation, which celebrates outstanding outreach work with the hardest-to-reach pupils.

Ann Jones: Mae’n debyg eich bod yn ymwybodol bod y coleg yn y Rhyl, sydd yn rhan o gampws Llandrillo, wedi ennill gwobr Beacon Cymdeithas y Colegau ar gyfer ehangu cyfranogiad, sy’n dathlu gwaith allgymorth rhagorol gyda’r disgyblion mwyaf anodd i’w cyrraedd.

 

2.00 p.m.

 

As you know, this work was made possible by the excellent new facilities offered to the college thanks to the major investment by the previous Welsh Government. Minister, do you agree that it is vital that all our further education institutions follow Coleg Llandrillo’s example to widen participation and give everyone the chance to have the education they deserve?

 

Fel y gwyddoch, gwnaethpwyd y gwaith hwn yn bosibl gan y cyfleusterau newydd ardderchog a gynigir i’r coleg diolch i fuddsoddiad sylweddol gan Lywodraeth blaenorol Cymru. Weinidog, a ydych yn cytuno ei bod yn hanfodol fod ein holl sefydliadau addysg bellach yn dilyn esiampl Coleg Llandrillo i ehangu cyfranogiad a rhoi cyfle i bawb i gael yr addysg y maent yn ei haeddu?

 

Leighton Andrews: Indeed, and I commend Llandrillo College on its success in that programme. The further education sector in Wales has responded very positively to the transformation agenda and is leading the way in many areas, not least in the provision of work-based learning and the development of vocational opportunities for students. We want to ensure that that work continues now and into the future.

 

Leighton Andrews: Yn wir, ac yr wyf yn cymeradwyo Coleg Llandrillo ar ei lwyddiant yn y rhaglen honno. Mae’r sector addysg bellach yng Nghymru wedi ymateb yn gadarnhaol iawn i’r agenda trawsnewid ac yn arwain y ffordd mewn sawl maes, yn bennaf o ran darparu dysgu yn y gweithle a datblygu cyfleoedd galwedigaethol i fyfyrwyr. Rydym am sicrhau bod y gwaith yn parhau yn awr ac yn y dyfodol.

Antoinette Sandbach: Minister, like the Welsh rugby team, education is only as good as the sum of its parts, and small rural schools in north Wales are like winger George North: they form a vital part of the team. With that in mind, it is concerning that Denbighshire County Council has now formally earmarked three rural primary schools in the Corwen area for closure as part of its modernising education agenda. Given the findings of the Cambridge Policy Consultants’ report that the closure of small schools would produce only small savings at best, particularly when additional costs such as transport were taken into account, what confidence do you, as Minister, have that no child’s education will be disadvantaged if these closures go ahead and that taxpayers and families will be any better off as a result?

 

Antoinette Sandbach: Weinidog, fel tîm rygbi Cymru, mae addysg cystal yn unig â chyfanswm ei rannau, ac mae ysgolion gwledig bach yn y gogledd yn debyg i’r asgellwr George North: maent yn ffurfio rhan hanfodol o'r tîm. Gyda hynny mewn golwg, mae’n destun pryder bod Cyngor Sir Ddinbych bellach wedi clustnodi yn ffurfiol tair ysgol gynradd wledig yn ardal Corwen i gau fel rhan o’i agenda moderneiddio addysg. O ystyried canfyddiadau adroddiad y Cambridge Policy Consultants y byddai cau ysgolion bach yn cynhyrchu arbedion bach ar ond y gorau, yn enwedig pan fo costau ychwanegol megis trafnidiaeth yn cael eu hystyried, pa hyder sydd gennych chi, fel Gweinidog, na fydd addysg unrhyw blentyn o dan anfantais os yw’r caeadau hyn yn mynd yn eu blaen ac y bydd trethdalwyr a theuluoedd yn well eu byd o ganlyniad?

 

Leighton Andrews: I never comment on school organisation proposals being brought forward by local authorities on the grounds that they may be referred to me for decision.

 

Leighton Andrews: Nid wyf byth yn gwneud sylwadau ar gynigion trefniadaeth ysgolion sy’n cael eu dwyn ​​ymlaen gan awdurdodau lleol ar y sail y gallent gael eu cyfeirio ataf am benderfyniad.

 

Llyr Huws Gruffydd: Mae nifer o ysgolion cynradd yn Nyffryn Clwyd a sir Ddinbych-ac yn ehangach, a dweud y gwir-yn enwedig yr ysgolion llai, sydd wedi colli eu pennaeth yn aml yn cael trafferth recriwtio pennaeth newydd. Beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i sicrhau bod cyflenwad digonol o brifathrawon i ysgolion cynradd yn y dyfodol ac, yn bwysicach mewn rhai cyd-destunau, beth y mae’r Llywodraeth yn ei wneud i sicrhau mai atyniadol i athrawon yw dod yn bennaeth ar ysgol fach?

Llyr Huws Gruffydd: A number of primary schools in the Dyffryn Clwyd and Denbighshire areas—and further afield, to be honest—particularly the smaller schools, that have lost their headteachers often have difficulty recruiting new headteachers. What is the Welsh Government doing to ensure that there is an adequate supply of headteachers for primary schools in future, and, perhaps more importantly in some contexts, what is the Government is doing to ensure that being the headteacher of a small school is an attractive prospect for teachers?

 

Leighton Andrews: I have to say that I do not necessarily think that every small school should rely on a single headteacher. Indeed, we brought forward proposals on the federation of governing bodies of schools in the last Assembly term, which, in future, would probably result in more school federations taking place and, possibly, federation of schools under a single headteacher. Of course, we are improving the process for the award of the national professional qualification for headteachers, because we feel that, too often in the past, it has been used as a form of continuous professional development rather than as a qualification sought by people who actually want to become headteachers. So, we have made changes to that programme. However, I think that there will be a place in certain parts of Wales for the federation of schools under a single headteacher in future.

 

Leighton Andrews: Mae’n rhaid i mi ddweud nad wyf o reidrwydd yn credu y dylai pob ysgol fach ddibynnu ar un pennaeth. Yn wir, cyflwynasom gynigion ar y ffederasiwn cyrff llywodraethu ysgolion yn ystod tymor diwethaf y Cynulliad, a fyddai, mae’n debyg, yn y dyfodol, yn arwain at fwy o ffederasiynau ysgolion yn cymryd lle ac, o bosibl, ffederasiwn o ysgolion o dan un pennaeth. Wrth gwrs, rydym yn gwella’r broses ar gyfer dyfarnu cymhwyster proffesiynol cenedlaethol ar gyfer penaethiaid, oherwydd ein bod yn teimlo, yn rhy aml yn y gorffennol, ei fod wedi cael ei ddefnyddio fel math o ddatblygiad proffesiynol parhaus yn hytrach nag fel cymhwyster a geisir gan bobl sydd mewn gwirionedd yn awyddus i ddod yn benaethiaid. Felly, yr ydym wedi gwneud newidiadau i’r rhaglen honno. Fodd bynnag, credaf y bydd lle mewn rhai rhannau o Gymru ar gyfer ffedereiddio ysgolion o dan un pennaeth yn y dyfodol.

 

Ad-drefnu Ysgolion

School Reorganisation

 

8. Jenny Rathbone: A wnaiff y Gweinidog roi’r wybodaeth ddiweddaraf am bolisi Llywodraeth Cymru ar ad-drefnu ysgolion. OAQ(4)0047(ESK)

 

8. Jenny Rathbone: Will the Minister provide an update on Welsh Government policy on school reorganisation. OAQ(4)0047(ESK)

Leighton Andrews: Policy on school reorganisation is set out in circular 21/2009. Reorganisation should contribute to the provision of schools that deliver the best possible education for children and young people. There are too many surplus places in Wales. We will bring forward proposals to ensure that more decisions are taken locally.

 

Leighton Andrews: Mae’r polisi ar ad-drefnu ysgolion wedi’i nodi yng nghylchlythyr 21/2009. Dylai ad-drefnu gyfrannu at ddarparu ysgolion sy’n darparu’r addysg orau bosibl i blant a phobl ifanc. Mae gormod o leoedd dros ben yng Nghymru. Byddwn yn cyflwyno cynigion i sicrhau bod mwy o benderfyniadau yn cael eu cymryd yn lleol.

 

Jenny Rathbone: In east Cardiff, school reorganisation has been a constantly moving feast. The latest dish served up by Cardiff Council was the cancellation of proposals for a new secondary school on Rumney recreation ground—one, perhaps the only, decision that was greeted with huge enthusiasm by the local community resulting from the reduction in the money in the twenty-first century schools programme budget. However, on the other side of Newport Road in my constituency, parents are increasingly frustrated by the delays in Cardiff Council implementing your decision to close Llanedeyrn High School. Parents of children in year 6 in all the local primary schools do not know how those children are going to be educated after year 7. There is no decision on where the new Welsh-medium secondary school is going to be located so that pupils leaving year 7 know where they will be going in September 2012. This is having—

 

Jenny Rathbone: Yn nwyrain Caerdydd, mae ad-drefnu ysgolion wedi bod yn wledd symudol yn gyson. Y ddysgl diweddaraf a gyflwynwyd gan Gyngor Caerdydd oedd canslo cynigion ar gyfer ysgol uwchradd newydd ar dir hamdden Tredelerch—un, efallai yr unig, benderfyniad a gyfarchwyd gyda brwdfrydedd mawr gan y gymuned leol o ganlyniad i’r gostyngiad yn yr arian yng nghyllideb rhaglen ysgolion yr unfed ganrif ar hugain. Fodd bynnag, ar ochr arall Heol Casnewydd yn fy etholaeth i, mae rhieni yn teimlo fwyfwy yn rhwystredig gan yr oedi gan Gyngor Caerdyff i weithredu eich penderfyniad i gau Ysgol Uwchradd Llanedern. Nid yw rhieni plant ym mlwyddyn 6 yn yr holl ysgolion cynradd lleol yn gwybod sut y bydd y plant hynny yn mynd i gael eu haddysgu ar ôl blwyddyn 7. Nid oes unrhyw benderfyniad ar ble mae’r ysgol uwchradd cyfrwng Cymraeg newydd yn mynd i gael ei lleoli er mwyn i ddisgyblion sy’n gadael blwyddyn 7 wybod ble y byddant yn mynd ym mis Medi 2012. Mae hyn yn cael—

 

The Deputy Presiding Officer: Order. Are you coming to the question?

 

Y Dirprwy Lywydd: Trefn. A ydych yn dod at y cwestiwn?

Jenny Rathbone: This is having an ongoing impact on St Teilo’s Church in Wales High School and Llanedeyrn High School, and indeed on Cardiff High School. At what point is it appropriate for the Minister to intervene if a local authority is not capable of managing this process?

 

Jenny Rathbone: Mae hwn yn cael effaith barhaus ar Ysgol Uwchradd yr Eglwys yng Nghymru Teilo Sant ac Ysgol Uwchradd Llanedern, ac yn wir ar Ysgol Uwchradd Caerdydd. Ar ba bwynt y mae’n briodol i’r Gweinidog i ymyrryd os nad yw’r awdurdod lleol yn abl i reoli’r broses hon?

 

Leighton Andrews: I need to answer that question with some care. The Member has made clear her feelings on the subject, but there are aspects of the discussions in that part of Cardiff that might require modifications to the proposals that the local authority has previously made, which may require the consent of Welsh Ministers. Therefore, I am reluctant, at this stage, to respond to the detail of what she has said, but if she would like to write to me, I will see if I can give her a more considered response.

 

Leighton Andrews: Mae angen i mi ateb y cwestiwn hwnnw gyda pheth gofal. Mae’r Aelod wedi gwneud ei theimladau ar y pwnc yn glir, ond mae agweddau o’r trafodaethau yn y rhan honno o Gaerdydd a allai wneud addasiadau i’r cynigion y mae’r awdurdod lleol wedi gwneud o’r blaen yn ofynnol, a allai fod angen cydsyniad Gweinidogion Cymru. Felly, yr wyf yn gyndyn, ar hyn o bryd, i ymateb i fanylion yr hyn y mae wedi’i ddweud, ond os hoffai ysgrifennu ataf, gwelaf os gallaf roi ymateb mwy ystyriol iddi.

 

Russell George: In Powys, parents have a number of concerns about the way in which the local authority has handled the reorganisation process. One of the key issues for me is the impact that the reduction in the capital funding provided by the Government, through the twenty-first century schools programme, will have on the county council’s proposed plans. Local authorities require further clarity regarding the financial support that can be expected from the Welsh Government. Minister, you told me in a letter that your officials will be working with local authorities over the coming months to allow a sharper reprioritisation of the programme. Can you tell me whether your officials have been in contact with Powys County Council to discuss this further?

 

Russell George: Ym Mhowys, mae gan rieni nifer o bryderon ynghylch y ffordd y mae’r awdurdod lleol wedi trin y broses ad-drefnu. Un o’r materion allweddol i mi yw’r effaith fydd y gostyngiad yn y cyllid cyfalaf a ddarperir gan y Llywodraeth, drwy’r rhaglen ysgolion yr unfed ganrif ar hugain, yn ei chael ar gynlluniau arfaethedig y cyngor sir. Mae awdurdodau lleol yn gofyn am eglurhad pellach ynghylch y cymorth ariannol y gellir ei ddisgwyl gan Lywodraeth Cymru. Weinidog, dywedasoch wrthyf mewn llythyr y bydd eich swyddogion yn gweithio gydag awdurdodau lleol dros y misoedd nesaf er mwyn caniatáu ailflaenoriaethu cliriach o'r rhaglen. A allwch ddweud wrthyf a yw eich swyddogion wedi bod mewn cysylltiad â Chyngor Sir Powys i drafod hyn ymhellach?

Leighton Andrews: Of course, our capital programme has been significantly cut back as a result of the decisions taken by the UK coalition Government to reduce spending plans for the Welsh Government. Therefore, that is having an impact on a number of our capital programmes, not least the twenty-first century schools programme. As I said in answer to earlier questions, we await the strategic outline programmes by local authorities, which will be submitted to us by the early part of next month. My officials will follow up with local authorities on the basis of the programmes that they receive.

 

Leighton Andrews: Wrth gwrs, mae ein rhaglen gyfalaf wedi cael ei dorri yn ôl yn sylweddol o ganlyniad i’r penderfyniadau a wnaed gan Lywodraeth glymblaid y DU i leihau cynlluniau gwariant ar gyfer Llywodraeth Cymru. Felly, mae hynny’n cael effaith ar nifer o’n rhaglenni cyfalaf, yn enwedig y rhaglen ysgolion yr unfed ganrif ar hugain. Fel y dywedais wrth ateb cwestiynau cynharach, rydym yn aros am y rhaglenni amlinellol strategol gan awdurdodau lleol, a fydd yn cael eu cyflwyno i ni erbyn dechrau fis nesaf. Bydd fy swyddogion yn dilyn i fyny gydag awdurdodau lleol ar sail y rhaglenni y maent yn eu derbyn.

 

Eluned Parrott: Good afternoon, Minister. We all recognise the real difficulties faced by responsible authorities in addressing changing population patterns and we note that you have said in your White Paper on school standards and organisation that the Government considers that

 

Eluned Parrott: Prynhawn da, Weinidog. Yr ydym i gyd yn cydnabod yr anawsterau gwirioneddol sy’n wynebu awdurdodau cyfrifol wrth fynd i’r afael â newid ym mhatrymau poblogaeth ac rydym yn nodi eich bod wedi dweud yn eich Papur Gwyn ar safonau a threfniadaeth ysgolion fod y Llywodraeth yn ystyried

 

‘because responsibility for planning and providing school places rests with local authorities rather than with the Welsh Government, decisions should, in the vast majority of cases, be made at the local level rather than by Ministers.’

 

oherwydd bod cyfrifoldeb dros gynllunio a darparu lleoedd mewn ysgolion yn nwylo’r awdurdodau lleol yn hytrach na chyda Llywodraeth Cymru, dylai penderfyniadau, yn y mwyafrif helaeth o achosion, gael eu gwneud ar y lefel leol yn hytrach na chan Weinidogion.’

 

For that minority of cases, can you perhaps give us a clearer idea of the circumstances in which you would seek to become more directly involved? Can you also give us an idea of the mechanism by which you will do so?

 

Ar gyfer y lleiafrif o achosion, gallwch o bosib roi syniad cliriach o’r amgylchiadau lle y byddech yn ceisio bod chwarae rhan mwy uniongyrchol? A allwch hefyd roi syniad o’r mecanwaith o ran gwneud hynny?

Leighton Andrews: I have said previously that we need to take steps to address the number of surplus places in Wales. Every surplus place in a school is a tax on the head of other pupils within the system. We need to drive out inefficiencies in the education system in Wales. We have published the White Paper, which contains further proposals on school organisation. I made a full statement in the Chamber in, I think, June 2010 on these issues, and I have nothing to add to that statement or to the current circulars that have been published.

 

Leighton Andrews: Yr wyf wedi dweud o’r blaen bod angen i ni gymryd camau i fynd i’r afael â’r nifer o leoedd dros ben yng Nghymru. Mae pob lle dros ben mewn ysgol yn dreth ar ben disgyblion eraill o fewn y system. Mae angen cael gwared ar aneffeithlonrwydd yn y system addysg yng Nghymru. Rydym wedi cyhoeddi’r Papur Gwyn, sy’n cynnwys cynigion pellach ar drefniadaeth ysgolion. Gwneuthum ddatganiad llawn ar y materion hyn yn y Siambr ym Mehefin 2010, yr wyf yn meddwl, ac nid oes gennyf ddim i’w ychwanegu at y datganiad hwnnw neu i’r cylchlythyrau presennol sydd wedi cael eu cyhoeddi.

 

‘Sicrhau bod Ieithoedd yn Cyfrif’

‘Making Languages Count’

 

9. William Graham: A wnaiff y Gweinidog amlinellu’r cynnydd o ran gweithredu’r cynllun gweithredu ‘Sicrhau bod ieithoedd yn cyfrif’. OAQ(4)0044(ESK)

 

9. William Graham: Will the Minister outline progress towards the implementation of the action plan ‘Making Languages Count’. OAQ(4)0044(ESK)

Jeff Cuthbert: I thank William Graham for that question. As I said in answer to earlier questions from Mohammad Asghar and other Members, good progress is being made in implementing the actions outlined in ‘Making Languages Count’. Key actions taken forward include the development of new foreign language units linked to the Welsh baccalaureate, extended support for provision of Mandarin Chinese and preparation of triple literacy guidance, to be published shortly.

 

Jeff Cuthbert: Diolch i William Graham am y cwestiwn hwnnw. Fel y dywedais mewn ateb i gwestiynau cynharach gan Mohammad Asghar ac Aelodau eraill, mae cynnydd da yn cael ei wneud wrth weithredu’r camau a amlinellir yn ‘Sicrhau bod Ieithoedd yn Cyfrif’. Mae’r camau gweithredu allweddol sydd wedi cael eu cyflwyno yn cynnwys datblygu unedau iaith dramor newydd yn gysylltiedig â bagloriaeth Cymru, cefnogaeth estynedig ar gyfer darparu Tsieinëeg Mandarin a pharatoi canllawiau llythrennedd triphlyg, i’w gyhoeddi cyn bo hir.

 

William Graham: I thank the Deputy Minister for his reply. The Deputy Minister will know that, in 2009, the Estyn report commented specifically on the teaching of modern languages. What other partners are you engaging to ensure that this action plan works?

 

William Graham: Diolch i’r Dirprwy Weinidog am ei ateb. Bydd y Dirprwy Weinidog yn gwybod, yn 2009, bod adroddiad Estyn wedi gwneud sylw yn benodol ar addysgu ieithoedd modern. Pa bartneriaid eraill yr ydych yn ymgysylltu i sicrhau bod y cynllun gweithredu hwn yn gweithio?

 

Jeff Cuthbert: As I have said, we are working primarily with CILT Cymru and other partners to progress the key areas of the ‘Making Languages Count’ programme, which includes the development of a vocational NVQ scheme in French, German and Spanish, with support material available in English or Welsh, as an alternative to GCSEs. So far, over 600 candidates have been entered for that qualification and the feedback has been positive.

 

Jeff Cuthbert: Fel y dywedais, yr ydym yn gweithio’n bennaf â CILT Cymru a phartneriaid eraill i ddatblygu meysydd allweddol y rhaglen ‘Sicrhau bod Ieithoedd yn Cyfrif’, sy’n cynnwys datblygu cynllun NVQ galwedigaethol mewn Ffrangeg, Almaeneg a Sbaeneg, gyda chefnogaeth deunydd ar gael yn Gymraeg neu Saesneg, fel dewis arall i TGAU. Hyd yn hyn, mae dros 600 o ymgeiswyr wedi’u cofrestru ar gyfer y cymhwyster ac mae’r adborth wedi bod yn gadarnhaol.

 

Darpariaeth Peirianneg

Engineering Provision

 

10. Bethan Jenkins: A wnaiff y Gweinidog amlinellu ei gynlluniau i wella darpariaeth peirianneg mewn ysgolion yng Nghymru. OAQ(4)0042(ESK)

 

10. Bethan Jenkins: Will the Minister outline his plans for improving engineering provision in Welsh schools. OAQ(4)0042(ESK)

Leighton Andrews: We have established the National Science Academy to promote the take-up of science, technology, engineering and mathematics subjects. To ensure that students can progress to higher education courses in engineering, schools and further education colleges need to provide the relevant university entry qualification.

 

Leighton Andrews: Yr ydym wedi sefydlu Academi Wyddoniaeth Genedlaethol i hyrwyddo’r nifer sy’n ymgymryd â phynciau gwyddoniaeth, technoleg, peirianneg a mathemateg. Er mwyn sicrhau y gall myfyrwyr symud ymlaen i gyrsiau addysg uwch mewn peirianneg, mae angen i ysgolion a cholegau addysg bellach ddarparu’r cymhwyster mynediad i brifysgol perthnasol.

 

Bethan Jenkins: Thank you for that answer, Minister. I am sure that you are aware that we in Wales are committed to building our manufacturing base, and we need plenty of engineers to do that. We heard an announcement by the Government about the automotive enterprise zone in the Ebbw Vale area. However, research carried out by my office shows that schools in Blaenau Gwent do not have any provision to teach engineering, and I cannot find anything on Coleg Gwent’s website that is specifically to do with automotive engineering provision. I can share those all-Wales findings with you and other colleagues in this Chamber. It is imperative for you to be able to work with the Minister for Business, Enterprise, Technology and Science to ensure that people who live in and around the enterprise zones areas have the appropriate skills, so that they are fully equipped to go into the workplace. Have you had conversations with Edwina Hart to marry these two agendas so that we can ensure that those who study in Wales can take on jobs and that schools across Wales offer qualifications in engineering provision?

 

Bethan Jenkins: Diolch am yr ateb hwnnw, Weinidog. Yr wyf yn siŵr eich bod yn ymwybodol ein bod ni yng Nghymru wedi ymrwymo i adeiladu ein sylfaen gweithgynhyrchu, ac mae angen digon o beirianwyr i wneud hynny. Clywsom gyhoeddiad gan y Llywodraeth ynglŷn â’r ardal fenter fodurol yn ardal Glyn Ebwy. Fodd bynnag, mae ymchwil a wnaed gan fy swyddfa yn dangos nad oes gan ysgolion ym Mlaenau Gwent unrhyw ddarpariaeth i addysgu peirianneg, ac ni allaf ddod o hyd i unrhyw beth ar wefan Coleg Gwent sydd yn benodol yn ymwneud â darpariaeth peirianneg fodurol. Gallaf rannu’r canfyddiadau Cymru gyfan hynny gyda chi a chydweithwyr eraill yn y Siambr hon. Mae’n hanfodol i chi allu gweithio gyda’r Gweinidog Busnes, Menter, Technoleg a Gwyddoniaeth i sicrhau bod pobl sy’n byw yn ac o amgylch yr ardaloedd parthau menter yn meddu ar y sgiliau priodol, fel eu bod yn cael eu paratoi i fynd i mewn i’r gweithle. A ydych wedi cael sgyrsiau gydag Edwina Hart i briodi’r ddau agenda fel y gallwn sicrhau y gall y rhai sy’n astudio yng Nghymru yn gael swyddi a bod ysgolion ledled Cymru yn cynnig cymwysterau mewn darpariaeth peirianneg?

 

Leighton Andrews: I talk about skills issues with the Minister for Business, Enterprise, Technology and Science on a regular basis, and she has had conversations with the Deputy Minister for Skills and has involved him in meetings with her sector skills panels recently. In terms of engineering qualifications, it is important to bear in mind that, certainly for university entry, most universities seek qualifications such as A-levels in maths, further maths, physics and chemistry in respect of chemical engineering. It is therefore important that we ensure that young people have access to appropriate careers information, because it is not necessarily the case, for example, that A-level engineering is the best entry for young people who want to study that subject further.

 

Leighton Andrews: Yr wyf yn siarad am faterion sgiliau gyda’r Gweinidog Busnes, Menter, Technoleg a Gwyddoniaeth yn rheolaidd, ac mae hi wedi cael sgyrsiau â’r Dirprwy Weinidog dros Sgiliau ac wedi ei gynnwys ef mewn cyfarfodydd gyda’i phaneli sgiliau sector yn ddiweddar. O ran cymwysterau peirianneg, mae’n bwysig cadw mewn cof, yn sicr ar gyfer mynediad i brifysgol, bod y rhan fwyaf o brifysgolion yn ceisio cymwysterau fel lefel-A mewn mathemateg, mathemateg bellach, ffiseg a chemeg mewn perthynas â pheirianneg gemegol. Felly, mae’n bwysig ein bod yn sicrhau bod pobl ifanc yn cael mynediad at wybodaeth am yrfaoedd priodol, oherwydd nid yw o reidrwydd yn wir, er enghraifft, mai lefel-A peirianneg yw’r mynediad orau i bobl ifanc sydd am astudio’r pwnc hwnnw ymhellach.

 

Byron Davies: The UK Government has announced the creation of 12 new technical academies over the border in England. These academies will be sponsored by local businesses. It is worth noting that Mike Wright, executive director of Jaguar Land Rover, whom we lost as a potential massive investor to competition over the border in England, said that

 

Byron Davies: Mae Llywodraeth y DU wedi cyhoeddi y bydd 12 o academïau technegol newydd dros y ffin yn Lloegr. Bydd yr academïau hyn yn cael eu noddi gan fusnesau lleol. Mae’n werth nodi bod Mike Wright, cyfarwyddwr gweithredol Jaguar Land Rover, a gollasom fel buddsoddwr enfawr posibl i gystadleuaeth dros y ffin yn Lloegr, wedi dweud bod

‘Jaguar Land Rover welcomes the announcement by the Chancellor regarding the expansion of University Technical Colleges. It is essential for economic growth that we increase the number of young people prepared to work in engineering and manufacturing.’

 

‘Jaguar Land Rover yn croesawu’r cyhoeddiad gan y Canghellor ynghylch ehangu Colegau Prifysgol Technegol. Mae’n hanfodol ar gyfer twf economaidd ein bo yn cynyddu nifer y bobl ifanc sy’n barod i weithio ym maes peirianneg a gweithgynhyrchu.’

The Presiding Officer: Please come to the question.

 

Y Llywydd: Os gwelwch yn dda a wnewch ddod i’r cwestiwn.

Byron Davies: These academies strike me as an excellent way to engage pupils in Wales. Are you following the creation of these new academies in England with interest? If they are a success, would you look to invest, alongside businesses, in technical academies in Wales?

 

Byron Davies: Mae’r rhain yn academïau sydd yn fy nharo i fel ffordd wych i ennyn diddordeb disgyblion yng Nghymru. A ydych yn dilyn sefydlu’r academïau newydd  hyn yn Lloegr gyda diddordeb? Os ydynt yn llwyddo, a fyddech yn edrych i fuddsoddi, ochr yn ochr â busnesau, mewn academïau technegol yng Nghymru?

 

Leighton Andrews: One of the advantages of devolution is that it allows England to be a laboratory for experiments.

 

Leighton Andrews: Un o fanteision datganoli yw ei fod yn caniatáu i Loegr i fod yn labordy ar gyfer arbrofion.

Cyrhaeddiad Addysgol

Education Attainment

 

11. Suzy Davies: Pa gamau fydd y Gweinidog yn eu cymryd dros y 12 mis nesaf i wella cyrhaeddiad addysgol yn rhanbarth Gorllewin De Cymru. OAQ(4)0035(ESK)

 

11. Suzy Davies: What action will the Minister take over the next 12 months to improve educational attainment in the South Wales West region. OAQ(4)0035(ESK)

Leighton Andrews: I will push forward with my 20-point action plan to raise standards of education across Wales. Regional collaboration is key to this, and I will continue to support the efforts of the south-west Wales and mid Wales consortia to have shared school improvement services in place by September 2012.

 

Leighton Andrews: Byddaf yn gwthio ymlaen gyda fy chynllun gweithredu 20- pwynt i godi safonau addysg ar draws Cymru. Mae cydweithio rhanbarthol yn allweddol i hyn, a byddaf yn parhau i gefnogi ymdrechion consortia de-orllewin Cymru a’r canolbarth i sefydlu gwasanaethau gwella ysgolion ar y cyd erbyn Medi 2012.

 

Suzy Davies: Thank you for that answer. I understand that you are investigating the potential of new learning technologies, which is something of interest to at least one business in my region. Will you outline how you see this fitting in with library services in schools? Are you looking at the new technologies to replace library services, or are they still necessary to develop research skills and critical thinking skills and to raise the standards of literacy and IT competence?

 

Suzy Davies: Diolch am yr ateb hwnnw. Yr wyf yn deall eich bod yn ymchwilio i botensial technolegau dysgu newydd, sydd o ddiddordeb i o leiaf un busnes yn fy rhanbarth. A wnewch chi amlinellu sut y gwelwch hyn yn ffitio fewn â gwasanaethau llyfrgell mewn ysgolion? A ydych yn edrych ar y technolegau newydd i gymryd lle gwasanaethau llyfrgell, neu a ydynt yn dal yn angenrheidiol i ddatblygu sgiliau ymchwil a sgiliau meddwl beirniadol ac i godi safonau llythrennedd a chymhwysedd TG?

 

Leighton Andrews: Libraries in schools are important. In the task and finish group that we have established with specialists in the field, we are looking at the use of digital materials in the classroom. Increasingly, we are all aware that the curriculum will change and that new technology is more available than ever before, and we want young people to have access to the best quality technology. That does not mean that we see an end to the printed word. We expect that to continue, and we regard library services as important.

 

Leighton Andrews: Mae llyfrgelloedd mewn ysgolion yn bwysig. Yn y grŵp gorchwyl a gorffen yr ydym wedi’i sefydlu gydag arbenigwyr yn y maes hwn, rydym yn edrych ar y defnydd o ddeunyddiau digidol yn yr ystafell ddosbarth. Yn gynyddol, rydym i gyd yn ymwybodol y bydd y cwricwlwm yn newid a bod technoleg newydd ar gael fwy nag erioed o’r blaen, ac yr ydym am i bobl ifanc gael mynediad at dechnoleg o’r ansawdd gorau. Nid yw hynny’n golygu ein bod yn gweld diwedd ar y gair printiedig. Rydym yn disgwyl i hynny barhau, ac rydym yn ystyried gwasanaethau llyfrgell yn bwysig.

 

Hyfforddiant Pobl Ifanc ar gyfer y Gweithle

Training of Young People for the Workplace

 

12. Simon Thomas: Pa gamau y mae’r Gweinidog yn eu cymryd i wella hyfforddiant pobl ifanc ar gyfer y gweithle. OAQ(4)0050(ESK)

 

12. Simon Thomas: What action is the Minister taking to improve the training of young people for the workplace. OAQ(4)0050(ESK)

Jeff Cuthbert: I thank the Member for that question. Supporting young people into employment remains one of our top priorities. We want to ensure that every young person is given the chance to gain the skills and experience needed to succeed. In August, our new employability programmes commenced, which enabled the learner to gain the skills needed to progress.

 

Jeff Cuthbert: Diolch i’r Aelod am y cwestiwn hwnnw. Mae cefnogi pobl ifanc i gael gwaith yn parhau fel un o’n prif flaenoriaethau. Rydym am sicrhau bod pob person ifanc yn cael y cyfle i ennill y sgiliau a’r profiad sydd eu hangen i lwyddo. Ym mis Awst, dechreuodd ein rhaglenni cyflogadwyedd newydd, a oedd yn galluogi’r dysgwr i ennill y sgiliau sydd eu hangen i symud ymlaen.

 

Simon Thomas: Diolch i’r Dirprwy Weinidog am yr ateb. Yn bwysig, fe wnaethoch danlinellu y dylai pawb gael y cyfle i wella eu sgiliau. Hoffwn dynnu eich sylw ar nifer o achosion sydd wedi codi yn fy rhanbarth i yn ddiweddar, ynglŷn â phobl ifanc digartref. Oherwydd eu bod yn ddigartref ac nad oes ganddynt gefnogaeth deuluol, mae’n anodd iddynt fynd ar gyrsiau hyfforddiant gan eu bod yn colli’r budd-dal sy’n talu am eu fflatiau, ac o ganlyniad eu gallu i astudio. Maent mewn cyfyng-gyngor; ni allant fforddio colli budd-daliadau, ond maent yn awyddus iawn, serch hynny, i gael hyfforddiant ac i fod yn rhan o’r gweithle. Pa gamau penodol gall y Llywodraeth eu cymryd i helpu pobl ifanc digartref i wella eu sgiliau?

 

Simon Thomas: I thank the Deputy Minister for the answer. Importantly, you underlined the fact that all should have the opportunity to enhance their skills. I would draw to your attention a number of cases that have arisen in my region recently, to do with homeless young people. Because they are homeless and without family support, it is difficult for them to attend training courses as they would lose the benefit that pays for their flats and, in turn, allows them to study. They are in something of a quandary; they cannot afford to lose their benefits, but they are very eager, however, to access training and to be part of the workforce. What specific steps can the Government take to help homeless young people to improve their skills?

2.15 p.m.

 

 

Jeff Cuthbert: If you were to write to me with specific examples of these issues, I would undertake to look into them. However, I would certainly expect these young people to receive appropriate advice from Careers Wales. Also, Jobs Growth Wales will commence in April next year, and it will create 4,000 job opportunities for unemployed young people across Wales within the first year of delivery. I very much hope that this scheme will capture the type of young person to whom you referred and give them at least six months’ work experience at or above the minimum wage.

 

Jeff Cuthbert: Pe baech yn ysgrifennu ataf gydag enghreifftiau penodol o'r materion hyn, byddaf yn edrych i mewn iddynt. Fodd bynnag, byddwn yn sicr yn disgwyl i'r bobl ifanc hyn gael cyngor priodol gan Gyrfa Cymru. Hefyd, bydd Twf Swyddi Cymru yn dechrau ym mis Ebrill y flwyddyn nesaf, a bydd yn creu 4,000 o gyfleoedd gwaith i bobl ifanc di-waith ar draws Cymru o fewn y flwyddyn gyntaf o ddarparu. Yr wyf yn gobeithio'n fawr y bydd y cynllun hwn yn dal y math o berson ifanc y cyfeiriasoch atynt a rhoi o leiaf chwe mis o brofiad gwaith iddynt ar yr isafswm cyflog, neu’n uwch nag ef.

Mick Antoniw: Deputy Minister, I would like to place on record my thanks for the hard work that you and your department did in guaranteeing that the former Carillion training apprentices all had their places. Could you update us on what measures are in hand to ensure that the training places that are in place are of the highest quality?

 

Mick Antoniw: Ddirprwy Weinidog,   hoffwn gofnodi fy niolch am y gwaith caled yr ydych chi a'ch adran wedi’i wneud i warantu bod cyn brentisiaid hyfforddi Carillion i gyd wedi cael eu lleoedd. A allech roi'r wybodaeth ddiweddaraf inni ynghylch pa fesurau sydd ar y gweill i sicrhau bod y lleoedd hyfforddi sydd ar waith o'r ansawdd uchaf?

 

Jeff Cuthbert: I thank the Member very much for that question, and I am grateful for his positive comments. As was stated earlier, Carillion was successful in the tender process and as many apprentices as possible were then moved into subcontract arrangements with Cardiff and Vale College, to provide them with the opportunity to complete by 31 July next year the full-quality apprenticeships that they started. As a consequence of this work and of the arrangements that have been made, no Carillion apprentice has been made redundant.

 

Jeff Cuthbert: Diolch i'r Aelod yn fawr am y cwestiwn hwnnw, ac yr wyf yn ddiolchgar am ei sylwadau cadarnhaol. Fel y nodwyd yn gynharach, mae Carillion yn llwyddiannus yn y broses dendro a symudwyd gymaint o brentisiaid ag y bo modd i drefniadau is-gontractio gyda Choleg Caerdydd a'r Fro, i roi iddynt y cyfle i gwblhau erbyn 31 Gorffennaf y flwyddyn nesaf y prentisiaethau o ansawdd llawn y maent wedi eu cychwyn. O ganlyniad i'r gwaith hwn a'r trefniadau sydd wedi'u gwneud, nid oes prentis Carillion wedi cael ei wneud yn ddi-waith.

Nick Ramsay: Deputy Minister, the graduate opportunities website shows that just 48 per cent of students and graduates found longer term employment after having undertaken a GO Wales work placement. Could you tell us what you are doing to increase this success rate, and what plans you have to create more placements for young graduates in Wales?

 

Nick Ramsay: Ddirprwy Weinidog, mae'r wefan cyfleoedd i raddedigion yn dangos mai dim ond 48 y cant o fyfyrwyr a graddedigion a ddaeth o hyd i gyflogaeth tymor hwy ar ôl ymgymryd â lleoliad gwaith GO Wales. A allech ddweud wrthym beth ydych yn ei wneud i gynyddu’r gyfradd lwyddiant hon, a pha gynlluniau sydd gennych i greu mwy o leoliadau i raddedigion ifanc yng Nghymru?

 

Jeff Cuthbert: That is a very serious issue, and we are certainly working with GO Wales to try to improve the situation. There are ongoing discussions on this and I anticipate that we will link those in to the range of programmes that we have for young people, Jobs Growth Wales being the latest and largest of these. We are aware that issues apply at both ends of the spectrum, and we want to ensure that as many graduates as possible get into meaningful full-time employment at the earliest opportunity.

Jeff Cuthbert: Mae hwnnw'n fater difrifol iawn, ac yr ydym yn sicr yn gweithio gyda GO Wales i geisio gwella'r sefyllfa. Mae trafodaethau parhaus ar hyn ac yr wyf yn rhagweld y byddwn yn cysylltu'r rhain â’r ystod o raglenni sydd gennym ar gyfer pobl ifanc a Thwf Swyddi Cymru yw'r diweddaraf a’r mwyaf o'r rhain. Rydym yn ymwybodol bod materion yn berthnasol i ddau ben y sbectrwm, ac yr ydym am sicrhau bod cynifer o raddedigion â phosibl yn cael mynediad i gyflogaeth amser llawn ystyrlon ar y cyfle cyntaf.

 

 

Moderneiddio Ysgolion

 

School Modernisation

 

13. William Powell: A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y cynnydd o ran moderneiddio ysgolion cynradd ac uwchradd yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru. OAQ(4)0048(ESK)

 

13. William Powell: Will the Minister make a statement on progress in primary and secondary school modernisation in Mid and West Wales. OAQ(4)0048(ESK)

 

Leighton Andrews: Local authorities need to reduce the number of surplus places in their schools. I will announce a forward plan of investment for the twenty-first century schools programme in December. Those local authorities granted transitional funding are making progress, and projects are being monitored by officials in my department.

 

Leighton Andrews: Mae angen i awdurdodau lleol leihau nifer y lleoedd dros ben yn eu hysgolion. Byddaf yn cyhoeddi blaengynllun o fuddsoddiad ar gyfer y rhaglen ysgolion yr unfed ganrif ar hugain ym mis Rhagfyr.  Roedd yr awdurdodau lleol y rhoddwyd cyllid trosiannol iddynt yn gwneud cynnydd, ac y mae prosiectau yn cael eu monitro gan swyddogion yn fy adran.

 

William Powell: I am grateful for that answer, Minister. I also appreciate the comments that you made earlier in respect of being unable to comment on specific proposals that come forward from local authorities. However, in general terms, would you agree that proposals for school siting in forward plans should broadly be in accordance with the Wales spatial plan? In particular, is it appropriate that future school provision should be in places of current or projected population growth?

 

William Powell: Rwyf yn ddiolchgar am yr ateb hwnnw, Weinidog. Rwyf hefyd yn gwerthfawrogi'r sylwadau a wnaethoch yn gynharach mewn perthynas â pheidio a gallu gwneud sylwadau ar gynigion penodol a gyflwynir gan awdurdodau lleol. Fodd bynnag, yn gyffredinol, a fyddech yn cytuno y dylai cynigion ar gyfer lleoli ysgol mewn blaengynlluniau fod yn unol yn fras â chynllun gofodol Cymru? Yn benodol, a yw'n briodol i ddarpariaeth ysgol yn y dyfodol fod mewn mannau twf poblogaeth presennol neu rai a ragwelir?

 

Leighton Andrews: These are issues that are dealt with in our school organisation circular, and local authorities need to take into account future housing development, for example, when they are planning places. In addition, I would expect local authorities to be talking on a cross-border basis with adjacent local authorities, particularly when planning secondary provision.

 

Leighton Andrews: Mae'r rhain yn faterion yr ymdrinnir â hwy yn ein cylchlythyr trefniadaeth ysgolion, ac mae angen i awdurdodau lleol gymryd i ystyriaeth ddatblygiadau tai yn y dyfodol, er enghraifft, pan fyddant yn cynllunio lleoedd. Yn ogystal, byddwn yn disgwyl i awdurdodau lleol fod yn siarad ar sail draws-ffiniol gydag awdurdodau lleol cyfagos, yn enwedig wrth gynllunio darpariaeth uwchradd.

 

The Presiding Officer: Question 14, OAQ(4)0051(ESK), has been withdrawn.

Llywydd: Tynnwyd cwestiwn 14, OAQ (4) 0051 (ESK) yn ôl.

 

Cynghorau Ysgolion

School Councils

 

15. Gwyn R. Price: A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am sefydlu cynghorau ysgolion. OAQ(4)0041(ESK)

15. Gwyn R. Price: Will the Minister make a statement on the establishment of school councils. OAQ(4)0041(ESK)

 

Leighton Andrews: Wales is the first administration in the UK to make school councils statutory. Regulations came into force on 31 December 2005 that require all maintained schools in Wales to have a school council. Guidance for governing bodies on the establishment and operation of school councils was issued on 23 October 2006.

 

Leighton Andrews: Cymru yw'r weinyddiaeth gyntaf yn y DU i wneud cynghorau ysgol yn statudol. Daeth rheoliadau i rym ar 31 Rhagfyr 2005 sy'n ei gwneud yn ofynnol i bob ysgol a gynhelir yng Nghymru gael cyngor ysgol. Cyhoeddwyd canllawiau i gyrff llywodraethu ar sefydlu a gweithredu cynghorau ysgol ar 23 Hydref, 2006.

 

Gwyn R. Price: Thank you for that answer, Minister. I recently addressed the school council of Pontllanfraith Comprehensive School about participation in elections. Will you join me in congratulating Pontllanfraith Comprehensive School on organising this meeting, and do you agree with me that school councils are an excellent introduction to democratic participation for schools across Wales?

 

Gwyn R. Price: Diolch am yr ateb hwnnw, Weinidog. Yn ddiweddar, anerchais gyngor ysgol Ysgol Gyfun Pontllanfraith am gymryd rhan mewn etholiadau. A wnewch ymuno â mi i longyfarch Ysgol Gyfun Pontllanfraith am drefnu’r cyfarfod hwn, ac a ydych yn cytuno â mi fod cynghorau ysgol yn gyflwyniad ardderchog i gyfranogiad democrataidd ar gyfer ysgolion ledled Cymru?

Leighton Andrews: I am very pleased to join the Member for Islwyn in congratulating Pontllanfraith Comprehensive School on its work and the work of its school council. The Assembly Commission itself has a very good scheme in place, whereby school councils can come to the home of democracy in Wales to undertake their own scrutiny processes and deliberations. I know that many schools throughout Wales have taken up that opportunity, and I agree that it is a great way to learn about democracy.

Leighton Andrews: Yr wyf yn falch iawn i ymuno â'r Aelod dros Islwyn i longyfarch Ysgol Gyfun Pontllanfraith ar ei gwaith a gwaith ei chyngor ysgol. Mae gan Gomisiwn y Cynulliad ei hun gynllun da iawn ar waith, lle gall cynghorau ysgol ddod i gartref democratiaeth yng Nghymru i gynnal eu prosesau a thrafodaethau craffu eu hunain. Gwn fod llawer o ysgolion ledled Cymru wedi manteisio ar y cyfle hwnnw, ac yr wyf yn cytuno ei bod yn ffordd wych o ddysgu am ddemocratiaeth.

 

Cwestiynau i’r Gweinidog Llywodraeth Leol a Chymunedau
Questions to the Minister for Local Government and Communities

 

The Presiding Officer: Question 1, OAQ(4)0051(LGC), has been withdrawn.

Y Llywydd: Tynnwyd cwestiwn 1, OAQ (4) 0051 (LGC) yn ôl.

 

Camddefnyddio Alcohol a Chyffuriau

Misusing Alcohol and Drugs

 

2. Elin Jones: Sut mae’r Llywodraeth yn darparu cymorth i gleifion sy’n camddefnyddio alcohol a chyffuriau. OAQ(4)0037(LGC)

2. Elin Jones: How is the Government providing support for patients who misuse alcohol and drugs. OAQ(4)0037(LGC)

 

The Minister for Local Government and Communities (Carl Sargeant): I thank the Member for Ceredigion for the question. The Welsh Government continues to invest over £50 million to implement the actions within the 10-year substance misuse strategy for Wales, ‘Working Together to Reduce Harm’, and build upon its achievements such as improving access, availability and quality of children and young people’s services and tackling alcohol misuse.

 

Y Gweinidog Llywodraeth Leol a Chymunedau (Carl Sargeant): Diolch i'r Aelod dros Geredigion am y cwestiwn. Mae Llywodraeth Cymru yn parhau i fuddsoddi dros £50 miliwn i weithredu'r camau yn y strategaeth camddefnyddio sylweddau 10 mlynedd ar gyfer Cymru, 'Gweithio Gyda'n Gilydd i Leihau Niwed', ac yn adeiladu ar ei gyflawniadau fel gwella mynediad, argaeledd ac ansawdd gwasanaethau ar gyfer plant a phobl ifanc a mynd i'r afael â chamddefnyddio alcohol.

 

Elin Jones: Last year, there were 47 referrals for tier 4 residential rehabilitation services to residential centres in Wales, but there were also 40 referrals from Wales to English centres, therefore almost half were referred out of Wales for these services. There are good residential rehabilitation centres in Wales, including Rhoserchan in my constituency. What plans do you have to increase the number of referrals staying in Wales, and will you agree to visit Rhoserchan in my constituency to see its good work?

 

Elin Jones: Y llynedd, roedd 47 o atgyfeiriadau i’r gwasanaethau adsefydlu haen 4 i ganolfannau preswyl yng Nghymru, ond hefyd cafwyd 40 o atgyfeiriadau o Gymru i ganolfannau yn Lloegr, felly roedd bron i hanner  wedi’u hatgyfeirio allan o Gymru ar gyfer y gwasanaethau hyn. Mae canolfannau adsefydlu preswyl da yng Nghymru, gan gynnwys Rhoserchan yn fy etholaeth i. Pa gynlluniau sydd gennych i gynyddu nifer yr atgyfeiriadau sy'n aros yng Nghymru, ac a gytunwch i ymweld â Rhoserchan yn fy etholaeth i weld ei waith da?

 

Carl Sargeant: Thank you for your question. I am aware of Rhoserchan and the issues that surround that unit. I would be pleased if you were to write to me on the detail of a potential future visit, which I may be able to join you on. In terms of our opportunities to enhance Welsh provision, it is our ambition to include and access more tier 4 services in Wales. However, before that, we must identify early opportunities for prevention before patients reach tier 4 units, which they will need to support their rehabilitation.

 

Carl Sargeant: Diolch am eich cwestiwn. Yr wyf yn ymwybodol o Roserchan a'r materion sy'n gysylltiedig â’r uned honno. Byddwn yn falch pe baech yn ysgrifennu ataf ar fanylion ymweliad posibl yn y dyfodol, ac mae’n bosibl y byddaf yn gallu ymuno â chi. O ran ein cyfleoedd i wella darpariaeth iaith Gymraeg, ein huchelgais yw cynnwys a chael mynediad i fwy o wasanaethau haen 4 yng Nghymru. Fodd bynnag, cyn hynny, rhaid i ni nodi cyfleoedd cynnar i atal cyn i gleifion gyrraedd unedau haen 4, y bydd eu hangen arnynt i gefnogi eu hadsefydlu.

 

Mark Isherwood: How do you respond to statements by the Welsh Council on Alcohol and Other Drugs and other organisations working in this sector that many treatment facilities for drug and alcohol misuse operate a near-revolving-door policy, and that the most successful treatments for addiction are those that are peer-based? While this may run contrary to society’s prevalent notions of how medical science works, it is nonetheless true and borne out by increasing statistical evidence.

 

Mark Isherwood: Sut ydych yn ymateb i ddatganiadau gan Gyngor Cymru ar Alcohol a Chyffuriau Eraill a sefydliadau eraill sy'n gweithio yn y sector hwn fod llawer o gyfleusterau triniaeth ar gyfer camddefnyddio cyffuriau ac alcohol bron yn gweithredu polisi i mewn ac allan, ac mai’r triniaethau mwyaf llwyddiannus ar gyfer dibyniaeth yw'r rheiny sy'n seiliedig ar gyfoedion? Er y gallai hyn redeg yn groes i syniadau cyffredin cymdeithas o sut mae gwyddoniaeth feddygol yn gweithio, mae, serch hynny, yn wir ac yn cael ei gadarnhau gan dystiolaeth ystadegol gynyddol.

 

Carl Sargeant: You always bring interesting statistics to the Chamber, Mark, and I thank you for that. I am surprised that you are unable to support the improved services that we are seeing in Wales, albeit in challenging times. I understand that this challenge may increase in the future as we see more people becoming unemployed and experiencing difficult personal circumstances where they may turn to drink or drugs. You could possibly help that situation by lobbying the Westminster Government to provide additional funding.

 

Carl Sargeant: Yr ydych bob amser yn dod ag ystadegau diddorol i'r Siambr, Mark, ac yr wyf yn diolch ichi am hynny. Yr wyf yn synnu nad ydych yn gallu cefnogi'r gwasanaethau yr ydym yn eu gweld yng Nghymru, er bod hynny mewn cyfnod heriol. Rwy'n deall y gall yr her hon gynyddu yn y dyfodol wrth i ni weld mwy o bobl yn ddi-waith ac yn profi amgylchiadau personol anodd lle gallant droi at ddiod neu gyffuriau. Gallech o bosibl helpu’r sefyllfa honno drwy lobïo Llywodraeth San Steffan i ddarparu cyllid ychwanegol.

Peter Black: Minister, I recently attended the launch of the Heroin Ruins Lives campaign in Swansea, which is a collaboration between the police and the various drug agencies to deal with that particular problem in the Swansea area. What support and assistance are you giving to that campaign, and what additional help can you give to those agencies to try to deal with this problem, which is rife in the Swansea area?

 

Peter Black: Weinidog, yn ddiweddar, mynychais lansiad ymgyrch Mae Heroin yn Difetha Bywydau yn Abertawe, sef cydweithrediad rhwng yr heddlu a'r gwahanol asiantaethau cyffuriau i ddelio â'r broblem benodol honno yn ardal Abertawe. Pa gefnogaeth a chymorth yr ydych yn eu rhoi i’r ymgyrch honno, a pha gymorth ychwanegol y gallwch ei roi i’r asiantaethau hynny i geisio delio â'r broblem hon, sydd yn rhemp yn ardal Abertawe?

 

Carl Sargeant: There are pressure points across the country in terms of this, and I welcome the campaign that was launched recently. One of our more recent initiatives is the naloxone project, which is a take-home project that provides naloxone, which temporarily reverses the symptoms of opiate overdose and overuse of the substance. We have launched 1,000 such kits across Wales and it is making a huge impact on people’s lives. However, drug use is a challenging area. I recently attended a service user group in north Wales, and I was surprised to learn about the huge impact that the small investment in support services has had in helping to turn people’s lives around. The campaign that you mentioned is just one of those projects that is clearly making a difference.

 

Carl Sargeant: Mae pwysau ar draws y wlad o ran hyn, ac yr wyf yn croesawu'r ymgyrch a lansiwyd yn ddiweddar. Un o'n mentrau mwy diweddar yw'r prosiect naloxone, sef prosiect cartref sy'n darparu naloxone, sy'n gwrthdroi, dros dro, symptomau gorddos o opiadau a gorddefnydd o'r sylwedd. Rydym wedi lansio 1,000 o becynnau o'r fath ledled Cymru ac mae'n cael effaith enfawr ar fywydau pobl. Fodd bynnag, mae defnyddio cyffuriau yn faes heriol. Yn ddiweddar bûm mewn grŵp defnyddwyr gwasanaeth yng ngogledd Cymru, ac yr oeddwn yn synnu i ddysgu am yr effaith aruthrol y mae buddsoddiad bychan mewn gwasanaethau cymorth wedi’i gael i helpu i droi bywydau pobl o gwmpas. Mae'r ymgyrch a grybwyllwyd gennych ond yn un o'r prosiectau hynny sydd yn amlwg yn gwneud gwahaniaeth.

 

Peter Black: Thank you for that answer, Minister, and that initiative is certainly very welcome. However, it is estimated that there are 8,000 heroin users in Swansea, which is a huge number. Unfortunately, the time that users have to wait to get on to a treatment programme is growing. There is clearly a need for more resources to be made available for those treatment programmes. I understand that the budget is tight and that there are issues around that, but this is a problem that affects not only Swansea, but the whole of Wales. Will you have a look at the waiting times for treatment programmes across Wales? Will you look to see whether additional resources could be put into that area to try to ensure that those people who wish to come off their addiction to these substances are able to get swift treatment?

 

Peter Black: Diolch am yr ateb hwnnw, Weinidog, ac y mae’r fenter yn sicr i'w chroesawu. Fodd bynnag, amcangyfrifir bod 8,000 o ddefnyddwyr heroin yn Abertawe, sy'n nifer enfawr. Yn anffodus, mae'r amser y mae'n rhaid i ddefnyddwyr aros i fynd ar raglen driniaeth yn tyfu. Mae'n amlwg bod angen mwy o adnoddau fod ar gael ar gyfer y rhaglenni triniaeth hynny. Deallaf fod y gyllideb yn dynn a bod materion yn ymwneud â hynny, ond mae hyn yn broblem sy'n effeithio ar nid yn unig Abertawe, ond ar Gymru gyfan. A wnewch chi gael golwg ar yr amseroedd aros ar gyfer rhaglenni triniaeth ledled Cymru? A wnewch chi edrych i weld a ellir rhoi adnoddau ychwanegol yn y maes hwnnw i geisio sicrhau bod y bobl hynny sy'n dymuno diddyfnu eu dibyniaeth ar y sylweddau hyn yn gallu cael triniaeth gyflym?

 

Carl Sargeant: I am quite happy to look into that in more detail. In fact, I have already asked my team to start looking at impact assessing our current interventions. Where we are seeing good value for money and good interventions, I am asking our teams to strengthen their proposals. Following your comments, I will look closer at that particular issue.

Carl Sargeant: Yr wyf yn ddigon hapus i edrych i mewn i hynny yn fwy manwl. A dweud y gwir, yr wyf eisoes wedi gofyn i fy nhîm i ddechrau edrych ar asesu effaith ein hymyriadau ar hyn o bryd. Pan yr ydym yn gweld gwerth da am arian ac ymyriadau da, yr wyf yn gofyn i'n timau i gryfhau eu cynigion. Yn dilyn eich sylwadau, byddaf yn edrych yn fanylach ar y mater penodol hwnnw.

 

Blaenoriaethau

Priorities

 

3. Keith Davies: Beth yw blaenoriaethau’r Gweinidog dros gyfnod y Cynulliad hwn. OAQ(4)0049(LGC)

3. Keith Davies: What are the Minister’s priorities over the period of this Assembly. OAQ(4)0049(LGC)

 

Carl Sargeant: I thank the Member for Llanelli for that question. My priorities for this Assembly term are to reduce poverty among our poorest people and communities, to make our communities safer and to support the delivery of effective and efficient public services that meet the needs of people in Wales. 

 

Carl Sargeant: Diolch i'r Aelod dros Lanelli am y cwestiwn hwnnw. Fy mlaenoriaethau ar gyfer tymor y Cynulliad hwn yw lleihau tlodi ymhlith ein pobl a chymunedau tlotaf, gwneud ein cymunedau’n fwy diogel a chefnogi cyflwyno gwasanaethau cyhoeddus effeithiol ac effeithlon sy’n diwallu anghenion pobl yng Nghymru.

Keith Davies: Diolch am yr ateb hwnnw. Weinidog, cwrddais â rheolwyr Trenau Arriva Cymru yn ddiweddar yn Llanelli a’u llongyfarch am wella’r gwasanaethau i Abergwaun. Fodd bynnag, pwysleisiais hefyd yr angen am welliannau i’r orsaf yn Llanelli. Yn yr orsaf, mae angen gwella’r profiad cyffredinol i deithwyr ac mae angen gwaith brys i wella’r sgriniau gwybodaeth a’r mannau aros. A fyddech yn barod i gyfeirio at achos gorsaf Llanelli mewn unrhyw drafodaethau a gewch ar orsafoedd trenau yng Nghymru yn y dyfodol agos?

 

Keith Davies: Thank you for that answer. Minister, I met the managers of Arriva Trains Wales recently in Llanelli and congratulated them on improving the service to Fishguard. However, I also emphasises the need for improvements to the station in Llanelli. At the station, there is a need to improve the general experience for travellers and urgent work must be undertaken to improve the information screens and the waiting areas. Would you be prepared to mention Llanelli station in any meetings about train stations in Wales that you may have in the near future?

Carl Sargeant: Following the debate the other week regarding accessibility and the quality of train stations, you will be aware that many of these stations are under the remit of Network Rail. However, I will ask my officials to have a discussion with Carmarthenshire County Council and Llanelli Town Council to see whether the station you mentioned is a candidate for the national station improvement plan, and whether there is an opportunity for them to access that funding.

 

Carl Sargeant: Yn dilyn y ddadl yr wythnos diwethaf ar hygyrchedd ac ansawdd y gorsafoedd trên, byddwch yn gwybod bod llawer o'r gorsafoedd hyn o dan gylch gwaith Network Rail. Fodd bynnag, byddaf yn gofyn i fy swyddogion gael trafodaeth gyda Chyngor Sir Caerfyrddin a Chyngor Tref Llanelli i weld a yw'r orsaf yr oeddech yn sôn amdani’n ymgeisydd am y cynllun gwella gorsafoedd cenedlaethol, ac a oes cyfle iddynt gael y cyllid hwnnw.

Janet Finch-Saunders: I am sure that the Minister has seen the recent press reports this week about the ongoing situation in Bridgend County Borough Council, where some employees are seeing their salaries slashed in an attempt to establish equal pay between genders. What steps are you taking to adopt a pan-Wales approach to support the process of job evaluation and equal pay by local authorities?

 

Janet Finch-Saunders: Yr wyf yn siŵr fod y Gweinidog wedi gweld yr adroddiadau diweddar yn y wasg yr wythnos hon am y sefyllfa barhaus yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, lle mae cyflogau rhai gweithwyr yn cael eu torri mewn ymgais i sefydlu cyflog cyfartal rhwng y rhywiau. Pa gamau ydych yn eu cymryd i fabwysiadu dull Cymru gyfan i gefnogi'r broses o werthuso swyddi a chyflog cyfartal gan awdurdodau lleol?

 

Carl Sargeant: I thank the Member for the important question regarding how we, as the Government, can support local authorities more broadly. The principle set out by the Welsh Government is to ensure that local authorities across Wales work towards achieving settlements with regard to the equal pay agenda. The matter concerning Bridgend is a matter for that council, as it would be for any of the other 22 authorities. However, we should come to a settlement as soon as possible to ensure that the valued workforce in the public sector is paid the appropriate rate.

 

Carl Sargeant: Diolch i'r Aelod am y cwestiwn pwysig ynghylch sut yr ydym, fel Llywodraeth, yn gallu cefnogi awdurdodau lleol yn fwy cyffredinol. Yr egwyddor a nodwyd gan Lywodraeth Cymru yw sicrhau bod awdurdodau lleol ledled Cymru yn gweithio tuag at gyflawni setliadau mewn perthynas â'r agenda cyflog cyfartal. Mae'r mater sy’n ymwneud â Phen-y-bont ar Ogwr yn fater i’r cyngor hwnnw, fel y byddai i unrhyw un o'r 22 awdurdod arall. Fodd bynnag, dylem ddod i setliad cyn gynted â phosibl er mwyn sicrhau bod y gweithlu sy’n cael eu gwerthfawrogi yn y sector cyhoeddus yn cael eu talu’r gyfradd briodol.

 

Janet Finch-Saunders: To date, only 10 local authorities have undertaken the job evaluation exercise. Although I advocate localism and flexibility in most areas of local government, I am disappointed that the Welsh Government is not making the effort to unify the approach of local authorities towards job evaluation. Many community needs are localised, but fair and equal pay is an important and nationwide issue, which should be treated as such. I am aware of millions of pounds being spent on legal and consultancy costs, which really could be spent on improving equality of pay across the authorities. What plans do you have, Minister, to unify and streamline the job evaluation and equal pay exercise on a pan-Wales basis?

 

Janet Finch-Saunders: Hyd yn hyn, dim ond 10 awdurdod lleol sydd wedi ymgymryd â'r ymarfer gwerthuso swyddi. Er fy mod yn argymell lleoliaeth a hyblygrwydd yn y rhan fwyaf o ardaloedd llywodraeth leol, yr wyf yn siomedig nad yw Llywodraeth Cymru yn gwneud ymdrech i uno dull awdurdodau lleol tuag at werthuso swyddi. Mae llawer o anghenion y gymuned yn lleol, ond mae cyflog teg a chyfartal yn fater pwysig ledled y wlad, a dylid ei drin felly. Yr wyf yn gwybod am filiynau o bunnoedd yn cael eu gwario ar gostau cyfreithiol ac ymgynghori, a allai mewn gwirionedd gael eu gwario ar wella cydraddoldeb cyflog ar draws yr awdurdodau. Pa gynlluniau sydd gennych, Weinidog, i uno a symleiddio'r ymarfer gwerthuso swyddi a chyflog cyfartal ar sail Cymru gyfan?

 

Carl Sargeant: You raise an important issue. My previous portfolio included responsibility for the equality duty, which has now gone to the Minister for Finance and Leader of the House. We included a clause on specific duty on equal pay in the Equality Act 2010. Regrettably, the Westminster Government has not included that in the Equality Act 2010, whereas, in Wales, we are clearly leading the way on ensuring that local authorities must address this.

Carl Sargeant: Yr ydych yn codi mater pwysig. Roedd fy mhortffolio blaenorol yn cynnwys cyfrifoldeb am y ddyletswydd cydraddoldeb, sydd bellach wedi mynd i'r Gweinidog Cyllid ac Arweinydd y Tŷ. Rydym wedi cynnwys cymal ar ddyletswydd benodol ar gyflog cyfartal yn y Ddeddf Cydraddoldeb 2010. Yn anffodus, nid yw Llywodraeth San Steffan wedi cynnwys hynny yn Neddf Cydraddoldeb 2010, tra ein bod ni yng Nghymru yn arwain y ffordd yn glir ar sicrhau bod yn rhaid i awdurdodau lleol fynd i’r afael â hyn.

 

2.30 p.m.

 

Rhodri Glyn Thomas: Weinidog, yr oedd yn ddiddorol nodi yn eich ateb gwreiddiol i Keith Davies nad oeddech yn cynnwys ymhlith eich blaenoriaethau unrhyw beth i ymwneud â thrafnidiaeth, sy’n rhan bwysig o’ch portffolio. Yr wyf yn siŵr eich bod yn ymwybodol o hynny. A gaf innau, fel Keith, eich cynorthwyo i gyfeirio’ch meddwl tuag at faterion yn ymwneud â thrafnidiaeth, a’ch cyfeirio at brosiect a lawnsiwyd gennych yng Nghaerdydd, sef prosiect cynllunio taith wedi’i phersonoleiddio? A yw hyn yn rhan o’ch ymrwymiad i hybu trafnidiaeth gyhoeddus, a hybu pobl i ddefnyddio beiciau? Sut mae eich Llywodraeth yn cydweithio gyda Sustrans er mwyn sicrhau bod hynny yn digwydd ledled Cymru?

 

Rhodri Glyn Thomas: Minister, it was interesting to note in your original reply to Keith Davies that you did not include among your priorities anything on transport, which is an important part of your portfolio. I am sure that you are aware of that. May I, like Keith, assist you by directing your mind to matters relating to transport, and direct you to a project that you launched in Cardiff, namely the personalised travel plan? Is this part of your commitment to promote public transport, and to encourage people to use bikes? How is your Government collaborating with Sustrans in order to ensure that that happens across Wales?

 

Carl Sargeant: Thank you for your question, Rhodri Glyn Thomas. The personalised travel plan is part of the national agenda. There are several areas in which we will be investing to seek a modal shift for local journeys in terms of public transport. We are working in partnership with Sustrans on personal travel plans, because it will be delivering the scheme for us across Wales, and it has a keen involvement in terms of the legislation that we are introducing in the near future around the Welsh Government’s commitment to walking and cycling.

 

Carl Sargeant: Diolch am eich cwestiwn, Rhodri Glyn Thomas. Mae’r cynllun teithio personol yn rhan o’r agenda cenedlaethol. Mae yna nifer o feysydd lle byddwn yn buddsoddi i geisio newid moddol ar gyfer siwrneiau lleol o ran trafnidiaeth gyhoeddus. Rydym yn gweithio mewn partneriaeth â Sustrans ar gynlluniau teithio personol, oherwydd bydd yn cyflwyno’r cynllun i ni ar draws Cymru, ac y mae’n cymryd rhan brwd o ran y ddeddfwriaeth yr ydym yn ei chyflwyno yn y dyfodol agos o amgylch ymrwymiad Llywodraeth Cymru i gerdded a beicio.

 

Rhodri Glyn Thomas: Y cwestiwn oedd sut y byddwch yn sicrhau bod hyn yn digwydd ledled Cymru. Yr wyf yn falch iawn o glywed am y Bil; yr oedd hwnnw ym maniffesto Plaid Cymru, ac yr ydym yn croesawu pob achlysur pan fydd Llywodraeth Cymru yn dwyn ein syniadau ni ac yn eu gweithredu er lles pobl Cymru. A allwch esbonio sut y bydd y prosiect yn cael ei ledu drwy Gymru? Pa siroedd sy’n cydweithio gyda chi, pa rai na fydd yn cydweithio gyda chi a beth yw’r rhesymeg y tu ôl i hynny?

 

Rhodri Glyn Thomas: The question was how you will ensure that that happens across Wales. I am very pleased to hear about the Bill; that was in Plaid Cymru’s manifesto, and we always welcome the Welsh Government stealing our ideas and implementing them for the benefit of the people of Wales. Can you explain how the project will be rolled out across Wales? What counties are working with you, what counties are not collaborating and what is the reason for that?

 

Carl Sargeant: This is a roll-out programme, Rhodri Glyn Thomas. It starts in Cardiff and it will then be rolled out through Môn a Menai. I think that it then goes to Aberystwyth, but so as not to mislead the Chamber, I will write to you with the specific details of how this pilot scheme will be rolled out. If successful, I see this as a great opportunity for Wales to leading the way with personalised travel plans, and it is something that I will be keen to roll out across the country.

 

Carl Sargeant: Rhaglen gyflwyno yw hon, Rhodri Glyn Thomas. Mae’n dechrau yng Nghaerdydd ac yna bydd yn cael ei chyflwyno drwy Fôn a Menai. Credaf ei bod wedyn yn mynd i Aberystwyth, ond er mwyn peidio â chamarwain y Siambr, ysgrifennaf atoch gyda’r manylion penodol ynghylch sut y bydd y cynllun peilot hwn yn cael ei gyflwyno. Os bydd yn llwyddiannus, gwelaf hwn fel cyfle gwych i Gymru i arwain y ffordd gyda chynlluniau teithio personol, ac mae’n rhywbeth y byddaf yn awyddus i’w gyflwyno ar draws y wlad.

 

Un Llais Cymru

 

One Voice Wales

 

4. Janet Finch-Saunders: A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am Un Llais Cymru. OAQ(4)0041(LGC)

 

4. Janet Finch-Saunders: Will the Minister make a statement on One Voice Wales. OAQ(4)0041(LGC)

 

Carl Sargeant: One Voice Wales was formed in 2004. The Welsh Government recognises it as the national representative body for community and town councils across Wales.

 

Carl Sargeant: Ffurfiwyd Un Llais Cymru yn 2004. Mae Llywodraeth Cymru yn ei gydnabod fel y corff cynrychioliadol cenedlaethol ar gyfer cynghorau cymuned a thref ledled Cymru.

 

Janet Finch-Saunders: Since its inception seven years ago, One Voice Wales has been core-funded by the Welsh Government. Despite this financial assistance, which this year alone amounts to £97,000, I am concerned about One Voice Wales’s remit, policy and outcomes. Although it purports to act as a single representative voice for community and town councils in Wales, almost a third—around 200—are not represented. The cost of subscription is a major factor in this, as many smaller councils cannot add a precept to cover the high level of subscriptions. In north Wales, for instance, many councils look to the North Wales Association of Town and Larger Community Councils for advocacy and training, yet it provides the same service on an almost voluntary basis, with only a small subscription. Will the Minister look again at the framework for providing support to these smaller councils and at incorporating a partnership framework and approach, while also acknowledging the excellent record of the support and training provided by the North Wales Association of Town and Larger Community Councils?

 

Janet Finch-Saunders: Ers ei sefydlu saith mlynedd yn ôl, mae Un Llais Cymru yn derbyn ei gyllid craidd gan Lywodraeth Cymru. Serch y cymorth ariannol hwn, sydd eleni yn unig yn cyfateb i £97,000, yr wyf yn poeni am gylch gwaith, polisi a chanlyniadau Un Llais Cymru. Er ei fod yn honni i fod yn lais cynrychioliadol sengl ar gyfer cynghorau cymuned a thref yng Nghymru, mae bron i draean—oddeutu 200—nad ydynt yn cael eu cynrychioli. Mae cost tanysgrifio yn ffactor fawr yn hyn o beth, gan na all nifer o gynghorau llai ychwanegu praesept i dalu am y lefel uchel o danysgrifiadau. Yn y gogledd, er enghraifft, mae llawer o gynghorau yn edrych i Gymdeithas Cynghorau Trefi a Chymdeithasau Mwyaf Gogledd Cymru ar gyfer eiriolaeth ac hyfforddiant, ac eto mae’n darparu’r un gwasanaeth ar sail wirfoddol bron, gyda dim ond tanysgrifiad bach. A wnaiff y Gweinidog edrych eto ar y fframwaith ar gyfer darparu cefnogaeth i’r cynghorau llai hyn ac ar ymgorffori fframwaith ac ymagwedd partneriaeth, tra hefyd yn cydnabod record ragorol o gefnogaeth ac hyfforddiant a ddarperir gan Gymdeithas Cynghorau Trefi a Chymdeithasau Mwyaf Gogledd Cymru?

 

Carl Sargeant: I am very familiar with the North Wales Association of Town and Larger Community Councils, as I was one of its former delegates. I pay tribute to the voluntary work it does for its members. One Voice Wales is the national membership organisation for Wales; that is our position, but I would not like to think that any council across Wales feels that it cannot engage in the process because of cost. I will be keen to look at that.

 

Carl Sargeant: Yr wyf yn gyfarwydd iawn â’r Gymdeithas Cynghorau Trefi a Chymdeithasau Mwyaf Gogledd Cymru, gan fy mod yn un o’i chyn-gynrychiolwyr. Yr wyf yn talu teyrnged i’r gwaith gwirfoddol y mae’n ei wneud ar gyfer ei haelodau. Un Llais Cymru yw’r mudiad aelodaeth cenedlaethol ar gyfer Cymru; dyna yw ein sefyllfa, ond ni fyddwn yn hoffi meddwl bod unrhyw gyngor ledled Cymru yn teimlo na all gymryd rhan yn y broses oherwydd y gost. Byddaf yn awyddus i edrych ar hynny.

 

William Powell: The One Voice Wales meeting that took place last weekend had a full agenda. Among the issues that were discussed was the implementation of the charters between town and community councils and principal local authorities, and a particular concern was the patchy progress in developing them and rolling them out. Can the Minister make a statement on the importance of those charters and reassure colleagues that this is more than a box-ticking exercise, and has genuinely meaningful objectives?

 

William Powell: Roedd gan y cyfarfod Un Llais Cymru a gynhaliwyd y penwythnos diwethaf agenda llawn. Ymhlith y materion a drafodwyd oedd y broses o siarteri rhwng cynghorau tref a chymuned a’r prif awdurdodau lleol, a phryder arbennig oedd y cynnydd anghyson wrth eu datblygu a’u cyflwyno. A all y Gweinidog wneud datganiad am bwysigrwydd y siarteri hynny a rhoi sicrwydd i gydweithwyr bod hyn yn fwy nag ymarfer ticio blychau, a bod ganddo amcanion wirioneddol ystyrlon?

 

Carl Sargeant: It is important to work towards a charter provision between town and community councils and the primary unitary authorities. I have been at the launch of several of these partnership charters; it is something that I support. One Voice Wales, as a representative body, has a position on the table of the partnership council that is involved with all 22 authorities. You can rest assured that One Voice Wales makes its one voice in Wales heard regularly at partnership council meetings.

 

Carl Sargeant: Mae’n bwysig gweithio tuag at ddarpariaeth siarter rhwng cynghorau tref a chymuned a’r awdurdodau unedol cynradd. Rwyf wedi bod yn lansiad sawl un o’r siarteri partneriaeth hyn; mae’n rhywbeth yr wyf yn ei gefnogi. Mae gan Un Llais Cymru, fel corff cynrychiadol, le ar fwrdd y cyngor partneriaeth sy’n ymwneud â phob un o’r 22 awdurdod. Gallwch fod yn sicr bod Un Llais Cymru yn gwneud yn siŵr bod ei un llais yng Nghymru yn cael ei glywed yn rheolaidd yng nghyfarfodydd y cyngor partneriaeth.

 

Cynllun Bathodyn Glas

 

Blue Badge Scheme

 

5. Sandy Mewies: A wnaiff y Gweinidog roi’r wybodaeth ddiweddaraf am y Cynllun Bathodyn Glas. OAQ(4)0040(LGC)

 

5. Sandy Mewies: Will the Minister give an update on the Blue Badge Scheme. OAQ(4)0040(LGC)

 

Carl Sargeant: I thank the Member for Delyn. Good progress is being made on reforming the blue badge scheme. We have already extended eligibility to young children with specific medical conditions and to seriously injured war veterans. We are consulting on plans for a new badge, badge fee and powers to tackle fraud and abuse of the scheme.

 

Carl Sargeant: Diolch i'r Aelod dros Ddelyn. Mae cynnydd da yn cael ei wneud ar ddiwygio’r cynllun bathodyn glas. Rydym eisoes wedi ymestyn cymhwysedd i blant ifanc sydd â chyflyrau meddygol penodol ac i gyn-filwyr a hanafwyd yn ddifrifol mewn rhyfel. Rydym yn ymgynghori ar gynlluniau am fathodyn newydd, ffi bathodyn a phwerau i fynd i’r afael â thwyll a camddefnyddio’r cynllun.

 

Sandy Mewies: Thank you for that, Minister. I know that a lot of hard work has taken place to make the blue badge scheme fit for purpose, but you will know that the scheme does not provide for people who are temporarily suffering from severe mobility problems. ‘Temporarily’ can be a short or long period. They would benefit from being able to use blue badges for those time-limited periods. Will you keep this under constant review, Minister? I feel that it is something that is badly needed in Wales.

 

Sandy Mewies: Diolch ichi am hynny, Weinidog. Gwn fod llawer o waith caled wedi’i wneud i sicrhau bod y cynllun bathodyn glas yn addas at y diben, ond byddwch yn gwybod nad yw’r cynllun yn darparu ar gyfer pobl sy’n dioddef dros dro o broblemau symudedd difrifol. Gall ‘dros dro’ fod yn gyfnod byr neu hir. Byddent yn elwa o allu defnyddio bathodynnau glas am gyfnodau cyfyngedig bryd hynny. A fyddwch yn parhau i adolygu hyn yn gyson, Weinidog? Rwy’n teimlo ei fod yn rhywbeth y mae ei angen yn wael yng Nghymru.

 

Carl Sargeant: I thank the Member for her comments and I note her great personal interest and support for people in need of blue badges over many years. I will look at temporary badges, as part of the action plan, but we need to sort out some of the fundamental issues with the structure of the plan, which I will announce post consultation. I will keep this in mind as we move forward.

 

Carl Sargeant: Diolch i’r Aelod am ei sylwadau, a nodaf ei diddordeb a’i chymorth personol gwych i bobl sydd angen bathodynnau glas am lawer o flynyddoedd. Byddaf yn edrych ar fathodynnau dros dro, fel rhan o’r cynllun gweithredu, ond mae angen i ni ddatrys rhai o’r materion sylfaenol gyda strwythur y cynllun, y byddaf yn ei gyhoeddi ar ôl yr ymgynghoriad. Byddaf yn cadw hyn mewn cof wrth inni symud ymlaen.

 

Darren Millar: I was pleased to hear the Minister’s response, particularly on the extension of the scheme to disabled young children and their families and to veterans with serious injuries. I am also concerned with the temporary mobility problems that some people have. As the Minister will know, in the third Assembly, I proposed an extension of the scheme to mums-to-be, namely pregnant women in the third trimester, who often need a little extra space and help, and who have mobility problems. Will he consider extending the scheme to such people as part of the ongoing review?

 

Darren Millar: Yr wyf yn falch o glywed ymateb y Gweinidog, yn arbennig ar ymestyn y cynllun i blant ifanc anabl a’u teuluoedd ac i gyn-filwyr ag anafiadau difrifol. Yr wyf hefyd yn pryderu ynglŷn â’r problemau symudedd dros dro sydd gan rai pobl. Fel y gŵyr y Gweinidog, yn y trydydd Cynulliad, cynigais ymestyn y cynllun i ddarpar famau, sef menywod beichiog yn eu trydydd tymor, sydd yn aml angen ychydig o le ychwanegol a help, ac sydd â phroblemau symudedd. A fydd yn ystyried ymestyn y cynllun i bobl o’r fath fel rhan o’r adolygiad parhaus?

 

Carl Sargeant: I recall the debate that you had in the Chamber, which, regrettably, was not successful at the time. You may wish to make representations during the consultation, which is still open for another 19 or 20 days. I would welcome your comments in that process.

 

Carl Sargeant: Yr wyf yn cofio’r ddadl a gawsoch yn y Siambr, nad oedd, yn anffodus, yn llwyddiannus ar y pryd. Efallai y byddwch yn dymuno gwneud sylwadau yn ystod yr ymgynghoriad, sydd yn dal ar agor am 19 neu 20 diwrnod arall. Byddwn yn croesawu eich sylwadau yn y broses honno.

 

Bethan Jenkins: I do a lot of work with a charity called Headway that works with people with head injuries. In fact, we launched a new branch in Neath Port Talbot recently. Often, people with head injuries leave their car in a certain location and, because of the nature of their head injuries, cannot remember where they put it when they return to the car park. Will you consider extending the blue badge scheme to people with head injuries, because they are not visible disabilities, but can be debilitating for people who suffer from them, post car crash, traumatic experience or illness? I urge you to look at this as part of the consultation.

 

Bethan Jenkins: Yr wyf yn gwneud llawer o waith gydag elusen o’r enw Headway, sydd yn gweithio gyda phobl ag anafiadau i’r pen. Yn wir, gwnaethom lansio cangen newydd yng Nghastell-nedd Port Talbot yn ddiweddar. Yn aml, mae pobl ag anafiadau i’r pen yn gadael eu car mewn lleoliad penodol ac, oherwydd natur eu hanafiadau pen, ni allant gofio lle y maent wedi ei roi pan fyddant yn dychwelyd i’r maes parcio. A wnewch chi ystyried ymestyn y cynllun bathodyn glas i bobl ag anafiadau i’r pen, gan nad ydynt yn anableddau gweladwy, ond gallant fod yn wanychol i bobl sy’n dioddef ohonynt, ar ôl damwain car, profiad trawmatig neu salwch? Yr wyf yn eich annog i edrych ar hyn fel rhan o’r ymgynghoriad.

 

Carl Sargeant: I thank the Member for her comments and refer her to my response to Darren Millar in terms of making her views known through the consultation process.

 

Carl Sargeant: Diolch i’r Aelod am ei sylwadau ac fe’i cyfeiriaf at fy ateb i Darren Millar o ran gwneud ei barn yn hysbys drwy’r broses ymgynghori.

 

Jenny Rathbone: I welcome all of the Minister’s announcements, particularly the one relating to ensuring that there is no fraudulent use of blue badges. I draw the Minister’s attention to the frequent delays in getting blue badges for people who become seriously ill. A constituent of mine recently died while waiting for her blue badge. I wonder if you can tell me what you can do to ensure that councils manage their schemes effectively, and prioritise the people put in disabled spaces.

 

Jenny Rathbone: Croesawaf holl gyhoeddiadau’r Gweinidog, yn enwedig yr un yn ymwneud â sicrhau nad oes unrhyw ddefnydd twyllodrus o fathodynnau glas. Tynnaf sylw’r Gweinidog at yr oedi rheolaidd wrth gael bathodynnau glas i bobl sy’n troi’n ddifrifol wael. Yn ddiweddar, bu farw etholwraig imi wrth aros am ei bathodyn glas. Tybed a allwch ddweud wrthyf beth y gallwch ei wneud i sicrhau bod cynghorau yn rheoli eu cynlluniau yn effeithiol, ac yn blaenoriaethu’r bobl sy’n cael eu rhoi mewn llefydd i’r anabl.

 

Carl Sargeant: Through this review process we are looking at the way that the scheme is implemented, and how the local authorities decide to distribute blue badges. It is another case of 22 authorities doing this 22 different ways, so we need to look at how this is delivered. I am concerned that the waiting times are too long for some people, and it is very sad to hear about the case that you referred to. I am aware that local authorities generally fast-track applications for the terminally ill, so if you have any details that you wish to share with me on that case, I will look at them for you.

 

Carl Sargeant: Drwy’r broses adolygu hon rydym yn edrych ar y ffordd y mae’r cynllun yn cael ei weithredu, a sut y mae’r awdurdodau lleol yn penderfynu dosbarthu bathodynnau glas. Mae’n achos arall o 22 o awdurdodau yn gwneud hyn mewn 22 o ffyrdd gwahanol, felly mae angen i ni edrych ar sut mae hyn yn cael ei ddarparu. Yr wyf yn poeni bod yr amseroedd aros yn rhy hir i rai pobl, ac mae’n drist iawn i glywed am yr achos y cyfeiriasoch ato. Yr wyf yn ymwybodol bod awdurdodau lleol yn gyffredinol yn ceisio cyflymu ceisiadau ar gyfer y rheiny sy’n derfynol sâl, felly os oes gennych unrhyw fanylion yr hoffech eu rhannu gyda mi ar yr achos hwnnw, edrychaf arnynt ar eich cyfer.

 

Cysylltiadau Trafnidiaeth

 

Transport Links

 

6. Eluned Parrott: Pa drafodaethau y mae’r Gweinidog wedi’u cael ynghylch y cysylltiadau trafnidiaeth â’r parthau menter a ddynodwyd a pharthau menter posibl. OAQ(4)0039(LGC)

 

6. Eluned Parrott: What discussions has the Minister had regarding the transport links to designated and potential enterprise zones. OAQ(4)0039(LGC)

 

Carl Sargeant: We will be working closely with local authority officials and colleagues in business, enterprise, technology and science to ensure that the transport requirements of the enterprise zones are appropriately considered.

 

Carl Sargeant: Byddwn yn cydweithio’n agos â swyddogion awdurdodau lleol a chydweithwyr mewn busnes, menter, technoleg a gwyddoniaeth er mwyn sicrhau bod gofynion trafnidiaeth y parthau menter yn cael eu hystyried yn briodol.

 

Eluned Parrott: That is great news. As you may know, I live in Jane Hutt’s constituency in the Vale of Glamorgan, and we are lucky enough to have an enterprise zone planned for St Athan. From here, it would take around an hour by car to get to St Athan, about 15 miles away, because of the state of the A-roads and B-roads that you have to navigate to make that journey. Public transport is also problematic; even though the Vale of Glamorgan line goes right past the site, sadly, it does not currently stop there. How much investment do you foresee each of the enterprise zones needing, given the extra demands on infrastructure if they are successful? Are you looking for your current transport plans to accommodate the enterprise zones as well?

 

Eluned Parrott: Mae hynny’n newyddion gwych. Fel y gwyddoch efallai, rwyf yn byw yn etholaeth Jane Hutt ym Mro Morgannwg, ac rydym yn ddigon ffodus i gael ardal fenter a gynlluniwyd ar gyfer Sain Tathan. Oddi yma, byddai’n cymryd tua awr yn y car i fynd i Sain Tathan, tua 15 milltir i ffwrdd, oherwydd cyflwr y ffyrdd A a B y mae’n rhaid i chi eu llywio i wneud y daith honno. Mae cludiant cyhoeddus hefyd yn broblem; er bod llinell Bro Morgannwg yn mynd heibio’r safle, yn anffodus, nid yw’n stopio yno ar hyn o bryd. Faint o fuddsoddiad ydych yn rhagweld y mae ei angen ar bob un o’r parthau menter, o ystyried y pwysau ychwanegol ar seilwaith os ydynt yn llwyddiannus? A ydych chi’n ystyried cael eich cynlluniau cludiant presennol i ddarparu ar gyfer parthau menter yn ogystal?

 

Carl Sargeant: To take your last question first, I am considering the reprioritisation of the national transport plan, and one of the considerations is around the enterprise zones. I have not had detailed costing yet for enhancing provision for enterprise zones, but it is something that I have discussed with the Minister for Business, Enterprise, Technology and Science. The Government collectively will look for opportunities to support enterprise zones across Wales.

 

Carl Sargeant: I gymryd eich cwestiwn olaf yn gyntaf, yr wyf yn ystyried ailflaenoriaethu’r cynllun trafnidiaeth cenedlaethol, ac un o’r ystyriaethau yw o amgylch y parthau menter. Nid wyf wedi cael costau manwl eto ar gyfer gwella’r ddarpariaeth ar gyfer ardaloedd menter, ond mae’n rhywbeth yr wyf wedi’i drafod gyda’r Gweinidog Busnes, Menter, Technoleg a Gwyddoniaeth. Bydd y Llywodraeth yn cyd- chwilio am gyfleoedd i gefnogi ardaloedd menter ar draws Cymru.

 

Mohammad Asghar: Ebbw Vale is one of the five enterprise zones recently announced for Wales, and improving transport links between the town and the rest of Gwent is very important. After spending £286,000 on reports and assessments, I am sure that Ministers have enough information to at least improve the railway link between Newport and Ebbw Vale, which will not only benefit the economy, but connectivity among the communities. Can you assure my constituents, who have had enough of the constant delays, that you will finally deliver a passenger train service between Ebbw Vale and Newport?

 

Mohammad Asghar: Mae Glynebwy yn un o’r pum parth menter a gyhoeddwyd yn ddiweddar ar gyfer Cymru, ac mae gwella cysylltiadau trafnidiaeth rhwng y dref a gweddill Gwent yn bwysig iawn. Ar ôl treulio £286,000 ar adroddiadau ac asesiadau, yr wyf yn sicr bod gan Weinidogion ddigon o wybodaeth er mwyn o leiaf gwella’r cyswllt rheilffordd rhwng Casnewydd a Glynebwy, a fydd nid yn unig yn fudd i’r economi, ond cysylltedd ymhlith y cymunedau. A allwch sicrhau fy etholwyr, sydd wedi cael digon ar yr oedi cyson, y byddwch o’r diwedd yn cyflwyno gwasanaeth trên i deithwyr rhwng Glynebwy a Chasnewydd?

 

Carl Sargeant: I have had similar enquiries from many Members, including John Griffiths, the local Member in Newport East, and Jocelyn Davies, as well as you and William Graham, of course. I am making no reference to Rosemary Butler. [Laughter.] There was some danger of being cut off there. I assure Members that I am seriously considering the issues around the Ebbw Vale-Newport link, and of course at the appropriate time I will make a statement to the Chamber.

 

Carl Sargeant: Yr wyf wedi cael ymholiadau tebyg gan nifer o Aelodau, gan gynnwys John Griffiths, yr Aelod lleol yn Nwyrain Casnewydd, a Jocelyn Davies, yn ogystal â chi a William Graham, wrth gwrs. Nid wyf yn gwneud unrhyw gyfeiriad at Rosemary Butler. [Chwerthin.] Roedd rhywfaint o berygl o gael fy nhorri i ffwrdd yn y fan honno. Yr wyf yn sicrhau Aelodau fy mod yn ystyried o ddifrif y materion sy’n ymwneud â’r cyswllt rhwng Glynebwy a Chasnewydd, ac wrth gwrs ar yr adeg briodol byddaf yn gwneud datganiad i’r Siambr.

 

Leanne Wood: Minister, there is a great opportunity to reduce emissions and congestion on our roads by taking more of an innovative approach to freight movement. Light rail is potentially one good option for both passengers and freight. The freight consolidation centre serving Broadmead in Bristol was initially set up for a trial period of eight months back in May 2004, but is being continued due to its huge success in acting as a central hub on the edge of the city, where deliveries are streamlined, therefore reducing the number of trucks travelling into Broadmead.

Leanne Wood: Weinidog, mae cyfle gwych i leihau allyriadau a thagfeydd ar ein ffyrdd trwy gymryd mwy o agwedd arloesol at symud nwyddau. Mae rheilffyrdd ysgafn o bosibl yn un opsiwn da ar gyfer teithwyr a nwyddau. Sefydlwyd y ganolfan gyfuno nwyddau sy’n gwasanaethu Broadmead ym Mryste yn wreiddiol am gyfnod prawf o wyth mis yn ôl yn mis Mai 2004, ond mae’n cael ei barhau oherwydd ei llwyddiant ysgubol o ran gweithredu fel canolbwynt canolog ar gyrion y ddinas, lle mae cyflenwadau yn cael eu symleiddio, gan leihau nifer y lorïau sy’n teithio i mewn i Broadmead.

 

2.45 p.m.

 

Given that transport links are essential for business, will you consider the potential benefits of establishing a freight consolidation area for Cardiff and any other part of Wales that you consider may warrant one?

 

O ystyried bod cysylltiadau trafnidiaeth yn hanfodol ar gyfer busnes, a wnewch chi ystyried y manteision posibl o sefydlu ardal cyfuno nwyddau ar gyfer Caerdydd ac unrhyw ran arall o Gymru yr ydych yn ystyried y gellid cyfiawnhau un?

 

Carl Sargeant: I thank the Member for her question. It is certainly an issue that we need to consider in the broader context of finding Welsh solutions to freight transport industry issues. I have asked my officials to give further consideration to that, again working with the Minister for Business, Enterprise, Technology and Science, to see whether we can have a better outcome with regard to freight transport and the environmental impact that it may have.

 

Carl Sargeant: Diolch i’r Aelod am ei chwestiwn. Mae’n sicr yn fater y mae angen inni ei ystyried yn y cyd-destun ehangach o ddod o hyd i atebion Cymreig i faterion diwydiant cludo nwyddau. Yr wyf wedi gofyn i fy swyddogion roi ystyriaeth bellach i hynny, yn gweithio unwaith eto gyda’r Gweinidog Busnes, Menter, Technoleg a Gwyddoniaeth, i weld a allwn gael canlyniad gwell o ran cludo nwyddau a’r effaith amgylcheddol y gallai hynny ei gael.

The Presiding Officer: Question 7, OAQ(4)0050(LGC), has been withdrawn.

Y Llywydd: Tynnwyd cwestiwn 7, OAQ (4) 0050 (LGC), yn ôl.

 

Trefnu Etholiadau Awdurdodau Lleol

 

Scheduling of Local Authority Elections

8. William Graham: Pa ystyriaeth y mae’r Gweinidog wedi’i rhoi i drefnu etholiadau Awdurdodau Lleol ym mis Mai 2016. OAQ(4)0052(LGC)

 

8. William Graham: What consideration has the Minister given to the scheduling of Local Authority elections in May 2016. OAQ(4)0052(LGC)

Carl Sargeant: I thank the Member for South Wales East. The Fixed-term Parliaments Act 2011 alters the date of the next National Assembly elections by one year to 2016, which coincides with local government elections. I will shortly be considering the implications for the local government elections scheduled for 2016.

 

Carl Sargeant: Diolch i’r Aelod dros Ddwyrain De Cymru. Mae Deddf Seneddau Cyfnod Penodol 2011 yn newid dyddiad etholiadau nesaf y Cynulliad Cenedlaethol gan flwyddyn hyd at 2016, sy’n cyd-fynd ag etholiadau llywodraeth leol. Byddaf yn ystyried yn fuan y goblygiadau ar gyfer yr etholiadau llywodraeth leol a drefnwyd ar gyfer 2016.

 

William Graham: Thank you for your answer, Minister. What consultations will you allow?

 

William Graham: Diolch am eich ateb, Weinidog. Pa ymgynghoriadau y byddwch yn eu caniatáu?

Carl Sargeant: There is, I believe, a statutory obligation to consult on this process. I will work through the Welsh Local Government Association to ensure that we fulfil all of those criteria.

 

Carl Sargeant: Yr wyf yn credu bod rhwymedigaeth statudol i ymgynghori ar y broses hon. Byddaf yn gweithio drwy Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru i sicrhau ein bod yn cyflawni pob un o’r meini prawf hynny.

 

Mick Antoniw: As a result of Labour representations in the House of Commons, it appears that the coalition Government is to remove attempts to remove the obligation on local authorities to promote the electoral register. Have you given any consideration as to whether further legislation is needed in Wales with regard to the promotion and maintenance of an up-to-date and effective electoral register?

 

Mick Antoniw: O ganlyniad i sylwadau Llafur yn Nhŷ’r Cyffredin, mae’n ymddangos bod y Llywodraeth glymblaid yn mynd i gael gwared ar ymdrechion i gael gwared ar y rhwymedigaeth ar awdurdodau lleol i hyrwyddo’r gofrestr etholiadol. A ydych wedi rhoi unrhyw ystyriaeth ynghylch a oes angen deddfwriaeth bellach yng Nghymru mewn perthynas â hyrwyddo a chynnal cofrestr etholiadol cyfredol ac effeithiol?

 

Carl Sargeant: I thank the Member for his question. There are implications for the way this operates in Wales, and I have written to the Minister in London expressing my concerns about the process. I hope that we, collectively across the Chamber, can find a Welsh solution for the Welsh electoral system. We are growing as an institution and have the ability to make some of those decisions ourselves.

 

Carl Sargeant: Diolch i’r Aelod am ei gwestiwn. Mae yna oblygiadau o ran y ffordd y mae hyn yn gweithredu yng Nghymru, ac yr wyf wedi ysgrifennu at y Gweinidog yn Llundain yn mynegi fy mhryderon am y broses. Yr wyf yn gobeithio ein bod ni, ar draws y Siambr, yn gallu dod o hyd i ateb Cymreig i’r system etholiadol yng Nghymru. Rydym yn tyfu fel sefydliad ac mae gennym y gallu i wneud rhai o’r penderfyniadau hynny ein hunain.

 

Alun Ffred Jones: Cyn etholiadau’r Cynulliad yn 2016, bydd etholiadau lleol 2012. A ragwelwch y bydd unrhyw newidiadau i ffiniau wardiau yng Nghymru cyn yr etholiad hwnnw? Beth fydd yn digwydd yn yr ardaloedd hynny lle mae comisiynwyr wedi’u gosod—a ragwelwch y bydd yr etholiadau yn mynd rhagddynt fel arfer?

 

Alun Ffred Jones: Before the Assembly elections in 2016, there will be the local elections in 2012. Do you anticipate that there will be any changes to the boundaries of wards in Wales prior to that election? What will happen in those areas where commissioners have been put in place—do you anticipate that the elections will take place as normal?

Carl Sargeant: I do not anticipate that there will be any changes in electoral ward boundaries prior to the 2012 local elections.

 

Carl Sargeant: Nid wyf yn rhagweld y bydd unrhyw newidiadau yn y ffiniau wardiau etholiadol cyn etholiadau lleol 2012.

Trafnidiaeth Gynaliadwy

Sustainable Transport

 

9. Rebecca Evans: A wnaiff y Gweinidog amlinellu ei gefnogaeth i drafnidiaeth gynaliadwy mewn ardaloedd gwledig. OAQ(4)0045(LGC)

 

9. Rebecca Evans: Will the Minister outline his support for sustainable transport in rural areas. OAQ(4)0045(LGC)

 

Carl Sargeant: I thank the Member for Mid and West Wales. The Welsh Government is delivering sustainable transport in rural areas through its initiatives for rail and local bus services, developing sustainable travel towns and taking forward the TrawsCymru network.

 

Carl Sargeant: Diolch i’r Aelod dros Ganolbarth a Gorllewin Cymru. Mae Llywodraeth Cymru yn cyflawni cludiant cynaliadwy mewn ardaloedd gwledig drwy ei mentrau ar gyfer trenau a gwasanaethau bws lleol, datblygu trefi teithio cynaliadwy a bwrw ymlaen â rhwydwaith TrawsCymru.

 

Rebecca Evans: We are told that transport poverty is as prevalent as fuel poverty in many parts of Wales and that it has an equally negative impact on households. How will the Welsh Government invest in alternative modes of transport to help tackle this problem and increase social inclusion and also to help address climate change and lower accident rates in rural Wales?

 

Rebecca Evans: Rydym yn deall bod tlodi trafnidiaeth mor amlwg â thlodi tanwydd mewn llawer rhan o Gymru a’i fod yn cael effaith yr un mor negyddol ar deuluoedd. Sut y bydd Llywodraeth Cymru yn buddsoddi mewn dulliau amgen o gludiant er mwyn helpu i fynd i’r afael â’r broblem hon a chynyddu cynhwysiant cymdeithasol a hefyd helpu i fynd i’r afael â newid yn yr hinsawdd a chyfraddau damweiniau is yn Gymru wledig?

 

Carl Sargeant: The issues that the Member raise cover very broad-ranging parts of my portfolio, from the anti-poverty agenda to the transport agenda to economics, with the Minister for Business, Enterprise, Technology and Science, to rural affairs, with Alun Davies, the Deputy Minister for Agriculture, Food, Fisheries and European Programmes. We often discuss the best outcomes in this regard. We are investing heavily in concessionary fares. Cerdyn Cymru pass holders in Carmarthenshire and Powys are able to travel for free on the Heart of Wales line, and that is just one example of extending opportunity in rural areas by using concessionary fares innovatively for the benefit of the local economy.

 

Carl Sargeant: Mae’r materion y mae’r Aelod yn eu codi yn cwmpasu rhannau eang iawn o’m portffolio, o’r agenda gwrthdlodi at yr agenda trafnidiaeth i economeg, gyda’r Gweinidog Busnes, Menter, Technoleg a Gwyddoniaeth, i faterion gwledig, gydag Alun Davies, y Dirprwy Weinidog Amaethyddiaeth, Bwyd, Pysgodfeydd a Rhaglenni Ewropeaidd. Rydym yn aml yn trafod y canlyniadau gorau yn hyn o beth.  Rydym yn buddsoddi’n drwm mewn tocynnau teithio rhatach. Mae deiliaid Cerdyn Cymru yn Sir Gaerfyrddin a Phowys yn gallu teithio am ddim ar reilffordd Calon Cymru, a dyna un enghraifft yn unig o ymestyn cyfleoedd mewn ardaloedd gwledig drwy ddefnyddio tocynnau teithio rhad yn arloesol er budd yr economi leol.

 

Russell George: The successful delivery of sustainable transport projects in rural Wales must be underpinned by excellent infrastructure. One of my concerns in Montgomeryshire is the state of the Dyfi bridge in Machynlleth. I appreciate that you are aware of the issue and the disruption that is caused when it is closed. The bridge and the surrounding road network are simply not fit for purpose. The Government stated last year that a number of options are being considered, including building a new structure over the Afon Dyfi. Can the Minister give an update on progress to date and tell us whether he has made a decision on this?

 

Russell George: Mae’n rhaid i gyflawniad llwyddiannus prosiectau trafnidiaeth gynaliadwy yn y Gymru wledig gael ei ategu gan seilwaith ardderchog. Un o fy mhryderon yn Sir Drefaldwyn yw cyflwr pont Dyfi ym Machynlleth. Yr wyf yn sylweddoli eich bod yn ymwybodol o’r mater a’r amhariad a achosir pan gaiff ei gau. Nid oedd y bont a’r rhwydwaith ffyrdd cyfagos, yn syml, yn addas at y diben. Dywedodd y Llywodraeth y llynedd bod nifer o opsiynau yn cael eu hystyried, gan gynnwys adeiladu strwythur newydd dros Afon Dyfi. A all y Gweinidog roi’r wybodaeth ddiweddaraf am y cynnydd hyd yma a dweud wrthym a yw ef wedi gwneud penderfyniad ar hyn?

Carl Sargeant: I have not made a decision, but the issues that you raise are under consideration.

 

Carl Sargeant: Nid wyf wedi gwneud penderfyniad, ond mae’r materion a godwch yn cael eu hystyried.

 

Llyr Huws Gruffydd: Yr wyf am ganolbwyntio ar y pwynt a wnaethpwyd gan Rebecca Evans. Mae’r cyfuniad o ddibyniaeth uchel ar geir sydd gennym yng Nghymru, a’r lefelau isel o gyflog sydd gennym o gymharu â rhannau eraill yn y Deyrnas Unedig, yn golygu bod tlodi trafnidiaeth yn broblem wirioneddol, yn enwedig mewn cymunedau gwledig. Mae ymchwil yn dangos bod 20 y cant o’n cartrefi tlotaf yn gwario bron i chwarter eu hincwm ar gostau moduro. Pam, felly, nad oes targed penodol yn eich rhaglen llywodraethu i fynd i’r afael â thlodi trafnidiaeth?

 

Llyr Huws Gruffydd: I would like to focus on the point made by Rebecca Evans. The combination of the high dependency on the car that we have in Wales, and our low wage levels in comparison to other parts of the UK, mean that transport poverty is a very real problem, particularly in rural communities. Research shows that 20 per cent of our poorest households spend almost a quarter of their income on motoring costs. Why, therefore, is there not a specific target on tackling travel poverty in your programme for government?

Carl Sargeant: I thank the Member for his question. We have to look holistically at what we do on transport. We cannot pick out transport by rail or bus; we need to look at an integrated service that will have a great impact. I met one of your colleagues this morning to discuss details regarding the Cambrian line and issues of transfers between rail and bus infrastructure, which are really important. Ensuring that there is a mix of modes of transport is a big issue for the rural economy, with bus services, rail services and community transport all important to the economy that you describe.

 

Carl Sargeant: Diolch i’r Aelod am ei gwestiwn. Mae’n rhaid i ni edrych mewn ffordd gyfannol ar yr hyn rydym yn ei wneud ar drafnidiaeth. Nid ydym yn gallu dewis cludiant ar y rheilffyrdd neu fws; mae angen i ni edrych ar wasanaeth integredig a fydd yn cael effaith fawr. Cyfarfûm un o’ch cydweithwyr y bore yma i drafod y manylion am y llinell Cambrian a materion o drosglwyddiadau rhwng seilwaith rheilffyrdd a bysiau, sydd yn bwysig iawn. Mae sicrhau bod cymysgedd o fathau o gludiant yn fater pwysig i’r economi wledig, gyda gwasanaethau bysiau, rheilffyrdd a thrafnidiaeth gymunedol i gyd yn bwysig i’r economi a ddisgrifiwch.

 

Blaenoriaethau

Priorities

 

10. Andrew R.T. Davies: Beth yw blaenoriaethau’r Gweinidog ar gyfer rhanbarth Canol De Cymru. OAQ(4)0038(LGC)

 

10. Andrew R.T. Davies: What are the Minister’s priorities for the South Wales Central region. OAQ(4)0038(LGC)

Carl Sargeant: As outlined in the programme for government, my key priorities for this Assembly will be tackling poverty, standing up for public services and creating safer communities in South Wales Central and across Wales. 

 

Carl Sargeant: Fel yr amlinellwyd yn y rhaglen lywodraethu, fy mlaenoriaethau allweddol ar gyfer y Cynulliad hwn bydd mynd i’r afael â thlodi, cefnogi gwasanaethau cyhoeddus a chreu cymunedau mwy diogel yng Nghanol De Cymru ac ar draws Cymru.

 

Andrew R.T. Davies: Minister, you will be aware that in the extreme weather conditions that we faced last winter transport virtually ground to a halt in Cardiff. Now that you are responsible for transport and local government, what action has your department taken to test the measures that are in place to ensure that lessons have been learned from last winter should we have the same weather conditions replicated this winter?

 

Andrew R.T. Davies: Weinidog, byddwch yn ymwybodol, yn yr amodau tywydd eithafol a wynebom yn ystod y gaeaf diwethaf, bod trafnidiaeth fwy neu lai wedi dod i ben yng Nghaerdydd. Nawr eich bod yn gyfrifol am drafnidiaeth a llywodraeth leol, pa gamau mae eich adran wedi’u cymryd i brofi’r mesurau sydd yn eu lle i sicrhau bod gwersi wedi’u dysgu o’r gaeaf diwethaf petai’r un tywydd yn cael ei ailadrodd y gaeaf hwn?

 

Carl Sargeant: I am responsible for many things, including the Government’s response to weather events, but the snow is beyond my control. However, the Member raises a serious issue about the economy and accessibility. My team has been working with local authorities to ensure that the levels of grit in storage are appropriate. I would be happy to write to the Member about those levels in Wales. We are in the lap of the gods in terms of the weather that is thrown at us, but we are doing our best to prepare for the approaching winter.

 

Carl Sargeant: Yr wyf yn gyfrifol am lawer o bethau, gan gynnwys ymateb y Llywodraeth i ddigwyddiadau tywydd, ond mae eira y tu hwnt i fy rheolaeth. Fodd bynnag, mae’r Aelod yn codi mater difrifol am yr economi a hygyrchedd. Mae fy nhîm wedi bod yn gweithio gydag awdurdodau lleol i sicrhau bod y lefelau o raean  sydd wedi’u storio yn briodol. Byddwn yn hapus i ysgrifennu at yr Aelod am y lefelau hynny yng Nghymru. Rydym yn nwylo’r duwiau o ran y tywydd sy’n cael ei daflu atom, ond yr ydym yn gwneud ein gorau i baratoi ar gyfer y gaeaf sy’n agosáu.

 

Leanne Wood: Over the last few months, you have made clear your vision for the future of local government in Wales. Your aim is for more services to be shared across local authority boundaries to improve accountability, efficiency and the delivery of services. I would, therefore, like to hear your view on what appears to be a snub to your strategy by Rhondda Cynon Taf County Borough Council, which has recently appointed a new director of education on a salary that is £21,000 per annum above the previous rate for the job. That comes after some of the lowest-paid employees in the local authority have taken big pay cuts. Would you have condemned this local authority had it not been controlled by Labour? Will you, as Minister, now set aside your party loyalties and condemn the actions of this Labour-controlled council?

 

Leanne Wood: Yn ystod y misoedd diwethaf, yr ydych wedi gwneud yn glir eich gweledigaeth ar gyfer dyfodol llywodraeth leol yng Nghymru. Eich nod yw i fwy o wasanaethau gael eu rhannu ar draws ffiniau awdurdodau lleol i wella atebolrwydd, effeithiolrwydd a chyflwyno gwasanaethau. Byddwn, felly, yn hoffi clywed eich barn am yr hyn sy’n ymddangos i fod yn sarhad i’ch strategaeth gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf, sydd wedi penodi cyfarwyddwr addysg newydd yn ddiweddar ar gyflog sydd yn £21,000 y flwyddyn yn uwch na’r gyfradd flaenorol ar gyfer y swydd. Mae hynny’n dod ar ôl i rai o’r gweithwyr cyflog isaf yn yr awdurdod lleol gael toriadau cyflog mawr. A fyddech chi wedi condemnio’r awdurdod lleol hwn pe na bai wedi ei reoli gan Lafur? A wnewch chi, fel Gweinidog, roi eich teyrngarwch pleidiol i’r neilltu a chondemnio gweithredoedd y cyngor Llafur hwn?

 

Carl Sargeant: This is a matter for Rhondda Cynon Taf County Borough Council. As Minister responsible for improving public services across Wales, my expectation is that the 22 authorities work will together to drive better services for the public.

 

Carl Sargeant: Mae hwn yn fater i Gyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf. Fel y Gweinidog sy’n gyfrifol am wella gwasanaethau cyhoeddus ledled Cymru, yr wyf yn disgwyl bod y 22 awdurdod yn gweithio gyda’i gilydd i sicrhau gwell gwasanaethau ar gyfer y cyhoedd.

 

Etholiadau Cyngor Ynys Môn

Council Elections on Anglesey

 

11. Aled Roberts: A wnaiff y Gweinidog gadarnhau pryd y bydd cyhoeddiad ynglŷn ag etholiadau cyngor Ynys Môn ym mis Mai 2012. OAQ(4)0042(LGC)

 

11. Aled Roberts: Will the Minister confirm when there will be an announcement on the council elections on Anglesey in May 2012. OAQ(4)0042(LGC)

Carl Sargeant: I thank the Member for his question. The Local Government Boundary Commission for Wales has yet to conclude its review of electoral arrangements on Anglesey. I will consider whether there are implications for the timing of local government elections on the island in light of that report.

 

Carl Sargeant: Diolch i’r Aelod am ei gwestiwn. Mae Comisiwn Ffiniau Llywodraeth Leol i Gymru eto i gwblhau ei adolygiad o drefniadau etholiadol ar Ynys Môn. Byddaf yn ystyried a oes goblygiadau ar gyfer amseru etholiadau llywodraeth leol ar yr ynys yng ngoleuni’r adroddiad hwnnw.

Aled Roberts: Will you outline what opportunities we will have in the Chamber to discuss the success or otherwise of the democratic renewal process, which, I think, is a requirement of the commissioners’ report?

 

Aled Roberts: A wnewch chi amlinellu pa gyfleoedd fydd gennym yn y Siambr i drafod llwyddiant neu fethiant y broses adnewyddu democrataidd, sydd, yr wyf yn meddwl, yn un o ofynion adroddiad y comisiynwyr?

Carl Sargeant: When I receive the report from the boundary commission on whether it is able to complete the review of the democratic renewal programme, and I expect that to be in the next few weeks, I will, of course, let the Chamber know about the next progress mark for Anglesey.

 

Carl Sargeant: Pan fyddaf yn derbyn yr adroddiad gan y comisiwn ffiniau ynghylch a yw’n gallu cwblhau’r adolygiad o’r rhaglen adnewyddu democrataidd, ac yr wyf yn disgwyl i hynny fod yn ystod yr wythnosau nesaf, byddaf, wrth gwrs, yn rhoi gwybod i’r Siambr am y marc cynnydd nesaf ar gyfer Ynys Môn.

 

Mark Isherwood: Would you agree that both candidates for council elections and candidates for commissioners must be fit and proper persons to hold those offices, and would you consider somebody standing for election to be a fit and proper person if they had previously run a county council during a period described by PricewaterhouseCoopers as one when

 

Mark Isherwood: A fyddech yn cytuno bod yn rhaid i ymgeisiwr ar gyfer etholiadau’r cyngor ac ymgeiswyr sydd am fod yn gomisiynwyr fod yn bobl addas a phriodol ar gyfer y swyddi hynny, ac a fyddech yn ystyried rhywun yn berson addas a phriodol i sefyll mewn etholiad os oeddent wedi rhedeg cyngor sir yn ystod cyfnod a ddisgrifir gan PricewaterhouseCoopers fel un pan oedd

‘so many failings were unearthed both managers and workers could be guilty of misconduct’,

 

cymaint o fethiannau wedi cael eu dadorchuddio y gallai rheolwyr a gweithwyr fod yn euog o gamymddwyn,

when ‘dozens of crucial documents were missing’, and when a legally binding industrial tribunal said there had been positive falsification of documentation, and a former internal audit manager had told Queen’s counsel that a file relating to the candidate’s investigation was incomplete and that items had been removed? Would such a candidate be fit and proper to stand for election?

 

pan oedd dwsinau o ddogfennau hollbwysig ar goll, a phan ddywedodd tribiwnlys diwydiannol gyfreithiol rwymol y bu ffugio dogfennau, a phan ddywedodd cyn-reolwr archwilio mewnol wrth gwnsler y Frenhines bod ffeil yn ymwneud ag ymchwiliad i’r ymgeisydd yn anghyflawn a bod eitemau wedi cael eu tynnu allan? A fyddai ymgeisydd o’r fath yn addas a phriodol i sefyll mewn etholiad?

 

Carl Sargeant: Do I agree with Mark Isherwood? No.

 

Carl Sargeant: A wyf yn cytuno â Mark Isherwood? Nag wyf.

Ieuan Wyn Jones: Mae cwestiwn sylfaenol o ddemocratiaeth yma, Weinidog, onid oes? Yr wyf yn siŵr eich bod yn derbyn bod ansicrwydd o hyd ynglŷn â beth fydd y wardiau ar gyfer Ynys Môn yn yr etholiadau nesaf ac ynglŷn ag a ydych yn bwriadu gohirio’r etholiadau os na fydd y trefniadau yn eu lle. Fel yr ydych yn gwybod, Weinidog, mae nifer o’r pleidiau gwleidyddol ar yr ynys, nid Plaid Cymru yn unig, yn awyddus i ddewis ymgeiswyr ar gyfer yr etholiadau. Nid yw hynny yn gallu digwydd hyd nes ein bod yn gwybod yn union beth sydd yn digwydd o ran y ffiniau. A gaf i gymryd, o’r ateb yr ydych wedi ei roi i Alun Ffred Jones, nad ydych yn bwriadu derbyn adroddiad i newid ffiniau Ynys Môn ar gyfer etholiadau lleol, ac mai’r unig benderfyniad sydd gennych i’w wneud yw a ydych yn gohirio’r etholiadau neu beidio? 

 

Ieuan Wyn Jones: There is a fundamental issue of democracy here, Minister, is there not? I am sure that you accept that there is still uncertainty as regards what the wards will be for Anglesey in the next elections and about whether you intend to postpone the elections if the arrangements are not in place. As you know, Minister, a number of the political parties on the island, not just Plaid Cymru, are keen to select candidates for the elections. That cannot happen until we know what will happening with the boundaries. May I assume, from the answer that you gave Alun Ffred Jones, that you do not intend to accept a report on changing boundaries for Anglesey for the local elections, and that the only decision that you have to take is whether to postpone the elections or not?

Carl Sargeant: I think you would agree that Anglesey has been quite unique in the local government family in the way it has responded. You will also agree that, following recommendations of the auditor general to look at a democratic renewal programme, I should comply with that, and I am doing so. When I receive the outcome of the boundary commission report, whether or not it will suggest that it is able to look at a new boundary provision for Anglesey uniquely, in a way that does not affect any other local authority, then I will make that known to Members. Let me be clear on the process ahead. We cannot allow failing authorities to be placed in this situation now or in the future. I will make my informed decision based on the report from the boundary commission.

 

Carl Sargeant: Yr wyf yn meddwl y byddech yn cytuno bod Ynys Môn wedi bod yn eithaf unigryw yn nheulu llywodraeth leol yn y ffordd y mae wedi ymateb. Byddwch hefyd yn cytuno, yn dilyn argymhellion yr archwilydd cyffredinol i edrych ar raglen adnewyddu democrataidd, y dylwn gydymffurfio â hynny, ac yr wyf yn gwneud hynny. Pan dderbyniaf ganlyniad adroddiad y comisiwn ffiniau, pa un ai bydd yn awgrymu ei bod yn gallu edrych ar ddarpariaeth ffin newydd ar gyfer Ynys Môn ar ei ben ei hun ai peidio, mewn ffordd nad yw’n effeithio ar unrhyw awdurdod lleol arall, yna byddaf yn gwneud hynny’n hysbys i Aelodau. Gadewch imi fod yn glir am y broses sydd i ddod. Ni allwn ganiatáu i awdurdodau sydd yn methu i gael eu rhoi yn y sefyllfa hon yn awr neu yn y dyfodol. Byddaf yn gwneud fy mhenderfyniad gwybodus yn seiliedig ar yr adroddiad gan y comisiwn ffiniau.

 

Gwasanaethau mewn Ardaloedd Gwledig

Services in Rural Areas

 

12. Antoinette Sandbach: A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ei flaenoriaethau ar gyfer cyflenwi gwasanaethau’n well mewn ardaloedd gwledig. OAQ(4)0047(LGC)

 

12. Antoinette Sandbach: Will the Minister make a statement on his priorities for improving the delivery of services in rural areas. OAQ(4)0047(LGC)

Carl Sargeant: The programme for government sets out our priorities for supporting the delivery of effective and efficient public services in both rural and urban areas.

 

Carl Sargeant: Mae’r rhaglen lywodraethu yn nodi ein blaenoriaethau ar gyfer cefnogi’r gwaith o gyflenwi gwasanaethau cyhoeddus effeithiol ac effeithlon mewn ardaloedd gwledig a threfol.

Antoinette Sandbach: Minister, the dispersed nature of rural settlements and the methods your Government uses to assess poverty through the Welsh index of multiple deprivation, which looks at areas of 1,500 people at a time, means that there are pockets of rural deprivation that are all but invisible when it comes to allocating resources for public services. Will you confirm your Government’s willingness to look again at how it can identify rural deprivation, which presents differently from deprivation in urban areas, and at how public services can be better targeted to lift people out of rural poverty?

 

Antoinette Sandbach: Weinidog, mae natur wasgaredig aneddiadau gwledig a’r dulliau y mae eich Llywodraeth yn eu defnyddio i asesu tlodi drwy fynegai amddifadedd lluosog Cymru, sy’n edrych ar feysydd o 1,500 o bobl ar y tro, yn golygu bod pocedi o amddifadedd gwledig sydd bron yn anweledig pan ddaw at ddyrannu adnoddau ar gyfer gwasanaethau cyhoeddus. A wnewch gadarnhau parodrwydd eich Llywodraeth i edrych eto ar sut y gall adnabod amddifadedd gwledig, sy’n cyflwyno’n wahanol i amddifadedd mewn ardaloedd trefol, ac ar sut y gall gwasanaethau cyhoeddus gael eu targedu’n well i godi pobl allan o dlodi gwledig?

 

Carl Sargeant: As I alluded to in my original response, rural communities are as important to us as urban communities. I expect, through my department, interventions to be targeted at the people in need in terms of support for poverty stricken areas. You will be aware that I am leading on the anti-poverty strategy in Wales, which brings together the interventions of all Ministers in moving this agenda forward. I can assure you that rural Wales is included in this plan. 

 

Carl Sargeant: Fel y crybwyllais yn fy ateb gwreiddiol, mae cymunedau gwledig yr un mor bwysig i ni â chymunedau trefol. Yr wyf yn disgwyl, drwy fy adran, i ymyriadau gael eu targedu at y bobl mewn angen o ran cefnogaeth ar gyfer ardaloedd sy’n dioddef o dlodi. Byddwch yn ymwybodol fy mod yn arwain ar y strategaeth wrthdlodi yng Nghymru, sy’n dwyn ynghyd ymyriadau yr holl Weinidogion o ran symud yr agenda hwn yn ei blaen. Gallaf eich sicrhau bod y Gymru wledig yn cael ei chynnwys yn y cynllun hwn.

   

Gwasanaethau Bysiau

Bus Services

 

13. Alun Ffred Jones: A wnaiff y Gweinidog amlinellu ei gynlluniau ar gyfer rheoleiddio gwasanaethau bysiau yng Ngogledd Cymru. OAQ(4)0053(LGC)

 

13. Alun Ffred Jones: Will the Minister outline his plans for the regulation of bus services in North Wales. OAQ(4)0053(LGC)

3.00 p.m.

 

Carl Sargeant: I am already encouraging the use of quality bus partnerships and contracts to improve bus services across the whole of Wales. Regulatory powers remain with the UK Government.

 

Yr wyf eisoes yn hybu’r defnydd o bartneriaethau a chontractau bysus o ansawdd er mwyn gwella gwasanaethau bws ym mhob rhan o Gymru. Mae’r pwerau rheoleiddiol yn parhau i fod ym meddiant Llywodraeth y DU.

 

Alun Ffred Jones: Diolch yn fawr. Mae cynigion i newid patrymau bysiau cyheoddus yn cael eu penderfynu gan gomisiynydd traffig. Mae’r un sy’n rheoli gogledd Cymru wedi’i leoli yn Birmingham. Yn ei adroddiad blynyddol diweddaraf, mae’n dweud,

 

Alun Ffred Jones: Thank you. Proposals to change the patterns of public bus services are decided by a traffic commissioner. The one who regulates north Wales is located in Birmingham. In his most recent annual report, he states,

 

‘it is very much regretted that the Welsh Traffic Area continues to be treated as an administrative adjunct to the West Midland Traffic Area’.

 

mae’n fater o ofid bod ardal draffig Cymru yn parhau i gael ei thrin fel atodiad gweinyddol i ardal draffig gorllewin canolbarth Lloegr.

 

A ydych yn fodlon â’r sefyllfa fel y mae hi, a pha gamau ydych chi’n eu cymryd i newid y sefyllfa?

 

Are you content with the situation as it stands, and what steps are you taking to change the situation?

 

Carl Sargeant: The Member is quite right to say that the traffic commissioner is responsible for ensuring that bus operators comply with the terms of their registration. We also provide about £100,000 per annum to employ bus compliance officers to ensure that bus services in Wales are significantly better than those in many parts of the UK. I am currently looking at the Transport Act 2006 and the Local Transport Act 2008 to see whether the Welsh Government can have a broader range of influence in terms of the traffic commissioner and, as I mentioned earlier, on services in Wales through our bus quality partnership schemes.

 

Carl Sargeant: Mae’r Aelod yn hollol iawn i ddweud bod y comisiynydd traffig yn gyfrifol am sicrhau bod gweithredwyr bysiau yn cydymffurfio â thelerau eu cofrestriad. Rydym hefyd yn darparu tua £100,000 y flwyddyn i gyflogi swyddog cydymffurfiaeth bysiau i sicrhau bod gwasanaethau bysiau yng Nghymru yn sylweddol well na’r rheiny mewn nifer o fannau yn y DU. Yr wyf wrthi’n edrych ar Ddeddf Trafnidiaeth 2006 a Deddf Trafnidiaeth Leol 2008 i weld a all Llywodraeth Cymru ddylanwadu mewn ffordd ehangach o ran y comisiynydd traffig ac, fel y soniais yn gynharach, ar wasanaethau yng Nghymru drwy ein cynlluniau partneriaeth bysiau o ansawdd.

 

Datganiad: Dulliau Llywodraeth Cymru i Sbarduno’r Economi
Statement: The Welsh Government’s Approach to Economic Stimulus

 

The First Minister (Carwyn Jones): Clearly there is uncertainty and turbulence in the European and wider world economies. Through my discussions with business leaders and workers, I am confident that Wales will show resilience and creativity in meeting the challenges ahead. However, there can be no doubt that the economic environment is tough. Just last week the Office for National Statistics revealed that the UK economy has virtually stopped growing. There is genuine concern about eurozone stability and low demand for goods and services. This puts pressure on Welsh businesses and jobs. The Bank of England is injecting £75 billion into the economy in an attempt to boost demand and to encourage banks to provide affordable loans. I hope this policy works.

 

Y Prif Weinidog (Carwyn Jones): Mae’n amlwg bod ansicrwydd a chynnwrf yn yr economïau Ewropeaidd a’r tu hwnt i Ewrop. Drwy fy nhrafodaethau gydag arweinwyr a gweithwyr ym myd busnes, yr wyf yn hyderus y bydd Cymru yn dangos gwytnwch a chreadigrwydd wrth fodloni heriau’r dyfodol. Fodd bynnag, ni all fod unrhyw amheuaeth bod yr amgylchedd economaidd yn anodd. Yr wythnos diwethaf, datgelodd y Swyddfa Ystadegau Gwladol fod economi’r DU bron wedi stopio tyfu. Mae pryder gwirioneddol ynghylch sefydlogrwydd ardal yr ewro a’r galw isel am nwyddau a gwasanaethau. Mae hyn yn rhoi pwysau ar fusnesau a swyddi yng Nghymru. Mae Banc Lloegr yn chwistrellu £75 biliwn i’r economi mewn ymgais i hybu’r galw ac i annog banciau i ddarparu benthyciadau fforddiadwy. Rwy’n gobeithio y bydd y polisi hwn yn gweithio.

 

 

Wales is clearly not sheltered from wider economic currents. The macroeconomic levers lie outside Welsh Government control, but it is vital that we use every opportunity to protect our economy. Members already know that we have nearly £40 million of extra money in our budget as a consequence of the UK Government decision to freeze council tax in England next year. I have already made it clear that I do not believe that freezing council tax in Wales for a year would produce significant benefit to our economy. In any case, council tax is, on average, substantially lower in Wales than in England. For example, it is 19 per cent lower for a band D property on the latest available figures. The Welsh Government intends to use this additional money to stimulate growth and protect jobs. With careful choices, we can make each pound work harder to produce maximum benefit for Wales.

 

Mae’n amlwg nad yw Cymru wedi’i chysgodi rhag y ceryntau economaidd ehangach. Mae’r trosolion macro-economaidd yn gorwedd y tu allan i reolaeth Llywodraeth Cymru, ond mae’n hanfodol ein bod yn defnyddio pob cyfle i ddiogelu ein heconomi. Mae Aelodau eisoes yn gwybod bod gennym bron £40 miliwn o arian ychwanegol yn ein cyllideb o ganlyniad i benderfyniad Llywodraeth y DU i rewi’r dreth gyngor yn Lloegr y flwyddyn nesaf. Yr wyf eisoes wedi egluro nad wyf yn credu y byddai rhewi’r dreth gyngor yng Nghymru ar gyfer y flwyddyn yn dod â budd sylweddol i’n heconomi. Beth bynnag, mae’r dreth gyngor ar gyfartaled yn sylweddol is yng Nghymru nag yn Lloegr. Er enghraifft, y mae 19 y cant yn is ar gyfer eiddo band D yn ôl y ffigurau diweddaraf sydd ar gael. Mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu defnyddio’r arian ychwanegol hwn i ysgogi twf a diogelu swyddi. Wrth ddewis yn ofalus, gallwn wneud i bob punt weithio’n galetach er mwyn dod â’r budd mwyaf i Gymru.

 

 

How should we spend the money? We have £38.9 million. It is a one-off sum that has been allocated to us in this financial year. I want to see immediate actions to benefit the economy, and these should complement our longer term economic strategy. Where possible, we want to lever in additional funding to make our pound go further. We want proposals that will impact across Wales and can be delivered immediately. Our priority will be the short-run impact on jobs as well as a lasting impact on the economy. We want to boost business confidence and create opportunity for young people as well as for more experienced workers.

 

Sut y dylid gwario’r arian? Mae gennym £38.9 miliwn. Swm untro ydyw a ddyrannwyd inni yn y flwyddyn ariannol hon. Yr wyf am weld gweithredu ar unwaith er budd yr economi, a dylai hyn ategu ein strategaeth economaidd ar gyfer yr hirdymor. Lle bo modd, yr ydym am ddenu arian ychwanegol er mwyn gwneud i’n punt fynd ymhellach. Yr ydym am gynigion a fydd yn cael effaith ledled Cymru ac y gellir eu rhoi ar waith ar unwaith. Ein blaenoriaeth fydd yr effaith yn y tymor byr ar swyddi yn ogystal â’r effaith barhaol ar yr economi. Yr ydym am roi hwb i hyder busnes ac i greu cyfle i bobl ifanc yn ogystal ag i weithwyr mwy profiadol.

 

 

My Ministers have come forward with a range of proposals, and I am considering options on the skills and apprenticeship agenda, and on infrastructure investment in schools, hospitals, housing and transport. These will run alongside actions already under way to support business. For example, the Minster for Business, Enterprise, Technology and Science recently announced the preferred location for five enterprise zones, with others still under discussion. She also announced three new priority sectors within the economic renewal programme and the establishment of a group that will look at how to energise microbusiness. We have also started work with local authorities on using their borrowing powers to boost investment in Welsh infrastructure.

 

Mae fy Ngweinidogion wedi cyflwyno ystod o gynigion, ac yr wyf yn ystyried opsiynau ar yr agenda sgiliau a phrentisiaethau, ac ar fuddsoddi mewn seilwaith mewn ysgolion, ysbytai, tai a thrafnidiaeth. Bydd y rhain yn rhedeg ochr yn ochr â’r camau sydd eisoes ar y gweill i gefnogi busnes. Er enghraifft, yn ddiweddar cyhoeddodd y Gweinidog Busnes, Menter, Technoleg a Gwyddoniaeth y lleoliad dewisol ar gyfer pum parth menter, tra bod eraill yn dal i fod yn destun trafodaeth. Cyhoeddodd hefyd dri sector blaenoriaeth newydd yn rhaglen adnewyddu’r economi, ynghyd â grŵp a fydd yn cael ei sefydlu i edrych ar sut y gellid grymuso microfusnesau. Hefyd, rydym wedi dechrau gweithio gydag awdurdodau lleol ar ddefnyddio eu pwerau benthyca i hybu buddsoddiad yn seilwaith Cymru.

 

 

The phrase ‘we’re all in this together’ has been used many times—in Wales, at least, I would like to think it has some basis in reality. The Government is open to discussions about how precisely to invest the additional cash to produce best results. My offer to all parties here is to work with us to produce the most effective package of measures to boost the economy. My office will contact opposition party leaders in the near future to arrange meetings where ideas can be discussed in order to find the most effective way forward. In parallel, we will also be consulting with business, trade unions and the WLGA. Time is short, but I aim to announce a detailed package of measures before the council for economic renewal meets on 9 November.

 

Mae’r ymadrodd ‘rydym ni i gyd yn rhan o hyn’ wedi cael ei ddefnyddio lawer gwaith—yng Nghymru, o leiaf, hoffwn feddwl ei fod wedi’i seilio ar rywfaint o wirionedd. Mae’r Llywodraeth yn agored i drafodaethau ynghylch sut yn union i fuddsoddi arian ychwanegol i gynhyrchu’r canlyniadau gorau. Fy nghynnig i bob plaid yma yw i weithio gyda ni i lunio’r pecyn mwyaf effeithiol o fesurau i roi hwb i’r economi. Bydd fy swyddfa yn cysylltu ag arweinwyr y gwrthbleidiau yn y dyfodol agos i drefnu cyfarfodydd lle y gellir trafod syniadau er mwyn canfod y ffordd fwyaf effeithiol ymlaen. Ar yr un pryd, byddwn hefyd yn ymgynghori gyda busnes, undebau llafur a CLlLC. Mae amser yn brin, ond bwriadaf gyhoeddi pecyn o fesurau manwl cyn i gyngor adnewyddu’r economi gwrdd ar 9 Tachwedd.

 

 

These are testing times for Welsh business. The people of Wales expect leadership. The Government is playing its part, and I hope that the whole Assembly can work together for the good of the country.

 

Mae’r rhain yn amseroedd anodd i fusnesau Cymru. Mae pobl Cymru yn disgwyl arweiniad. Mae’r Llywodraeth yn chwarae ei rhan, a gobeithiaf y gall y Cynulliad cyfan gydweithio er lles y wlad.

 

 

The Leader of the Opposition (Andrew R.T. Davies): Thank you for your statement, First Minister. You are quite right to point out that these are trying times. All of us go home at night and watch the television or listen to the radio, and we can see and hear about the economic turmoil going on around the world and, indeed, on our doorstep. I welcome your offer of a dialogue. We will not be found wanting on this side of the Chamber in engaging with you. Obviously, given previous discussions, I think that quite a bit of the ideology might prevent those discussions going too far, but we have what we think are very innovative solutions to many of the issues people face. We believe that money needs to stay in businesses’ bank accounts and people’s pockets. Surely, part of the issue to do with the Bank of England introducing a second phase of quantitative easing, something you highlighted in the statement, which is about introducing liquidity to the marketplace and the economy.

 

Arweinydd yr Wrthblaid (Andrew R.T. Davies): Diolch i chi am eich datganiad, Brif Weinidog. Yr ydych yn hollol iawn i nodi bod y rhain yn amseroedd anodd. Mae pob un ohonom yn mynd adref yn y nos ac yn gwylio’r teledu neu’n gwrando ar y radio, a gallwn weld a chlywed am yr ansefydlogrwydd economaidd o amgylch y byd ac, yn wir, ar garreg ein drws. Croesawaf eich cynnig i gynnal deialog. Byddwn ni ar yr ochr hon i’r Siambr yn barod iawn i ymgysylltu â chi. Wrth gwrs, o gofio’r trafodaethau blaenorol, credaf y gallai cryn dipyn o ideoleg atal y trafodaethau hynny rhag mynd yn rhy bell, ond rydym o’r farn bod gennym atebion arloesol iawn i nifer o’r materion y mae pobl yn eu hwynebu. Credwn fod angen i arian aros yn nghyfrifon banc busnesau ac ym mhocedi pobl. Yn sicr, mae rhan o’r mater yn ymwneud â Banc Lloegr yn cyflwyno ail gam lleddfu meintiol, sef rhywbeth a amlygwyd gennych yn y datganiad, sydd yn ymwneud â chyflwyno hylifedd i’r farchnad a’r economi.

 

 

One of the quickest ways to achieve an effective spend of this one-off money that you have identified would be to cap council tax so that households could spend that money themselves in their local economy and, it is hoped, complement that spend. I think that you said that your officials had worked out that it adds up to between £3 and £5 a week for the average household—

 

Un o’r ffyrdd cyflymaf i wario’n effeithiol yr arian untro hwn a nodwyd gennych fyddai drwy rewi’r dreth gyngor fel bod aelwydydd yn gallu gwario’r arian eu hunain yn eu heconomi leol gan, fe obeithir, ategu’r gwariant hwnnw. Credaf ichi ddweud bod eich swyddogion wedi gweithio allan fod hyn yn golygu rhwng £3 a £5 yr wythnos i’r aelwyd gyffredin—

 

 

The First Minister: It is per month.

 

Y Prif Weinidog: Mae hynny fesul mis.

 

 

Andrew R.T. Davies: It is per month, is it? However, if households complemented that amount, that spend could make a difference locally. Business rate relief is another way that could help businesses to keep money within their accounts and on their balance sheets so that they could grow or, at least, ensure that they maintained the jobs they had. I am also grateful for the timeline that you indicated in your statement. It is very helpful from our perspective that you are going to bring announcements forward by 9 November, as that gives us a timeline to work to.

 

Andrew R.T. Davies: Fesul mis yw e, ie? Beth bynnag, pe bai aelwydydd yn ategu’r swm hwnnw, gallai’r gwariant wneud gwahaniaeth yn lleol. Mae rhyddhad ardrethi busnes yn ffordd arall a allai helpu busnesau i gadw arian yn eu cyfrifon ac ar eu mantolen fel y gallent dyfu neu, o leiaf, sicrhau eu bod yn cynnal y swyddi sydd ganddynt. Yr wyf hefyd yn ddiolchgar am yr amserlen a nodwyd gennych yn eich datganiad. Mae’n ddefnyddiol iawn o’n safbwynt ni eich bod yn mynd i wneud cyhoeddiadau erbyn 9 Tachwedd gan fod hynny’n rhoi amserlen inni weithio iddi.

 

 

In response to your statement, First Minister, you will find an open door and willingness to engage. I hope that, collectively, we can bring forward imaginative solutions with this limited pot of money available to us.

 

Mewn ymateb i’ch datganiad, Brif Weinidog, fe welwch chi ddrws agored a pharodrwydd i ymgysylltu. Gobeithiaf y gallwn ni, ar y cyd, gyflwyno atebion dychmygus gyda’r swm cyfyngedig o arian sydd ar gael i ni.

 

 

The First Minister: I am grateful to the leader of the opposition for his comments. Clearly, we will not agree about council tax. The reality is that, with a freeze next year, it might be worth between £3 and £5 per month for some families. However, we know that council tax is already very low in Wales compared with England. I cannot see how there would be an extra multiplier effect if that policy was pursued. In relation to the comments on business rates, I urge Members to remember that this is a one-off payment. This will be with us for one year only. We cannot make commitments year on year as a result of this money, but it is obviously important to ensure that it is used as widely as possible and, wherever possible, to lever in extra money to help with the difficult economic situation that not only we in Wales but other countries across the world find ourselves in.

 

Y Prif Weinidog: Yr wyf yn ddiolchgar i arweinydd yr wrthblaid am ei sylwadau. Mae’n amlwg na fyddwn yn cytuno am y dreth gyngor. Y realiti yw, gyda’r rhewi y flwyddyn nesaf, y gallai fod yn werth rhwng £3 a £5 y mis i rai teuluoedd. Fodd bynnag, gwyddom fod y dreth gyngor eisoes yn isel iawn yng Nghymru o gymharu â Lloegr. Ni allaf weld sut y byddai effaith lluosydd ychwanegol yn digwydd pe bai’r polisi hwnnw’n cael ei ddilyn. O ran y sylwadau am ardrethi busnes, anogaf Aelodau i gofio mai taliad untro yw hwn. Bydd gennym ni’r arian hwn ar gyfer un flwyddyn yn unig. Ni allwn wneud ymrwymiadau flwyddyn ar ôl blwyddyn o ganlyniad i’r arian hwn, ond, wrth gwrs, mae’n bwysig sicrhau y caiff ei ddefnyddio mor eang â phosibl a, lle bo hynny’n bosibl, i ddenu arian ychwanegol i helpu gyda’r sefyllfa economaidd anodd hynny sydd gennym nid yn unig yng Nghymru ond mewn gwledydd eraill ar draws y byd.

 

 

Ieuan Wyn Jones: Diolchaf yn fawr i’r Prif Weinidog am y ddod â’r datganiad i’r Siambr mor fuan. Mae’n dangos parodrwydd i drafod. Yr ydym yn croesawu hynny, a’r ffaith eich wedi gofyn am y drafodaeth honno, oherwydd mae’n gyfle i’r Cynulliad. Mae pob un ohonom yn llefaru ar ran ein hetholwyr, ac yn gwybod pa mor anodd yw’r sefyllfa economaidd ar hyn o bryd. Mae’r ffigurau diweithdra heddiw, yn arbennig y cynnydd yn niweithdra pobl ifanc rhwng 16 a 24 yn hynod frawychus. Mae’r ffigurau’n uchel yng Nghymru yn barod, ac mae’r ffaith eu bod yn codi’n uwch yn peri pryder i ni i gyd. Fe wyddom, fel yr ydych wedi cydnabod, mae’r sefyllfa ar gyfer twf economaidd am y 18 mis nesaf yn edrych yn hynod o fregus.

 

Ieuan Wyn Jones: I thank the First Minister very much for bringing this statement to the Chamber so soon. It shows a willingness to collaborate and to discuss. We welcome that, and the fact that you have requested these discussions, because they is an opportunity for the Assembly. Each one of us is responsible for speaking on behalf of our constituents, and we know how difficult the situation is. The unemployment figures today, particularly the increase in unemployment among young people between 16 and 24, are exceptionally concerning. The figures are already high in Wales and the fact that they are on the increase is causing us concern. We know, as you have acknowledged, that the economic situation for growth over the coming 18 months is looking extremely fragile.

 

Yr ydym ni ym Mhlaid Cymru yn croesawu yn gynnes iawn y ffaith eich bod yn gwrthod y syniad y dylid defnyddio’r arian hwn i rewi trethi cyngor yng Nghymru. Credaf mai dyna’r penderfyniad cywir. Mae ffyrdd eraill y gallwn sicrhau help i’r economi. Nodaf eich bod yn ystyried cynlluniau sy’n ymwneud â sgiliau a phrentisiaid, a buddsoddi mewn isadeiledd, sydd yn hollol iawn. Yr hyn nad wyf yn hollol siŵr yn ei gylch yw’r hyn yr ydych yn ei ddweud am gyllideb y Gweinidog busnes, sef eich bod yn ystyried rhoi mwy o arian i’w hadran hi. Gwyddom fod y symiau sydd ar gael ar gyfer y parthau menter yn isel iawn, ac er mwyn iddynt gael effaith wirioneddol bydd yn rhaid rhoi arian ychwanegol sylweddol i’r gyllideb honno. Yn ogystal â rhoi arian at sgiliau a phrentisiaid ac isadeiledd, a ydych yn fodlon ystyried rhoi mwy o arian yng nghyllideb y Gweinidog busnes—nid ar gyfer y parthau menter yn unig, ond hefyd ar gyfer y sectorau ychwanegol y mae hi wedi’u cyhoeddi?

 

We in Plaid Cymru warmly welcome the fact that you reject the idea that this money should be used to freeze council tax in Wales. I think that that is the right decision. There are other ways that we can ensure assistance for the economy. I note that you are considering schemes relating to skills and apprenticeships, and investing in infrastructure, which are the right things to do. What I am not quite certain about is what you are saying about the Minister for business’s budget, in that you are considering giving more money to her department. We know that the sums that are available for the enterprise zones are very low, and in order for them to have a real impact, significant additional funds will have to be provided for that budget. In addition to giving money for skills and apprenticeships and infrastructure, are you will to consider putting more money in the Minister for business’s budget—not only for the enterprise zones, but for the additional sectors that she has announced?

 

Yr wyf yn derbyn eich pwynt am ardrethi busnes, ond fe hoffwn gael gwybod bod y Llywodraeth, mewn egwyddor, yn derbyn mai un ffordd o gael arian i fusnesau, yn uniongyrchol ac yn gyflym, yw drwy’r cynllun lleihau ardrethi busnes. Hoffwn gael sicrwydd bod y Llywodraeth, y tu hwnt i’r swm hwn o arian, yn ystyried hynny o ddifrif. Byddai hynny yn rhoi rhyw fath o sicrwydd i ni eich bod am weld arian yn mynd i’r sector busnes. Diolch am eich datganiad; gallaf eich sicrhau bod parodrwydd i drafod ymhellach dros y dyddiau a’r wythnosau sydd i ddod.

 

I accept your point on business rates, but I would like to know that, in principle, the Government accepts that one way of getting money to businesses, directly and quickly, is through a business rate relief scheme. I would like an assurance that the Government, outwith this sum of money, is considering that seriously. That would give us some sort of an assurance that you want to see money going to the business sector. Thank you for your statement; I can assure you that we are willing to discuss the matter further in the ensuring days and weeks.

 

Y Prif Weinidog: Diolch i arweinydd Plaid Cymru am ei sylwadau. Fel Llywodraeth, ni allwn osgoi’r ffaith bod diweithdra ar lefel uchel a bod diweithdra ymhlith pobl ifanc ar lefel uchel iawn. Mae’n bwysig dros ben bod yr arian hwn yn cael ei ddefnyddio yn y ffordd fwyaf buddiol, er lles y bobl hynny.

 

The First Minister: I thank the leader of Plaid Cymru for his comments. As a Government, we cannot get away from the fact that unemployment is at a high level and that youth unemployment is very high. It is very important that this money should be used in the most beneficial way possible, in order to benefit those people.

 

Ynglŷn â rhoi arian i un adran, buaswn yn mynd ymhellach a dweud ei bod yn bwysig dros ben bod yr arian yn cael ei ddefnyddio ar gyfer swyddi ac ar gyfer hybu’r economi, ond nid oes rhaid i bob ceiniog fynd i un adran yn unig. Mae’n hynod bwysig bod sawl adran yn y Llywodraeth yn chwarae rôl, fel y byddai pobl yn erfyn, i gyrraedd yr un gôl neu’r un targed.

 

In terms of giving money to one department, I would go further and say that it is very important that the money should be used for jobs and to boost the economy, but not every penny has to go to one department. It is extremely important that many Government departments play their part, as people would expect, to work towards the same goal or target.

 

Ynglŷn ag ardrethi busnes, bydd arweinydd Plaid Cymru yn ymwybodol bod y Gweinidog ar hyn o bryd yn ystyried adolygiad o’r system ardethi ar gyfer busnesau bach yng Nghymru. Bydd unrhyw benderfyniadau yn cael eu gwneud ar sail casgliadau’r adolygiad hwnnw.

 

On business rates, the leader of Plaid Cymru will be aware that the Minister is currently considering a review of the small business rate regime in Wales. Any decisions will be based on the conclusions of that review.

 

Kirsty Williams: I thank the First Minister for his statement this afternoon. I would not disagree with any of the analysis at the beginning of the statement about the precarious state of the world economy. There has been a huge slowdown in the German and French economies, and the United States of America is in a difficult and precarious situation. Huge uncertainties arise from the sovereign debt crisis in the eurozone and from the exposure of British banks, as well as banks across Europe, to the Greek, Portuguese and Italian economies. It potentially puts us in a very difficult position.

 

Kirsty Williams: Diolchaf i’r Prif Weinidog am ei ddatganiad y prynhawn yma. Ni fyddwn yn anghytuno ag unrhyw ran o’r dadansoddiad ar ddechrau’r datganiad am sefyllfa ansicr yr economi fyd-eang. Arafodd economïau Ffrainc a’r Almaen yn sylweddol, ac mae Unol Daleithiau America mewn sefyllfa anodd ac ansicr. Mae ansicrwydd mawr yn deillio o argyfwng dyled sofran ardal yr ewro ac o gysylltiad banciau Prydain, yn ogystal â banciau ar draws Ewrop, ag economïau Groeg, Portiwgal a’r Eidal. Mae hyn, o bosibl, yn ein rhoi ni mewn sefyllfa anodd iawn.

 

The additional resource is welcome, but it presents a challenge in that it is one-off money, and while it can be carried over into the next financial year, the money has to be spent relatively quickly. That requires us to focus our minds on how to get the best value for that money for it to have a lasting impact.

 

Mae’r adnodd ychwanegol i’w groesawu, ond mae’n cyflwyno her gan taw swm untro o arian ydyw, ac, er y gellir ei ddwyn ymlaen i’r flwyddyn ariannol nesaf, mae’n rhaid i’r arian gael ei wario yn gymharol gyflym. Felly, mae angen inni ganolbwyntio ar sut i gael y gwerth gorau am yr arian hwnnw er mwyn iddo gael effaith barhaol.

 

You made the point in your answer to Andrew R.T. Davies that this money is a one-off, and you gave the impression that you would not want to spend it this year only to have to draw on your own resources to carry on any programmes started with the money in following years. That limits us even further in what the money could be used for. If you could confirm that, I would be grateful. That leads to the question of what discussions you have had about capitalising this money and using it for capital expenditure, rather than establishing a revenue stream that your Government will not be able to continue in the next financial year.

 

 

Fe wnaethoch chi’r pwynt yn eich ateb i Andrew R.T. Davies mai arian untro yw hwn, a rhoesoch yr argraff nad ydych am ei wario eleni pe bai hynny’n golygu bod yn rhaid ichi ddefnyddio’ch adnoddau eich hun er mwyn parhau yn ddiweddarach ag unrhyw raglenni a ddechreuir gyda’r arian. Cawn ein cyfyngu hyd yn oed ymhellach o safbwynt beth y gellid defnyddio’r arian ar ei gyfer. Pe gallech chi gadarnhau hynny, byddwn yn ddiolchgar. Mae hynny’n arwain at y cwestiwn o ba drafodaethau a gawsoch ynglŷn â manteisio ar yr arian hwn a’i ddefnyddio ar gyfer gwariant cyfalaf, yn hytrach na sefydlu ffrwd refeniw na fydd eich Llywodraeth yn gallu parhau â hi yn y flwyddyn ariannol nesaf.

3.15 p.m.

 

I am very pleased to read that you are looking at apprenticeships and skills. One of the things that will be crucial in the forthcoming months is the ability to respond quickly to people’s skills needs. More attention needs to be given to short, intensive courses, which are focused on skills, rather than long courses that result in paper qualifications, but which might not be appropriate to the individual’s need and might not be the quickest way for them to get into a job. Therefore, will you look initially at how we can focus on skills rather than on qualifications and concentrate on short courses, rather than long, intensive periods of study that prevent people from getting back into the labour market as quickly as would otherwise be possible?

 

Yr wyf yn falch iawn o ddarllen eich bod yn edrych ar brentisiaethau a sgiliau. Un o’r pethau a fydd yn hollbwysig yn y misoedd sydd i ddod yw’r gallu i ymateb yn gyflym i anghenion sgiliau pobl. Mae angen rhoi mwy o sylw i gyrsiau byr, dwys, sy’n canolbwyntio ar sgiliau, yn hytrach na chyrsiau hir sy’n arwain at gymwysterau papur, ond efallai rhai a fyddai’n anaddas o ran anghenion yr unigolyn a rhai na fyddai’n cynnig y ffordd gyflymaf iddynt gael swydd. Felly, yn gyntaf, a wnewch chi edrych ar sut y gallwn ganolbwyntio ar sgiliau yn hytrach na chymwysterau a chanolbwyntio ar gyrsiau byr, yn hytrach na chyfnodau hir, dwys o astudio sy’n atal pobl rhag dychwelyd i’r farchnad waith mor gyflym ag y byddai fel arall yn bosibl?

 

Due to the availability of convergence money, there are areas of Wales that can draw down European funding to support investment in that area, but other areas of Wales cannot access convergence funding. Some of these areas are poorer in parts than some of the areas that are entitled to that European money, but there is little in terms of resources that we can use to stimulate the economy and protect jobs in those particular areas. Will you give some early consideration to that and to the question of whether we could use some of this money to support developments in non-convergence areas?

 

Oblegid argaeledd arian cydgyfeirio, mae ardaloedd yng Nghymru y gallwn dynnu arian Ewropeaidd i gefnogi buddsoddiad yn yr ardal honno, ond ni all ardaloedd eraill yng Nghymru gael mynediad at arian cydgyfeirio. Rhai o’r meysydd hyn yn waeth mewn rhannau na rhai o’r meysydd y mae hawl i arian Ewropeaidd hwnnw, ond nid oes fawr ddim o ran adnoddau y gallwn eu defnyddio i ysgogi'r economi a diogelu swyddi yn yr ardaloedd penodol hynny. A roddwch ryw ystyriaeth gynnar i hynny ac at y cwestiwn o p’un a y gellid defnyddio rhywfaint o’r arian hwn i gefnogi datblygiadau mewn ardaloedd nad ydynt yn rhai cydgyfeirio?

 

In conclusion, I thank the First Minister for his statement and his overtures to political parties across the Chamber with regard to ongoing discussions about how we can use this money. I look forward to joining him and the other party leaders in those discussions over the next few weeks in order to use the opportunity that has come our way. I agree with the First Minister that we should not spend it on a council tax freeze, but that we should find a way to use it productively to support the economy now and, perhaps even more importantly, leave us with a longer term legacy as a result of this one-off payment.

 

I gloi, diolchaf i’r Prif Weinidog am ei ddatganiad ac am ei gynigion i bleidiau gwleidyddol ar draws y Siambr o ran y trafodaethau parhaus ynghylch sut y gallwn ddefnyddio’r arian hwn. Edrychaf ymlaen at ymuno ag ef ac arweinwyr y pleidiau eraill yn y trafodaethau hynny dros yr ychydig wythnosau nesaf er mwyn defnyddio’r cyfle sydd wedi dod gerbron. Cytunaf â’r Prif Weinidog na ddylem ei wario ar rewi’r dreth gyngor, ond y dylem ddod o hyd i ffordd o’i ddefnyddio’n gynhyrchiol i gefnogi’r economi yn awr ac, yn bwysicach efallai, i’n gadael ag etifeddiaeth ar gyfer y tymor hwy o ganlyniad i’r taliad untro hwn.

 

The First Minister: I thank the leader of the Welsh Liberal Democrats for her comments. I assure her that it is not the intention that the money should be spent solely in convergence funding areas. It is right to say that the money can be treated as capital; that is our understanding. Due to the fact that it is a one-off pot, that is the primary thought in terms of how the money can be used. There are difficulties in funding projects that require funding over a longer term than one year because that would require us to make commitments from future budgets. Having said that, it is perfectly possible, and we have already studied some projects that would provide a benefit, create jobs and provide a mechanism through which people can learn new skills. Those are the sorts of projects that I believe that we should be looking at primarily. Nevertheless, as I have said, we have ideas that we can share with the other parties and we look forward to working with all Members in the Chamber to ensure that, together, we can tackle the difficult economic situation in which we all find ourselves.

 

Y Prif Weinidog: Diolchaf i arweinydd Democratiaid Rhyddfrydol Cymru am ei sylwadau. Rhoddaf sicrwydd iddi nad yw’n fwriad i wario’r arian yn unig mewn ardaloedd cyllid cydgyfeirio. Mae’n iawn i ddweud y gellid trin yr arian fel cyfalaf; dyna yw’n dealltwriaeth. Gan mai swm untro ydyw, dyna yw’r syniad sylfaenol o ran sut y gellid defnyddio’r arian. Ceir anawsterau wrth ariannu prosiectau y mae angen ariannu tymor hwy nag un flwyddyn oherwydd y byddai angen inni wneud ymrwymiadau o'r cyllidebau yn y dyfodol. Wedi dweud hynny, mae'n berffaith bosibl, ac yr ydym eisoes wedi astudio rhai prosiectau a fyddai'n rhoi budd, creu swyddi ac yn darparu mecanwaith lle gall pobl ddysgu sgiliau newydd. Y rheini yw'r mathau o brosiectau y credaf y dylem fod yn edrych yn bennaf. Serch hynny, fel wedi dweud, mae gennym syniadau y gallwn eu rhannu gyda'r pleidiau eraill ac edrychwn ymlaen at weithio gyda'r holl Aelodau yn y Siambr i sicrhau, gyda'i gilydd, gall mynd i'r afael â sefyllfa economaidd anodd yr ydym i gyd ynddi.

Nick Ramsay: I agree with the First Minister’s opening comments; we are all in this together. I think that you will find agreement across the Chamber and we will all do what we can to help with the economic situation. I also agree with the First Minister with regard to the latest round of quantitative easing, which has seen £75 million being injected into the economy. We also hope that this is successful, First Minister. With interest rates at such a low level, there are few tools left at the Bank of England’s disposal to ensure that the economy inflates. Therefore, we agree with you on that.

 

Nick Ramsay: Cytunaf â sylwadau agoriadol y Prif Weinidog; yr ydym oll yn hyn gyda'i gilydd. Credaf y byddwch yn gweld cytundeb ar draws y Siambr a bydd pawb yn gwneud yr hyn a allwn i helpu gyda'r sefyllfa economaidd. Hefyd yn cytuno gyda'r Prif Weinidog o ran y cylch diweddaraf o lleddfu meintiol, sydd wedi gweld £75 miliwn yn cael ei chwistrellu i mewn i'r economi. Rydym hefyd yn gobeithio bod hyn yn llwyddiannus, Brif Weinidog. Cyfraddau llog ar lefel isel, ceir ychydig o offer yn cael eu gadael yn gwaredu Banc Lloegr i sicrhau bod yr economi Mae pennaf. Felly, rydym yn cytuno â chi ar hynny.

 

I would like to ask you about two specific issues. My first question relates to council tax, on which I have heard a difference of opinion from Members across the Chamber. You have, I think, a Barnett consequential of around £40 million as a result of the money that will be spent in England to reduce council tax. Surely, providing people with money in their pockets at this time through a reduction in council tax should not be dismissed out of hand. If, indeed, you have a more meaningful way of spending that money—or if the Minister for Business, Enterprise, Technology and Science does—then, fair enough. However, I have not yet heard a better way of spending that money than a council tax reduction. Yes, council tax is lower here anyway, but let us remember that we are also one of the poorest parts of the United Kingdom, and that people in Wales receive lower wages. Therefore, would you look at that again?

 

Hoffwn ofyn i chi am ddau fater penodol. Mae fy nghwestiwn cyntaf yn ymwneud â dreth gyngor, sy'n wedi clywed gwahaniaeth barn gan Aelodau ar draws y Siambr. Mae gennych, credaf, swm Barnett canlyniadol o tua £40 miliwn o ganlyniad i'r arian a gaiff ei wario yn Lloegr i leihau'r dreth gyngor. Yn sicr, rhoi arian yn eu pocedi ar hyn o bryd drwy ostyngiad yn y dreth gyngor i bobl dylai nid yn ddiseremoni. Os, yn wir, mae gennych ffordd fwy ystyrlon o wario'r arian hwnnw — neu os bydd y Gweinidog Busnes, Menter, Technoleg a Gwyddoniaeth — yna, yn ddigon teg. Fodd bynnag, nid wyf wedi eto clywed ffordd well o wario'r arian hwnnw na'r gostyngiad yn y dreth gyngor. Ydy, mae'r dreth gyngor yn is yma beth bynnag, ond gadewch inni gofio ein bod hefyd yn un o rannau tlotaf y Deyrnas Unedig, a bod pobl yng Nghymru yn derbyn cyflogau is. Felly, byddai chi edrych ar hynny eto?

Secondly, you touched on local authorities and their borrowing capacity. With the Welsh Government having limited fiscal power, it has seemed to me for a while that there is capacity in the local authorities that are not using their borrowing powers and that that money could be leveraged out that way, if you came to an agreement with those authorities. Could you tell us a little more about the discussions that you have had with the Welsh Local Government Association in terms of using all of the financial capacity in Wales at the moment?

 

Yn ail, soniasoch am awdurdodau lleol a eu capasiti benthyca. Gyda Llywodraeth Cymru yn cael pŵer ariannol cyfyngedig, mae ymddangosai i mi am ychydig bod capasiti mewn awdurdodau lleol heb ddefnyddio eu pwerau benthyca ac y gellid ysgogi arian hwnnw yn y ffordd honno, pe baech yn dod i gytundeb gyda'r awdurdodau hynny. A allech ddweud wrthym ychydig mwy am y trafodaethau yr ydych wedi'u cael gyda Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru o ran defnyddio'r holl gallu ariannol yng Nghymru ar hyn o bryd?

The First Minister: Quantitative easing, as we know, was a feature of the first reactions that we saw back in 2008. I will make the point that quantitative easing was opposed by Nick’s party the first time around. Nevertheless, it helped to take the UK through a very difficult situation back in 2008-09. I believe that the second round of quantitative easing, which I understand is being called ‘QE2’, will have an effect, and we know that it is needed. I cannot agree with the Member for Monmouth regarding the council tax. I cannot see that giving people £3 to £5 a month—and not even doing that, really, because it is more about releasing people from the obligation of paying an extra £3 to £5 per month—will help the local economy. It will also not help hugely in terms of people’s incomes, given the far greater pressures that exist elsewhere. Also, given the fact that we already fund Welsh local authorities to the tune of some £500 million more than the authorities have historically received in England, I believe that Welsh people get a good deal in terms of the council tax. With regard to the second point raised, relating to local authorities’ borrowing requirements and powers, those discussions are under way and all possibilities are being considered in relation to the use of this money.

 

Y Prif Weinidog: Lleddfu meintiol, fel y gwyddom, oedd yn nodwedd o adweithiau cyntaf a welsom yn ôl yn 2008. Bydd yn gwneud y pwynt bod lleddfu meintiol gwrthwynebwyd gan blaid Nick y tro cyntaf. Serch hynny, roedd yn helpu i gymryd y DU mewn sefyllfa anodd iawn yn ôl yn 2008-09. Credaf y bydd yr ail rownd lleddfu meintiol, y deallaf yn cael ei alw 'QE2', yn cael effaith, ac rydym yn gwybod bod ei angen. Ni allaf gytuno gyda'r Aelod dros Fynwy ynghylch y dreth gyngor. Ni allaf weld bod rhoi pobl yn £3 i £5 y mis — ac hyd yn oed yn gwneud hynny, mewn gwirionedd, oherwydd mae'n ymwneud mwy â rhyddhau pobl o'r rhwymedigaeth o dalu ychwanegol £3 i £5 y mis — bydd yn helpu'r economi leol. Hefyd ni fydd o gymorth mawr o ran incwm pobl, o ystyried y pwysau mwy o lawer sy'n bodoli mewn mannau eraill. Hefyd, o ystyried y ffaith bod eisoes yn ariannu awdurdodau lleol Cymru o ryw £500 miliwn mwy nag yn hanesyddol wedi i'r awdurdodau yn Lloegr, credaf bod pobl Cymru yn cael bargen dda o ran y dreth gyngor. O ran yr ail bwynt yn codi, sy'n ymwneud â gofynion benthyca awdurdodau lleol a'r pwerau, y trafodaethau hynny ar y gweill ac mae holl bosibiliadau yn cael eu hystyried mewn perthynas â defnyddio'r arian hwn.

 

Cynnig i Ethol Ymddiriedolwyr Cynllun Pensiwn yr Aelodau
Motion to Elect Trustees of the Members’ Pension Scheme

 

Cynnig NDM4820 Angela Burns

Motion NDM4820 Angela Burns

 

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, wrth weithredu o dan Reol Sefydlog Rhif 1.7, yn ethol David Melding AC, Mike Hedges AC, Peter Black AC a Jocelyn Davies AC, yn ymddiriedolwyr i gynllun pensiwn Aelodau Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn lle Rosemary Butler AC, John Griffiths AC, yr Arglywdd German a’r Arglwydd Wigley.

To propose that the National Assembly for Wales, acting under Standing Order No. 1.7, elects David Melding AM, Mike Hedges AM, Peter Black AM and Jocelyn Davies AM as Trustees of the National Assembly for Wales Members’ pension scheme in place of Rosemary Butler AM, John Griffiths AM, Lord German and Lord Wigley.

 

Assembly Commissioner (Sandy Mewies): I move the motion.

 

Comisiynydd y Cynulliad (Sandy Mewies): Cynigiaf y cynnig.

The Presiding Officer: The proposal is to agree the motion. Does any Member object? I see that there are no objections. Therefore, the motion is agreed in accordance with Standing Order No. 12.36.

 

Y Llywydd: Y cynnig yw cytuno ar y cynnig. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Gwelaf nad oes unrhyw wrthwynebiadau. Felly, cytunir y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog Rhif 12.36.

Derbyniwyd y cynnig.
Motion agreed.

 

Dadl y Ceidwadwyr Cymreig
Welsh Conservatives Debate

 

Cynllun Canser Cenedlaethol
National Cancer Plan

 

The Presiding Officer: I have selected amendment 1 in the name of Jocelyn Davies and amendment 2 in the name of Jane Hutt.

Y Llywydd: Yr wyf wedi dethol gwelliant 1 yn enw Jocelyn Davies a gwelliant 2 yn enw Jane Hutt.

 

Cynnig NDM4821 William Graham

 

Motion NDM4821 William Graham

 

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

 

The National Assembly for Wales:

 

1. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:

 

1. Calls on the Welsh Government to:

 

a) Sefydlu ‘Cynllun Canser Cenedlaethol’; a

 

a) Establish a ‘National Cancer Plan’; and

 

b) Penodi cydlynydd canser annibynnol i oruchwylio gweithredu’r ‘Cynllun Canser Cenedlaethol’ hwnnw a chodi ymwybyddiaeth o ganser, cydlynu gwasanaethau a hyrwyddo mesurau ataliol.

b) Appoint an independent cancer co-ordinator to oversee the implementation of that ‘National Cancer Plan’ and to raise awareness of cancer, coordinate services and champion preventative measures.

 

Darren Millar: I move the motion in the name of William Graham.

 

Darren Millar: Cynigiaf y cynnig yn enw William Graham.

I welcome the opportunity to speak again on this important issue of cancer care in Wales. I wish to say from the outset that we will not be supporting either of the amendments that have been tabled for today’s debate. We do not feel that amendment 1 adds anything new to our motion. Amendment 2 defeats the whole object of the motion before us, which is to ensure the proper delivery of a national cancer plan through the appointment of a cancer co-ordinator for Wales. I wish to put that on the record at the start of this debate.

 

Croesawaf y cyfle i siarad eto ar y mater pwysig hwn o ofal canser yng Nghymru. Hoffwn ddweud o'r cychwyn y bydd nid yn cefnogi un o'r gwelliannau a gyflwynwyd ar gyfer y ddadl heddiw. Nid ydym yn teimlo bod gwelliant 1 yn ychwanegu unrhyw beth newydd i'n cynnig. Gwelliant 2 wrthodant y gwrthrych cyfan y cynnig ger ein bron, sef sicrhau cyflenwi priodol o canser cenedlaethol cynllun drwy benodi cydgysylltydd canser ar gyfer Cymru. Hoffwn roi hynny ar gofnod ar ddechrau'r ddadl hon.

 

I recognise that some will query why we are having a second Welsh Conservative debate on cancer-related matters in the space of two weeks. However, I think that this only serves to underline my party’s commitment to wanting to improve cancer care. This is something that we attach a lot of importance to, in spite of the comments coming from some Members of other parties in this Chamber. The fact of the matter is that Wales has the highest proportion of people living with cancer in the United Kingdom, and it is clear that our cancer services leave a lot to be desired. One shocking statistic is that there are 24 life-prolonging drugs that are readily available to patients in England, but not to patients in Wales. The Welsh Government target of ensuring that 95 per cent of patients with urgent suspected cancer start treatment within 62 days has not been achieved for a single month in the past three years, and there has been a 7 per cent fall in the number of hospital oncology staff. What is more, patients in Wales are now five times less likely to get access to newer cancer drugs on the NHS than they are in England. It is shameful.

 

Yr wyf yn cydnabod bod rhai yn holi pam yr ydym yn cael dadl Ceidwadwyr Cymru ail ar faterion sy'n gysylltiedig â chanser yn y gofod o bythefnos. Fodd bynnag, credaf fod hyn yn unig yn gwasanaethu i danlinellu ymrwymiad fy mhlaid i awydd i wella gofal canser. Mae hyn yn rhywbeth a roddwn llawer o bwysigrwydd i, er gwaethaf y sylwadau sy'n dod gan rai aelodau o bleidiau eraill yn y Siambr hon. Y ffaith amdani yw bod Mae gan Gymru y gyfran uchaf o bobl sy'n byw gyda chanser yn y Deyrnas Unedig, ac mae'n amlwg bod ein gwasanaethau canser yn gadael llawer i fod yn foddhaol. Un ystadegyn brawychus yw bod cyffuriau ymestyn bywyd 24 ar gael yn hawdd i gleifion yn Lloegr, ond nid i gleifion yng Nghymru. Ni chyflawnwyd y targed Llywodraeth Cymru o sicrhau bod 95 y cant o gleifion brys lle amheuir canser yn dechrau triniaeth o fewn 62 diwrnod ar gyfer un mis yn y tair blynedd diwethaf, a bu gostyngiad o 7 y cant yn nifer y staff oncoleg ysbyty. Yn fwy na hynny, bellach mae cleifion yng Nghymru bum gwaith yn llai tebygol o gael mynediad i gyffuriau canser newydd ar y GIG nag ydynt yn Lloegr. Mae'n gywilyddus.

While it is good news that cancer survival rates have increased over the past 15 years, we must not forget that cancer rates are also on the increase, with around 50 people per day being diagnosed with cancer in Wales. If this trend continues, the number of people living with cancer or living after cancer will have almost doubled by 2030. It is easy to dismiss these figures as dry statistics. However, let us not forget that there are 120,000 people living with or after cancer in Wales today. These are not just numbers; every one of those people is a mother, a father, a sister, a brother, a husband or a wife. We must not forget that.

 

Mae'n newyddion da bod cyfraddau goroesi canser wedi cynyddu dros y 15 mlynedd diwethaf, rhaid inni beidio ag anghofio bod eu cyfraddau canser hefyd ar gynnydd, gyda tua 50 o bobl bob dydd cael diagnosis o ganser yng Nghymru. Os bydd y duedd hon yn parhau, bydd nifer y bobl sy'n byw gyda chanser neu sy'n byw ar ôl canser wedi dyblu bron erbyn 2030. Mae'n hawdd diystyru ffigurau hyn fel ystadegau sych. Fodd bynnag, gadewch inni beidio ag anghofio bod 120,000 o bobl yn byw gyda, neu ar ôl canser yng Nghymru heddiw. Nid yw'r rhain yn niferoedd yn unig; pob un o'r bobl hynny yn fam, tad, chwaer, brawd, ŵr neu wraig. Rhaid inni beidio ag anghofio hynny.

 

In March this year, Macmillan Cancer Support published a report, ‘Changing Cancer Care in Wales’. The report warned that our present system is ill-equipped to deal with the growing number of people who need help. With Welsh cancer patients and their families being badly failed by the system, it is clear that we need to change the way in which we approach cancer care in Wales.

 

Ym mis Mawrth eleni, cyhoeddodd Cymorth Canser Macmillan adroddiad, 'Gofal newid canser yng Nghymru'. Roedd yr adroddiad yn rhybuddio bod ein system bresennol yn anghymwys i ymdrin â nifer cynyddol o bobl sydd angen help. Gyda cleifion canser Cymru a'u teuluoedd wael cael eu siomi gan y system, mae'n amlwg bod angen inni newid ein dull gweithredu y gofal canser yng Nghymru.

 

At a time of limited resources, there is a clear need for renewed focus and national direction to drive improvements in cancer outcomes in Wales, and that is why the Welsh Conservatives believe that a national cancer plan should be established. Wales’s current system of patient-centred cancer care means that the patient’s condition is treated, rather than the individual. As Macmillan Cancer Support has warned, as a result of the focus on clinical treatments rather than individuals, the other needs that people with cancer have are sometimes unmet.

 

Ar adeg o adnoddau cyfyngedig, mae'n amlwg bod angen ffocws newydd a cyfeiriad cenedlaethol i yrru gwelliannau mewn canlyniadau canser yng Nghymru, a dyna pam mae Ceidwadwyr Cymru yn credu y dylid sefydlu cynllun canser cenedlaethol. Mae system bresennol Cymru gofal sy'n canolbwyntio ar gleifion canser yn golygu bod cyflwr y claf yn cael eu trin, yn hytrach na'r unigolyn. Fel y mae Cymorth Canser Macmillan wedi rhybuddio, o ganlyniad i'r ffocws ar triniaethau clinigol yn hytrach nag ar unigolion, weithiau eu diwallu anghenion eraill y mae pobl â chanser.

 

It is also important to recognise that cancer care is changing. Cancer is no longer a death sentence, as it has often been in the past; thank goodness. For an increasing number of people, cancer is a chronic condition that may follow a relapse and remission pattern over several years. It is important that cancer services in Wales keep pace with these developments, and evolve in this changing landscape. We need to challenge the clinical culture that exists, which is just about meeting patient’s medical and physical care needs. Macmillan Cancer Support, the Wales Cancer Alliance and Cancer Research UK have all called for a national cancer strategy that recognises the changing nature of the disease and leads the way in transforming cancer care.

 

Mae hefyd yn bwysig cydnabod bod gofal canser yn newid. Bellach mae canser yn dedfryd marwolaeth, fel y bu yn aml yn y gorffennol; diolch byth. Ar gyfer nifer cynyddol o bobl, mae canser yn gyflwr cronig a all ddilyn patrwm llithro'n ôl a pheidio â dros nifer o flynyddoedd. Mae'n bwysig bod gwasanaethau canser yng Nghymru gadw'n wastad â datblygiadau hyn, ac yn esblygu yn hyn newid tirwedd. Mae angen inni herio'r diwylliant clinigol sy'n bodoli, sydd yn unig am anghenion gofal corfforol a meddygol claf cyfarfod. Mae Cymorth Canser Macmillan, Cynghrair Canser Cymru ac ymchwil canser y DU pob galw am strategaeth canser cenedlaethol sy'n cydnabod natur newidiol y clefyd ac yn arwain y ffordd i drawsnewid gofal canser.

We believe that a national cancer plan must incorporate the entire cancer pathway, from prevention and survivorship to palliative and end-of-life care, in order to meet the needs of people living with, and after, cancer. As Macmillan has highlighted, there are four key initiatives that should be incorporated into any national cancer plan. These include improved assessment and planning, reforms to follow-up cancer care, more personalised information, and support and access to an identified key worker.

 

Rydym yn credu bod rhaid i gynllun canser cenedlaethol yn ymgorffori y llwybr canser cyfan, o atal a goroesi i ofal lliniarol a gofal diwedd oes, er mwyn diwallu anghenion pobl sy'n byw gyda, ac ar ôl canser. Fel y mae Macmillan, ceir pedwar mentrau allweddol y dylid eu hymgorffori mewn unrhyw gynllun canser cenedlaethol. Mae'r rhain yn cynnwys asesu gwell a cynllunio, diwygiadau i ganser dilynol gofal, gwybodaeth bersonol, yn cefnogi a mynediad i weithiwr allweddol a nodir.

I am pleased that calls for the formation of a national cancer plan have now received cross-party support in the Assembly, and I am delighted that the Government and the Labour Party have now adopted this as part of their policy on cancer care, after resistance for the past few years. I understand that the final draft of a plan will be issued for formal consultation before Christmas this year. I would be grateful if the Minister could provide an update on that, in response to this debate, later this afternoon.

 

Yr wyf yn falch o fod wedi galw ar gyfer ffurfio cynllun canser cenedlaethol bellach yn derbyn cefnogaeth drawsbleidiol yn y Cynulliad, ac yr wyf yn falch bod y Llywodraeth a'r Blaid Lafur bellach wedi mabwysiadu hyn fel rhan o'u polisi ar ofal canser, ar ôl ymwrthedd ar gyfer yr ychydig flynyddoedd diwethaf. Deallaf y caiff y drafft terfynol cynllun ei gyhoeddi ar gyfer ymgynghori ffurfiol cyn y Nadolig eleni. Byddem yn ddiolchgar pe gallai'r Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf ar hynny, mewn ymateb i'r ddadl hon, yn ddiweddarach y prynhawn yma.

 

According to Macmillan and the Wales Cancer Alliance, people living with, or after, cancer often experience disjointed care and patchy support services. Many are not given information about their condition or the support that they need. It is essential when people are at their most vulnerable that they get the care they need and are entitled to. It is unacceptable that patients have this kind of experience while undergoing treatment, or recovering from cancer. Something must be done to resolve this. Cancer impacts people’s lives in a range of ways: families often have to deal with changes to their daily routine, and roles and responsibilities within the family often change. In addition to an enormous financial impact, relationships can be put under strain and families’ living arrangements may have to change. Patients need access to practical, financial, employment and emotional support, but the evidence is that they do not know how to access it.

 

Yn ôl Macmillan a Cynghrair Canser Cymru, pobl sy'n byw gyda, neu ar ôl, canser yn aml yn profi gofal digyswllt a gwasanaethau cymorth anghyson. Ni roddir llawer o wybodaeth am eu cyflwr neu y cymorth y mae arnynt ei angen. Mae'n hanfodol pan fydd pobl yn fwyaf agored i niwed eu bod yn y gofal y mae arnynt angen a hawl i. Mae'n annerbyniol bod cleifion yn cael y math hwn o brofiad tra'n cael triniaeth, neu sy'n gwella o ganser. Rhaid gwneud rhywbeth i ddatrys hyn. Mae canser yn effeithio ar fywydau pobl mewn amrywiaeth o ffyrdd: Mae teuluoedd yn aml yn gorfod ymdrin â newidiadau i'w trefn ddyddiol, a rolau a chyfrifoldebau o fewn y teulu yn aml yn newid. Yn ogystal â effaith ariannol enfawr, gellir rhoi berthynas dan straen, a gall trefniadau byw teuluoedd yn gorfod newid. Mae ar gleifion angen mynediad i gyflogaeth ariannol, ymarferol a chefnogaeth emosiynol, ond mae'r dystiolaeth yn nad ydynt yn gwybod sut i gael gafael arno.

Research by Macmillan shows that just 6 per cent of Welsh adults had someone to talk to about money issues such as benefits and grants, and they wanted someone to talk to, and just 3 per cent had someone to talk to about work worries. Of all people living with, or after, cancer in Wales, 50 per cent—yes, that is half of the people concerned—said that no-one had talked through their needs with them after their clinical treatment had finished. That is why we are so passionate about calling for an independent cancer co-ordinator to drive up standards in services in Wales and to oversee the implementation of the national cancer plan, once it has been finalised.

 

Mae ymchwil gan Macmillan yn dangos nad oedd dim ond 6 y cant o oedolion Cymru rhywun i siarad â materion arian megis budd-daliadau a grantiau, a dymunent siarad â rhywun, ac roedd 3 y cant yn unig yn cael rhywun i siarad am waith pryderon. O'r holl bobl sy'n byw gyda, neu ar ôl canser yng Nghymru, 50 y cant — Ie, dyna hanner y bobl dan sylw — yn dweud bod unrhyw un wedi siarad drwy eu hanghenion gyda nhw ar ôl eu triniaeth glinigol orffen. Dyna pam yr ydym mor angerddol am alw ar gyfer cydgysylltydd canser annibynnol i godi safonau mewn gwasanaethau yng Nghymru ac i oruchwylio'r gwaith o weithredu cynllun canser cenedlaethol, wedi ei chwblhau.

A cancer co-ordinator would be appointed to raise awareness of cancer, to co-ordinate services and to champion preventative measures. The co-ordinator would be responsible for championing cancer services in Wales and would fulfil this important role of improving the co-ordination of cancer services across the piece.

 

Byddai penodi cydgysylltydd canser i godi ymwybyddiaeth o ganser, i gydlynu gwasanaethau ac i hyrwyddo mesurau ataliol. Y cydgysylltydd fyddai'n gyfrifol am hyrwyddo gwasanaethau canser yng Nghymru, a byddai yn cyflawni rôl bwysig hon o wella cydgysylltiad y gwasanaethau canser yn gyffredinol.

3.30 p.m.

 

I was very encouraged to read before the Assembly elections that at least three parties in the Chamber were supportive of the need for a cancer co-ordinator here in Wales. I very much hope, Minister, that you will listen to the calls of the three parties that are not part of the Government, and adopt a new approach towards cancer care in Wales, especially now that you have adopted a new approach in terms of the national cancer plan. After all, let us not forget that England, Scotland and Northern Ireland all have cancer co-ordinators. Is it a surprise, therefore, that we are lagging behind in the outcomes for cancer patients in Wales given that we are the only country within the United Kingdom that does not have a cancer co-ordinator? It is time that we had one too. I look forward to the Minister’s response on this very important matter, and I very much hope that you will support the motion before us today.

 

Roedd yn galonogol iawn i ddarllen cyn etholiadau’r Cynulliad bod o leiaf tair plaid yn y Siambr yn cefnogi’r angen am gydgysylltydd canser yma yng Nghymru. Rwy’n mawr obeithio, Weinidog, y byddwch yn gwrando ar alwadau’r tair plaid nad ydynt yn rhan o’r Llywodraeth, ac yn mabwysiadu agwedd newydd tuag at ofal canser yng Nghymru, yn enwedig nawr eich bod wedi mabwysiadu dull newydd o ran y cynllun canser cenedlaethol. Wedi’r cyfan, gadewch inni beidio ag anghofio bod gan Loegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon gydlynwyr canser. A ydyw’n syndod, felly, ein bod ar ei hôl hi yn y canlyniadau ar gyfer cleifion canser yng Nghymru o ystyried mai ni yw’r unig wlad yn y Deyrnas Unedig lle nad oes cydlynydd canser? Mae’n bryd inni gael un hefyd. Edrychaf ymlaen at ymateb y Gweinidog ar y mater pwysig hwn, ac yr wyf yn gobeithio’n fawr y byddwch yn cefnogi’r cynnig ger ein bron heddiw.

 

Gwelliant 1 Jocelyn Davies

 

Amendment 1 Jocelyn Davies

 

Cynnwys ar ddechrau pwynt 1:

 

Insert at start of point 1:

 

‘Yn nodi cymeradwyaeth unfrydol y Cynulliad ar 5 Hydref 2011 i lunio a gweithredu Cynllun Canser Cenedlaethol ac felly’.

 

‘Notes the unanimous endorsement of the Assembly on 5 October 2011 for drawing up and implementing a National Cancer Plan and therefore’.

 

Elin Jones: Cynigiaf welliant 1 yn enw Jocelyn Davies.

 

Elin Jones: I move amendment 1 in the name of Jocelyn Davies.

 

Mae’r gwelliant i’r cynnig hwn, ac i’r cynnig yn nes ymlaen, yn nodi’r ffaith syml bod y Cynulliad hwn yr wythnos diwethaf wedi pleidleisio’n unfrydol o blaid y cynllun canser cenedlaethol, fel mae’n digwydd drwy gefnogi gwelliant Plaid Cymru. Ond yr oedd unfrydedd barn am yr angen am gynllun canser cenedlaethol. Er hynny, am ba bynnag reswm, mae dwy ddadl eto o’n blaenau ni heddiw ar yr un pwnc. Fodd bynnag, cyfrannaf at y ddadl yn yr ysbryd o weld mwy o drafodaeth ar flaenoriaethau posibl ar gyfer cynllun canser cenedlaethol.

 

The amendment to this motion, and to the motion that we will debate later on, note the simple fact that the Assembly, just last week, unanimously endorsed a national cancer plan, as it happens by supporting a Plaid Cymru amendment. There was unanimity on the need for a national cancer plan. Despite that, we have, for whatever reason, two debates today on the same issue. However, I will contribute to the debate in the spirit of seeing more discussion on possible priorities for a national cancer plan.

 

Mae gwasanaeth canser yn bwysig i Aelodau o bob plaid yn y Siambr, ac nid wyf yn credu y dylai un blaid benodol—ac mae wedi’i wneud yn y ddadl hon eisoes—geisio honni ei bod yn poeni mwy am ganser dim ond oherwydd ei bod yn cyflwyno nifer o ddadleuon, a bod unrhyw honiad felly yn ddatganiad o’r hyn mae’n ei feddwl am y pwnc penodol hwn. Efallai mai’r hyn sydd bwysicaf i’w gyflawni o’r dadleuon y prynhawn yma yw inni glywed oddi wrth y Gweinidog am ei chynlluniau i roi cynllun canser ar waith yma yng Nghymru—y broses i wneud hynny, y cynnwys a’r amserlen, a sut mae’r hyn sydd gan y Gweinidog mewn golwg yn newydd ac yn datblygu’r polisi presennol.

 

Cancer services are important to Members of all parties in the Chamber, and I do not think that any parties—and it has been done in this debate already—should try to claim that they are more concerned about cancer just because they table a greater number of debates on the issue, and that that reflects what they feel about it. What is most important, perhaps, in this afternoon’s debates is that we hear from the Minister about her plans to implement a national cancer plan in Wales—the process of doing that, the content of the plan and its timetable, and how what the Minister has in mind differs from and develops current policy.

 

O drafod gyda’r rhai sy’n arbenigo yn y maes hwn, ac sy’n ymddiddori yn y maes gofal canser, mae’n amlwg mai’r dyhead mwyaf yw i weld cynllun canser sy’n rhoi’r person yn ganolog i’r broses o drin canser, ac i’r broses o fyw a gweithio gyda chanser. Mae polisi presennol y Llywodraeth yn canolbwyntio yn bennaf ar ddiagnosis a thriniaeth yn y sector acíwt, a hynny am resymau digon amlwg. Ond mae taith pobl gyda chanser yn cynnwys llawer mwy na hynny erbyn hyn, a dylid cynnwys pob elfen mewn cynllun canser cenedlaethol. Yn gysylltiedig â diagnosis, mae’r angen i gyflwyno mwy o sgrinio rhagweithiol wrth i sgrinio felly fod ar gael o fewn y gwasanaeth iechyd. Mae angen integreiddio gofal lliniarol yn fwy gofalus i wasanaethau eraill hefyd, ond, yn gadarnhaol efallai, mae mwy a mwy o bobl yn byw yn hwy ac yn parhau i weithio gyda chanser. Felly, i nifer gynyddol o bobl, mae canser yn gyflwr cronig i’w reoli yn hytrach nag yn gyflwr terfynol.

 

Having discussed with experts in this area, and with those who take a great interest in cancer care, it is obvious that the greatest aspiration is to see a national cancer plan that puts the patients at the heart of the process of treating and living with cancer from day to day. The current Government policy concentrates mainly on diagnosis and treatment in the acute sector, for perfectly obvious reasons. However, the journey of cancer patients includes a great deal more than that. Every element should be included in a national cancer plan. Linked to diagnosis, there is a need to provide greater proactive screening, as that becomes available within the NHS. Palliative care needs to be integrated more carefully into other services, but, on a positive note, perhaps, more and more people live for longer and continue to work while being cancer patients. So, for an increasing number of people, cancer is becoming a chronic disease that can be managed rather than a terminal disease.

 

Mae angen felly i’r cynllun canser ar gyfer y 10 mlynedd nesaf, gobeithio, gynllunio gwasanaeth o’r cyfnod sgrinio a diagnosis drwyddo i ofal lliniarol ac i reoli’r cyflwr cronig yn achos nifer o bobl. Unwaith mae cynnwys y cynllun wedi’i gytuno, mae’n rhaid edrych ar y strwythr sydd ei angen i gyflawni’r gwasanaeth cyfannol hwnnw, i gynllunio hynny yn genedlaethol ac anelu at wasanaeth cyson i bawb sydd angen sgrinio ac sy’n derbyn diagnosis o ganser ym mha le bynnag yng Nghymru y maent yn byw.

 

Therefore, the national cancer plan for the next 10 years, hopefully, needs to plan services from the screening and diagnosis phase through to palliative care and to managing the chronic condition in the case of many patients. Once the contents of the plan are agreed, we will need to look at the structure required in order to provide that holistic service, to plan that on a national level and to aim towards consistency for all those who require screening and who get a cancer diagnosis, wherever they live in Wales.

 

Mae cynnig y Torïaid hefyd yn gofyn am sefydlu’r hyn sy’n cael ei alw yn y wasg yn ‘tsar’ canser, neu gydlynydd canser annibynnol. Nid wyf wedi fy argyhoeddi bod angen ‘tsar’ neu gydlynydd annibynnol ar hyn o bryd, gan fod ‘tsar’ neu unrhyw gydlynydd annibynnol yn draddodiadol yn hyrwyddwr cyhoeddus dros y maes mae’n gyfrifol amdano. Nid wyf yn tybio mai dyna yw’r flaenoriaeth yn yr achos hwn. Nid person sy’n allanol i Lywodraeth sydd ei angen er mwyn cyflawni cynllun canser llawn. Byddwn yn tybio mai’r hyn sydd ei angen yw cydlynydd cryf o fewn Llywodraeth—

 

The Tory motion also asks for the establishment of what has been called a cancer tsar, or an independent cancer co-ordinator. I am not convinced that we need a tsar or an independent co-ordinator at this time, because tsars or independent co-ordinators are, traditionally, public figures who promote, at a public level, the field for which they are responsible. I do not think that that is the priority in this case. It is not a person outwith Government that is required in order to properly implement a full national cancer plan. I would have thought that what is required is a strong co-ordinator within Government—

 

Darren Millar rose

 

Darren Millar a gododd

 

The Presiding Officer: Order. I do not think that she is taking an intervention. Will you please sit down?

 

Y Llywydd: Trefn. Nid wyf yn credu ei bod yn cymryd ymyriad. A wnewch chi eistedd i lawr os gwelwch yn dda?

 

Elin Jones: Yr hyn sydd ei angen yw cydlynydd cryf o fewn Llywodraeth er mwyn sicrhau bod yr hyn sy’n cael ei dynnu at ei gilydd ar gyfer cynllun cenedlaethol yn cael ei ddarparu’n genedlaethol yng Nghymru drwy’r byrddau iechyd lleol. Felly, mae angen y gyriant hwnnw o fewn Llywodraeth, nid y tu allan iddo. Felly, byddwn yn cefnogi gwelliant y Llywodraeth.

 

Elin Jones: What is needed is a strong co-ordinator within Government to ensure that what is being drawn together as part of a national cancer plan is delivered on a national level in Wales through the local health boards. So, it is within Government that that drive is required, not outwith Government. Therefore, we will support the Government amendment.

 

Gwelliant 2 Jane Hutt

 

Amendment 2 Jane Hutt

 

Dileu pwynt b) a rhoi yn ei le:

 

Delete point b) and replace with:

 

Adolygu pa gymorth sydd angen ei roi ar lefel Cymru gyfan i gynorthwyo GIG Cymru i fynd i’r afael â chanser.

 

Review what support is needed at an all Wales level to support NHS Wales in tackling cancer.

 

The Minister for Health and Social Services (Lesley Griffiths): I move amendment 2 in the name of Jane Hutt.

 

Y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol (Lesley Griffiths): Cynigiaf welliant 2 yn enw Jane Hutt.

 

Mohammad Asghar: On this side of the Chamber, we make no apologies for bringing forward another debate on the issue of cancer. By 2030, estimates suggest that 230,000 people in Wales will be living with or after cancer. That is a significant proportion of the Welsh population, highlighting the immense challenges faced by the Welsh Government. Furthermore, Wales has a comparatively older population than the UK’s three other nations. This is why we continue to call for a cancer co-ordinator for Wales. Such an important step has already been taken in England, Scotland and Northern Ireland. It is about time that we looked at what has been achieved in cancer services in those parts of our country.

 

Mohammad Asghar: Ar yr ochr hon i’r Siambr, nid ydym yn ymddiheuro am gyflwyno dadl arall ar ganser. Erbyn 2030, mae amcangyfrifon yn awgrymu y bydd 230,000 o bobl yng Nghymru yn byw gyda neu ar ôl canser. Mae hynny’n gyfran sylweddol o boblogaeth Cymru, gan dynnu sylw at yr heriau aruthrol a wynebir gan Lywodraeth Cymru. Ar ben hynny, mae gan Gymru boblogaeth gymharol hŷn na thair cenedl arall y DU. Dyma pam yr ydym yn parhau i alw am gydlynydd canser ar gyfer Cymru. Mae cam pwysig o’r fath eisoes wedi ei gymryd yn Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon. Mae’n hen bryd inni edrych ar yr hyn a gyflawnwyd yn y gwasanaethau canser yn y rhannau hynny o’n gwlad.

 

This individual would hold responsibility for championing cancer services for the people of Wales. A co-ordinator would also ensure that effective dialogue took place between the Welsh Government, medical professionals, researchers and patients. Additionally, a co-ordinator would work to promote the role that healthier lifestyles play in reducing levels of cancer diagnoses. This is crucial because, as we all know, Wales faces numerous worrying public health issues. Tackling problems such as obesity, binge drinking and smoking is key in the fight against cancer, and it is about time that we did something about it. The role of a co-ordinator is more important now than ever before. The role that the co-ordinator could play in championing that, and taking necessary action, could be key in this part of the world.

 

Byddai’r unigolyn hwn yn gyfrifol am hyrwyddo gwasanaethau canser ar gyfer pobl Cymru. Byddai cydlynydd hefyd yn sicrhau bod dialog effeithiol rhwng Llywodraeth Cymru, gweithwyr meddygol proffesiynol, ymchwilwyr a chleifion. Yn ogystal, byddai cydlynydd yn gweithio i hyrwyddo’r rôl y mae ffyrdd o fyw iachach yn chwarae wrth leihau lefelau diagnosis canser. Mae hyn yn hanfodol oherwydd, fel y gwyddom, mae Cymru’n wynebu nifer o faterion iechyd cyhoeddus sy’n peri pryder. Mae mynd i’r afael â phroblemau fel gordewdra, goryfed mewn pyliau ac ysmygu yn allweddol yn y frwydr yn erbyn canser, ac mae’n hen bryd inni wneud rhywbeth yn ei gylch. Mae rôl y cydlynydd yn bwysicach nawr nag erioed o’r blaen. Gallai’r rôl y gallai’r cydgysylltydd ei chwarae wrth hyrwyddo hynny, a chymryd camau angenrheidiol, fod yn allweddol yn y rhan hon o’r byd.

 

As our motion suggests, the establishment of a national cancer plan is pivotal. Given the growing scale of cancer in Wales, a comprehensive and robust plan is important. Such a plan should detail a wide-ranging and thorough approach to cancer care, offering patients assurances that the right steps are being taken to improve support needs and treatment. The Minister has said that a final draft of a national cancer delivery plan will be published for consultation by Christmas. I hope that the Minister, in responding to this debate, can provide an update on the progress made to date, and on how she envisages that this plan will develop the care being received by patients in Wales.

 

Fel yr awgrymir gan ein cynnig, mae sefydlu cynllun canser cenedlaethol yn allweddol. O ystyried bod achosion o ganser yng Nghymru yn cynyddu, mae cynllun cynhwysfawr a chadarn yn bwysig. Dylai cynllun o’r fath fanylu ymagwedd eang a thrylwyr i ofal canser, gan gynnig sicrwydd i gleifion bod y camau cywir yn cael eu cymryd i gwrdd ag anghenion cymorth a thriniaeth. Mae’r Gweinidog wedi dweud y bydd drafft terfynol y cynllun cyflawni cenedlaethol ar gyfer canser yn cael ei gyhoeddi ar gyfer ymgynghoriad erbyn y Nadolig. Gobeithiaf y bydd y Gweinidog, wrth ymateb i’r ddadl hon, yn gallu rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf am y cynnydd a wnaed hyd yn hyn, ac ar y modd y mae’n rhagweld y bydd y cynllun hwn yn datblygu’r gofal sy’n cael ei dderbyn gan gleifion yng Nghymru.

 

The people of Wales need quick, decisive action from the Welsh Government to ensure further improvements to cancer survival rates. Sadly, the recent performance on waiting times paints a concerning picture. There is currently a postcode lottery on waiting times for urgent suspected cancer. I welcome the latest statistics suggesting that the 62-day target has been met by the Anuerin Bevan Local Health Board. However, performance is much patchier across other parts of Wales.

 

Mae angen gweithredu cyflym, pendant gan Lywodraeth Cymru i bobl Cymru er mwyn sicrhau gwelliannau pellach i’r cyfraddau goroesi canser. Yn anffodus, mae perfformiad diweddar ar amseroedd aros yn peri pryder. Mae loteri cod post ar amseroedd aros ar hyn o bryd mewn achosion brys lle mae amheuaeth bod gan glaf ganser. Rwy’n croesawu’r ystadegau diweddaraf sy’n awgrymu bod y targed 62-diwrnod wedi cael ei fodloni gan Fwrdd Iechyd Lleol Aneurin Bevan. Fodd bynnag, mae perfformiad yn llawer mwy anghyson ar draws rhannau eraill o Gymru.

 

Cancer is a complex disease. Predictions estimate that the impact it has on Welsh society will grow in the future. Wales needs to be ready to take on that challenge. We believe that a robust cancer plan and a cancer co-ordinator are crucial steps in the fight against this disease in this part of the world.

 

Mae canser yn glefyd cymhleth. Mae rhagfynegiadau yn amcangyfrif y bydd yr effaith y mae’n ei gael ar gymdeithas yng Nghymru yn tyfu yn y dyfodol. Mae angen i Gymru fod yn barod i ymgymryd â’r her honno. Rydym yn credu bod cynllun canser cadarn a chydlynydd canser yn gamau hanfodol yn y frwydr yn erbyn y clefyd hwn yn y rhan hon o’r byd.

 

Jenny Rathbone: The previous speakers have acknowledged that 120,000 people now live with cancer; many of them are surviving and are able to live a relatively normal life. That is to be welcomed. However, I want to emphasise the challenge that faces us, which is that, by 2020—which is just down the road—according to current trends and increasing numbers, half the people of Wales and the UK will have cancer at some point in their lives. We absolutely must do something about preventing this trauma, and look at some of the reasons why we have this exponential increase in cancer. We have to put much more of our time, effort and money into preventing cancer.

 

Jenny Rathbone: Mae’r siaradwyr blaenorol wedi cydnabod bod 120,000 o bobl yn awr yn byw gyda chanser; mae llawer ohonynt yn goroesi ac yn gallu byw bywyd cymharol normal. Mae hynny i’w groesawu. Fodd bynnag, yr wyf am bwysleisio’r her sy’n ein hwynebu sef, erbyn 2020—nad yw’n bell i ffwrdd—yn ôl y tueddiadau presennol a niferoedd cynyddol, bydd hanner pobl Cymru a’r DU yn dioddef canser rywbryd yn ystod eu bywydau. Mae’n rhaid i ni wneud rhywbeth ynglŷn ag atal y trawma hwn, ac edrych ar rai o’r rhesymau pam yr ydym wedi gweld y cynnydd cyflymach hwn mewn canser. Mae’n rhaid i ni roi llawer mwy o’n hamser, ymdrech ac arian i mewn i atal canser.

 

We know that cancer prevention is about lifestyle changes: it is about the food we eat, the air we breathe, the amount of exercise we take and so on. Many people are working on this, and we need to work with them. For example, take simple broccoli; it is well known to have cancer-preventing properties. However, scientists have recently developed this super broccoli, called beneforte, which is about to hit our supermarket shelves. It contains high-levels of glucoraphanin—I am sure that some of you could pronounce that better than me. It is not genetically modified. It has been developed from wild broccoli, which was discovered in 1983, with very high proportions of this substance. It is something that all of us are able to afford to buy, and all of us could be eating it at some stage during our normal week. It is a perfectly simple way of combating cancer.

 

Rydym yn gwybod bod atal canser yn ymwneud â newid ffordd o fyw: y bwyd yr ydym yn ei fwyta, yr aer a anadlwn, faint o ymarfer yr ydym yn ei wneud ac yn y blaen. Mae llawer o bobl yn gweithio ar hyn, ac mae angen i ni weithio gyda nhw. Er enghraifft, os ystyriwn rywbeth syml fel brocoli; mae’n hysbys ei fod yn gallu helpu atal canser. Fodd bynnag, yn ddiweddar mae gwyddonwyr wedi datblygu brocoli arbennig, o’r enw beneforte, sydd ar fin cyrraedd silffoedd ein harchfarchnadoedd. Mae’n cynnwys lefelau uchel o glucoraphanin—yr wyf yn siŵr y gallai rhai ohonoch ynganu’r gair yna yn well na fi. Nid yw wedi ei addasu’n enetig. Fe’i datblygwyd o frocoli gwyllt, a ddarganfuwyd ym 1983, gyda chyfran uchel iawn o’r sylwedd hwn. Mae’n rhywbeth y mae pob un ohonom yn gallu fforddio ei brynu, a gallai pob un ohonom ei fwyta ar ryw adeg yn ystod ein hwythnos arferol. Mae’n ffordd berffaith syml o frwydro yn erbyn canser.

 

We know that people in general do not eat enough fruit and vegetables. For example, a few weeks ago, the World Cancer Research Fund launched a new campaign called My Packed Lunch, which was based on the evidence that more than two out of five packed lunches contain no fruit or vegetables whatsoever. Cancer Research UK trialled a cheap nicotine substitute, called tabex, which was three times more likely to succeed than a placebo tablet. This could save the national health service a huge amount of money.

 

Rydym yn gwybod nad yw pobl yn gyffredinol yn bwyta digon o ffrwythau a llysiau. Er enghraifft, ychydig wythnosau yn ôl, lansiodd Cronfa Ymchwil Canser y Byd ymgyrch newydd o’r enw ‘My Packed Lunch’, a oedd yn seiliedig ar y dystiolaeth nad yw mwy na dau o bob pum pecyn cinio yn cynnwys unrhyw ffrwythau neu lysiau o gwbl. Bu i Cancer Research UK dreialu rhywbeth rhad i gymryd lle nicotin, a elwir yn tabex, a oedd deirgwaith yn fwy tebygol o lwyddo na thabled plasebo. Gallai hyn arbed swm sylweddol o arian i’r gwasanaeth iechyd gwladol.

 

I am proud of the nearly £200 million that Wales is investing in public health to promote cancer prevention; we are leading the way on this. We now have over 1,000 primary schools providing free healthy breakfast for pupils. Obviously, that has other benefits as well, but it is hugely beneficial to ensure that our next generation makes these small steps to improve their health.

 

Yr wyf yn falch o’r bron i £200 miliwn y mae Cymru’n ei fuddsoddi mewn iechyd cyhoeddus i hyrwyddo atal canser; rydym yn arwain y ffordd ar hyn. Erbyn hyn mae gennym dros 1,000 o ysgolion cynradd yn darparu brecwast iach am ddim i ddisgyblion. Wrth gwrs, mae buddion eraill yn deillio o hynny hefyd, ond mae’n hynod fuddiol i sicrhau bod ein cenhedlaeth nesaf yn cymryd y camau bychain hyn i wella eu hiechyd.

 

We have also recently signed up to the new guidelines on physical activity, but we still have a huge amount to do in combating high levels of obesity in Wales. Of course, we need to continue to take steps to stop people smoking. This is the most important factor in preventing cancer, which we have known about for the last 40 or 50 years, and we are still talking about it. We know that one in five cancers is caused by smoking. Three quarters of all lung cancers could be avoided if people did not smoke.

Rydym hefyd wedi llofnodi’n ddiweddar y canllawiau newydd ar weithgarwch corfforol, ond mae gennym lawer iawn i’w wneud er mwyn mynd i’r afael â lefelau uchel o ordewdra yng Nghymru. Wrth gwrs, mae angen i ni barhau i gymryd camau i atal pobl rhag ysmygu. Dyma’r ffactor pwysicaf o ran atal canser, ac yr ydym wedi bod yn ymwybodol o hyn am y 40 neu 50 mlynedd diwethaf, ond yr ydym yn dal i siarad am y peth. Rydym yn gwybod bod un o bob pum canser yn cael ei achosi gan ysmygu. Gallai tri chwarter o achosion canser yr ysgyfaint gael eu hosgoi pe na bai pobl yn ysmygu.

 

3.45 p.m.

 

Quite rightly, we were the first nation in the UK to ban smoking in public places and we will be the first in Europe to ban smoking in cars carrying children if the incidences of that happening do not drop as a result of the publicity programme that the Government has launched. However, I must question why we still have to have negotiations with the tobacco industry about whether or not we will sell tobacco under the counter, put it in plain packaging or ban it from machines. Why can the tobacco industry not do something more healthy and effective and stop doing what it knows is causing people to die of lung cancer?

 

Yn gwbl briodol, ni oedd y wlad gyntaf yn y DU i wahardd ysmygu mewn mannau cyhoeddus, a ni fydd y cyntaf yn Ewrop i wahardd ysmygu mewn ceir sy’n cludo plant os nad yw nifer yr achosion o hynny’n digwydd yn gostwng o ganlyniad i’r rhaglen gyhoeddusrwydd y mae’r Llywodraeth wedi ei lansio. Fodd bynnag, rhaid i mi gwestiynu pam bod yn rhaid i ni gael trafodaethau gyda’r diwydiant tybaco ynghylch a fyddwn yn gwerthu tybaco o dan y cownter ai peidio, ei roi mewn pecynnau plaen neu ei wahardd o beiriannau. Pam na all y diwydiant tybaco wneud rhywbeth mwy iach ac effeithiol a rhoi’r gorau i wneud yr hyn y mae’n gwybod sy’n achosi pobl i farw o ganser yr ysgyfaint?

 

Suzy Davies: Darren Millar said earlier that we have the highest proportion of people living with cancer in Wales, but, in addition to that, only last year a YouGov poll found that the majority of the Welsh public thinks that cancer is the disease or illness that should be given top priority by the Assembly. In acknowledgement of that finding, the chairman of the Wales Cancer Alliance said:

 

Suzy Davies: Dywedodd Darren Millar yn gynharach bod gennym y gyfran uchaf o bobl sy’n byw gyda chanser yng Nghymru, ond, yn ychwanegol at hynny, dim ond y llynedd, canfu pôl YouGov fod y rhan fwyaf o’r cyhoedd yng Nghymru yn credu mai canser yw’r clefyd neu’r salwch a ddylai gael blaenoriaeth gan y Cynulliad. Wrth gydnabod y canfyddiad hwnnw, dywedodd cadeirydd Cynghrair Canser Cymru:

 

‘The scale of the challenge facing the government in ensuring that everyone affected by cancer in Wales is offered the best treatment and support throughout their entire cancer journey, regardless of who they are, their age, where they live, and the type of cancer they have, is enormous.’

 

Mae maint yr her sy’n wynebu’r llywodraeth i sicrhau bod pawb yr effeithir arnynt gan ganser yng Nghymru yn cael cynnig y driniaeth a’r gefnogaeth orau drwy gydol eu taith canser gyfan, waeth pwy ydynt, beth yw eu hoedran, lle maent yn byw, a’r math o ganser sydd ganddynt, yn enfawr.

 

A universally approved pathway of care and support for patients and their families is the primary reason why we need a national cancer plan, championed by an independent cancer care co-ordinator. Major charities such as Macmillan Cancer Support and Cancer Research UK are united in their call for a national strategy that does not just improve clinical outcomes, but integrates policies and services, dedicates resources and improves focus on research, diagnostics and the whole care pathway.

 

Yr angen am lwybr a gymeradwywyd yn gyffredinol o ofal a chefnogaeth i gleifion a’u teuluoedd yw’r prif reswm pam y mae arnom angen gynllun canser cenedlaethol, wedi’i hyrwyddo gan gydlynydd gofal canser annibynnol. Mae elusennau mawr megis Cymorth Canser Macmillan ac Ymchwil Canser y DU yn unedig wrth alw am strategaeth genedlaethol nad yw’n gwella canlyniadau clinigol yn unig, ond yn integreiddio polisïau a gwasanaethau, neilltuo adnoddau ac yn gwella’r ffocws ar ymchwil, diagnosteg a llwybr gofal cyfan.

 

Understandably, with 200 different types of cancer to deal with, the focus of Government investment has been on improved clinical care. While there have been periods of improvement, I cannot hide my disappointment that Abertawe Bro Morgannwg University Local Health Board has been the worst-performing health board in Wales for three quarters running with regard to hitting targets for the treatment of urgent cancer cases. The Welsh Labour Government has to accept that cutting funding to LHBs makes the scale of the challenge identified by the Wales Cancer Alliance even more enormous. A national cancer plan would help my region’s health board plan to meet its targets, and an independent national cancer co-ordinator would help to ensure that my region’s health board meets those targets.

 

Mae’n ddealladwy, gyda 200 o wahanol fathau o ganser i ddelio â hwy, bod y Llywodraeth wedi canolbwyntio ei buddsoddiad ar wella gofal clinigol. Er y bu cyfnodau o welliant, ni allaf guddio fy siom mai Bwrdd Iechyd Lleol Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg sydd â’r perfformiad gwaethaf o ran byrddau iechyd yng Nghymru ar gyfer y tri chwarter diwethaf o ran cyrraedd targedau ar gyfer trin achosion canser brys. Mae’n rhaid i Lywodraeth Lafur Cymru dderbyn bod torri cyllid i fyrddau iechyd lleol yn gwneud maint yr her a nodwyd gan Gynghrair Canser Cymru hyd yn oed yn fwy. Byddai cynllun canser cenedlaethol yn helpu’r bwrdd iechyd yn fy rhanbarth i gyrraedd ei dargedau, a byddai cydlynydd canser cenedlaethol annibynnol yn helpu i sicrhau bod bwrdd iechyd fy rhanbarth yn bodloni’r targedau hynny.

 

Abertawe Bro Morgannwg already belongs to a cancer network for south-west Wales in which LHBs collaborate to design services for the region. Its experience would be valuable in designing a national cancer plan. Buried away on its website is a link to information about cancer support services, primarily national charities, that help to meet the non-clinical needs of patients. If that is it, it is not surprising that Cancer Information and Support Services in Swansea, which confirms that it has not even been approached about a national cancer plan, states that any such plan must improve signposting by health professionals to cancer support services. This indicates an existing disconnect between clinical care and support care, which limits patients’ knowledge of what help they could have. That could be overcome by a national cancer care plan and is a second reason for its prompt introduction.

 

Mae Abertawe Bro Morgannwg eisoes yn perthyn i rwydwaith canser ar gyfer de-orllewin Cymru, lle mae byrddau iechyd lleol yn cydweithio i ddylunio gwasanaethau ar gyfer y rhanbarth. Byddai ei brofiad yn werthfawr wrth ddylunio cynllun canser cenedlaethol. Wedi’i guddio ar ei wefan mae dolen i gael mynediad at wybodaeth am wasanaethau cymorth canser, elusennau cenedlaethol yn bennaf, sy’n helpu i ddiwallu anghenion anghlinigol cleifion. Os dyna’n unig sydd, nid yw’n syndod bod Gwasanaethau Gwybodaeth a Chymorth Canser yn Abertawe, sydd wedi cadarnhau nad oes unrhyw un wedi eu holi am gynllun canser cenedlaethol, yn nodi bod yn rhaid i unrhyw gynllun o’r fath wella cyfeirio gan weithwyr iechyd proffesiynol at wasanaethau cymorth canser. Dengys hyn bod diffyg cysylltiad ar hyn o bryd rhwng gofal clinigol a gofal cymorth, sy’n cyfyngu ar wybodaeth cleifion o’r cymorth y gallent ei gael. Gallai hynny gael ei oresgyn gan gynllun gofal canser cenedlaethol ac mae’n ail reswm dros ei gyflwyno’n brydlon.

 

Those support services are often provided by charities—Tenovus, Macmillan Cancer Support, Cancer Research UK, Marie Curie Cancer Care, Bacup—and a host of cancer-specific support groups that support patients, carers and families. Then there are the local organisations, such as CISS and the wonderful Maggie’s Cancer Caring Centres, whose centre at the Singleton Hospital site in Swansea offers information, psychological and emotional support and benefits advice. I must also mention the incomparable Bracken Trust in Llandrindod, which is the absolute acme of holistic cancer support. When you have groups such as the Neath Port Talbot Cancer Challenge spending £30,000 on radiotherapy equipment for Singleton as well as buying PillCams to allow Neath Port Talbot Hospital to become one of only two Welsh hospitals to be able to use capsule endoscopy, it is immediately obvious why Baroness Findlay highlighted the role of the third sector in cancer care. This is the third reason why we need a national cancer plan, championed by an independent national cancer co-ordinator: to ensure that the third sector is recognised, integral and financially protected as part of the provision of cancer care. For it to work, the third sector, through the Welsh Cancer Alliance, perhaps, needs to be centrally involved in the design of any national plan, especially when it comes to non-acute and non-clinical care. The previous Minister for health observed that:

 

Yn aml, darperir gwasanaethau cymorth gan elusennau—Tenovus, Cymorth Canser Macmillan, Ymchwil Canser y DU, Gofal Canser Marie Curie, Bacup—a llu o grwpiau cymorth ar gyfer canser yn benodol sy’n cefnogi cleifion, gofalwyr a theuluoedd. Yna mae sefydliadau lleol, fel CISS a’r Canolfannau Gofal Canser Maggie sy’n arbennig o dda, ac mae ei ganolfan ar safle Ysbyty Singleton yn Abertawe yn cynnig gwybodaeth, cefnogaeth seicolegol ac emosiynol a chyngor ar fudd-daliadau. Rhaid i mi hefyd sôn am wasanaeth rhagorol Ymddiriedolaeth Bracken yn Llandrindod, sydd ar y brig o ran cymorth canser holistaidd. Pan fydd gennych grwpiau megis Her Canser Castell-nedd Port Talbot yn gwario £30,000 ar offer radiotherapi ar gyfer Singleton yn ogystal â phrynu PillCams i ganiatáu i Ysbyty Castell-nedd Port Talbot i fod yn un o ddim ond dau ysbyty yng Nghymru i allu defnyddio endosgopi capsiwl, mae’n dod yn amlwg yn syth pam y tynnodd y Farwnes Findlay sylw at rôl y trydydd sector mewn gofal canser. Dyma’r trydydd rheswm pam y mae angen cynllun canser cenedlaethol, wedi ei hyrwyddo gan gydlynydd canser cenedlaethol annibynnol: i sicrhau bod y trydydd sector yn cael ei gydnabod, ei fod yn ganolog ac yn cael ei ddiogelu’n ariannol fel rhan o ddarpariaeth gofal canser. Er mwyn iddo weithio, efallai bod angen i’r trydydd sector, drwy Gynghrair Canser Cymru, chwarae rhan flaenllaw yn y gwaith o ddyfeisio cynllun cenedlaethol, yn enwedig o ran gofal nad yw’n acíwt a gofal anghlinigol. Bu i’r cyn-Weinidog iechyd ddweud:

 

‘Most patients express the wish to be in their own homes as much as possible and we’re working with community teams to make this happen’.

 

Mae’r rhan fwyaf o gleifion yn mynegi dymuniad i fod yn eu cartrefi eu hunain gymaint ag y bo modd ac yr ydym yn gweithio gyda thimau cymunedol i sicrhau bod hyn yn digwydd.

 

Again, in the Abertawe Bro Morgannwg University Local Health Board area, much emphasis is being placed on the community integrated intermediate care service, which is tasked with preventing unnecessary hospital admissions. That will only be feasible if various third sector organisations are included from the beginning in designing the care pathways required by any individual. The effect of a national cancer plan designed in part by the third sector on unnecessary hospital admissions for cancer-related care will help to set a benchmark of achievement for services provided to patients with other post-acute and chronic illnesses.

 

Unwaith eto, yn ardal Bwrdd Iechyd Lleol Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg, mae llawer o bwyslais yn cael ei roi ar y gwasanaeth gofal canolraddol integredig yn y gymuned, sydd â’r dasg o atal pobl rhag gorfod mynd i mewn i’r ysbyty yn ddiangen. Bydd hynny ond yn ymarferol os bydd rhai sefydliadau trydydd sector yn cael eu cynnwys o’r cychwyn wrth ddylunio’r llwybrau gofal y mae ar unigolion eu hangen. Bydd effaith cynllun canser cenedlaethol a ddylunir yn rhannol gan y trydydd sector ar dderbyniadau diangen i ysbytai ar gyfer gofal sy’n gysylltiedig â chanser yn helpu i feincnodi cyflawniad ar gyfer gwasanaethau a ddarperir i gleifion â salwch ôl-acíwt a chronig eraill.

 

Finally, on 14 April 2010, the previous Minister for health promised us that every cancer patient in Wales would be allocated a key worker who would understand their needs and support them after treatment. Those key workers were to be in place by the end of March 2011. In its 2011 manifesto, Labour was still talking about that as a future aim. I would say that a fourth reason why we need a national cancer plan championed by an independent national co-ordinator is to help this Welsh Labour Government stick to its promises.

 

Yn olaf, ar 14 Ebrill 2010, addawodd y Gweinidog iechyd blaenorol wrthym y byddai gan bob claf canser yng Nghymru weithiwr allweddol a fyddai’n deall eu hanghenion ac yn eu cefnogi ar ôl y driniaeth. Yr oedd y gweithwyr allweddol hynny i fod yn gweithredu erbyn diwedd mis Mawrth 2011. Yn ei maniffesto yn 2011, yr oedd Llafur yn dal i siarad am hynny fel nod i’r dyfodol. Byddwn yn dweud mai’r pedwerydd rheswm pam y mae angen cynllun canser cenedlaethol wedi ei hyrwyddo gan gydlynydd cenedlaethol annibynnol yw helpu Llywodraeth Lafur Cymru i gadw ei haddewidion.

 

Kirsty Williams: I welcome the opportunity to build on the work of last week’s debate and to explore fully what the Assembly voted for last week, when it unanimously voted for a cancer plan. This is a useful opportunity to talk about the essential elements of that cancer plan, and what needs to be included if we are to fulfil the promise that we made last week in our vote. I will spell out what I believe to be the essential elements in the cancer plan in the Welsh Liberal Democrat debate later on, and so I will use this contribution to talk about a clinical lead for cancer. You can call it a cancer tsar, or an independent advisor, or a national clinical director, but it is crucial that we have a strong clinical lead to drive cancer services forward in Wales.

 

Kirsty Williams: Yr wyf yn croesawu’r cyfle i adeiladu ar waith y ddadl a gawsom yr wythnos diwethaf ac i archwilio’n llawn yr hyn y pleidleisiodd y Cynulliad o’i blaid pan bleidleisiodd yn unfrydol am gynllun canser. Mae hwn yn gyfle defnyddiol i siarad am elfennau hanfodol y cynllun canser hwnnw, a’r hyn y mae angen ei gynnwys os ydym i gyflawni’r addewid a wnaethom yr wythnos diwethaf yn ein pleidlais. Gwnaf amlinellu’r elfennau yr wyf yn credu sy’n hanfodol i’r cynllun canser yn nadl Democratiaid Rhyddfrydol Cymru yn nes ymlaen, ac felly defnyddiaf y cyfraniad hwn i siarad am arweinydd clinigol ar gyfer canser. Gallwch ei alw’n tsar canser, neu ymgynghorydd annibynnol, neu gyfarwyddwr clinigol cenedlaethol, ond mae’n hanfodol bod gennym arweinydd clinigol cryf i yrru gwasanaethau canser ymlaen yng Nghymru.

 

It is clear to me that, if we are to see a step change in our cancer survival rates, we need to recognise the need for change in the existing system. Secondly, we need a clear view of where we need to go. Thirdly, we need to know how to get there, and, finally, which is the crucial element, we need someone with key responsibility for ensuring that it all happens. That has been one of the critical elements of the success in England, Scotland and Northern Ireland in driving cancer services forward. We cannot all be lucky enough to have a Professor Mike Richards, but he has been instrumental in that role in driving change forward. Incidentally, he is the only national clinical director of the Department of Health in England who works full time; most clinical leads maintain practice and work on a part-time basis. However, because of the size of the challenge, a full-time post was created for this particular clinical lead. Elin Jones is quite right: the delivery of cancer services is incredibly complex. Most patients will start in the community and in primary care, and all of them will probably go through their district general hospital or the regional cancer centre. Some of them will end up in hospices, and the vast majority of patients will benefit from the third sector support and advice outlined by Suzy Davies. It is a complex field with multiple layers and with patients going through a vast array of services. If we do not co-ordinate those correctly and get all those players pulling in the same direction, the likelihood is that patients will fall through the gap, and the services and improvements that we are trying to obtain for patients will be weaker because of it.

 

Mae’n amlwg i mi, os ydym i weld newid sylweddol yn y nifer sy’n goroesi canser, bod angen i ni gydnabod bod angen newid y system bresennol. Yn ail, mae angen darlun clir o ble y mae angen inni fynd. Yn drydydd, mae angen inni wybod sut mae cyrraedd yno, ac, yn olaf, sef yr elfen hollbwysig, mae angen rhywun sydd â chyfrifoldeb allweddol dros sicrhau ei fod i gyd yn digwydd. Dyna un elfen allweddol sydd wedi cyfrannu at y llwyddiant yn Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon o ran gwella gwasanaethau canser. Ni allwn i gyd fod yn ddigon ffodus i gael yr Athro Mike Richards, ond mae wedi bod yn allweddol yn y rôl o ran cyflwyno newidiadau. Gyda llaw, ef yw unig gyfarwyddwr clinigol cenedlaethol yr Adran Iechyd yn Lloegr sy’n gweithio amser llawn; mae’r rhan fwyaf o arweinwyr clinigol fel arfer yn parhau i ymarfer ac yn gweithio rhan amser. Fodd bynnag, oherwydd maint yr her, crëwyd swydd lawn-amser ar gyfer yr arweinydd clinigol penodol hwn. Mae Elin Jones yn llygad ei lle: mae gwasanaethau canser yn hynod o gymhleth i’w gweithredu. Bydd y rhan fwyaf o gleifion yn dechrau yn y gymuned ac mewn gofal sylfaenol, a bydd pob un ohonynt yn ôl pob tebyg yn mynd i’w ysbyty cyffredinol dosbarth neu ganolfan canser ranbarthol. Bydd rhai ohonynt, yn y pen draw, yn mynd i mewn i hosbis, a bydd y mwyafrif helaeth o gleifion yn elwa ar gymorth a chyngor gan y trydydd sector, fel yr amlinellwyd gan Suzy Davies. Mae’n faes cymhleth gyda sawl haen a gyda chleifion yn defnyddio sawl gwasanaeth amrywiol. Os nad ydym yn cydlynu’r rhain yn gywir ac yn sicrhau bod pawb yn gweithio tuag at yr un nod, y tebygrwydd yw y bydd cleifion yn disgyn drwy’r bwlch, a bydd y gwasanaethau a’r gwelliannau yr ydym yn ceisio eu sicrhau er budd cleifion yn wannach oherwydd hynny.

 

I thought that I knew about politics until I saw politics in the NHS. If we are honest with ourselves, some of the barriers to change exist within the NHS itself and in the turf war between different parts of Wales, different clinicians and different clinical teams. Sometimes, frankly, they need their heads knocking together to get them to work co-operatively towards a stated goal. That is why we need a strong clinical lead to ensure that that happens. As far as I can see—and I took a hard look—the last time that the cancer networks in Wales were looked at independently by Healthcare Inspectorate Wales was in 2006. In 2006, a significant list of improvements with regard to how cancer networks needed to work better was drawn up by Healthcare Inspectorate Wales. There were problems with regard to accountability, commissioning arrangements and compliance, and an action plan was drawn up in 2007 with clear timescales as to what should be happening in those cancer networks to ensure improvements. However, for the life of me, I have not been able to find any follow-up documentation to see whether any of those things actually happened. I am sure that they did, but there is no documentary evidence that I can find to satisfy me that the failings identified in 2006 have been overcome.

 

Roeddwn yn meddwl fy mod yn gwybod am wleidyddiaeth nes i mi weld gwleidyddiaeth y gwasanaeth iechyd gwladol. Os ydym yn onest â’n hunain, mae rhai o’r rhwystrau i newid yn bodoli o fewn y gwasanaeth iechyd ei hun ac yn y rhyfel dros dir rhwng gwahanol rannau o Gymru, gwahanol glinigwyr a gwahanol dimau clinigol. Weithiau, a dweud y gwir, mae angen curo’u pennau â’i gilydd i’w cael i gydweithio i gyrraedd nod arbennig. Dyna pam y mae arnom angen arweinydd clinigol cryf i sicrhau bod hynny’n digwydd. Cyn belled ag y gallaf weld—ac edrychais yn fanwl—yn 2006 y cafwyd yr arolwg annibynnol diwethaf gan Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru o rwydweithiau canser yng Nghymru. Yn 2006, lluniwyd rhestr sylweddol gan Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru o’r gwelliannau yr oedd angen eu gweithredu o ran sut y dylai’r rhwydweithiau canser weithio yn well. Roedd problemau o ran atebolrwydd, trefniadau comisiynu a chydymffurfiaeth, a lluniwyd cynllun gweithredu yn 2007 gydag amserlenni clir ynghylch yr hyn a ddylai fod yn digwydd yn y rhwydweithiau canser hynny er mwyn sicrhau gwelliannau. Fodd bynnag, er fy mod wedi ceisio gwneud hynny, nid wyf wedi gallu dod o hyd i unrhyw ddogfennau dilynol i weld a ddigwyddodd y pethau hynny mewn gwirionedd. Mae’n siŵr gennyf y gwnaethant, ond nid oes unrhyw dystiolaeth ddogfennol y gallaf ddod o hyd iddi sy’n fy modloni bod y diffygion a nodwyd yn 2006 wedi cael eu goresgyn.

 

We need a cancer plan—we are all agreed on that, although I dare say that we will disagree about what exactly it entails. However, if a cancer plan is to work, then we need a strong clinical lead to deliver it to ensure that all the players work together and that we achieve the stated aim of all of us, which is better cancer services for all of our constituents.

 

Mae arnom angen gynllun canser—yr ydym i gyd yn gytûn ar hynny, er rwy’n sicr y byddwn yn anghytuno am beth yn union y mae’n ei olygu. Fodd bynnag, er mwyn i gynllun canser weithio, mae angen arweinydd clinigol cryf i’w roi ar waith er mwyn sicrhau bod pawb yn gweithio gyda’i gilydd a’n bod yn cyflawni’r nod datganedig y mae pob un ohonom am ei weld, sef gwasanaethau canser gwell ar gyfer ein holl etholwyr.

 

Andrew R.T. Davies: I welcome the opportunity to speak in this debate and to the motion that we have tabled calling for a national cancer plan and a cancer co-ordinator. We, on these benches, championed this extensively in the previous Assembly. The Plaid Cymru health spokesperson is right to point out that there is a commitment across this Chamber to improving cancer services, and that there is now, thankfully, a commitment to a national cancer plan following last week’s debate. I hope that Plaid Cymru, following the discussions today, will reflect on its amendment, because if its amendment is agreed it will take away a key plank with regard to delivering a national cancer plan, which is to have a cancer co-ordinator in place.

 

Andrew R.T. Davies: Croesawaf y cyfle i siarad yn y ddadl hon ac am y cynnig a gyflwynwyd gennym sy’n galw am gynllun canser cenedlaethol a chydlynydd canser. Bu i ni, ar y meinciau hyn, hyrwyddo hyn yn helaeth yn y Cynulliad blaenorol. Mae llefarydd iechyd Plaid Cymru yn iawn i nodi bod yna ymrwymiad ar draws y Siambr hon i wella gwasanaethau canser a bod erbyn hyn, diolch byth, ymrwymiad i gynllun canser cenedlaethol yn dilyn y ddadl yr wythnos diwethaf. Yr wyf yn gobeithio bod Plaid Cymru, yn dilyn y trafodaethau heddiw, yn myfyrio ar ei gwelliant, oherwydd bydd ei gwelliant yn cael ei gytuno, bydd yn tynnu elfen allweddol o ran cyflwyno cynllun canser cenedlaethol, sef rôl cydgysylltydd canser.

 

I ask the Plaid Cymru spokesperson to reflect on the comments made by her predecessor, Helen Mary Jones, in the Western Mail on 4 February, under the heading, ‘Plaid calls for a cancer tsar in Wales’. She was quoted extensively on the issue and called for cancer services to be improved. I also draw her attention to the article that was written in the Western Mail on 11 April by the same individual, which highlighted the same issues. I appreciate that Helen Mary is no longer with us in this Chamber, but that is, I believe, Plaid Cymru policy; I am not aware that Plaid policy has changed in this regard. We welcome Plaid’s support for the national cancer plan, but its Members must surely recognise that it is vital that, in order to drive this forward, there is an independent professional oncologist, with that expertise, to join up the service provision that a cancer plan would seek to deliver.

 

Gofynnaf i lefarydd Plaid Cymru i fyfyrio ar y sylwadau a wnaed gan ei rhagflaenydd, Helen Mary Jones, yn y Western Mail ar 4 Chwefror, o dan y pennawd, ‘Plaid yn galw am tsar canser yng Nghymru’. Cafodd ei dyfynnu yn helaeth ar y mater a galwodd am wasanaethau canser gwell. Rwyf hefyd yn tynnu ei sylw at erthygl a ysgrifennwyd yn y Western Mail ar 11 Ebrill gan yr un unigolyn, a dynnodd sylw at yr un materion. Yr wyf yn sylweddoli nad yw Helen Mary yn y Siambr hon bellach, ond dyna, yn fy marn i, yw polisi Plaid Cymru; nid wyf yn ymwybodol bod polisi Plaid wedi newid yn hyn o beth. Rydym yn croesawu cefnogaeth y Blaid am y cynllun canser cenedlaethol, ond mae’n rhaid i’w Haelodau gydnabod ei bod yn hanfodol, er mwyn symud hyn yn ei flaen, bod oncolegydd proffesiynol annibynnol, gyda’r arbenigedd hwnnw, i uno’r ddarpariaeth y byddai cynllun canser yn ceisio ei chynnig.

 

I hope that the Minister will reflect on the evidence that has been put forward, not just by politicians, but by all the cancer charities and the medical fraternity, which emphasise the important role that a cancer co-ordinator could undertake. You only need to look at what Mike Richards has achieved in England in terms of developing a cancer plan that encompasses the community and the whole patient pathway. There are some criticisms with regard to some aspects of the plan that has been put forward in England, and we have a unique opportunity in Wales to devise a plan that looks from the start to the finish of the patient pathway. One criticism that could be levied against the English plan is that it tends to focus too strongly on the start and the end, and not on the middle, which is the treatment part. We have a unique ability in Wales, with our understanding, to develop that centre ground, because, ultimately, it is through treatment that people will, hopefully, overcome the disease.

 

Gobeithiaf y bydd y Gweinidog yn ystyried y dystiolaeth a gyflwynwyd, nid yn unig gan wleidyddion, ond gan yr holl elusennau canser a’r frawdoliaeth feddygol, sy’n pwysleisio’r rôl bwysig y gallai cydgysylltydd canser ei chwarae. Gallwn weld yn glir yr hyn y mae Mike Richards wedi ei gyflawni yn Lloegr o ran datblygu cynllun canser sy’n cwmpasu’r gymuned a’r llwybr cyfan i’r claf. Mae rhai yn beirniadu rhai elfennau o’r cynllun sydd wedi ei gyflwyno yn Lloegr, ac mae gennym gyfle unigryw yng Nghymru i ddyfeisio cynllun sy’n edrych ar lwybr y claf o’r dechrau i’r diwedd. Un feirniadaeth y gellid ei godi yn erbyn y cynllun yn Lloegr yw ei fod yn tueddu i ganolbwyntio gormod ar y dechrau a’r diwedd, ac nid ar y canol, sef y driniaeth. Mae gennym allu unigryw yng Nghymru, gyda’n dealltwriaeth, i ddatblygu’r tir canol, oherwydd, yn y pen draw, drwy driniaeth y bydd pobl, rydym yn gobeithio, yn goresgyn y clefyd.

 

We have heard today from the Member from Cardiff Central about the real explosion that we will see in cancer cases across our communities and population. I therefore hope that the Minister, in responding to this debate, will emphasise the time frame to which the Government is working to bring this proposal forward. Sadly, when time frames have been put in place around treatment and access to cancer drugs in the past, the Government and its predecessors has been found wanting.

 

Yr ydym wedi clywed heddiw gan yr Aelod o Gaerdydd Canolog am y ffrwydrad go iawn y byddwn yn ei weld mewn achosion o ganser ar draws ein cymunedau a’n poblogaeth. Felly, yr wyf yn gobeithio y bydd y Gweinidog, wrth ymateb i’r ddadl hon, yn pwysleisio amserlen y Llywodraeth wrth weithio i weithredu’r cynnig hwn. Yn anffodus, pan gyflwynwyd amserlenni o ran triniaeth a mynediad at gyffuriau canser yn y gorffennol, mae diffyg wedi bod ar ran y Llywodraeth a’i rhagflaenwyr.

4.00 p.m.

 

My colleague Suzy Davies touched on access to key workers. Sadly, it looks like that target has been missed. In last week’s debate, we touched on the exceptions committees and the guidance that was going to provide continuity so that, irrespective of where you live in Wales, you would be treated fairly. Those guidelines were meant to be with us in September 2010; September 2011 has been and gone, and I am led to believe that some aspects of the guidance are yet to be firmed up. I hope that the Minister will be able to confirm that the health boards will be working to national guidance in that respect.

 Mae fy nghydweithiwr Suzy Davies wedi cyffwrdd ar fynediad at weithwyr allweddol. Yn anffodus, mae’n edrych fel y methwyd y targed hwnnw. Yn y ddadl yr wythnos diwethaf, roeddem wedi cyffwrdd ar y pwyllgorau eithriadau a’r canllawiau a oedd yn mynd i ddarparu dilyniant fel y byddech, waeth lle rydych yn byw yng Nghymru, yn cael eich trin yn deg. Roedd y canllawiau hynny i fod gyda ni ym mis Medi 2010; mae Medi 2011 wedi mynd heibio, ac fe’m harweinir i gredu bod rhai agweddau ar y canllawiau yn dal heb eu cadarnhau eto. Yr wyf yn gobeithio y bydd y Gweinidog yn gallu cadarnhau y bydd y byrddau iechyd yn gweithio i ganllawiau cenedlaethol yn hynny o beth.

 

We must use the tools that we have at the moment, such as the rural health plan, which has a crucial role to play in addressing the needs of patients in remote parts of Wales. Many Members will be aware of the excellent service offered by the Tenovus chemotherapy bus, as I believe it is called, which came to the Assembly. People could see that where the voluntary sector is engaged with the state sector, we can offer a comprehensive model of care and assistance, whatever part of Wales you live in. That is, surely, what the cancer plan needs to address to ensure that there is not a silo mentality. We should look at the voluntary sector as well as at the state sector, and look at working in partnership to ensure that people do not feel excluded from the treatment pathway that they want. I hope that those in Plaid Cymru will reflect on what their health spokesperson said and withdraw their amendment, given the evidence that I have presented. It is vital that this motion is passed in its entirety so that we can have confidence that the plan will be in place, with a co-ordinator who is independent of the Government having expert medical advice and assistance to drive this plan forward.

 

Rhaid i ni ddefnyddio’r offer sydd gennym ar hyn o bryd, megis y cynllun iechyd gwledig, sydd â rôl hanfodol i’w chwarae wrth fynd i’r afael ag anghenion cleifion mewn rhannau anghysbell o Gymru. Bydd llawer o Aelodau’n ymwybodol o’r gwasanaeth rhagorol a gynigir gan fws cemotherapi Tenovus, fel yr wyf yn credu y’i gelwir, a ddaeth i’r Cynulliad. Gallai pobl weld y gallwn gynnig model cynhwysfawr o ofal a chymorth ble mae’r sector gwirfoddol yn ymgysylltu â sector y wladwriaeth, pa bynnag ran o Gymru yr ydych yn byw ynddi. Dyna’r hyn y mae angen i’r cynllun canser i fynd i’r afael ag ef i sicrhau nad oes meddylfryd seilo. Dylem edrych ar y sector gwirfoddol yn ogystal â sector y wladwriaeth, ac edrych ar weithio mewn partneriaeth er mwyn sicrhau nad yw pobl yn teimlo eu bod yn cael eu cau allan o’r llwybr triniaeth y maent ei eisiau. Yr wyf yn gobeithio y bydd y rhai ym Mhlaid Cymru yn myfyrio ar yr hyn a ddywedodd eu llefarydd iechyd ac yn tynnu eu gwelliant yn ôl, o ystyried y dystiolaeth yr wyf wedi’i gyflwyno. Mae’n hanfodol bod y cynnig hwn yn cael ei basio yn ei gyfanrwydd fel y gallwn fod yn hyderus y bydd y cynllun yn ei le, gyda chydlynydd sy’n annibynnol ar y Llywodraeth yn cael cyngor a chymorth meddygol arbenigol i yrru’r cynllun yn ei flaen.

 

David Rees: Thank you, Presiding Officer, for letting me speak in this debate on an illness that is probably one of the most emotive that we will ever come across. We have heard a lot about the situation, and I do not think that anyone in the Chamber would dispute that we want to improve cancer services in Wales. I have heard some comments that suggest that our cancer services are in dire straits, however. In reply, I will note some points from a report published last month by the Welsh Cancer Intelligence and Surveillance Unit, which Darren Millar mentioned in his speech last week. The report details survival and mortality rates for different cancers over 15 years. It shows that survival rates in Wales over one year have improved, with some being at 96 per cent. Similarly, many cancers have shown a decrease in mortality over the same period. The director of the WCISU stated that this was firm evidence of real progress being made in developing cancer services and improved outcomes for those diagnosed with the disease. The report also mentions Professor Karol Sikora, one of the UK’s leading cancer specialists and medical director of Cancer Partners UK. He said that cancer services in Wales are very well organised, and that there can be no doubt that a lot of thought has put into them over the last 10 years. The results for many cancers are better than in the rest of Britain.

David Rees: Diolch, Lywydd, am adael i mi siarad yn y ddadl hon ar salwch sydd mwy na thebyg yn un o’r rhai mwyaf emosiynol y byddwn byth yn dod ar ei draws. Yr ydym wedi clywed llawer am y sefyllfa, ac nid wyf yn meddwl y byddai neb yn y Siambr yn anghytuno ein bod yn awyddus i wella gwasanaethau canser yng Nghymru. Yr wyf wedi clywed rhai sylwadau sy’n awgrymu bod ein gwasanaethau canser mewn sefyllfa enbyd, fodd bynnag. Wrth ymateb, nodaf rai pwyntiau o adroddiad a gyhoeddwyd fis diwethaf gan Uned Gwybodaeth a Gwyliadwriaeth Canser Cymru, a grybwyllwyd gan Darren Millar yn ei araith yr wythnos diwethaf. Mae’r adroddiad yn manylu cyfraddau goroesi a marwolaethau ar gyfer gwahanol ganserau dros 15 mlynedd. Dengys fod cyfraddau goroesi yng Nghymru dros gyfnod o flwyddyn wedi gwella, gyda rhai ar 96 y cant. Yn yr un modd, mae llawer o ganserau wedi dangos gostyngiad yn nifer y marwolaethau dros yr un cyfnod. Dywedodd cyfarwyddwr UGGCC fod hyn yn dystiolaeth gadarn o gynnydd gwirioneddol yn cael ei wneud o ran datblygu gwasanaethau canser a gwell canlyniadau ar gyfer y rhai sydd wedi cael diagnosis o’r clefyd. Mae’r adroddiad hefyd yn crybwyll yr Athro Karol Sikora, un o arbenigwyr canser mwyaf blaenllaw’r DU a chyfarwyddwr meddygol Cancer Partners UK. Dywedodd fod gwasanaethau canser yng Nghymru yn cael eu trefnu’n dda iawn, ac na all fod unrhyw amheuaeth bod llawer o feddwl wedi’i rhoi iddynt dros y 10 mlynedd diwethaf. Mae’r canlyniadau ar gyfer llawer o ganserau yn well nag yng ngweddill Prydain.

 

Darren Millar rose—

 

Darren Millar a gododd—

David Rees: I do not know if I have time, Darren. If I have time at the end, I will let you come in.

 

David Rees: Nid wyf yn gwybod os oes gennyf amser, Darren. Os oes gennyf amser ar y diwedd, byddaf yn gadael i chi ymyrryd.

 

We should also acknowledge something that we have so far ignored, namely the hard work and dedication of professionals and third sector organisations in delivering diagnostic, medical and support services to those 120,000 patients in Wales who are diagnosed with cancer and their families. We must not forget that, particularly as we expect the numbers to increase over the next 15 years or so. We must also talk about diagnosis, which is when treatment starts. Early diagnosis is important, and prevention and treatment have also been pivotal in the progress made over the last 10 years. Screening programmes in Wales have been vital in the battle against breast, bowel and cervical cancers. The report shows that screening women between the ages of 50 and 70 for breast cancer dramatically improved survival rates. In fact, 53.3 per cent of invasive cancers—ones that would not have been spotted by any checks by hand—were spotted through screening. However, there are problems with screening for breast cancer, as only 76 per cent of women participate. We need to increase the number of women who take up the invitation. We are not going to reach 100 per cent, because the three-year cycle is a problem. People may receive an invitation on their fifty-third birthday rather than on their fiftieth because of that cycle. England is proposing an age range of 47 to 73, so that, by the time a lady is 50, she will have been screened once. It is important that we look at this.

Dylem hefyd gydnabod rhywbeth yr ydym hyd yn hyn wedi’i hanwybyddu, sef gwaith caled ac ymroddiad gweithwyr proffesiynol a sefydliadau trydydd sector mewn darparu gwasanaethau diagnostig, meddygol a chymorth i’r 120,000 o gleifion yng Nghymru sy’n cael diagnosis o ganser a’u teuluoedd. Rhaid inni beidio ag anghofio hynny, yn enwedig gan ein bod yn disgwyl i’r niferoedd gynyddu dros y 15 mlynedd nesaf. Mae’n rhaid i ni hefyd sôn am ddiagnosis, a dyna pryd y mae triniaeth yn dechrau. Mae diagnosis cynnar yn bwysig, ac y mae atal a thrin hefyd wedi bod yn allweddol yn y cynnydd a wnaed dros y 10 mlynedd diwethaf. Y mae rhaglenni sgrinio yng Nghymru wedi bod yn hanfodol yn y frwydr yn erbyn canser y fron, canser y coluddyn a chanser ceg y groth. Dengys yr adroddiad fod sgrinio menywod rhwng 50 a 70 ar gyfer canser y fron wedi gwella cyfraddau goroesi yn ddramatig. Yn wir, gwelwyd 53.3 y cant o ganserau ymledol—rhai na fyddai wedi cael eu gweld gan unrhyw wiriadau â llaw—drwy sgrinio. Fodd bynnag, mae problemau gyda sgrinio ar gyfer canser y fron, gan mai dim ond 76 y cant o fenywod sy’n cymryd rhan. Mae angen i ni gynyddu nifer y menywod sy’n derbyn y gwahoddiad. Nid ydym yn mynd i gyrraedd 100 y cant, oherwydd bod y cylch tair blynedd yn broblem. Gall pobl dderbyn gwahoddiad ar eu pen-blwydd yn 53 yn hytrach nag ar eu hanner canfed oherwydd y cylch hynny. Mae Lloegr yn cynnig ystod oedran o 47 i 73, fel, erbyn i fenyw gyrraedd 50, y bydd wedi cael ei sgrinio unwaith. Mae’n bwysig ein bod yn edrych ar hyn.

 

Moving on to bowel cancer, for which screening has just been introduced, it has been shown that 90 per cent of bowel cancer is in those over 50 years old. The screening that has been put in place is for the over-50s. That is excellent news. I would like to see that coming in sooner for the over 50s, because we are doing 61 to 69-year-olds at the moment, with a progression towards all the age groups by 2015. I hope that that will be brought in a bit sooner so that we can cover the whole range—the 90 per cent bracket—sooner than 2015. It has been shown that the risk of dying from bowel cancer is being reduced by 15 per cent because of screening. Research work done in Cardiff into genetics has identified that there may be a genetic factor with bowel cancer. Perhaps we should be looking at encouraging those people as well to be screened. I also admit that there has to be some form of embarrassment and that it is not easy to go through that screening process. It is something that we need to look at.

Gan symud ymlaen at ganser y coluddyn, y mae sgrinio newydd gael ei gyflwyno ar ei gyfer, mae wedi bod yn dangos bod 90 y cant o ganser y coluddyn ymhlith y rheini sydd dros 50 oed. Mae’r sgrinio sydd wedi cael ei roi ar waith ar gyfer pobl dros 50 oed. Mae hynny’n newyddion gwych. Hoffwn weld hwnnw’n cael ei gyflwyno’n gynt ar gyfer pobl dros 50 oed, oherwydd yr ydym yn ei wneud ar gyfer y rheini sy’n 61 i 69 oed ar hyn o bryd, gyda dilyniant tuag at yr holl grwpiau oedran erbyn 2015. Yr wyf yn gobeithio y caiff hynny ei dwyn i mewn ychydig yn gynt fel y gallwn ymdrin â’r holl amrediad—y braced 90 y cant—yn gynt na 2015. Dangoswyd bod y risg o farw o ganser y coluddyn yn cael ei leihau o 15 y cant oherwydd sgrinio. Y mae gwaith ymchwil a wnaed yng Nghaerdydd i eneteg wedi nodi y gall fod ffactor genetig â chanser y coluddyn. Efallai y dylem fod yn edrych ar annog y bobl hynny yn ogystal i gael eu sgrinio. Rwyf hefyd yn cyfaddef bod rhyw fath o embaras ac nad yw’n hawdd mynd drwy’r broses sgrinio. Mae’n rhywbeth y mae angen inni edrych arno.

 

With cervical cancer, this is a screening process that is reducing the occurrence of cancer. However, we also now have the vaccination approach being introduced, which has already been seen in Australia to reduce the number of cases that will occur later in life. It is about early diagnosis: the earlier you spot the cancer, the less likely it is to have spread elsewhere. Therefore, it is important to continue with the screening.

Gyda chanser ceg y groth, mae hyn yn broses sgrinio sy’n lleihau achosion o ganser. Fodd bynnag, mae’r dull brechu hefyd yn cael ei gyflwyno yn awr, sydd eisoes wedi cael ei weld yn Awstralia er mwyn lleihau nifer yr achosion a fydd yn digwydd yn ddiweddarach mewn bywyd. Mae’n ymwneud â diagnosis cynnar: y cynharaf yr ydych yn dod o hyd i’r canser, y lleiaf tebygol ydyw o fod wedi lledaenu i fannau eraill. Felly, mae’n bwysig parhau gyda’r sgrinio.

 

I also welcome the Welsh Government’s investment in new technologies for screening purposes. These include the new PET scanner in Cardiff, and the Breast Test Wales vans.

Rwyf hefyd yn croesawu buddsoddiad Llywodraeth Cymru mewn technolegau newydd ar gyfer dibenion sgrinio. Mae’r rhain yn cynnwys y sganiwr PET newydd yng Nghaerdydd, a’r faniau Bron Brawf Cymru.

 

The Presiding Officer: Can you wind up, please?

Y Llywydd: A allwch ddirwyn i ben, os gwelwch yn dda?

 

David Rees: Okay. I will just repeat one thing. My predecessor as Assembly Member for Aberavon, Dr Brian Gibbons, was a Minister for health, and I hope that we continue with his desire to reduce the instances of cancer and improve the quality of life through prevention and early detection.

 

David Rees: Iawn. Yr wyf am ailadrodd un peth. Mae fy rhagflaenydd fel Aelod Cynulliad dros Aberafan, Dr Brian Gibbons, yn Weinidog dros iechyd, ac yr wyf yn gobeithio ein bod yn parhau â’i awydd i leihau’r achosion o ganser a gwella ansawdd bywyd trwy atal a chanfod yn gynnar.

The Minister for Health and Social Services (Lesley Griffiths): Preventing cancer and improving the care and treatment of cancer patients remains a top priority for the Welsh Government, but Members already know this because, only a week ago, we debated the very same issue, and we will be debating it again later on this afternoon. I set out clearly last week the Government’s commitment to a cancer plan for Wales, which is in development, and also my plans for formal consultation before it is finally published. I want to iterate that this cancer delivery plan will help to ensure that cancer patients across Wales, wherever they live and whatever their circumstances, receive the best and most appropriate treatment and care, comparable with the best in Europe, by 2015.

 Y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol (Lesley Griffiths): Mae atal canser a gwella gofal a thriniaeth ar gyfer cleifion canser yn parhau i fod yn flaenoriaeth i Lywodraeth Cymru, ond mae Aelodau eisoes yn gwybod hyn oherwydd, dim ond wythnos yn ôl, cawsom ddadl ar yr un mater yn union, a byddwn yn ei drafod eto yn nes ymlaen y prynhawn yma. Yr oeddwn wedi gosod allan yn glir yr wythnos diwethaf ymrwymiad y Llywodraeth i gynllun canser ar gyfer Cymru, sy’n cael ei ddatblygu, a hefyd fy nghynlluniau ar gyfer ymgynghoriad ffurfiol cyn ei gyhoeddi. Yr wyf am ddweud y bydd y cynllun cyflenwi canser yn helpu i sicrhau bod cleifion canser ledled Cymru, le bynnag maent yn byw a beth bynnag yw eu hamgylchiadau, yn derbyn y driniaeth a’r gofal gorau a mwyaf priodol, i’w gymharu â’r gorau yn Ewrop, erbyn 2015.

 

This plan will continue and build on the themes in our current policy, ‘Designed to Tackle Cancer in Wales’, of more prevention, early detection, improved access and better services. It will reflect our broader aims, which will also come through in other plans we are working on: a strong focus on tackling the causes of poor health and reducing inequalities, a careful review of care pathways within a network of integrated services, and clarity around performance. As I have stated previously, the focus now is very much on delivery. All patients should receive a comprehensive package of the best, effective NHS treatment and care at all times to meet their clinical needs. The plan will recognise that the sooner we can diagnose cancer, the better a person’s chances of surviving it are. We need to understand and take action to address the root causes of late presentation and diagnosis.

Bydd y cynllun hwn yn parhau ac yn adeiladu ar y themâu yn ein polisi cyfredol, ‘Cynllun i Fynd i’r Afael â Chanser yng Nghymru’, o fwy o atal, canfod yn gynnar, gwell mynediad a gwell gwasanaethau. Bydd yn adlewyrchu ein hamcanion ehangach, a fydd hefyd yn dod drwodd mewn cynlluniau eraill rydym yn gweithio arnynt: ffocws cryf ar fynd i’r afael ag achosion o iechyd gwael a lleihau anghydraddoldebau iechyd, adolygiad gofalus o lwybrau gofal o fewn rhwydwaith o wasanaethau integredig, ac eglurder ynghylch perfformiad. Fel yr wyf wedi’i ddweud o’r blaen, mae’r ffocws yn awr i raddau helaeth iawn ar gyflawni. Dylai pob claf dderbyn pecyn cynhwysfawr o’r driniaeth gorau a mwyaf effeithiol yn y GIG a gofal bob amser i ddiwallu eu hanghenion clinigol. Bydd y cynllun yn cydnabod po gynharaf y gallwn wneud diagnosis o ganser, gwell bydd cyfleoedd person i’w oroesi. Mae angen i ni ddeall a chymryd camau i fynd i’r afael ag achosion sylfaenol cyflwyniad hwyr a diagnosis.

 

We must ensure that the individual living with cancer is at the centre of everything that we do. This will be a key message running through the cancer plan—it was a message that was reiterated to me recently when I met with Macmillan Cancer Care and other members of the Wales Cancer Alliance. Person-centred care means that we must not only address the clinical needs of individual patients, but also look to address their emotional, financial and information support needs. This is something that the Welsh Government already has in hand through the introduction of care plans. Individual care plans will include clear milestones for prompt treatment and ongoing rehabilitation, as well as addressing the emotional, psychological and financial support needs, which I have already mentioned. We are developing guidance to the NHS on this.

 

Rhaid inni sicrhau mai’r unigolyn sydd yn byw â chanser sydd wrth wraidd popeth a wnawn. Bydd hyn yn neges allweddol a chyson yn ein cynllun canser—roedd yn neges a ategwyd i mi yn ddiweddar pan gyfarfûm â Gofal Canser Macmillan ac aelodau eraill o Gynghrair Canser Cymru. Mae gofal sydd yn ffocysu ar y person yn golygu na allwn ond fynd i’r afael ag anghenion clinigol cleifion unigol, ond mae’n rhaid hefyd edrych i fynd i’r afael â’u hanghenion cymorth emosiynol, ariannol a gwybodaeth. Mae hyn yn rhywbeth sydd eisoes gan Lywodraeth Cymru ar y gweill trwy gyflwyno cynlluniau gofal. Bydd cynlluniau gofal unigol yn cynnwys cerrig milltir glir ar gyfer triniaeth brydlon ac adsefydlu parhaus, yn ogystal â mynd i’r afael ag anghenion cymorth emosiynol, seicolegol ac ariannol, yr wyf eisoes wedi sôn amdanynt. Rydym yn datblygu canllawiau ar gyfer y GIG ar hyn.

 

From April this year, all people diagnosed with cancer should now have a key worker in place throughout their patient journey. Reiterating a point I made last week, a key part of the plan is to propose more of a health outcome approach to setting our expectations of the NHS and to develop a set of national indicators for measuring success. Mohammad Asghar asked me for an update. It is only a week since I announced it, but we will be having a consultation. It will commence before Christmas, and I am undecided at the moment whether the consultation period will be two or three months.

O fis Ebrill eleni, dylai pob person gyda diagnosis o ganser gael gweithiwr allweddol yn ei le yn awr drwy gydol eu taith fel claf. Gan ailadrodd pwynt a wneuthum yr wythnos diwethaf, rhan allweddol o’r cynllun yw cynnig mwy o ymagwedd canlyniad iechyd i bennu ein disgwyliadau o’r GIG ac i ddatblygu set o ddangosyddion cenedlaethol ar gyfer mesur llwyddiant. Gofynnodd Mohammad Asghar i mi am y wybodaeth ddiweddaraf. Dim ond wythnos sydd wedi bod ers i mi gyhoeddi’r peth, ond byddwn yn cael ymgynghoriad. Bydd yn dechrau cyn y Nadolig, ac nid wyf wedi penderfynu eto a fydd y cyfnod ymgynghori yn parhau dau neu dri mis.

 

This Government has made it clear that our focus is on delivery, which means working collaboratively with the NHS and others to ensure that high-quality cancer services are provided consistently across Wales. Implementation will be crucial, as there is no point in developing a plan if it is not acted upon, but we must remember that responsibility for providing high-quality cancer services sits with the NHS.

Mae’r Llywodraeth hon wedi datgan yn glir bod ein ffocws ar gyflawni, sy’n golygu gweithio ar y cyd â’r GIG ac eraill i sicrhau bod gwasanaethau canser o ansawdd uchel yn cael eu darparu’n gyson ledled Cymru. Bydd gweithredu yn hanfodol, gan nad oes unrhyw bwynt wrth ddatblygu cynllun os na chaiff ei gweithredu, ond mae’n rhaid inni gofio bod y cyfrifoldeb am ddarparu gwasanaethau canser o ansawdd uchel yn eistedd gyda’r GIG.

 

Darren Millar talked about targets. Our 62-day performance is better than England, bearing in mind that our target is 10 per cent higher than England. David Rees reminded us of the improved outcomes for people and of the fantastic and dedicated staff that we have in Wales.

Soniodd Darren Millar am dargedau. Mae ein perfformiad 62-diwrnod yn well na Lloegr, gan gofio bod ein targed yn 10 y cant yn uwch nag un Lloegr. Bu i David Rees ein hatgoffa o’r canlyniadau gwell i bobl ac o’r staff gwych ac ymroddedig sydd gennym yng Nghymru.

 

Darren Millar: I appreciate that performance in some areas may be better than in other parts of the country, but what we are talking about here is the fact that your target has been missed in every month for the last three years, and, so far, nothing has been done about it in terms of sanctions on local health boards. What are you doing setting targets and then not forcing local health boards to deliver?

Darren Millar: Yr wyf yn sylweddoli y gall perfformiad mewn rhai meysydd fod yn well nag mewn rhannau eraill o’r wlad, ond yr hyn yr ydym yn sôn amdano yma yw’r ffaith bod eich targed wedi ei golli ym mhob mis am y tair blynedd diwethaf, ac, hyd yn hyn, nid oes dim wedi cael ei wneud yn ei gylch o ran sancsiynau ar fyrddau iechyd lleol. Beth ydych chi’n ei wneud wrth osod targedau ac yna peidio â gorfodi byrddau iechyd lleol i gyflawni?

 

Lesley Griffiths: I said last week that I had met, a week last Monday, with the chairs of all the LHBs and reiterated to them my determination that targets had to be met and that, if they were not met, sanctions would be enforced.

Lesley Griffiths: Dywedais yr wythnos diwethaf fy mod i wedi cyfarfod, wythnos o ddydd Llun diwethaf, gyda chadeiryddion yr holl fyrddau iechyd lleol a wedi ailadroddodd iddynt fy mhenderfyniad eu bod yn cyrraedd targedau ac, os nad ydynt yn cael eu bodloni, bydd sancsiynau yn cael eu gorfodi.

 

Jenny Rathbone referred to lifestyle choices and what individuals need to do in relation to those. It was only yesterday that we debated the CMO’s annual report, and it highlighted the very topic that Jenny Rathbone referred to. Public Health Wales is responsible for providing professionally independent public health advice on issues surrounding awareness raising, prevention and services, including population screening, to protect and improve the health and wellbeing of the population of Wales.

Cyfeiriodd Jenny Rathbone at ddewisiadau ffordd o fyw a’r hyn y mae angen i unigolion ei wneud mewn perthynas â’r rheini. Dim ond ddoe y trafodasom adroddiad blynyddol y Prif Swyddog Meddygol, ac mae’n tynnu sylw at yr union bwnc y cyfeiriodd Jenny Rathbone ato. Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn gyfrifol am ddarparu cyngor iechyd cyhoeddus proffesiynol annibynnol ar faterion yn ymwneud â chodi ymwybyddiaeth, atal a gwasanaethau, gan gynnwys sgrinio’r boblogaeth, i ddiogelu a gwella iechyd a lles poblogaeth Cymru.

 

At a national level, we have a cancer implementation group, which is chaired by my medical director. It includes the nominated executive leads for cancer from each of the seven LHBs and Velindre NHS Trust. This group has helped to drive the significant increase in levels of compliance with national cancer standards. We also have the cancer research network, which Kirsty Williams referred to.

Ar lefel genedlaethol, mae gennym grŵp gweithredu canser, sy’n cael ei gadeirio gan fy nghyfarwyddwr meddygol. Mae’n cynnwys arweinwyr gweithredol ar gyfer canser a enwebwyd o bob un o’r saith bwrdd iechyd lleol ac Ymddiriedolaeth GIG Felindre. Mae’r grŵp hwn wedi helpu i yrru’r cynnydd sylweddol yn y lefelau o gydymffurfio â safonau canser cenedlaethol. Mae gennym hefyd y rhwydwaith ymchwil canser, y cyfeiriodd Kirsty Williams ato.

 

In response to the Welsh Conservatives’ call for a co-ordinator, we already have in place two cancer network teams and the national specialist advisory group for cancer, which provides expertise on cancer service needs at a local level and an all-Wales level. I believe that these arrangements, together with the cancer implementation group, mean there is no need to appoint a single individual to champion cancer issues, as in England, to achieve the excellent cancer care that I aspire to. I do not understand the Welsh Conservatives’ obsession with wanting to do everything the English way. [Interruption.] I will take no lectures from a party that is pursuing NHS reforms that nobody wants, apart from a group of peers who have missed the opportunity to block the Bill altogether this afternoon.

Mewn ymateb i alwad y Ceidwadwyr Cymreig ar gyfer cydlynydd, y mae eisoes dau dîm rhwydwaith canser yn eu lle a grŵp cynghori arbenigol cenedlaethol ar gyfer canser, sy’n darparu arbenigedd ar anghenion gwasanaeth canser ar lefel lleol a lefel Cymru gyfan. Yr wyf yn credu bod y trefniadau hyn, ynghyd â’r grŵp gweithredu canser, yn golygu nad oes angen penodi unigolyn i hyrwyddo materion canser, fel yn Lloegr, i gyflawni’r gofal canser rhagorol yr wyf yn anelu ato. Nid wyf yn deall obsesiwn y Ceidwadwyr Cymreig am wneud popeth yn yr un ffordd â Lloegr. [Torri ar draws.] Ni chymeraf unrhyw ddarlithoedd gan blaid sydd yn mynd ar drywydd diwygiadau GIG nad oes neb yn eu dymuno, ar wahân i grŵp yn Nhŷ’r Arglwyddi sydd wedi colli’r cyfle i atal y Bil yn gyfan gwbl y prynhawn yma.

 

The Government’s amendment to the motion recognises that we need to take stock of the current arrangements and review what is needed for the future to provide effective leadership and support to the NHS at a national level. In relation to the plan, I want to consider—[Interruption.]

Mae gwelliant y Llywodraeth i’r cynnig yn cydnabod bod angen i ni bwyso a mesur y trefniadau presennol ac adolygu’r hyn sydd ei angen ar gyfer y dyfodol i ddarparu arweiniad a chymorth effeithiol i’r GIG ar lefel genedlaethol. O ran y cynllun, rwyf am ystyried—[Torri ar draws.]

 

The Presiding Officer: Order. Will you listen? Thank you.

Y Llywydd: Trefn. A wnewch chi wrando? Diolch.

 

Lesley Griffiths: Thank you, Presiding Officer. I want to consider whether the model we have established for maternity services might be adapted for cancer care. In this model, we have a national group that oversees a number of key programmes of work, designed to inform local health board service planning and delivery in key areas by bringing together input and information from all stakeholders. The medical director is currently reviewing arrangements at an all-Wales level for clinical advice and how this advice can be translated into effective planning at a local level. The draft cancer plan will set out our proposals for how I intend to support local health boards, and today’s debate will help inform that thinking.

Lesley Griffiths: Diolch i chi, Lywydd. Rwyf am ystyried a yw’r model yr ydym wedi ei sefydlu ar gyfer gwasanaethau mamolaeth yn gallu cael ei haddasu ar gyfer gofal canser. Yn y model hwn, mae gennym grŵp cenedlaethol sy’n goruchwylio nifer o raglenni gwaith allweddol, a gynlluniwyd i hysbysu cynllunio gwasanaethau byrddau iechyd lleol a darpariaeth mewn meysydd allweddol drwy ddod â mewnbwn a gwybodaeth gan yr holl randdeiliaid. Ar hyn o bryd mae’r cyfarwyddwr meddygol yn adolygu trefniadau ar lefel Cymru gyfan ar gyfer cyngor clinigol a sut y gall y cyngor hwn gael ei gyfieithu i gynllunio effeithiol ar lefel leol. Bydd y cynllun canser drafft yn nodi ein cynigion ar gyfer sut yr wyf yn bwriadu cefnogi byrddau iechyd lleol, a bydd y ddadl heddiw yn helpu i lywio hynny.

 

Both Suzy Davies and Andrew R.T. Davies referred to the third sector, and I agree that it has a vital part to play in the national cancer plan.

Bu i Suzy Davies ac Andrew R.T. Davies gyfeirio at y trydydd sector, ac yr wyf yn cytuno bod ganddi ran hanfodol i’w chwarae yn y cynllun canser cenedlaethol.

 

Andrew R.T. Davies: Will you take an intervention?

Andrew R.T. Davies: A wnewch chi dderbyn ymyriad?

 

Lesley Griffiths: No. I would like to reassure Andrew R.T. Davies that I always reflect on evidence. I am a Minister who likes to make decisions based on evidence. I trust that this debate clarifies, beyond any doubt, that the Welsh Government is committed to establishing a cancer plan for Wales that will further improve the quality and provision of person-centred care for people with cancer.

Lesley Griffiths: Na. Hoffwn dawelu meddwl Andrew R.T. Davies fy mod bob amser yn ystyried y dystiolaeth. Yr wyf yn Weinidog sy’n hoffi gwneud penderfyniadau yn seiliedig ar dystiolaeth. Hyderaf fod y ddadl hon yn egluro, y tu hwnt i unrhyw amheuaeth, bod Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i sefydlu cynllun canser ar gyfer Cymru a fydd yn gwella ymhellach ansawdd a darpariaeth gofal sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn ar gyfer pobl â chanser.

 

4.15 p.m.

 

Nick Ramsay: The Minister knows that I always appreciate her contributions, but particularly when she says that she will not take any lessons from us, the party that would have protected the health budget and not cut £1 billion from it—in real terms, before the answer comes back about cash.

 

Nick Ramsay: Mae’r Gweinidog yn gwybod fy mod bob amser yn gwerthfawrogi ei chyfraniadau, ond yn enwedig pan mae hi’n dweud na fydd hi’n cymryd unrhyw wersi oddi wrthym, y blaid a fyddai wedi gwarchod y gyllideb iechyd, ac nid torri £1 biliwn ohono—mewn termau real, cyn i’r ateb ddod yn ôl am arian parod.

 

If AMs have not got the message yet, you should get it now: we support a cancer co-ordinator. That message has come through loud and clear. We stand by that. We called for it before the elections and we call for it now. The reason for doing so was summed up quite eloquently in Darren Millar’s opening contribution, when he quoted the statistics and spoke about the lives behind the statistics. I know that Ann Jones is always eager for us to look behind the statistics and figures at the families, individuals, mothers and fathers and children who are affected. Quite simply, we believe that a cancer co-ordinator would create a line of responsibility and help massively to ensure that action is taken. Yes, we have had a number of debates on this issue, and we often sit here in the Chamber listening as the same points are made, pointing out what we think should be done, but does it actually happen?

 

Os nad yw Aelodau’r Cynulliad wedi cael y neges eto, dylech ei gael yn awr: rydym yn cefnogi cael cydlynydd canser. Mae’r neges honno wedi bod yn glir. Rydym yn dal i gefnogi hynny. Bu i ni alw amdano cyn yr etholiad ac rydym yn dal i alw amdano yn awr. Cafodd y rheswm dros wneud hynny ei grynhoi yn huawdl yng nghyfraniad agoriadol Darren Millar, pan ddyfynnodd yr ystadegau a phan siaradodd am y bywydau y tu ôl i’r ystadegau. Gwn fod Ann Jones bob amser yn awyddus i ni edrych y tu ôl i’r ystadegau a’r ffigurau i weld y teuluoedd, unigolion, mamau a thadau a phlant yr effeithir arnynt. Yn syml, credwn y byddai cydlynydd canser yn creu llinell gyfrifoldeb ac yn helpu’n sylweddol i sicrhau bod gweithredu. Mae’n wir ein bod wedi cael sawl dadl ar y mater hwn, ac yr ydym yn aml yn eistedd yma yn y Siambr yn gwrando wrth i’r un pwyntiau gael eu gwneud, gan nodi’r hyn y credwn y dylid ei wneud, ond a ydyw’n digwydd mewn gwirionedd?

 

Yes, Minister, there has been progress; there is no doubt about that. For me, the glass is half full—I am an optimist—but there are other areas in which we believe a cancer co-ordinator could really help. I listened to Elin Jones’s contribution earlier. I think that she asked me to check the Plaid manifesto. I do not have a copy of that on me at the moment, but perhaps I will flick through it on a rainy day. However, there is no doubt at all that Helen Mary Jones, as Andrew R.T. Davies said earlier, called for a director of cancer services, saying that we needed a senior figure to drive up the consistency of approach and promote excellence. That was an excellent opinion from Helen Mary Jones, I think, and one that we can probably be seen to be standing by more than the Member for Ceredigion.

 

Mae’n wir, Weinidog, y bu cynnydd; nid oes amheuaeth am hynny. I mi, mae’r gwydr yn hanner llawn—yr wyf yn optimist—ond ceir meysydd eraill lle credwn y byddai cydgysylltydd canser yn darparu help go iawn. Gwrandewais ar gyfraniad Elin Jones yn gynharach. Credaf iddi ofyn i mi edrych ar faniffesto Plaid. Nid oes gennyf gopi ohono ar hyn o bryd, ond efallai y gwnaf fwrw golwg drosto ar ddiwrnod gwlyb. Fodd bynnag, nid oes amheuaeth o gwbl bod Helen Mary Jones, fel y bu i Andrew R.T. Davies ddweud yn gynharach, wedi galw am gyfarwyddwr gwasanaethau canser, gan ddweud bod angen ffigur uwch i wella cysondeb o ran ymagwedd ac i hybu rhagoriaeth. Dyna oedd barn ragorol gan Helen Mary Jones, yn fy marn i, ac un y gallem ni gael ein gweld yn ei gefnogi yn fwy na’r Aelod dros Geredigion.

 

Elin Jones: Thank you for giving way. It is often a rainy day in Wales, so I hope that you will soon get the opportunity to read the Plaid Cymru manifesto. What I said this afternoon—wholly in line with Plaid Cymru policy and, you will see if you read them carefully, Helen Mary Jones’s comments—is that we do not see a need for a director who is independent of Government. However, as I said in my speech, we are supporting a clear direction from within Government. We would want to see that as part of the cancer plan.

 

Elin Jones: Diolch ichi am ildio. Mae’n aml yn ddiwrnod glawog yng Nghymru, felly yr wyf yn gobeithio y byddwch yn fuan yn cael y cyfle i ddarllen maniffesto Plaid Cymru. Yr hyn a ddywedais y prynhawn yma—yn unol â pholisi Plaid Cymru a, fel y gwelwch os darllenwch nhw’n ofalus, sylwadau Helen Mary Jones—yw nad ydym yn gweld yr angen am gyfarwyddwr sy’n annibynnol o’r Llywodraeth. Fodd bynnag, fel y dywedais yn fy araith, yr ydym yn cefnogi cyfeiriad clir o fewn y Llywodraeth. Byddem am weld hynny fel rhan o’r cynllun canser.

 

Nick Ramsay: On that we differ, because we believe that independence is a necessary part of that. Why you do not want to support that I do not understand. However, we can discuss that again, Elin, on a rainy day.

 

Nick Ramsay: Yr ydym yn anghytuno ar hynny oherwydd ein bod yn credu bod annibyniaeth yn rhan angenrheidiol o hynny. Nid wyf yn deall pam nad ydych am gefnogi hynny. Fodd bynnag, gallwn drafod hynny rywbryd eto, Elin, ar ddiwrnod gwlyb.

 

Jenny Rathbone is certainly the first Assembly Member to bring a floret of broccoli into the Chamber. I cannot remember that happening before. You have given Russell George some ideas: he was talking about bringing a pylon into the next debate on windfarms. You made your points very well. You spoke about the need for preventive action and I think that we all agree that, ultimately, if we are going to meet the massive challenges that the NHS is facing, we certainly need preventive measures. You made some very good points on that.

 

Yn sicr, Jenny Rathbone yw’r Aelod Cynulliad cyntaf i ddod â ffloret o frocoli i mewn i’r Siambr. Ni allaf gofio hynny’n digwydd o’r blaen. Yr ydych wedi rhoi rhai syniadau i Russell George: yr oedd yn sôn am ddod â pheilon i mewn i’r ddadl nesaf ar ffermydd gwynt. Gwnaethoch eich pwyntiau’n dda iawn. Soniasoch am yr angen am weithredu ataliol a chredaf ein bod i gyd yn cytuno, yn y pen draw, os ydym yn mynd i gwrdd â’r heriau anferth y mae’r GIG yn eu hwynebu, rydym yn sicr angen mesurau ataliol. Gwnaethoch rai pwyntiau da iawn ar hynny.

 

Suzy Davies reiterated the point about the cancer strategy and the whole care pathway. I know that, in their debate, the Liberal Democrats will talk about the holistic approach. I tend to avoid talking about a holistic approach; I prefer the whole care pathway approach. It tied in with some comments that Darren Millar and Andrew R.T. Davies made about the beginning, the middle and the end. This is a process that, from start to finish, needs careful monitoring. Indeed, too often, it is forgotten that, after people have recovered from cancer is when they need treatment. I was shocked by the statistic that half of all former cancer sufferers say that they do not feel that they have had the necessary support after they have got over cancer.

 

Ailadroddodd Suzy Davies y pwynt am y strategaeth canser a’r llwybr gofal cyfan. Gwn y bydd y Democratiaid Rhyddfrydol, yn eu dadl, yn siarad am y dull holistaidd. Yr wyf yn tueddu i osgoi siarad am ymagwedd holistaidd; mae’n well gennyf yr ymagwedd llwybr gofal cyfan. Mae’n clymu i mewn gyda rhai sylwadau a wnaeth Darren Millar ac Andrew R.T. Davies o ran y dechrau, y canol a’r diwedd. Mae hon yn broses sydd, o’r dechrau i’r diwedd, angen ei monitro yn ofalus. Yn wir, yn rhy aml, mae’r pwynt yn cael ei hanghofio bod angen triniaeth ar bobl ar ôl iddynt ddod dros ganser. Cefais fy synnu gan yr ystadegyn bod hanner cyn-ddioddefwyr canser yn dweud nad ydynt yn teimlo eu bod wedi cael y cymorth angenrheidiol ar ôl iddynt ddod dros ganser.

 

Kirsty Williams, you spoke about a co-ordinator. You used different names; I think that you spoke about whether they would be a tsar or a champion. However, you made the point that it is change that matters. I know that you do not agree specifically with our point about the co-ordinator, but you made the point that something is needed to try to effect change. We have been quite clear on this side of the Chamber that we feel that a co-ordinator would provide that line of accountability. It is accountability, not just in this debate, but in all aspects of all discussions on the NHS, that we come back to. If you increase accountability and responsibility and give someone an independent responsibility for taking care of cancer or other health issues, the evidence is that we are more likely to get somewhere.

 

Kirsty Williams, bu ichi siarad am gydlynydd. Defnyddiasoch enwau gwahanol; credaf eich bod yn siarad am a fyddent yn tsar neu’n bencampwr. Fodd bynnag, gwnaethoch y pwynt mai newid sy’n bwysig. Gwn nad ydych yn cytuno yn benodol â’n pwynt am y cydlynydd, ond gwnaethoch y pwynt bod angen rhywbeth i geisio sicrhau newid. Yr ydym wedi bod yn eithaf clir ar yr ochr hon i’r Siambr ein bod yn teimlo y byddai cydlynydd yn darparu llinell atebolrwydd. Rydym bob amser yn dod yn ôl i atebolrwydd, nid dim ond yn y ddadl hon, ond ym mhob agwedd ar bob trafodaeth ar y gwasanaeth iechyd gwladol. Os ydych yn cynyddu atebolrwydd a chyfrifoldeb ac yn rhoi cyfrifoldeb annibynnol i rywun dros ofalu am ganser neu faterion iechyd eraill, mae’r dystiolaeth yn dangos ein bod yn fwy tebygol o weld cynnydd.

 

Kirsty Williams also spoke about turf warfare in the NHS and knocking heads together, and I think that there was some agreement in the Chamber on that. Certainly, in the case of cancer, it is necessary to have an approach that is not distracted. It is a matter of getting to grips with the disease and the complexities of the disease early on, and it is important to ensure that people are not distracted and that patients can rely on the completely focused approach that they deserve. Often, there are good aspects to treatment pathways, but it is a matter of tying all of those together in a way that delivers the best possible outcome for the patient.

 

Siaradodd Kirsty Williams hefyd am ryfel dros dir yn y gwasanaeth iechyd gwladol a churo pennau â’i gilydd, a chredaf fod rhywfaint o gytuno yn y Siambr ynglŷn â hynny. Yn sicr, yn achos canser, mae angen cael ymagwedd nad yw’n colli ei ffocws. Mae’n fater o fynd i’r afael â’r clefyd a chymhlethdodau’r clefyd yn gynnar, ac mae’n bwysig sicrhau nad yw pobl yn colli ffocws ac y gall cleifion ddibynnu ar ddull sydd â’r ffocws y maent yn ei haeddu. Yn aml, mae agweddau da i lwybrau triniaeth, ond mae’n fater o glymu hynny i gyd at ei gilydd mewn ffordd sy’n sicrhau’r canlyniad gorau posibl i’r claf.

 

Minister, it is clear that you agreed with other Assembly Members on the need to do as much as possible to tackle cancer. I urge you to reconsider your position on the amendments. We believe that the motion, as it stands, does not need to be weakened. For that reason, we will oppose the amendments. In terms of the review that has been suggested by the Government, we have been through reviews before, and we would now like to see action. We have set out clearly the form that that action could take: having a clear line of responsibility, having accountability and having a cancer co-ordinator whom the Minister could ask for advice as to what can be done to improve the situation. We do not have that at the moment, so I urge Members to support the motion and to move cancer services in Wales forward.

 

Weinidog, mae’n amlwg eich bod yn cytuno ag Aelodau Cynulliad eraill ar yr angen i wneud cymaint â phosibl i fynd i’r afael â chanser. Fe’ch anogaf i ailystyried eich safbwynt ar y gwelliannau. Credwn nad oes angen gwanhau’r cynnig fel ag y mae. Am y rheswm hwnnw, byddwn yn gwrthwynebu’r gwelliannau. O ran yr adolygiad sydd wedi ei awgrymu gan y Llywodraeth, yr ydym wedi bod drwy adolygiadau o’r blaen, a hoffem weld camau gweithredu yn awr. Rydym wedi nodi’n glir sut y gellir gweithredu: cael llinell gyfrifoldeb glir, cael atebolrwydd a chael cydlynydd canser a fyddai’n gallu darparu cyngor i’r Gweinidog ynghylch yr hyn y gellir ei wneud i wella’r sefyllfa. Nid oes gennym hynny ar hyn o bryd, felly yr wyf yn annog Aelodau i gefnogi’r cynnig ac i wella gwasanaethau canser yng Nghymru.

 

The Presiding Officer: The proposal is to agree the motion without amendment. Does any Member object? I see that there is an objection. Therefore, I will defer all voting on this item until voting time.

 

Y Llywydd: Y cynnig yw cytuno ar y cynnig heb ei ddiwygio. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Gwelaf fod gwrthwynebiad. Felly, gohiriaf yr holl bleidleisio ar yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.

 

Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.
Voting deferred until voting time.

 

Daeth y Dirprwy Lywydd (David Melding) i’r Gadair am 4.22 p.m.
The Deputy Presiding Officer (David Melding) took the Chair at 4.22 p.m.

 

Dadl Plaid Cymru
Plaid Cymru Debate

 

Arian Cyfalaf
Capital Funding

 

Y Dirprwy Lywydd: Yr wyf wedi dethol gwelliannau 1, 2 a 3 yn enw William Graham a gwelliannau 4, 5 a 6 yn enw Peter Black.

 

The Deputy Presiding Officer: I have selected amendments 1, 2 and 3 in the name of William Graham and amendments 4, 5 and 6 in the name of Peter Black.

 

Cynnig NDM4822 Jocelyn Davies

 

Motion NDM4822 Jocelyn Davies

 

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

 

The National Assembly for Wales:

 

1. Yn gresynu wrth y toriad o 41 y cant yng nghyllideb cyfalaf Llywodraeth Cymru ac effaith niweidiol hynny ar y sector adeiladu; a

 

1. Regrets the 41% cut in the Welsh Government’s capital budget and its adverse impact on the construction sector; and

 

2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ysgogi’r economi drwy:

 

2. Calls on the Welsh Government to stimulate the economy by:

 

a) Creu cronfa buddsoddiad seilwaith;

 

a) Creating an infrastructure investment fund;

 

b) Defnyddio pwerau benthyg Awdurdodau Lleol;

 

b) Making use of Local Authority borrowing powers;

 

c) Gweithredu i helpu i gynyddu canran y cwmnïau yng Nghymru sy’n ennill tendrau caffael cyhoeddus; a

 

c) Taking action to help increase the percentage of Welsh based companies winning public procurement tenders; and

 

d) Chwilio am ffyrdd arloesol o godi cyfalaf ar gyfer prosiectau seilwaith ar wahân i Fenter Cyllid Preifat.

 

d) Looking for innovative ways of raising capital for infrastructure projects other than PFI.

 

Alun Ffred Jones: Cynigiaf y cynnig.

 

Aled Ffred Jones: I move the motion.

 

Mae’n bleser gennyf gyflwyno’r cynnig hwn. Yr hyn sy’n gwneud y ddadl hon mor amserol a difrifol yw’r ffigurau diweithdra sydd wedi eu cyhoeddi heddiw. Yn ôl y ffigurau, mae 9 y cant o bobl Cymru yn ddi-waith, o gymharu â ffigur cyfartalog y Deyrnas Unedig o ychydig dros 8 y cant. Mae hi’n deg i ddweud bod rhai ardaloedd yn Lloegr hefyd yn dioddef, ac yn dioddef yn waeth, er bod ffigurau’r Alban yn dangos bod 7.9 y cant yn unig yn ddi-waith. Serch hynny, mae’r cynnydd mewn diweithdra yng Nghymru ers y chwarter diwethaf dros 1 y cant—yr ail fwyaf yn y Deyrnas Unedig. Mae un ffigur sy’n waeth, sef y ffigur ar gyfer gogledd-ddwyrain Lloegr—ardal sydd, yn aml iawn, naill ai ar ben neu ar waelod y rhestrau gyda Chymru.

 

It is a pleasure to move this motion. What makes this debate so timely and serious are the unemployment figures that have been published today. According to those figures, 9 per cent of the people of Wales are unemployed, compared to a United Kingdom average of just over 8 per cent. It is fair to say that some areas of England are also suffering, and are suffering greater unemployment, but the figures for Scotland show that only 7.9 per cent are unemployed. Despite that, the increase in unemployment in Wales since the last quarter is over 1 per cent—the second largest in the United Kingdom. There is one figure that is worse and that is the figure for north-east England—an area that is, very often, either at the top or the bottom of such lists alongside Wales.

 

Yr ardaloedd hynny sydd â’r sectorau preifat gwanaf sy’n cael eu taro gwaethaf, ac mae Cymru yn un o’r rheiny. Hefyd, ynghyd â’r ffigurau hyn, mae ffigurau brawychus eraill ynglŷn â diweithdra ymhlith pobl ifanc o dan 24 oed. Mae’r ffigur ar gyfer y Deyrnas Unedig wedi cynyddu o 1.6 y cant i 21.3 y cant—y cynnydd uchaf ers dechrau cofnodion yn 1992. Nid yw ffigurau Cymru yn cael eu cyhoeddi bob chwarter, dim ond yn flynyddol, ond y gwir amdani yw bod ffigur Cymru ar gyfer diweithdra ymhlith pobl ifanc eisoes yn uwch na’r ffigur hwnnw ar ddiwedd 2010, gydag ychydig dros 22.5 y cant yn ddi-waith. Yr ydym yn gwybod hefyd bod chwarter o’r rheiny a raddiodd ddwy flynedd yn ôl o’n colegau a’n prifysgolion yn dal i fod heb waith. Mae datganiad y Prif Weinidog heddiw yn cydnabod y sefyllfa ddifrifol gyffredinol sy’n wynebu pob un. Felly, mae’n sefyllfa argyfyngus iawn.

 

It is those areas that have the weakest private sectors that are being worst hit, and Wales is one of those. Also, alongside these figures, there are other frightening figures about unemployment among young people under the age of 24. The figure for the United Kingdom has increased by 1.6 per cent to 21.3 per cent—the greatest increase since records began in 1992. The figures for Wales are not published every quarter, only annually, but the truth is that youth unemployment in Wales was already higher than that figure at the end of 2010, with a little over 22.5 per cent unemployed. We also know that a quarter of those who graduated two years ago from our colleges and universities are still unemployed. The First Minister’s statement today acknowledges the generally serious situation that we are all facing. Therefore, it is a critical situation.

 

Tra fy mod yn cydnabod na allwn ni na’r Llywodraeth ddylanwadu ar y sefyllfa ryngwladol, a bod ein pwerau yn gyfyngedig, nid yw hynny yn esgus dros wneud dim byd. Mae’r sefyllfa yn fy atgoffa o ddywediad gan yr hen wag o sir Geredigion, Eirwyn Pont-siân, a fyddai’n cynnig y cyngor doeth, ‘Os wyt ti mewn twll, trïa ddod mas ohono fe’. Yr oedd ef yn dweud yr amlwg. Ond, yn sicr, yr ydym ni mewn twll ar hyn o bryd ac mae angen i ni ddangos sut yr ydym yn bwriadu dod allan ohono.

 

While I acknowledge that neither we nor the Government can influence the international situation, and that our powers are limited, that is not an excuse for doing nothing. The situation reminds me of a saying by that old wag from Ceredigion, Eirwyn Pont-siân, who would offer such sage advice as, ‘If you’re in a hole, try to get out of it’. He used to state the obvious. However, we are certainly in a hole at the moment and we need to demonstrate how we intend to get out of it.

 

Beth allwn ni ei wneud yn wyneb y sefyllfa economaidd fregus sydd ohoni? Mae ein cynnig ni yn awgrymu rhai camau ymarferol; camau yr ydym ni, ar yr ochr hon i’r Siambr, yn teimlo bod angen eu gweithredu ar frys. Ni fydd cwmnïau adeiladu, trydanwyr, seiri, plastrwyr a syrfewyr sy’n wynebu diweithdra yn diolch i ni, nac i’r Llywodraeth, am ddweud pethau megis, ‘Yr ydym yn edrych ar opsiynau’, neu, ‘Yr ydym yn ystyried camau gweithredu yn y dyfodol’.

 

What can we do in the current fragile economic climate? Our motion suggests some practical steps that we, on this side of the Chamber, feel should be implemented urgently. Construction companies, electricians, carpenters, plasterers and surveyors who are facing unemployment will not thank us, or the Government, for saying things like, ‘We are considering the options’, or, ‘We are considering actions that may be taken in future’.

 

Mae ein cynnig yn sôn, yn gyntaf, am greu cronfa buddsoddiad seilwaith—y cynllun Adeiladu dros Gymru—yn ail, am ddefnyddio pwerau benthyg awdurdodau lleol ar gyfer cynlluniau cyfalaf, ac, yn drydydd, am weithredu i helpu i gynyddu canran y cwmnïau yng Nghymru sydd yn ennill tendrau caffael cyhoeddus. Mae’r Athro Kenneth Morgan wedi ysgrifennu yn helaeth ar yr hyn y dylwn fod yn ei wneud i geisio gwella ein perfformiad, ac am chwilio am ffyrdd arloesol i godi cyfalaf ar gyfer prosiectau seilwaith ar wahân i’r fenter cyllid preifat. Dyna ein cynnig ac y mae nifer o arbenigwyr yn cefnogi ein safbwyntiau.

 

Our motion mentions, first, the creation of an infrastructure investment fund—the Build for Wales scheme—secondly, making use of local authority borrowing powers for capital schemes, and, thirdly, taking action to help increase the percentage of companies in Wales winning public procurement tenders. Professor Kenneth Morgan has written extensively on what we should be doing to try to improve our performance and about finding innovative ways of raising capital for infrastructure projects, other than PFI schemes. That is our motion and several experts agree with our point of view.

 

Ysgrifennodd Gerry Holtham, yn union wedi’r etholiadau, yn gofyn am gynllun. Yr oedd yn pwysleisio bod hawliau benthyg llywodraeth leol yn un ffordd y gallem godi arian ar gyfer cynlluniau cyfalaf. Yr oedd hefyd yn sôn am greu cronfa tua £600 miliwn y flwyddyn ar gyfer ymateb, oherwydd y ffordd y mae’r diwydiant adeiladu yn gallu dechrau ar waith yn gyflym a chyflogi yn gyflym.

 

Gerry Holtham wrote, immediately following the elections, asking for a plan. He emphasised that local authority borrowing rights were one way that we could raise money for capital schemes. He also mentioned the creation of a fund of about £600 million a year for a response, because of the way in which the construction industry can start work quickly and employ people quickly.

 

Mae’r Athro Brian Morgan hefyd wedi ysgrifennu ar yr un pwynt, gan bwysleisio bod angen cynlluniau ym meysydd trafnidiaeth ac ynni. Ond, nid nhw yw’r unig arbenigwyr sydd yn cefnogi ein safbwyntiau. Mae John Springford, sy’n uwch-ymchwilydd yn y Sefydliad Marchnad Gymdeithasol, yn dweud bod buddsoddi mewn isadeiledd yn bolisi da ac yn wleidyddiaeth dda. Mae yntau hefyd yn sôn am gynlluniau a fyddai yn dod â budd i’r Trysorlys o ganlyniad i fuddsoddi mewn cynlluniau trafnidiaeth ac ynni.

 

Professor Brian Morgan has also written on this point, emphasising the need for transport and energy schemes. However, they are not the only experts who support our point of view. John Springford, a senior researcher at the Social Market Foundation, says that investing in infrastructure is good policy and good politics. He also mentions schemes that would benefit the Treasury as a result of investment in transport and energy schemes.

 

John Springford says that the UK Government should set up a national infrastructure bank, through which state and private sector cash flows to assets that will bring clear revenues. He says that private markets are good at making bets on productive investments, far better than planners, and that they will be willing to piggyback on state investment because the risks will be lower and therefore the returns will be more certain.

 

Dywed John Springford y dylai Llywodraeth y Deyrnas Unedig sefydlu banc seilwaith cenedlaethol, a thrwy hwn byddai arian o’r wladwriaeth a’r sector preifat yn llifo i asedau a fyddai’n dod â refeniw clir. Dywed bod marchnadoedd preifat yn dda o ran gwneud betiau ar fuddsoddiadau cynhyrchiol, llawer gwell na chynllunwyr, ac y byddant yn barod i ychwanegu at fuddsoddiad gan y wladwriaeth gan y byddai’r risgiau yn is ac felly bydd mwy o sicrwydd o ran yr enillion.

 

Dyna yn union oedd y cynllun Adeiladu dros Gymru y cyfeiriodd Plaid Cymru ato cyn yr etholiad; yr hyn yr ydym yn dal i gredu y dylwn fod yn anelu ato. Credwn y byddai cael cronfa oddeutu £500 miliwn—y mae Holtham yn sôn am £600 miliwn—yn ffordd o greu degau o filoedd o swyddi sydd eu hangen yn fawr yng Nghymru heddiw. Yr ydym am weld buddsoddiad mewn cynlluniau trafnidiaeth, ysgolion, ysbytai, cartrefi newydd a seilwaith ehangach i annog twf economaidd yng Nghymru.

 

That is exactly what the Build for Wales scheme that Plaid Cymru proposed before the elections was to be—that which we still believe we should aim for. We believe that having a fund of about £500 million—Holtham mentions £600 million—would be a way of creating tens of thousands of jobs that are greatly needed in Wales today. We want to see investment in transport schemes, schools, hospitals, new homes and the broader infrastructure to encourage economic growth in Wales.

 

Yn sylfaen i hyn, byddai angen cynllun seilwaith i Gymru gyfan. Byddai angen i’r Llywodraeth gytuno ar gynllun o’r fath. Mae’r mecanwaith i godi arian yn y ffordd hon yn debyg iawn i gynlluniau’r Alban, ac y mae pwerau benthyg ar fin cael eu datganoli i’r Alban. Byddai’n gorff annibynnol, tebyg i’r model yr oedd John Springford yn cyfeirio ato, ac yn gwmni dielw. Byddai unrhyw elw o ganlyniad i’w weithgarwch yn cael ei ail-fuddsoddi mewn cynlluniau ar gyfer gwella isadeiledd Cymru. Dyna ein cynigion ni ar gyfer ymateb i’r argyfwng hwn.

 

 

As a foundation for this, an infrastructure plan for the whole of Wales would be needed. The Government would need to agree such a plan. The mechanism for raising money in this way is very similar to Scotland’s plans, and borrowing powers are about to be devolved to Scotland. It would be an independent body, similar to the model to which John Springford referred, and a not-for-profit company. Any profit as a result of its activities would be reinvested in schemes to improve the infrastructure of Wales. Those are our suggestions for responding to this crisis.

4.30 p.m.

 

 

Mae o fewn pwerau’r Cynulliad i wneud hynny, ond mae angen gweithredu ar fyrder. Byddai creu cwmni hyd braich yn cymryd peth amser, ond byddai penderfyniad buan ein bod yn bwriadu gwneud hynny yn dangos cyfeiriad clir ac yn arwydd o fwriad i’r sector adeiladu. Yn y cyfamser, mae angen gweithio gyda llywodraeth leol ac edrych ar hawl gwario’r Llywodraeth er mwyn sbarduno mwy o fuddsoddiad yn ein hisadeiladwaith er mwyn inni gael y budd gorau i geisio ymateb i’r sefyllfa argyfyngus sydd ohoni.

 

It is within the Assembly’s powers to do so, but we must act at once. Setting up an arm’s-length company would take some time, but an early decision that we intended to do so would show a clear direction and would signpost our intention to the construction sector. In the meantime, we must work with local government and look at the Government’s ability to spend in order to kick-start investment in our infrastructure to secure the best advantage as we try to respond to the critical situation that we face.

 

Gwelliant 1 William Graham

 

Amendment 1 William Graham

 

Dileu pwynt 1 a rhoi yn ei le ‘Yn nodi’r gostyngiad o 41 y cant yng nghyllideb cyfalaf Llywodraeth Cymru; ac’

 

Delete point 1 and replace with ‘Notes the 41% reduction in the Welsh Government’s capital budget; and’

 

Gwelliant 2 William Graham

 

Amendment 2 William Graham

 

Ym mhwynt 2d dileu ‘ar wahân i Fenter Cyllid Preifat’ a rhoi yn ei le ‘yn cynnwys Banc Buddsoddi Ewrop’.

 

In point 2d delete ‘other than PFI’ and replace with ‘including the European Investment Bank’.

 

Gwelliant 3 William Graham

 

Amendment 3 William Graham

 

Ychwanegu fel is-bwynt newydd ar ddiwedd pwynt 2:

 

Add as new subpoint at end of point 2:

 

Bidio i leoli’r Banc Buddsoddi Gwyrdd yng Nghaerdydd.

 

Bidding to base the Green Investment Bank in Cardiff.

 

Paul Davies: I move amendments 1, 2 and 3 in the name of William Graham.

 

Paul Davies: Cynigiaf welliannau 1, 2 a 3 yn enw William Graham.

 

I thank Plaid Cymru for bringing forward this important debate. It will come as no surprise to Members that we on this side of the Chamber agree with some parts of the motion, but not all aspects of it. We will, therefore, not be able to support the motion in its totality. We will be supporting the amendments tabled in the name of Peter Black.

 

Yr wyf yn diolch i Blaid Cymru am gyflwyno’r ddadl bwysig hon. Ni fydd yn syndod i Aelodau ein bod ni, ar yr ochr hon i’r Siambr,  yn cytuno â rhai rhannau o’r cynnig, ond nid pob agwedd ohono. Ni fyddwn, felly, yn gallu cefnogi’r cynnig yn ei gyfanrwydd. Byddwn yn cefnogi’r gwelliannau a gyflwynwyd yn enw Peter Black.

 

First, we all accept that we are in tight financial circumstances; no-one wants to see cuts in any portfolio or budget, but it is essential that we deal with the UK deficit and the national debt and that Wales plays its part. Governments at all levels, including the Welsh Government, must now think innovatively and invest money more wisely than in the past. I am pleased that the Welsh Government is looking to obtain borrowing powers to fund capital investment.

 

Yn gyntaf, yr ydym oll yn derbyn ein bod mewn amgylchiadau ariannol tynn; nid oes unrhyw un am weld toriadau i unrhyw bortffolio neu gyllideb, ond mae’n hanfodol ein bod yn ymdrin â diffyg ariannol y DU a’r ddyled wladol a bod Cymru yn chwarae ei rhan. Mae’n rhaid i lywodraethau ar bob lefel, gan gynnwys Llywodraeth Cymru, feddwl yn arloesol a buddsoddi arian yn ddoethach nag yn y gorffennol. Yr wyf yn falch bod Llywodraeth Cymru yn ceisio pwerau benthyca i ariannu buddsoddiad cyfalaf.

 

It would make sense for the Welsh Government to have the ability to borrow, bearing in mind that local authorities already have these powers. Not only do we need consistency, but, more importantly, Governments at all levels must have the tools to do the job. However, as I have said before, the Welsh Government needs to be clear about the type of borrowing powers that it is requesting, and establish under what terms and conditions it would have those powers.

 

Byddai’n gwneud synnwyr i Lywodraeth Cymru gael y gallu i fenthyca, gan gofio bod gan awdurdodau lleol eisoes y pwerau hyn. Nid yn unig y mae angen cysondeb ond, yn bwysicach, mae’n rhaid i lywodraethau ar bob lefel gael yr arfau i wneud y gwaith. Fodd bynnag, fel yr wyf wedi dweud o’r blaen, mae angen i Lywodraeth Cymru fod yn glir am y math o bwerau benthyca y mae’n eu ceisio, a sefydlu o dan ba delerau ac amodau y byddai’n cael y pwerau hynny.

 

We touched on some of these issues in a Plenary debate three weeks ago, and I reiterate that the Government needs to be more specific and upfront about which projects would be funded from additional borrowing powers. It would only strengthen Wales’s case if the Welsh Government provided more clarity as to how it would use those powers.

 

Cyfeiriasom at rai o’r materion hyn mewn dadl yn y Cyfarfod Llawn dair wythnos yn ôl, ac yr wyf yn ailadrodd bod angen i’r Llywodraeth fod yn fwy penodol ac agored am ba brosiectau a fyddai’n cael eu hariannu o’r pwerau benthyca ychwanegol. Byddai’n cryfhau achos Cymru pe bai Llywodraeth Cymru yn rhoi mwy o eglurder ynghylch sut y byddai’n defnyddio’r pwerau hynny.

 

Our amendment 2 addresses a potential way for the Welsh Government to raise capital funds through the European Investment Bank. Other parts of the UK have used loans to finance schools, universities, road and hospital building, as well as energy and transportation projects. As I have said before, I believe that the Welsh Government needs to explore all funding avenues that are available to it. I welcome the fact that the Welsh Government will continue to support the JEREMIE fund, which I appreciate has been successful in helping small businesses to set up and develop across Wales. However, I would welcome a commitment from the Minister to make greater use of the European Investment Bank. Perhaps the Minister could outline in her response what specific discussions she has had with the private sector to make best use of the European Investment Bank since the start of the fourth Assembly.

 

Mae ein gwelliant 2 yn trafod un ffordd y gallai Llywodraeth Cymru godi arian cyfalaf drwy Fanc Buddsoddi Ewrop. Mae rhannau eraill o’r DU wedi defnyddio benthyciadau i ariannu ysgolion, prifysgolion, adeiladu ffyrdd ac ysbytai, yn ogystal â phrosiectau ynni a chludiant. Fel yr wyf wedi ei ddweud o’r blaen, credaf fod angen i Lywodraeth Cymru archwilio pob ffynhonnell ariannu sydd ar gael iddi. Croesawaf y ffaith y bydd Llywodraeth Cymru yn parhau i gefnogi cronfa JEREMIE, sydd wedi bod yn llwyddiannus wrth helpu busnesau bach i sefydlu a datblygu ar draws Cymru. Fodd bynnag, byddwn yn croesawu ymrwymiad gan y Gweinidog i wneud defnydd ehangach o Fanc Buddsoddi Ewrop. Efallai y gallai’r Gweinidog amlinellu yn ei hymateb ba drafodaethau penodol y mae wedi’u cael gyda’r sector preifat i wneud y defnydd gorau o Fanc Buddsoddi Ewrop ers dechrau’r pedwerydd Cynulliad.

 

Our amendment 3 encourages the Welsh Government to bid to base the green investment bank in Cardiff. I appreciate that a bid has been put in, and we on this side of the Chamber are happy to support the Welsh Government’s efforts in this matter. We heard in May how the UK will be the first country in the world to create a bank dedicated to the greening of our economy, and it is important that the Welsh Government makes a comprehensive and strategic bid to base the green investment bank here. The First Minister has acknowledged that there is the potential to inject up to £15 billion into the economy over the next four years through this scheme. That figure represents economic stimulation and jobs growth in Wales, and it is important that the Welsh Government does all that it can to support the bid to base the bank in Wales. Perhaps the Minister in her response will provide an update for Members on the bid, and also tell us what discussions she and her colleagues have had with the UK Government on this issue.

 

Mae ein gwelliant 3 yn annog Llywodraeth Cymru i wneud cais i leoli’r banc buddsoddi gwyrdd yng Nghaerdydd. Yr wyf yn gwerthfawrogi bod cais wedi cael ei wneud, ac yr ydym ni, ar yr ochr hon i’r Siambr, yn falch o gefnogi ymdrechion Llywodraeth Cymru ar y mater hwn. Clywsom ym mis Mai mai’r DU fydd y wlad gyntaf yn y byd i greu banc a fyddai’n gweithio i sicrhau economi mwy gwyrdd, ac mae’n bwysig bod Llywodraeth Cymru yn gwneud cais cynhwysfawr a strategol i leoli’r banc buddsoddi gwyrdd yma. Mae’r Prif Weinidog wedi cydnabod bod yna botensial i chwistrellu hyd at £15 biliwn i mewn i’r economi dros y pedair blynedd nesaf drwy’r cynllun hwn. Mae’r ffigur hwnnw yn cynrychioli ysgogiad economaidd a thwf swyddi yng Nghymru, ac mae’n bwysig bod Llywodraeth Cymru yn gwneud popeth o fewn ei allu i gefnogi’r cais i leoli’r banc yng Nghymru. Efallai y bydd y Gweinidog yn ei hymateb yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i Aelodau am y cais, a hefyd yn dweud wrthym ba drafodaethau y mae hi a’i chydweithwyr wedi eu cael gyda Llywodraeth y DU ar y mater hwn.

 

Finally, I will briefly touch on private finance. It is our belief that the Welsh Government could use private finance in public projects more than it has in the past, and it will come as no great shock to the Minister that we on this side of the Chamber will continue to call on the Welsh Government to establish a public-private partnership scheme as part of an infrastructure plan for Wales. Given the current financial climate, it is even more important to consider all options when financing capital projects. We need to do that, and I am pleased that the Minister for Finance, in evidence to the Finance Committee this morning, confirmed that the Government will look to use public-private partnerships as one avenue for funding projects in the future.

 

Yn olaf, soniaf yn fyr am gyllid preifat. Credwn y gallai Llywodraeth Cymru ddefnyddio mwy o gyllid preifat mewn prosiectau cyhoeddus nag y mae wedi ei wneud yn y gorffennol, ac ni fydd yn synnu’r Gweinidog y byddwn ni, ar yr ochr hon i’r Siambr, yn parhau i alw ar Lywodraeth Cymru i sefydlu cynllun partneriaeth cyhoeddus-preifat fel rhan o gynllun seilwaith ar gyfer Cymru. O ystyried yr hinsawdd ariannol bresennol, mae’n bwysicach fyth i ystyried yr holl opsiynau wrth ariannu prosiectau cyfalaf. Mae angen i ni wneud hynny, ac yr wyf yn falch bod y Gweinidog Cyllid, mewn tystiolaeth i’r Pwyllgor Cyllid y bore yma, wedi cadarnhau y bydd y Llywodraeth yn edrych i ddefnyddio partneriaethau cyhoeddus-preifat fel un ffordd o ariannu prosiectau yn y dyfodol.

 

I was pleased to hear the Minister say last week that she is spearheading the development of a national infrastructure plan, and I hope that the Minister will expand on that a little, by detailing when she intends to publish that plan, so that we can ensure that every pound is being spent efficiently. Finally, I urge Members to support our amendments 1, 2 and 3.

 

Yr oeddwn yn falch o glywed y Gweinidog yn dweud yr wythnos diwethaf ei bod ar flaen y gad o ran datblygu cynllun seilwaith cenedlaethol, ac yr wyf yn gobeithio y bydd y Gweinidog yn ymhelaethu ar hynny ychydig, drwy ddweud pryd y mae’n bwriadu cyhoeddi’r cynllun hwnnw, fel y gallwn sicrhau bod pob punt yn cael ei gwario’n effeithlon. Yn olaf, yr wyf yn annog Aelodau i gefnogi ein gwelliannau 1, 2 a 3.

 

Gwelliant 4 Peter Black

 

Amendment 4 Peter Black

 

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

 

Add as new point at end of motion:

 

Yn gresynu cyn lleied o gontractau Olympaidd a enillwyd dan y llywodraeth ‘Cymru’n Un’ flaenorol, a allai fod wedi bod o fudd i’r sector adeiladu.

 

regrets the lack of Olympic contracts won under the previous ‘One Wales’ government, which could have benefitted the construction sector.

 

Gwelliant 5 Peter Black

 

Amendment 5 Peter Black

 

Ychwanegu is-bwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

 

Add as new sub point at end of motion:

 

Cyflwyno proses ariannu drwy gynyddrannau treth er mwyn galluogi awdurdodau lleol i godi arian cyfalaf ar gyfer prosiectau seilwaith.

 

introducing tax increment financing to allow local authorities to raise capital for infrastructure projects.

 

Gwelliant 6 Peter Black

 

Amendment 6 Peter Black

 

Ychwanegu is-bwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

 

Add as new sub point at end of motion:

 

Sefydlu cronfa arloesedd i gynyddu nifer y patentau a sefydlu cynlluniau mentora busnes.

 

establishing an innovation fund to increase the number of patents and establish business mentoring schemes.

 

Eluned Parrott: I move amendments 4, 5 and 6 in the name of Peter Black.

 

Eluned Parrott: Cynigiaf welliannau 4, 5 a 6 yn enw Peter Black.

 

I, too, thank Plaid Cymru for bringing this interesting and important debate to the Chamber today. I am glad to see construction given a renewed focus, as it was absent from the economic renewal programme in the first place. I hope that, through today’s debate and through the establishment of a sector for construction, we can show the industry that we value and respect it and that we see its place in building the Wales that we hope to see in the future. I also hope that today’s debate will help to generate some ideas further to the First Minister’s announcement earlier that he would like to discuss with us ways in which we can stimulate the economy. Hopefully, we will hear some of those ideas today and that will, again, inform the debate.

 

Yr wyf, hefyd, yn diolch i Blaid Cymru am ddod â’r ddadl ddiddorol a phwysig i’r Siambr heddiw. Yr wyf yn falch o weld ffocws newydd ar waith adeiladu, gan na chafodd ei gynnwys yn rhaglen adnewyddu’r economi ar y cychwyn. Gobeithiaf y gallwn, drwy’r ddadl heddiw a thrwy sefydlu sector ar gyfer adeiladu, ddangos i’r diwydiant ein bod yn ei werthfawrogi a’i barchu a’n bod yn gweld rôl iddo yn y gwaith o adeiladu’r Gymru yr ydym yn gobeithio ei gweld yn y dyfodol. Yr wyf hefyd yn gobeithio y bydd y ddadl heddiw yn helpu i ddatblygu syniadau ymhellach i gyhoeddiad y Prif Weinidog yn gynharach yr hoffai drafod gyda ni sut y gallwn ysgogi’r economi. Gobeithiaf y byddwn yn clywed rhai o’r syniadau hynny heddiw ac y bydd hynny, unwaith eto, yn sail i’r ddadl.

 

Today, I am moving three amendments, two of which specifically offer ideas that we hope will be useful and that we think can contribute to stimulating the Welsh economy, the first of which, amendment 5, is to look at tax increment financing. We need to be innovative and learn from what works elsewhere. TIF schemes are used successfully in places such as the USA as well as other countries in Europe. We need to make them available to our local authorities. The purpose of TIF is to allow councils to raise capital for infrastructure projects. Those projects can improve people’s lives and boost not only the construction sector, but also retail, tourism and other sectors. If we use those projects wisely and help our local authorities to choose them wisely, that will help us to build the modern Wales that we hope to see.

 

Heddiw, yr wyf yn symud tri gwelliant, dau ohonynt yn cynnig syniadau penodol yr ydym yn gobeithio fydd yn ddefnyddiol ac yr ydym yn meddwl y gallant gyfrannu at ysgogi economi Cymru, ac y mae’r cyntaf o’r rhain, gwelliant 5, yn edrych ar ariannu drwy gyllid cynyddrannau treth. Mae angen i ni fod yn arloesol a dysgu o’r hyn sy’n gweithio mewn mannau eraill. Mae cynlluniau CCT yn cael eu defnyddio’n llwyddiannus mewn mannau megis yr Unol Daleithiau, yn ogystal â gwledydd eraill yn Ewrop. Mae angen i ni sicrhau eu bod ar gael i’n hawdurdodau lleol. Diben CCT yw caniatáu i gynghorau godi cyfalaf ar gyfer prosiectau seilwaith. Gall y prosiectau hynny wella bywydau pobl a rhoi hwb nid yn unig i’r sector adeiladu, ond hefyd manwerthu, twristiaeth a sectorau eraill. Os ydym yn defnyddio’r prosiectau hynny yn ddoeth ac yn helpu ein hawdurdodau lleol i’w dewis yn ddoeth, bydd hynny’n ein helpu i adeiladu’r Gymru fodern yr ydym yn gobeithio ei gweld.

 

Simon Thomas: Will the Member give way?

 

Simon Thomas: A wnaiff yr Aelod ildio?

 

Eluned Parrott: Not at the moment.

 

Eluned Parrott: Ni wnaf ar hyn o bryd.

 

A second idea that we want to put forward is the establishment of an innovation fund to boost the number of patents and to provide mentoring support for innovative new businesses. We have a real opportunity through the quality of the research and development work in our universities, the further education sector and the private sector in Wales. It is obvious that indigenous businesses are the key to sustainable growth for Wales and, by supporting people to develop patents and to create micro, small and then, hopefully, medium-sized enterprises in the innovation sector, we can create high-quality employment that will keep the brightest and best students in Wales once they have graduated, to give that highest level of employment opportunity to young people.

 

Yr ail syniad yr ydym am ei gyflwyno yw sefydlu cronfa arloesedd i roi hwb i nifer y patentau ac i ddarparu cefnogaeth fentora i fusnesau newydd arloesol. Mae gennym gyfle gwirioneddol oherwydd ansawdd y gwaith ymchwil a datblygu yn ein prifysgolion, y sector addysg bellach a’r sector preifat yng Nghymru. Mae’n amlwg bod busnesau cynhenid yn allweddol i dwf cynaliadwy i Gymru a, thrwy gefnogi pobl i ddatblygu patentau a chreu mentrau micro, bach, ac yna, gobeithio, canolig eu maint yn y sector arloesi, gallwn greu swyddi o ansawdd uchel a fydd yn cadw’r myfyrwyr gorau a’r mwyaf disglair yng Nghymru ar ôl iddynt raddio, i roi’r lefel uchaf o gyfleoedd cyflogaeth i bobl ifanc.

 

It is also true that indigenous businesses are much less likely to relocate, and it is widely recognised that the problem with trying to build an economy on inward investment is that the very facets that make a business mobile enough to come to Wales make it mobile enough to leave again. We need to move on from that, and I am glad that there has been recognition that that has been the case.

 

Mae hefyd yn wir bod busnesau cynhenid yn llawer llai tebygol o adleoli, ac y mae’n cael ei gydnabod yn eang mai’r broblem o ran ceisio adeiladu economi yn seiliedig ar fewnfuddsoddi yw bod yr union agweddau sy’n meddwl bod busnes yn ddigon hyblyg i ddod i Gymru yn ei wneud yn ddigon hyblyg i adael eto. Mae angen inni symud ymlaen o hynny, ac yr wyf yn falch y bu cydnabyddiaeth bod hynny wedi bod yn wir.

 

Finally, the other amendment that we are putting forward is amendment 4. We want to put on record our regret that Wales has benefited so little, relatively, in terms of procurement for the Olympics. For those of you who are new to the Chamber and perhaps have not seen the figures, Scotland got contracts worth £22 million, Northern Ireland got £17 million and we got a little over £0.5 million in tier 1 contracts worth more than £5 billion—less than 0.01 per cent of the total available. That is a sad missed opportunity. It saddens me that that opportunity has been lost. However, we need to look at the approach that we took then, and reflect on why those opportunities were missed; not to provide us with a stick with which to beat the Government, but so that we can identify what we can do differently in future, and how we can benefit from other opportunities that come our way. For me, the Olympic Games are an obvious indication of problems that the construction sector in Wales faces with the procurement procedures as they are. I know that this is something that we have discussed with the sector.

 

Yn olaf, y gwelliant arall yr ydym yn ei gyflwyno yw gwelliant 4. Rydym am gofnodi ein bod yn gresynu bod Cymru wedi elwa cyn lleied, yn gymharol, o ran caffael ar gyfer y Gemau Olympaidd. I’r rhai ohonoch sy’n newydd i’r Siambr ac efallai heb weld y ffigurau, cafodd yr Alban gontractau gwerth £22 filiwn, cafodd Gogledd Iwerddon £17 miliwn a chawsom ychydig dros £0.5 miliwn o gontractau haen 1 gyda gwerth o fwy na £5 biliwn—llai na 0.01 y cant o’r cyfanswm a oedd ar gael. Mae hynny, yn anffodus, yn gyfle a gollwyd. Mae’n peri tristwch imi fod y cyfle wedi ei golli. Fodd bynnag, mae angen inni edrych ar y dull a gymerwyd gennym bryd hynny, a myfyrio ynghylch pam y collwyd y cyfleoedd hynny; nid er mwyn darparu arf i ni ei ddefnyddio yn erbyn y Llywodraeth, ond fel y gallwn ganfod beth y gallwn ei wneud yn wahanol yn y dyfodol, a sut gallwn elwa o gyfleoedd eraill sydd ar gael i ni. I mi, mae’r Gemau Olympaidd yn arwydd amlwg o’r problemau y mae’r sector adeiladu yng Nghymru yn eu hwynebu â’r gweithdrefnau caffael fel y maent. Gwn fod hyn yn rhywbeth yr ydym wedi’i drafod gyda’r sector.

 

The issues that we have identified include the scale of the sector in Wales. First, there is the fact that our construction industry is based in micro, small and medium-sized companies, which are less able to apply for big contracts. Secondly, the packaging of procurement in big chunks may be efficient in terms of the management of those procurement contracts, but does that cut out SMEs, and does that put Wales at a strategic disadvantage? Another issue is the process of procurement; it requires a big investment of time and money to put together a successful bid for a major procurement contract. Again, the SMEs that we have in Wales find that difficult to do.

 

Mae’r materion a nodwyd gennym yn cynnwys maint y sector yng Nghymru. Yn gyntaf, ceir y ffaith mai cwmnïau micro, bach a chanolig eu maint yw’r mwyafrif yn ein diwydiant adeiladu, ac felly maent yn llai abl i wneud cais am gontractau mawr. Yn ail, er ei fod efallai yn effeithlon o ran rheoli contractau caffael i’w cyfuno’n ddarnau mawr, mae hynny’n torri allan busnesau bach a chanolig, ac a ydyw hynny felly yn rhoi Cymru o dan anfantais strategol? Mater arall yw’r broses gaffael; mae’n gofyn am fuddsoddiad mawr o ran amser ac arian i lunio cais llwyddiannus ar gyfer contract caffael mawr. Unwaith eto, mae’r busnesau bach a chanolig sydd gennym yng Nghymru yn ei gweld yn anodd gwneud hynny.

 

I hope that the Chamber will support this debate, and I also hope that that support and the creation of the sector for construction in Wales will help to show the industry that we value it, and that we recognise its role in building the future of Wales.

 

Gobeithiaf y bydd y Siambr yn cefnogi’r ddadl hon, ac yr wyf hefyd yn gobeithio y bydd y cymorth hwnnw a chreu sector ar gyfer adeiladu yng Nghymru yn helpu i ddangos i’r diwydiant ein bod yn ei gwerthfawrogi, a’n bod yn cydnabod ei rôl o ran adeiladu dyfodol Cymru.

 

Rhodri Glyn Thomas: Fel y dywedodd Alun Ffred Jones wrth agor y ddadl hon, yr ydym mewn sefyllfa argyfyngus o ran yr economi yng Nghymru erbyn hyn. Yr ydym wedi gweld y ffigurau diweithdra heddiw yn codi i 9.1 y cant o’r boblogaeth, ac nid oes arwydd y bydd y ffigur hwnnw yn lleihau. Yn wir, gellir proffwydo yn y tymor byr, o leiaf, y bydd y ffigur yn codi eto. Yr ydym yn wynebu sefyllfa lle mae’r glymblaid yn San Steffan wedi cyflwyno toriadau dwfn yn gyflym iawn. Ymysg y toriadau hynny mae gostyngiad o 42 y cant yn y gyllideb gyfalaf i Gymru. Bydd hyn yn cael effaith fawr ar brosiectau yng Nghymru—er enghraifft, ar gronfa ysgolion yr unfed ganrif ar hugain. Bydd y gronfa hon yn cael ei thanseilio yn llwyr gan y toriadau hyn. Nid yw’r Gweinidog wedi cyhoeddi hynny eto, ond maes o law bydd yn rhaid iddo ddod i’r Siambr i esbonio beth yw effaith y toriad hwn sydd wedi ei gyflwyno gan y glymblaid yn San Steffan ar fwriad y Llywodraeth i adeiladu ysgolion newydd, ac i wella ysgolion. Bydd hyn yn effeithio nid yn unig ar addysg, ond ar yr economi hefyd, oherwydd yn y sector hwnnw mae cwmnïau lleol ledled Cymru yn cael gwaith sy’n eu galluogi i gyflogi pobl, gan sicrhau bod yr arian hwnnw yn cylchredeg yn yr economi.

 

Rhodri Glyn Thomas: As Alun Ffred Jones said in opening this debate, we are in a critical situation in terms of the Welsh economy. We have today seen unemployment figures in Wales increase to 9.1 per cent of the population, and there is no sign that that figure is going to fall. Indeed, one could forecast that, in the short term, at least, the figure will increase again. We have faced a situation whereby the coalition Government in London has introduced deep cuts very quickly. Among those cuts, there is a reduction of 42 per cent in Wales’s capital budget. That is going to have a huge impact on projects in Wales—for example, the twenty-first century schools fund. That fund will be entirely undermined by these cuts. The Minister has not yet announced that, but in due time he will have to come to the Chamber to explain to us the impact of this cut introduced by the Westminster coalition on the Government’s intention to build new schools in Wales and to improve existing schools. That impact will not only be on education; it will also be an economic impact, because it is in that sector that local companies across Wales get work, which enables them to employ people and keep that money circulating in the economy.

 

Mae Plaid Cymru yn galw ar y Llywodraeth i ddatgan bwriad ac i ddweud beth yn union y bydd yn ei wneud yn wyneb yr argyfwng hwn. Cawsom ddatganiad y prynhawn yma gan y Prif Weinidog ar ddulliau Llywodraeth Cymru i sbarduno’r economi. Y cyfan a gawsom mewn gwirionedd oedd cyfaddefiad nad oes gan Lywodraeth Cymru unrhyw ddulliau, neu fwriad o leiaf, i sbarduno’r economi. Estynnwyd gwahoddiad i bawb a phob un roi awgrymiadau i’r Llywodraeth, ond nid oedd gan y Llywodraeth, yn amlwg, unrhyw syniad beth i’w wneud yn wyneb yr argyfwng economaidd sydd yn ein hwynebu ar hyn o bryd.

 

Plaid Cymru is calling on the Government to make a statement of intent, to say exactly what it will do in the face of this crisis. We had a statement this afternoon from the First Minister on how the Welsh Government intends to stimulate the economy. All we had in reality was an admission that the Welsh Government has no methods, or no intention, to stimulate the economy. There was an invitation to everyone to make suggestions to Government on how it could be done, but the Government itself clearly had no idea what to do in the face of this economic crisis.

 

Byddaf yn canolbwyntio ar ddau beth yn awr. Mae un cymal yn ein cynnig yn sôn am allu awdurdodau lleol i fenthyg arian. Mae Alun Ffred Jones wedi crybwyll hyn yn barod. Er enghraifft, pe bai’r Llywodraeth wedi dweud heddiw bod £38.9 miliwn yn dod i Gymru o ganlyniad i’r penderfyniad i rewi treth y cyngor yn Lloegr, a’i bod yn bwriadu defnyddio’r arian hwnnw er mwyn galluogi awdurdodau lleol ledled Cymru i fenthyg, byddai’n golygu bod cronfa o £600 miliwn ar gael. Nid yw’n swm enfawr, ond o leiaf byddai’n rhyw fath o ymateb i’r sefyllfa. Yr wyf yn sicr y byddai’r Gweinidog Addysg a Sgiliau wrth ei fodd yn clywed bod gan awdurdodau lleol y math hwn o arian i’w wario ar brosiectau cyfalaf i wneud yn iawn am y diffygion yn ei gyllideb. Mae Gerry Holtham yn mynd ymhellach na hynny, gan sôn am y posibilrwydd o ddefnyddio 1 y cant o gyllideb y Cynulliad, sef, £150 miliwn, i greu cronfa ar gyfer y math hwn o brosiectau, a fyddai’n creu gwaith, sbarduno’r economi, rhoi hwb sylweddol iddo, a rhoi cyfle i ni fynd i’r afael â phroblemau diweithdra yng Nghymru.

I will concentrate on two issues. One clause in our motion talks about local authority borrowing powers. Alun Ffred Jones has already mentioned this. For example, if the Welsh Government had come to us today and said that £38.9 million was to be made available to Wales as a result of the decision to freeze council tax in England, and that it intended to use that money to enable local authorities across Wales to borrow, it would have meant that a fund of £600 million was available. It is not a huge sum, but it would be some response, at least, to the situation. I am sure that the Minister for Education and Skills would be delighted to hear that local authorities had that sort of money to spend on capital projects to compensate for the deficits in his own budget. Gerry Holtham goes further, mentioning the possibility of using 1 per cent of the Assembly’s budget, that is, £150 million, to create a fund for these kinds of projects, which would create employment, stimulate the economy, give it a significant boost, and give us an opportunity to get to grips with the problems of unemployment in Wales.

 

4.45 p.m.

 

 

Nid wyf yn dweud mai dyna’r atebion; dweud ydwyf eu bod yn atebion y gellid eu hystyried. Er hynny, hyd yn hyn, yr ydym eto i glywed unrhyw beth oddi wrth Lywodraeth Cymru. Dywedodd y Prif Weinidog cyn yr etholiad, ym mis Mawrth, ei fod yn barod i ystyried y posibilrwydd o ganiatáu i awdurdodau lleol yng Nghymru fenthyg arian. Mae’n amlwg ei fod yn dal i ystyried y posibilrwydd hwnnw. Pryd bydd yn gwneud rhyw fath o benderfyniad ar y mater hwn?

 

I am not saying that those are the answers, but that those are responses that could be considered. However, to date, we not heard anything from the Welsh Government. The First Minister said before the elections, in March, that he was willing to consider the possibility of allowing local authorities in Wales to borrow money. It is clear that he is still considering that possibility, but when will he come to some sort of decision on this issue?

 

Yn yr etholiad diwethaf, Plaid Cymru oedd yr unig blaid i gyflwyno syniad mawr, sef Adeiladu dros Gymru, cronfa £500 miliwn a fyddai’n creu 50,000 o swyddi yng Nghymru. Rhowch y pethau hynny i gyd at ei gilydd, a byddwch yn dechrau mynd i’r afael â’r broblem hon. Yn anffodus, yr hyn welwn ni yw Llywodraeth Cymru yn eistedd ar ei dwylo a gwneud dim byd. Ni chredaf y gwnaiff pobl Cymru eu maddau pan welwn effaith hynny ar economi Cymru.

 

During the last elections, Plaid Cymru was the only party to come up with a big idea, which was Build for Wales, a £500 million fund that would create 50,000 jobs in Wales. If you bring all of those things together, then you start to get to grips with this problem, but what we see, unfortunately, is this Welsh Government sitting on its hands and doing nothing. I do not think that the Welsh people will forgive them when we see the impact on the Welsh economy.

 

Mick Antoniw: I welcome this debate and the positive comments that have been made, because there are always ideas that are worth considering. I am sure that there is not a Member here who does not regret the 41 per cent cut in capital spending that has been imposed as a result of UK Government policies. As other speakers have mentioned, it is worth reminding ourselves of the backdrop to the current macro-economic situation with regard to UK Government policies, and, in particular, the failure to produce any economic growth plan at Westminster. Andrew Tyrie, the Conservative chairman of the Treasury Select Committee, who is probably what you would describe as the honest voice of the coalition when it comes to what is going on in the Westminster Government, made some very apt comments. He said that the Government’s growth plan was ‘inconsistent, even incoherent’, that there was no plan B, and that the Government was cutting too far and too fast. Of course, he was then mugged on television and came back to say how he was greatly encouraged by the Government’s plans.

 

Mick Antoniw: Rwy’n croesawu’r ddadl hon a’r sylwadau cadarnhaol sydd wedi cael eu gwneud, oherwydd ceir wastad syniadau sy’n werth eu hystyried. Rwy’n sicr nad oes Aelod yn y fan hon nad yw’n gresynu at y toriad o 41 y cant mewn gwariant cyfalaf a osodwyd o ganlyniad i bolisïau Llywodraeth y DU. Fel mae siaradwyr eraill wedi sôn, mae’n werth ein hatgoffa ein hunain o gefndir y sefyllfa macro-economaidd bresennol mewn perthynas â pholisïau Llywodraeth y DU, ac, yn benodol, y methiant i gyflwyno unrhyw gynllun ar gyfer twf economaidd yn San Steffan. Gwnaeth Andrew Tyrie, cadeirydd Ceidwadol Pwyllgor Dethol y Trysorlys, sydd, yn fwy na thebyg, yr hyn a ddisgrifiech fel llais gonest y glymblaid pan ddaw i’r hyn sy’n digwydd yn Llywodraeth San Steffan, rai sylwadau addas iawn. Dywedodd fod cynllun twf y Llywodraeth yn anghyson, hyd yn oed yn ddigyswllt, nad oedd unrhyw gynllun B, a bod y Llywodraeth yn torri yn rhy bell ac yn rhy gyflym. Wrth gwrs, ymosodwyd arno ar y teledu a daeth yn ôl i ddweud bod cynlluniau’r Llywodraeth yn ei galonogi yn fawr.

 

That is the backdrop. The idea of local authority borrowing is interesting. Of course, local authorities are already borrowing quite considerable amounts of money to fill some of the gaps in capital spending. Another outstanding issue is whether the Assembly will get its own borrowing powers, and then there is the issue of European funding. Within those three areas, there is the potential to put together very substantial capital funds, and the relationship between those will be fundamental. However, it is also worth us reminding ourselves of important elements of economic growth that are not to do with borrowing. One of the things that is often thrown about is the skills shortage and I know that I keep mentioning GE Aviation—it is such a fantastic union-company partnership, employing 1,300 people in my constituency—but it had 1,000 applications for 35 high-skilled apprenticeships.

 

Dyna’r cefndir. Mae’r syniad o fenthyciadau awdurdodau lleol yn ddiddorol. Wrth gwrs, mae awdurdodau lleol eisoes yn benthyca symiau eithaf sylweddol o arian i lenwi rhai o’r bylchau mewn gwariant cyfalaf. Mater arall sydd heb ei benderfynu yw a fydd y Cynulliad yn cael ei bwerau benthyca ei hun, ac yna mae’r mater o arian Ewropeaidd. O fewn y tri maes hynny, mae potensial creu cronfeydd cyfalaf sylweddol iawn, a bydd y berthynas rhyngddynt yn sylfaenol. Fodd bynnag, mae hefyd yn werth ein hatgoffa ein hunain am elfennau pwysig o dwf economaidd nad ydynt yn ymwneud â benthyca. Un o’r pethau sy’n aml yn cael eu gwyntyllu yw’r prinder sgiliau ac rwy’n gwybod fy mod yn cadw sôn am GE Aviation—mae’n bartneriaeth mor rhagorol rhwng undeb a chwmni, yn cyflogi 1,300 o bobl yn fy etholaeth—ond cafodd 1,000 o geisiadau am 35 prentisiaeth sgiliau uchel.

 

Leanne Wood: I am sure that you will have seen the unemployment figures released today and that you are as shocked as I am by them. The Minister for Business, Enterprise, Technology and Science has said that:

 

Leanne Wood: Rwy’n siŵr y byddwch wedi gweld y ffigurau diweithdra a gyhoeddwyd heddiw ac wedi cael eich syfrdanu gymaint â minnau yn eu cylch. Dywedodd y Gweinidog Busnes, Menter, Technoleg a Gwyddoniaeth:

 

‘Whilst many of the macro economic levers are the responsibility of the UK government we are continuing to do all we can to support businesses in Wales’.

 

Er mai cyfrifoldeb Llywodraeth y DU yw llawer o’r trosolion macro-economaidd, rydym yn parhau i wneud popeth o fewn ein gallu i gefnogi busnesau yng Nghymru.

 

Can you tell us what macro-economic levers you think this Assembly should have now?

 

A allwch ddweud wrthym pa drosolion macro-economaidd, yn eich barn chi, y dylai’r Cynulliad hwn eu cael yn awr?

 

Mick Antoniw: The most important progress that we could make would be to acquire borrowing powers. I think that tax-raising powers are a bit of a red herring. The most important thing is for the Assembly to be able to borrow, particularly where there are clear economic growth benefits or where there is a clear revenue stream.

 

Mick Antoniw: Y cynnydd pwysicaf y gallem ei wneud fyddai cael pwerau benthyca. Credaf mai codi sgwarnogod yw pwerau codi trethi. Y peth pwysicaf yw bod y Cynulliad yn gallu benthyca, yn enwedig lle mae manteision clir ar gyfer twf economaidd neu lle mae ffrwd refeniw clir.

 

Returning to GE Aviation, the important message is that the managing director told me that, of the 1,000 people who applied for those apprenticeships, he would have been happy to have taken on any of them. He was satisfied, therefore, with the skills base of those who applied.

 

Gan ddychwelyd at GE Aviation, y neges bwysig yw y dywedodd y rheolwr gyfarwyddwr wrthyf, o’r 1,000 o bobl a wnaeth gais ar gyfer y prentisiaethau hynny, y byddai wedi bod yn hapus i gymryd unrhyw un ohonynt. Roedd yn fodlon, felly, gyda sylfaen sgiliau’r ymgeiswyr.

 

Another issue that a number of companies have raised with me when I have had discussions with them in my constituency is the need for closer collaboration between them and those who develop economic development policy. They also say that we need more people with the skills and experience to engage with them—not on a one-off basis, but on an ongoing and continuing basis—because, from time to time, they identify economic opportunities that are available to Wales but, because of that lack of collaboration, they are not seized upon.

 

Mater arall y mae nifer o gwmnïau wedi ei godi gyda mi pan wyf wedi cynnal trafodaethau â hwy yn fy etholaeth yw’r angen am gydweithio agosach rhyngddynt hwy a’r sawl sy’n datblygu polisi datblygu economaidd. Maent hefyd yn dweud bod arnom angen fwy o bobl â’r sgiliau a’r profiad i ymgysylltu â hwy—nid yn unigol, ond yn gyson a pharhaus—oherwydd, o bryd i’w gilydd, maent yn nodi cyfleoedd economaidd sydd ar gael i Gymru ond, oherwydd y diffyg cydweithio hwnnw, ni fanteisir arnynt.

 

The other issue that is raised with me is the need to streamline the grant system. The process often takes too long, particularly for larger companies, and, for small companies, by the time that the grant process is dealt with, it is often too late for them. Another frequently raised issue, which is a fundamental part of economic policy, is the development of the airport and its integration within our economic structure.

 

Y mater arall sy’n cael ei godi gyda mi yw’r angen i symleiddio’r system grantiau. Mae’r broses yn aml yn cymryd gormod o amser, yn enwedig ar gyfer cwmnïau mwy, ac, ar gyfer cwmnïau bach, erbyn bod y broses grant wedi ei dwyn i ben, mae’n aml yn rhy hwyr. Mater arall a godir yn aml, sydd yn rhan sylfaenol o bolisi economaidd, yw datblygu’r maes awyr a’i integreiddio o fewn ein strwythur economaidd.

 

One area that I particularly want to mention, given the tremendous opportunities that it presents, arises out of the devolution of transport and what is happening with the franchises for Arriva Trains Wales and Network Rail in Wales. I am not just referring to the electrification programme, but what spins off from that and the devolution of transport, which is the idea that is being developed of a south Wales metro. That is a fundamental part of the strategy that could form part of the Wales-wide infrastructure plan that has been identified by the Welsh Government. I would like to see serious attention given to that.

 

Mae un maes yr wyf yn arbennig o awyddus i sôn amdano, o ystyried y cyfleoedd aruthrol y mae’n eu cynnig, yn codi o ddatganoli trafnidiaeth a’r hyn sy’n digwydd gyda’r masnachfreintiau ar gyfer Trenau Arriva Cymru a Network Rail yng Nghymru. Nid cyfeirio at y rhaglen drydaneiddio yn unig wyf i, ond at yr hyn sy’n deillio o hynny a datganoli trafnidiaeth, sef y syniad sy’n cael ei ddatblygu am fetro ar gyfer de Cymru. Mae hwnnw’n rhan sylfaenol o’r strategaeth a allai fod yn rhan o’r cynllun seilwaith Cymru gyfan sydd wedi cael ei nodi gan Lywodraeth Cymru. Hoffwn weld peth sylw difrifol yn cael ei roi i hynny.

 

Llyr Huws Gruffydd: Yr wyf am ganolbwyntio ar un arf economaidd grymus iawn, ac un sydd gennym yn barod o safbwynt y cyfle i wneud rhywbeth ag ef, sef caffael cyhoeddus. Mae’r sector gyhoeddus, fel yr ydym yn gwybod, yn gwario rhyw £4.3 biliwn ar gaffael nwyddau a gwasanaethau bob blwyddyn. Yr hyn sy’n bwysig, wrth gwrs, yw ein bod yn sicrhau bod yr arian hwnnw yn gweithio mor galed â phosibl fel ysgogiad economaidd, yn enwedig yn yr hinsawdd sydd ohoni.

 

Llyr Huws Gruffydd: I want to concentrate on one very powerful economic tool, and one that we already have in terms of the opportunity to do something with it, and that is public procurement. The public sector, as we know, spends around £4.3 billion on the procurement of goods and services every year. It is important, of course, that we ensure that that money works as hard as possible as an economic stimulus, particularly in the current climate.

 

Ychydig o flynyddoedd yn unig yn ôl, yr oedd dwy ran o dair o gytundebau’r sector gyhoeddus o ran gwerth yn mynd i gwmnïau y tu allan i Gymru, ac yr oedd y gwerth a oedd yn cael ei golli i Gymru bob blwyddyn yn cyfateb i werth holl raglen Amcan 1 dros saith mlynedd. Yn sgîl llawer o’r gwaith a wnaethpwyd gan Lywodraeth Cymru’n Un, mae dros hanner y cytundebau hynny erbyn hyn yn aros yng Nghymru. Fodd bynnag, mae mwy i’w wneud, ac fe fydd y rheini ohonoch sydd wedi darllen maniffesto Plaid Cymru yn ymwybodol inni osod y targed bod 75 y cant o werth y cytundebau hynny yn aros yng Nghymru. Mae hynny yn uchelgeisiol, ond byddai’r 25 y cant ychwanegol hynny yn dod â bron i 50,000 o swyddi inni yng Nghymru. Byddai’n golygu £1 biliwn yn ychwanegol o fuddsoddiad yn economi Cymru, ac fe fyddwn i, fel Aelod sy’n cynrychioli rhanbarth y gogledd, yn croesawu £250 miliwn ychwanegol bob blwyddyn i economi’r gogledd.

 

Only a few years ago, the equivalent of two thirds of public sector contracts in terms of value would go to companies outside Wales, and the value of what was being lost each year to Wales equates to the whole of the Objective 1 programme over seven years. Following much of the work undertaken by the One Wales Government, over half of those contracts now remain in Wales. However, there is more to do, and those of you who have read the Plaid Cymru manifesto will know that we set a target for 75 per cent of the value of those contracts to remain in Wales. That is an ambitious target, but that additional 25 per cent would bring almost 50,000 jobs to Wales. It would mean an additional £1 billion of investment in the Welsh economy, and, as a Member who represents the North Wales region, I would welcome an additional £250 million a year to the economy of north Wales.

 

Mae tri ffactor allweddol sy’n ein rhwystro rhag datblygu’r potensial hwnnw’n llawn. Cyfeiriwyd yn barod at waith yr Athro Kevin Morgan sydd wedi dangos nad oes digon o weithwyr sydd â’r sgiliau angenrheidiol yn y sector i fanteisio’n llawn ar y potensial. Yn wir, nid oes digon wedi’u cymhwyso gan y Sefydliad Siartredig Prynu a Chyflenwi, a gofynnodd yr Athro Morgan sut y gall y sector caffael cyhoeddus ddefnyddio bron i £5 biliwn mor effeithiol a chreadigol â phosibl heb rai o’r cymwysterau sylfaenol yn y maes hwnnw.

 

Three key factors prevent us from developing that potential to the full. The work of Professor Kevin Morgan has already been mentioned, and he has shown that there are not enough workers with the requisite skills in the sector to take full advantage of the potential. Indeed, not enough have attained the Chartered Institute of Purchasing and Supply qualification, and Professor Morgan asked how the public procurement sector can use almost £5 billion as effectively and creatively as possible without the basic qualification needed in that field.

 

Y realiti arall, yng nghyd-destun cael y gwerth gorau, yw’r fffaith ei fod lawer yn haws i fesur toriadau ac arbedion yn hytrach na gweithgaredd sy’n ychwanegu gwerth. Yn sicr, mae angen darn o waith yn y maes hwnnw. Hefyd, mae’r llywodraethiant o fewn y sector cyhoeddus—hynny yw, y grym prynu—yn ddarniog ac mae perfformiad yn amrywio ar draws y sector. Felly, mae angen gweithredu yn fuan ar y rhain, ond mae hefyd angen diwygio caffael sector cyhoeddus yn radical er mwyn mynd i’r afael â nifer o’r heriau hyn.

 

The other reality, in the context of getting best value, is that it is much easier to measure cuts and savings rather than activities that add value. Certainly, a piece of work is needed in that area. Also, governance within the public sector—that is, the purchasing power—is piecemeal, and performance varies across the sector. Therefore, we need to take action quickly on these aspects, and we also need to reform the public procurement sector radically to get to grips with many of these challenges.

 

Mae angen inni hefyd sicrhau bod y system yn gweithio’n well i hwyluso rôl busnesau bach—yr wyf yn siŵr ein bod i gyd yn cytuno â hynny—yn enwedig i wneud y cyfleoedd sy’n codi o’r cytundebau hyn yn fwy hygyrch i fusnesau bach drwy, er enghraifft, leihau maint y cytundebau ac ati. Byddai hynny hefyd yn sicrhau bod mwy o’r arian yn aros yn yr economi leol. Mae gwaith gan y Ffederasiwn Busnesau Bach ac eraill wedi dangos gall yr arian weithio’n galetach i ni os yw’n mynd drwy fusnesau bach, gan ei fod yn cyrraedd rhannau eraill o’r economi leol. Gyda thoriad o 41 y cant yn ein cyllideb cyfalaf, mae’n rhaid i’r gweddill weithio mor galed â phosibl. Mae pob 1 y cant ychwanegol o werth cytundebau sector cyhoeddus sy’n cael ei gadw yng Nghymru’n werth tua 2,000 o swyddi. Mae angen gosod nod uchelgeisiol yn y cyd-destun hwn, ac mae angen troi pob carreg i wireddu’r potensial hwnnw oherwydd gallai fod yn sbardun economaidd pwysig iawn.

 

We need to ensure that the system works better to facilitate the role of small businesses—I am sure that we all agree with that—particularly in order to make the opportunities that arise from these contracts more accessible to small businesses, by reducing the size of the contracts, for example. That would also ensure that more money stays in the local economy. Work by the Federation of Small Businesses and others has shown that money can work harder for us if it goes through small businesses, as it reaches other parts of the local economy. With a 41 per cent cut in our capital budget, the remainder needs to work as hard as possible. Each 1 per cent extra in the value of public sector contracts that is kept in Wales is worth around 2,000 jobs. We need to set an ambitious target in this context, and we must leave no stone unturned to realise this potential, because it could be a very important economic stimulus.

 

Mike Hedges: I support the proposals put forward by Plaid Cymru this afternoon. We have a background of a Conservative-Liberal Democrat Government following neo-monetarist policies in Westminster—a sort of monetarism-lite. That monetarism has failed everywhere that it has been tried, from Chile to the UK, does not seem to dissuade the coalition Government from trying again.

 

Mike Hedges: Rwy’n cefnogi’r cynigion a gyflwynwyd gan Blaid Cymru y prynhawn yma. Mae gennym gefndir o Lywodraeth Geidwadol-Democratiaid Rhyddfrydol sy’n dilyn polisïau neo-arianyddol yn San Steffan—rhyw fath o chwarae ar arianyddiaeth. Er i arianyddiaeth fethu ym mhob man y rhoddwyd cynnig arni, o Chile i’r Deyrnas Unedig, ymddengys nad yw hynny’n darbwyllo Llywodraeth y glymblaid rhag rhoi cynnig arall arni.

 

The key point that I want to make is about using local government’s prudential borrowing powers to increase capital expenditure; I have talked about this many times in the Chamber and in committee and I will continue to do so until it starts to happen. I remember the old system that was in place when the person who moved the motion before us today was the leader of Gwynedd Council and I was the leader of Swansea Council. We had a system whereby transport funding came half in grant and half in supplementary credit approval, and we used to get additional supplementary credit approvals throughout the year, which allowed for capital expenditure. That has gone, but there is no reason why local authorities cannot use supported borrowing for agreed local authority schemes, for example, schools. I thought that I was in a majority of one in arguing for this, as I have been for the last five months, but I now have something even better than an example from Scotland, because Gerry Holtham has broached the subject and has said:

 

Mae’r pwynt allweddol yr wyf am ei wneud yn ymwneud â defnyddio pwerau benthyca darbodus llywodraeth leol i gynyddu’r gwariant cyfalaf; rwyf wedi siarad am hyn sawl gwaith yn y Siambr ac mewn pwyllgorau a byddaf yn parhau i wneud hynny nes iddo ddechrau digwydd. Rwy’n cofio’r hen system a oedd ar waith pan oedd y person a gynigiodd y cynnig ger ein bron heddiw yn arweinydd Cyngor Gwynedd a fi oedd arweinydd Cyngor Abertawe. Cawsom system lle daeth hanner y cyllid ar gyfer trafnidiaeth yn y grant a hanner yn y gymeradwyaeth credyd atodol, a byddem yn cael cymeradwyaethau credyd atodol ychwanegol drwy gydol y flwyddyn, a oedd yn caniatáu gwariant cyfalaf. Aeth hynny, ond nid oes unrhyw reswm pam na all awdurdodau lleol ddefnyddio benthyca â chymorth ar gyfer cynlluniau awdurdodau lleol y cytunwyd arnynt, er enghraifft, ysgolion. Tybiais fy mod ar fy mhen fy hun wrth ddadlau am hyn, fel yr wyf wedi bod dros y pum mis diwethaf, ond bellach mae gennyf rywbeth hyd yn oed yn well nag esiampl o’r Alban, gan fod Gerry Holtham wedi crybwyll y pwnc ac wedi dweud:

 

‘The Public Works Loan Board (PWLB) is currently lending to local government at around 4%’.

 

Mae’r Bwrdd Benthyciadau Gwaith Cyhoeddus ar hyn o bryd yn rhoi benthyg i lywodraeth leol am oddeutu 4 y cant.

 

If you take it all together, you are talking about 6 per cent, including pay back and so on. Therefore, every £100 million could be worth up to £1,300 million or £1,400 million. He goes on to say:

 

Os ydych yn ei gymryd oll at ei gilydd, rydych yn sôn am 6 y cant, gan gynnwys ad-dalu ac yn y blaen. Felly, gallai pob £100 miliwn fod yn werth hyd at £1,300 miliwn neu £1,400 miliwn. Aiff ymlaen i ddweud

 

‘The PWLB has a ceiling of some £70bn for local authority borrowing and they are well under that. Moreover while the National Audit Office or the Audit Commission look at local authority borrowing after they have done it, no one attempts to control it before the event as long as it is within the envelope. It would take some organisation and negotiation but the Welsh Government could get relevant local authorities to borrow for selected projects.’

 

bod gan y bwrdd uchafswm o ryw £70 biliwn ar gyfer benthyciadau awdurdodau lleol a’i fod ymhell o dan hynny. Ar ben hynny tra bod y Swyddfa Archwilio Genedlaethol neu’r Comisiwn Archwilio yn edrych ar fenthyciadau awdurdodau lleol ar ôl iddynt eu gwneud, nid oes unrhyw un yn ceisio eu rheoli ymlaen llaw ar yr amod eu bod o fewn yr amlen. Cymerai rywfaint o drefnu a thrafod, ond gallai Llywodraeth Cymru gael yr awdurdodau lleol perthnasol i fenthyca ar gyfer prosiectau dethol.

 

I urge the Government to give serious thought to this—in fact, I urge the Minister for the second time today to give serious thought to this. It is an opportunity to get capital and make the best use of our resources.

 

Rwy’n annog y Llywodraeth i feddwl o ddifrif am hyn—a dweud y gwir, rwy’n annog y Gweinidog am yr ail dro heddiw i feddwl o ddifrif am hyn. Mae’n gyfle i gael cyfalaf a gwneud y defnydd gorau o’n hadnoddau.

 

I am all for looking at innovative ways of raising money, and I am fully behind the need to be able to issue bonds. However, the bond market is unforgiving to new entrants, especially at this time. If we enter the bond market now, we will definitely have to pay a premium for it. I am in favour of creating a Welsh investment fund, but I wonder what rate will be demanded. It is not the best thing to be a new entrant in the current economic climate.

 

Rwyf o blaid edrych ar ffyrdd arloesol o godi arian, ac rwy’n llwyr gefnogi’r angen i allu cyhoeddi bondiau. Fodd bynnag, mae’r farchnad bond yn ddidostur tuag at newydd-ddyfodiaid, yn enwedig ar yr adeg hon. Os awn i mewn i’r farchnad bond yn awr, yn sicr bydd yn rhaid inni dalu pris uchel am wneud. Rwyf o blaid creu cronfa fuddsoddi yng Nghymru, ond tybed pa gyfradd a fynnir. Nid yw bod yn newydd-ddyfodiad gyda’r peth gorau yn yr hinsawdd economaidd bresennol.

 

I have always supported using the European Investment Bank, but I understand that you borrow and pay back in euros. If the system has now changed whereby you can borrow and pay in back in pounds, I would be in favour of that as, otherwise, you are betting against movements in currency, and, while a low interest rate may be very nice to start with, if you are betting against movements in currency, you could end up a bad loser.

 

Rwyf wastad wedi cefnogi defnyddio Banc Buddsoddi Ewrop, ond deallaf eich bod yn benthyca ac ad-dalu mewn ewros. Os yw’r system wedi newid erbyn hyn, fel y gallwch fenthyg ac ad-dalu mewn punnoedd, byddwn i o blaid hynny, oherwydd, fel arall, rydych yn betio yn erbyn symudiadau mewn arian, ac, er y gall cyfradd llog isel fod yn neis iawn i ddechrau, os ydych yn betio yn erbyn symudiadau mewn arian, gallech fod ar eich colled yn y pen draw.

 

Capital expenditure would reflate the economy, get the construction industry going and regenerate employment—not only in the construction sector, but in the construction materials industry and in the high street. I agree that we need to maximise the amount of Welsh money spent in Wales. We must do everything possible to get our resources and procure from within Wales. However, we do not want protectionism or pseudo-protectionism. We want Welsh companies to get contracts throughout the European community, not just in Wales, Many Welsh companies, including those in my constituency, rely on public sector contracts from throughout the UK, not just in Wales.

 

Byddai gwariant cyfalaf yn atchwyddo’r economi, yn ysgogi’r diwydiant adeiladu ac yn adfywio cyflogaeth—nid yn unig yn y sector adeiladu, ond yn y diwydiant deunyddiau adeiladu ac ar y stryd fawr. Rwy’n cytuno bod angen inni wneud y gorau o faint o arian Cymru sy’n cael ei wario yng Nghymru. Rhaid inni wneud popeth posibl i gael ein hadnoddau a chaffael oddi fewn i Gymru. Fodd bynnag, nid ydym am gael diffyndollaeth neu ffug-diffyndollaeth. Rydym am i gwmnïau o Gymru gael contractau ledled y Gymuned Ewropeaidd, nid yng Nghymru yn unig. Mae llawer o gwmnïau Cymreig, gan gynnwys cwmnïau yn fy etholaeth i, yn dibynnu ar gontractau sector cyhoeddus o bob cwr o’r Deyrnas Unedig, nid dim ond o Gymru.

 

5.00 p.m.

 

Private finance initiative is very expensive, and produces large profits for individuals—I thought that PFI stood for ‘profits for individuals’, as it is at the expense of the public purse. The risk is taken by the public, and, unfortunately, the profit is made by people outside. It has a severe effect on revenue expenditure in future years, as you are building up a debt. I have always opposed PFI, and thought it a stupid way of going forward. We need to reflate our economy and get money in—[Interruption.] It is called Keynesianism, which is the opposite of monetarism, and the difference is that it works.

 

Mae menter cyllid preifat yn ddrud iawn, ac yn cynhyrchu elw mawr ar gyfer unigolion—roeddwn i’n meddwl bod PFI yn sefyll am ‘profits for individuals—elw i unigolion’, gan ei fod ar draul y pwrs cyhoeddus. Y cyhoedd sy’n cymryd y risg, ac, yn anffodus, pobl ar y tu allan sy’n elwa. Mae’n cael effaith ddifrifol ar wariant refeniw yn y blynyddoedd i ddod, gan eich bod yn cronni dyled. Rwyf bob amser wedi gwrthwynebu PFI, gan feddwl ei fod yn ffordd hurt o symud ymlaen. Mae angen inni atchwyddo ein heconomi a chael arian i mewn—[Torri ar draws.] Fe’i gelwir yn Keynesiaeth, sef y gwrthwyneb i arianyddiaeth, a’r gwahaniaeth yw ei fod yn gweithio.

 

Byron Davies: I am pleased to contribute to this debate and to support the amendments tabled in the name of William Graham. We are all agreed that we are in difficult financial times. The backdrop of an economic crisis around the world, coupled with a legacy of spending far above our income by the former Westminster Government, means that tough decisions have to be made. That aside, we have a responsibility to use budgets far more responsibly and ensure that we squeeze all of the added value from every public pound. While we note the 41 per cent reduction in the Welsh Government’s capital budget, we urge the Welsh Labour Government to stimulate the economy. I repeat Paul Davies’s point on securing a green investment bank in Cardiff to step up the challenge of leading the world in green technology and the industries of the future.

 

Byron Davies: Rwy’n falch o gyfrannu at y ddadl hon ac i gefnogi’r gwelliannau a gyflwynwyd yn enw William Graham. Rydym i gyd yn gytûn ein bod mewn cyfnod ariannol anodd. Mae’r cefndir o argyfwng economaidd o gwmpas y byd, ynghyd ag etifeddiaeth o wario ymhell uwchlaw ein hincwm gan Lywodraeth flaenorol San Steffan, yn golygu bod yn rhaid gwneud penderfyniadau anodd. Ac eithrio hynny, mae gennym gyfrifoldeb i ddefnyddio cyllidebau yn llawer mwy cyfrifol a sicrhau ein bod yn gwasgu’r holl werth ychwanegol o bob punt cyhoeddus. Er ein bod yn nodi’r gostyngiad o 41 y cant yng nghyllideb cyfalaf Llywodraeth Cymru, rydym yn annog Llywodraeth Lafur Cymru i ysgogi’r economi. Rwy’n ailadrodd pwynt Paul Davies am sicrhau banc buddsoddi gwyrdd yng Nghaerdydd i gyfarfod â’r her o arwain y byd o ran technoleg werdd a diwydiannau’r dyfodol.

 

I believe that the Welsh Labour Government must also be relentless in trying to secure investment for capital projects. We have the private sector, the European Union and organisations such as the European Investment Bank to call on. In my opinion, the latter has been massively underused by past and present Governments in Wales. We can ill afford complacency at the heart of Government. It will be hard work to bid for every penny of available capital from our partners in Europe. Likewise, convincing small, medium and large businesses to locate or start up in Wales will also be hard work, but it has to be done.

 

Credaf fod yn rhaid i Lywodraeth Lafur Cymru hefyd fod yn ddiwyro wrth iddi geisio sicrhau buddsoddiad ar gyfer prosiectau cyfalaf. Gallwn alw ar y sector preifat, yr Undeb Ewropeaidd a sefydliadau megis Banc Buddsoddi Ewrop. Yn fy marn i, mae’r olaf wedi cael ei danddefnyddio yn aruthrol gan Lywodraethau’r gorffennol a’r Llywodraeth bresennol yng Nghymru. O’r braidd y gallwn fforddio agwedd hunanfodlon yng nghanol y Llywodraeth. Bydd yn waith caled i wneud cais am bob ceiniog o’r cyfalaf sydd ar gael gan ein partneriaid yn Ewrop. Yn yr un modd, bydd argyhoeddi busnesau bach, canolig a mawr i leoli neu gychwyn yng Nghymru hefyd yn waith caled, ond bydd yn rhaid ei wneud.

 

The Plaid Cymru motion is fundamentally flawed due to the tribal ruling out of any PFI schemes. There are good and bad examples of any funding model. While I do not for a second think that PFI is the magic solution that can save our country, unlike Mike Hedges, I believe that it is a model that we must incorporate. Private sector investment will be a key driving force in kick-starting our economy and will provide long-term stable jobs for our children. However, this investment must be responsibly negotiated.

 

Mae cynnig Plaid Cymru yn sylfaenol ddiffygiol oherwydd y penderfyniad llwythol i ddiystyru cynlluniau PFI. Ceir enghreifftiau da a drwg o unrhyw fodel cyllido. Er nad wyf yn meddwl o gwbl mai menter cyllid preifat yw’r ateb hudol a fydd yn achub ein gwlad, yn wahanol i Mike Hedges, credaf ei bod yn fodel y mae’n rhaid inni ei ymgorffori. Bydd buddsoddiad o’r sector preifat yn rym allweddol i gicdanio ein heconomi a bydd yn darparu swyddi sefydlog yn yr hirdymor ar gyfer ein plant. Fodd bynnag, mae’n rhaid trafod y buddsoddiad hwn yn gyfrifol.

 

I would stress the importance of investment in our transport network. If we are to secure investment in Wales through the development of Welsh businesses, and if we are to attract businesses to Wales, we need world-class transport infrastructure, especially for our road network. We are all aware of the problems surrounding our current highway network. While I will not dwell on the latest issues, the network should be a priority.

 

Byddwn yn pwysleisio pwysigrwydd buddsoddi yn ein rhwydwaith trafnidiaeth. Os ydym am sicrhau buddsoddiad yng Nghymru drwy ddatblygu busnesau Cymru, ac os ydym am ddenu busnesau i Gymru, mae arnom angen isadeiledd trafnidiaeth o’r radd flaenaf, yn enwedig ar gyfer ein rhwydwaith ffyrdd. Rydym i gyd yn ymwybodol o’r problemau oddi amgylch ein rhwydwaith priffyrdd presennol. Er na fyddaf yn mynd ar ôl y materion diweddaraf, dylai’r rhwydwaith fod yn flaenoriaeth.

 

Finally, I would flag up one key factor that could stimulate the economy—

 

Yn olaf, hoffwn dynnu eich sylw at un ffactor allweddol a allai ysgogi’r economi—

 

David Rees: Will you take an intervention?

 

David Rees: A wnewch chi dderbyn ymyriad?

 

Byron Davies: No thanks; I want to finish this.

 

Byron Davies: Dim diolch; rwyf am orffen hyn.

 

I will flag up one key factor that could stimulate the economy, namely the Severn bridge toll. In the lifetime of this Assembly, it is possible that we will see the conclusion of the toll, potentially by 2016, although the idea of some slippage has been floated. We need the Welsh Labour Government to start discussions now with the UK Department for Transport to see what the next step is, and to make this step clear to businesses operating in Wales and those that are looking to invest from afar for the benefit of their long-term plans. Finances are tight, and I emphasise the need to spend wisely, to ensure that we support Welsh firms through local procurement and to prioritise investment in infrastructure.

 

Tynnaf eich sylw at un ffactor allweddol a allai ysgogi’r economi, sef toll pont Hafren. Yn ystod oes y Cynulliad hwn, mae’n bosibl y gwelwn ddiwedd ar y doll, o bosibl erbyn 2016, er bod y syniad o rywfaint o lithriant wedi cael ei grybwyll. Mae arnom angen i Lywodraeth Lafur Cymru ddechrau trafodaethau yn awr gydag Adran Drafnidiaeth y DU i weld beth yw’r cam nesaf, ac i wneud y cam hwn yn glir i fusnesau sy’n gweithredu yng Nghymru a’r rhai sy’n awyddus i fuddsoddi o bell er budd eu cynlluniau hirdymor. Mae cyllid yn dynn, ac rwy’n pwysleisio’r angen i wario’n ddoeth, sicrhau ein bod yn cefnogi cwmnïau yng Nghymru drwy gaffael lleol a blaenoriaethu buddsoddiad mewn isadeiledd.

 

Julie James: I welcome this debate and support the Plaid Cymru motion. I agree with almost everything that has been said by Members, apart from the last speaker—I do not have time to disagree with him, but I would take issue with a number of the things that he said, or pretty much all of them. Instead, I will dwell on some good news that we are missing. We have increased spending in Wales on public procurement outcomes. The Sell2Wales website has been very successful, while 21 out of the last 40 major construction contracts have gone to Welsh businesses. We welcome the repeated statements by various Ministers, who have this sort of thing in their portfolios, that they welcome an ongoing review of procurement outcomes in Wales. However, I would add a note of caution, as did my colleague Mike Hedges. We all want to be able to manage economies of scale, which we have from cross-border purchasing for public sector organisations—the Welsh purchasing consortium is a good example of that, and we would like to see that example spread to various health authorities, universities and so on. At the same time, we also want to see local business and small and medium-sized enterprises winning more of our business. There is an inherent contradiction in some of that, so what we need is a much better risk-based awareness of our procurement strategies. The Minister mentioned this in committee this morning. It is clear that we need to take a different look at this. Many of you will know that we have a committee task and finish group that is going to do just that. I urge Members to await the outcome of some of that work. Clearly, the Welsh Government has this in its sights.

 

Julie James: Rwy’n croesawu’r ddadl hon ac yn cefnogi cynnig Plaid Cymru. Rwy’n cytuno â bron popeth sydd wedi cael ei ddweud gan Aelodau, ar wahân i’r siaradwr diwethaf—nid oes gennyf amser i anghytuno ag ef, ond byddwn yn mynd i ddadl â nifer o’r pethau a ddywedodd, neu bron pob un ohonynt. Yn lle hynny, byddaf yn mynd ar ôl rhai darnau o newyddion da yr ydym yn eu colli. Rydym wedi cynyddu gwariant yng Nghymru ar ganlyniadau caffael cyhoeddus. Mae’r wefan GwerthwchiGymru wedi bod yn llwyddiannus iawn, tra bod 21 allan o’r 40 contract adeiladu mawr diwethaf wedi mynd i fusnesau yng Nghymru. Rydym yn croesawu’r datganiadau dro ar ôl tro gan amryw o Weinidogion, sydd â’r math hwn o beth yn eu portffolios, eu bod yn croesawu adolygiad parhaus o ganlyniadau caffael yng Nghymru. Fodd bynnag, byddwn i’n ychwanegu nodyn o rybudd, fel y gwnaeth fy nghyd-Aelod Mike Hedges. Rydym i gyd yn awyddus i lwyddo i gael arbedion maint, sydd yn dod i’n rhan drwy brynu trawsffiniol ar gyfer sefydliadau sector cyhoeddus—mae consortiwm prynu Cymru yn enghraifft dda o hynny, a hoffem weld yr enghraifft honno’n lledaenu i awdurdodau iechyd amrywiol, prifysgolion ac yn y blaen. Ar yr un pryd, rydym hefyd yn awyddus i weld busnesau lleol a mentrau bach a chanolig yn ennill mwy o’n busnes. Ceir gwrthgyferbyniad cynhenid mewn rhywfaint o hynny, felly yr hyn y mae arnom ei angen yw ymwybyddiaeth llawer gwell o’n strategaethau caffael sy’n seiliedig ar risg. Soniodd y Gweinidog am hyn yn y pwyllgor y bore yma. Mae’n amlwg bod angen inni gymryd golwg wahanol ar hyn. Bydd llawer ohonoch yn gwybod bod grŵp gorchwyl a gorffen gan y pwyllgor a fydd yn gwneud hynny. Anogaf yr Aelodau i aros am ganlyniadau rhywfaint o’r gwaith hwnnw. Mae’n amlwg bod Llywodraeth Cymru wedi gosod ei bryd ar hyn.

 

I also welcome the public sector finance leadership programme that has been put in place, and I urge Members not to overlook the opportunities for our universities to be, not regeneration hubs, but generation hubs. They are hubs for new business and for the sort of research and development companies that the Welsh economy desperately needs. If you look at universities across the world—particularly in the United States—there is often an enormous hub of new business activity around them, where entrepreneurs can start companies, get them running and then move on to another one by using universities’ research and development departments. We have a number of good examples in Wales where that could easily be done. I urge the Government to look at that as part of its economic strategy. Indeed, I know that the Government is already doing so.

 

Croesawaf hefyd y rhaglen arweinyddiaeth cyllid yn y sector cyhoeddus sydd wedi cael ei rhoi ar waith, ac rwy’n annog Aelodau i beidio ag esgeuluso’r cyfleoedd i’n prifysgolion i fod, nid yn ganolbwyntiau dros adfywio, ond yn ganolbwyntiau dros gynhyrchu. Maent yn ganolbwyntiau ar gyfer busnes newydd ac ar gyfer y math o gwmnïau ymchwil a datblygu y mae taer eu hangen yn economi Cymru. Os edrychwch ar brifysgolion ledled y byd—yn enwedig yn yr Unol Daleithiau—mae yna ganolbwyntiau enfawr o weithgarwch busnes newydd o’u cwmpas, lle gall entrepreneuriaid ddechrau cwmnïau, eu cael nhw i fynd ac yna symud ymlaen i un arall drwy ddefnyddio adrannau ymchwil a datblygu prifysgolion. Mae gennym nifer o enghreifftiau da yng Nghymru lle y gellid gwneud hynny’n hawdd. Anogaf y Llywodraeth i edrych ar hynny fel rhan o’i strategaeth economaidd. Yn wir, gwn fod y Llywodraeth eisoes yn gwneud hynny.

 

Lastly, I broadly welcome the direction of the debate and I want to throw my lot in with Keynes and support the idea of investing in infrastructure to stimulate economic growth. That is one of the issues that I had with Byron Davies, because he seemed to be accepting that idea and criticising it at the same time. Clearly, a 41 per cent cut in our capital budget by the people up the road makes decisions on investment in major infrastructure projects challenging, to say the least. With this in mind, I hope that I can count on Members’ support—especially Plaid Cymru Members—for the call by me and my Swansea East colleague, Mike Hedges, for the full electrification of the London to Swansea rail line as part of the infrastructure project. It would be remiss of me not to mention it as part of a debate on infrastructure, and I hope that we can all get behind it as one of the main points of investment in infrastructure in Wales.

 

Yn olaf, yn gyffredinol rwy’n croesawu cyfeiriad y ddadl ac rwyf am fwrw fy nghoelbren gyda Keynes a chefnogi’r syniad o fuddsoddi mewn isadeiledd er mwyn ysgogi twf economaidd. Dyna un o’r trafferthion a gefais gyda Byron Davies, oherwydd ymddangosai ei fod yn derbyn y syniad hwnnw ac yn ei feirniadu ar yr un pryd. Mae’n amlwg bod y toriad o 41 y cant yn ein cyllideb gyfalaf gan y bobl i fyny’r ffordd yn gwneud penderfyniadau ar fuddsoddi mewn prosiectau isadeiledd mawr yn heriol, a dweud y lleiaf. Gyda hyn mewn golwg, gobeithiaf y gallaf gyfrif ar gefnogaeth yr Aelodau—yn enwedig Aelodau Plaid Cymru—i’r alwad gennyf i a’m cyd-Aelod o Ddwyrain Abertawe, Mike Hedges, am drydaneiddio’r llinell reilffordd o Lundain i Abertawe yn llawn fel rhan o’r prosiect isadeiledd. Byddwn yn esgeulus pe na bawn yn sôn amdano mewn dadl ar isadeiledd, a gobeithiaf y gallwn ni i gyd ei gefnogi fel un o’r prif bwyntiau buddsoddi mewn isadeiledd yng Nghymru.

 

The Minister for Finance and Leader of the House (Jane Hutt): As Alun Ffred Jones, the Plaid Cymru spokesperson, said at the outset of this very important debate, we have had grim employment news today. The unemployment rate is up to 9 per cent in Wales, above the UK average, and the claimant count is also up. The impact on younger people in Wales is at the forefront of our concerns, and the announcement this week of a jobs growth scheme, which will give 4,000 young people each year skills and job opportunities is key, as Members will recognise. In fully supporting every aspect of this motion, I welcome the opportunity to discuss the important issue of capital funding. It is in line with the objectives of our draft budget for growth and jobs. It is also clearly in line with the statement made by the First Minister today. It is important that we share the regret that has been voiced about the cuts to the Welsh Government’s capital budget. Mick Antoniw, Rhodri Glyn Thomas and Julie James all recognised the impact of those cuts on our capital budget. The stark reality is that our capital budget for 2014-15 will be some 50 per cent lower than it was at its peak in 2009-10, and lower than at any point during devolution. That has a direct impact on our economy and in particular on the health of our construction sector. As Alun Ffred Jones makes quite clear, this is key in terms of jobs, skills and opportunities. I am ready to meet the challenges of the falling capital budget head on.

 

Y Gweinidog Cyllid ac Arweinydd y Tŷ (Jane Hutt): Fel y dywedodd Alun Ffred Jones, llefarydd Plaid Cymru, ar ddechrau’r ddadl bwysig iawn hon, rydym wedi cael newyddion digysur am gyflogaeth heddiw. Mae’r gyfradd ddiweithdra i fyny at 9 y cant yng Nghymru, yn uwch na chyfartaledd y Deyrnas Unedig, ac mae nifer yr hawlwyr hefyd ar i fyny. Mae’r effaith ar bobl iau yng Nghymru yn un o’n prif bryderon, ac mae’r cyhoeddiad yr wythnos hon o gynllun twf swyddi, a fydd yn rhoi sgiliau a chyfleoedd gwaith i 4,000 o bobl ifanc bob blwyddyn yn allweddol, fel y bydd Aelodau yn ei gydnabod. Wrth gefnogi pob agwedd ar y cynnig hwn yn llawn, croesawaf y cyfle i drafod mater pwysig cyllid cyfalaf. Mae’n unol ag amcanion ein cyllideb ddrafft ar gyfer twf a swyddi. Mae hefyd yn amlwg yn unol â’r datganiad y gwnaeth y Prif Weinidog heddiw. Mae’n bwysig ein bod yn rhannu’r gofid sydd wedi cael ei leisio am y toriadau i gyllideb gyfalaf Llywodraeth Cymru. Roedd Mick Antoniw, Rhodri Glyn Thomas a Julie James i gyd yn cydnabod effaith y toriadau hynny ar ein cyllideb gyfalaf. Y gwir yn blaen yw y bydd ein cyllideb gyfalaf ar gyfer 2014-15 tua 50 y cant yn is nag yr oedd ar ei anterth yn 2009-10, ac yn is nag ar unrhyw adeg yn ystod datganoli. Mae hynny’n cael effaith uniongyrchol ar ein heconomi ac yn benodol ar iechyd ein sector adeiladu. Fel y gwnaeth Alun Ffred Jones yn gwbl glir, mae hyn yn allweddol o ran swyddi, sgiliau a chyfleoedd. Rwy’n barod i ymateb i heriau’r gostyngiad yn y gyllideb gyfalaf yn uniongyrchol.

 

Paul Davies, the opposition’s finance spokesperson welcomed the work that we are doing in developing a national infrastructure investment plan for Wales, and that is a part of the motion. That is happening alongside the consideration and implementation of innovative funding solutions to help meet challenges. It is important and fair for Paul Davies and Byron Davies to say that that the infrastructure plan will be developed in consultation with a wide range of stakeholders. It will identify key infrastructure priorities; a few have been mentioned already this afternoon, including having one point of reference for all strategic infrastructure activity, positively encouraging the private sector to invest in Wales. That is following questions to me in the Finance Committee this morning. Another is providing greater clarity and certainty on our medium and longer-term investment priorities and, indeed, moving on from that out-dated former PFI model. As Mike Hedges said, there may be profits for individuals, but it certainly does not deliver in terms of economic opportunity. The number of additional means that you are proposing and that we are taking forward to stimulate the Welsh economy demonstrates that we are looking at the full range of options.

 

Croesawodd Paul Davies, llefarydd cyllid yr wrthblaid, y gwaith yr ydym yn ei wneud wrth ddatblygu cynllun buddsoddi mewn isadeiledd cenedlaethol ar gyfer Cymru, ac mae hynny’n rhan o’r cynnig. Mae hynny’n digwydd ochr yn ochr ag ystyried a gweithredu atebion ariannu arloesol i helpu i gyfarfod heriau. Mae’n bwysig a theg bod Paul Davies a Byron Davies yn dweud y caiff cynllun isadeiledd ei ddatblygu mewn ymgynghoriad ag ystod eang o randdeiliaid. Bydd yn nodi blaenoriaethau isadeiledd allweddol; mae rhai wedi cael eu crybwyll eisoes y prynhawn yma, gan gynnwys cael un pwynt i gyfeirio ato ar gyfer pob gweithgaredd isadeiledd strategol, gan annog y sector preifat yn gadarnhaol i fuddsoddi yng Nghymru. Mae hynny’n dilyn cwestiynau i mi yn y Pwyllgor Cyllid y bore yma. Un arall yw rhoi mwy o eglurder a sicrwydd am ein blaenoriaethau buddsoddi tymor canolig a hirach ac, yn wir, symud ymlaen o’r model blaenorol PFI hwnnw sydd wedi dyddio. Fel y dywedodd Mike Hedges, efallai y bydd unigolion yn elwa, ond yn sicr nid yw’n cyflawni o ran cyfleoedd economaidd. Mae nifer y dulliau ychwanegol yr ydych yn eu cynnig ac yr ydym yn eu cymryd ymlaen i ysgogi economi Cymru yn dangos ein bod yn edrych ar yr ystod lawn o ddewisiadau.

 

On local government borrowing, Mike Hedges talked about Gerry Holtham’s borrow-to-invest model, which clearly identified a practical way to raise additional funds. We are working together. The Minister for Local Government and Communities and I met with the local government finance spokespersons last week to take this forward. Where there is scope to borrow additional funds prudently, we must consider the benefits of bringing forward major capital investment programmes to provide a major boost to the Welsh economy. That is what we did in response to the 2008 recession.

 

Ar fenthyciadau llywodraeth leol, soniodd Mike Hedges am fodel Gerry Holtham o fenthyg i fuddsoddi, a oedd yn nodi’n glir ffordd ymarferol o godi arian ychwanegol. Rydym yn gweithio gyda’n gilydd. Cyfarfu’r Gweinidog Llywodraeth Leol a Chymunedau a minnau â llefarwyr cyllid llywodraeth leol yr wythnos diwethaf i fwrw ymlaen â hyn. Lle mae’n bosibl i fenthyg arian ychwanegol yn ddarbodus, rhaid inni ystyried y manteision o ddod â rhaglenni buddsoddi cyfalaf o bwys ymlaen i roi hwb mawr i economi Cymru. Dyna a wnaethom mewn ymateb i ddirwasgiad 2008.

 

Paul Davies and Eluned Parrott raised interesting points in their parties’ amendments, including bringing the green investment bank to Cardiff. My colleague Edwina Hart has written to the Secretary of State for Business, Innovation and Skills, promoting the Cardiff city region as a base for the bank. Tax increment financing is a more complicated issue, and one on which we have an open mind. However, it is very premature to talk at this time about introducing tax increment financing. We need to look at that in detail. To reassure the Conservative finance spokesperson, European Investment Bank loans have been used extensively by the public and private sectors in Wales. However, as with all borrowing, we must recognise that there are costs and conditions involved. Of course, that has been recognised in the debate today.

 

Cododd Paul Davies ac Eluned Parrott bwyntiau diddorol yng ngwelliannau eu pleidiau, gan gynnwys dod â’r banc buddsoddi gwyrdd i Gaerdydd. Mae fy nghyd-Weinidog Edwina Hart wedi ysgrifennu at yr Ysgrifennydd Gwladol dros Fusnes, Arloesedd a Sgiliau, yn hyrwyddo dinas-ranbarth Caerdydd fel canolfan ar gyfer y banc. Mae ariannu drwy gynyddrannau treth yn fater mwy cymhleth, ac yn un y mae gennym feddwl agored yn ei gylch. Fodd bynnag, mae’n llawer yn rhy gynnar i siarad ar hyn o bryd ynglŷn â chyflwyno ariannu drwy gynyddrannau treth. Mae angen inni edrych ar hynny yn fanwl. I dawelu meddwl llefarydd cyllid y Ceidwadwyr, mae benthyciadau Banc Buddsoddi Ewrop wedi cael eu defnyddio’n helaeth gan y sectorau cyhoeddus a phreifat yng Nghymru. Fodd bynnag, fel gyda phob benthyciad, mae’n rhaid inni gydnabod bod yna gostau ac amodau sy’n gysylltiedig. Wrth gwrs, cafodd hynny ei gydnabod yn y ddadl heddiw.

 

Focusing on procurement is important. Eluned Parrott and Llyr Huws Gruffydd focused on this. I will pick up on what Julie James said, as I think that we are very fortunate to have an expert on public procurement here in the Assembly. Julie James is that person. We took swift and decisive action to counter the pressures created by the UK Government’s reducing Wales’s capital allocation last October. I announced the construction procurement steering group, which brought together public sector and industry to develop joint solutions to procurement challenges. What was so important in Julie James’s expert contribution was what she said about simplifying procurement processes, maximising benefits from our capital investment, which is already having an impact by helping Welsh suppliers to compete successfully for public construction contracts. Last year, indigenous suppliers won places on 17 out of 28 major construction contracts. Since April, they have won 10 of the 16 major contracts. The Minister for Business, Enterprise, Technology and Science has also recently announced the addition of three new priority sectors, including construction, clearly recognising the significant contribution the industry makes to the Welsh economy and ensuring that the Welsh Government supports Welsh construction businesses as they compete for contracts and create jobs.

 

Mae canolbwyntio ar gaffael yn bwysig. Canolbwyntiodd Eluned Parrott a Llyr Huws Gruffydd ar hyn. Gwnaf sylwadau ar yr hyn a ddywedodd Julie James, gan fy mod yn credu ein bod yn ffodus iawn i gael arbenigwr ar gaffael cyhoeddus yma yn y Cynulliad. Julie James yw’r person hwnnw. Cymerasom gamau cyflym a phendant i wrthsefyll y pwysau a grëwyd drwy’r lleihad yn nyraniad cyfalaf Cymru fis Hydref diwethaf gan Lywodraeth y DU. Cyhoeddais y grŵp llywio caffael adeiladu, a ddaeth â’r sector cyhoeddus a diwydiant at ei gilydd i ddatblygu atebion ar y cyd i heriau caffael. Yr hyn a oedd mor bwysig yng nghyfraniad arbenigol Julie James oedd yr hyn a ddywedodd ynghylch symleiddio’r prosesau caffael, cael y buddion mwyaf o’n buddsoddiad cyfalaf, sydd eisoes yn cael effaith drwy helpu cyflenwyr yng Nghymru i gystadlu’n llwyddiannus ar gyfer contractau adeiladu cyhoeddus. Y llynedd, enillodd cyflenwyr brodorol leoedd ar 17 allan o 28 o gontractau adeiladu mawr. Ers mis Ebrill, maent wedi ennill 10 o’r 16 o gontractau mawr. Cyhoeddodd y Gweinidog Busnes, Menter, Technoleg a Gwyddoniaeth hefyd yn ddiweddar ychwanegiad tri sector blaenoriaeth newydd, gan gynnwys adeiladu, gan gydnabod cyfraniad sylweddol y diwydiant i economi Cymru yn glir a sicrhau bod Llywodraeth Cymru yn cefnogi busnesau adeiladu yng Nghymru wrth iddynt gystadlu ar gyfer contractau a chreu swyddi.

 

It is important that the Liberal Democrat amendment 6 and Eluned Parrott in her remarks referred to the issue of support for patents. We have existing funding for that. Business mentoring is available, and the Minister for Business, Enterprise, Technology and Science is currently considering options for developing a business mentoring scheme.

 

Mae’n bwysig bod gwelliant 6 y Democratiaid Rhyddfrydol a bod Eluned Parrott yn ei sylwadau wedi cyfeirio at y mater o gefnogaeth ar gyfer patentau. Mae ariannu ar gyfer hynny eisoes yn bodoli. Mae mentora busnes ar gael, ac mae’r Gweinidog Busnes, Menter, Technoleg a Gwyddoniaeth ar hyn o bryd yn ystyried opsiynau ar gyfer datblygu cynllun mentora busnes.

 

Finally, Mick Antoniw drew attention to a very important fact. On Monday, I issued a written statement about inter-governmental talks on a fairer funding settlement and access to borrowing powers. That is the remit of the talks I am having with the UK Government. These are going to be taken forward on the basis that we are seeking a comprehensive package of reforms. They will cover fair funding, starting with the funding floor, as proposed by Gerry Holtham. However, borrowing powers are a key plank of our economic stimulus approach. Of course, the work done by Gerry Holtham has already proved the point that we are underfunded by at least £300 million.

 

Yn olaf, tynnodd Mick Antoniw ein sylw at ffaith bwysig iawn. Ddydd Llun, cyhoeddais ddatganiad ysgrifenedig am drafodaethau rhynglywodraethol ar setliad ariannu tecach a mynediad at bwerau benthyca. Dyna gylch gwaith fy nhrafodaethau gyda Llywodraeth y DU. Caiff y rhain eu datblygu ar y sail ein bod yn ceisio cael pecyn cynhwysfawr o ddiwygiadau. Byddant yn cwmpasu ariannu teg, gan ddechrau gyda chyllid gwaelodol, fel y cynigodd Gerry Holtham. Fodd bynnag, mae pwerau benthyca yn elfen allweddol o’n dull sbardun economaidd. Wrth gwrs, mae’r gwaith a wnaed gan Gerry Holtham eisoes wedi profi ein bod yn cael ein tanariannu gan o leiaf £300 miliwn.

 

I fully endorse the motion. The challenges for the future are great. Our approach has the support of leading independent commentators—not only the Conservative Chair of the Treasury Committee, Andrew Tyrie, but also the Nobel prize winner Professor Chris Pissarides, who said this weekend that the cuts need to be more gradual. You may also recall that the Government economist Jonathan Portes, the new director of the National Institute of Economic and Social Research, called for a plan for growth. This is the plan for growth that we in the Welsh Government are taking forward.

 

Rwy’n cymeradwyo’r cynnig yn llwyr. Mae’r heriau ar gyfer y dyfodol yn rhai mawrion. Cefnogir ein dull gan sylwebyddion annibynnol blaenllaw—nid dim ond Cadeirydd Ceidwadol Pwyllgor y Trysorlys, Andrew Tyrie, ond hefyd yr Athro Chris Pissarides, enillydd gwobr Nobel, a ddywedodd y penwythnos hwn bod angen i’r toriadau fod yn fwy graddol. Efallai y byddwch yn cofio hefyd bod yr economegydd Llywodraeth Jonathan Portes, cyfarwyddwr newydd y Sefydliad Cenedlaethol dros Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol, wedi galw am gynllun ar gyfer twf. Dyma’r cynllun ar gyfer twf yr ydym ni yn Llywodraeth Cymru yn bwrw ymlaen ag ef.

 

5.15 p.m.

 

Financial markets are unnerved; we face the prospect of further banking crises and global recession. We have to take action. It is clear to me that we are united in the Assembly in the objective of finding new means to raise capital and boost the Welsh economy. That is an observation from which I draw strength and confidence.

 

Mae’r marchnadoedd ariannol yn sigledig; rydym yn wynebu’r posibilrwydd o argyfyngau bancio pellach a dirwasgiad byd-eang. Mae’n rhaid i ni weithredu. Mae’n amlwg i mi ein bod yn unedig yn y Cynulliad yn yr amcan o ddod o hyd i ddulliau newydd i godi cyfalaf a rhoi hwb i economi Cymru. Mae hwnnw’n sylw yr wyf yn tynnu cryfder a hyder oddi wrtho.

 

Alun Ffred Jones: I thank everyone who has taken part in this debate, which has been quite a thoughtful one. I would like to address one or two of the points that have been made, but I will not refer to everyone who has spoken.

 

Alun Ffred Jones: Diolch i bawb sydd wedi cymryd rhan yn y ddadl hon, sydd wedi bod yn un eithaf meddylgar. Hoffwn dalu sylw i un neu ddau o’r pwyntiau a wnaed, ond ni fyddaf yn cyfeirio at bawb sydd wedi siarad.

 

Today’s discussion has taken place against a desperate worldwide background. The fact is that the economy of the UK has developed in a very lopsided way over the past few decades and the degrading of manufacturing under both Tory and Labour Governments was a profound mistake. On top of that, the widening gap between the financial elite and ordinary workers has been a decisive factor. The purchasing power of the wages of the middle classes and ordinary workers has stagnated during this decade. That is hurting the economy badly because they do not have the purchasing power that they had before.

 

Mae’r drafodaeth heddiw wedi digwydd yn erbyn cefndir byd-eang anobeithiol. Y ffaith yw bod economi’r Deyrnas Unedig wedi datblygu mewn ffordd anghytbwys iawn dros y degawdau diwethaf ac yr oedd diraddio gweithgynhyrchu o dan y ddwy Lywodraeth Dorïaidd a Llafur yn gamgymeriad difrifol. Ar ben hynny, mae’r bwlch cynyddol rhwng yr elît ariannol a gweithwyr cyffredin wedi bod yn ffactor tyngedfennol. Mae pŵer prynu cyflogau’r dosbarthiadau canol a gweithwyr cyffredin wedi marweiddio yn ystod y ddegawd hon. Mae hynny’n brifo’r economi yn wael oherwydd nad oes ganddynt y pŵer prynu a oedd ganddynt o’r blaen.

 

Darren Millar: I thank the Member for taking an intervention. You were lamenting the decline of the manufacturing industry in Wales; do you regret the fact that the previous Welsh Government, under which your leader was responsible for the economy, failed to produce a Welsh manufacturing strategy over a four-year period, despite a commitment to do so in the ‘One Wales’ agreement?

 

Darren Millar: Diolch i’r Aelod am dderbyn ymyriad. Roeddech yn galaru dirywiad y diwydiant gweithgynhyrchu yng Nghymru; a ydych yn gresynu at y ffaith bod Llywodraeth flaenorol Cymru, lle’r oedd eich arweinydd yn gyfrifol am yr economi, wedi methu â llunio strategaeth gweithgynhyrchu yng Nghymru dros gyfnod o bedair blynedd, er gwaethaf ymrwymiad i wneud hynny yng nghytundeb ‘Cymru’n Un’?

 

Alun Ffred Jones: It is difficult to take that point seriously from a man representing a party that oversaw the decimation of manufacturing under the last Tory regime.

 

Alun Ffred Jones: Mae’n anodd cymryd y pwynt hwnnw o ddifrif gan ddyn sy’n cynrychioli plaid a oruchwyliodd ddinistriad gweithgynhyrchu o dan y gyfundrefn Dorïaidd ddiwethaf.

 

I will refer to the amendments quickly. The Tories wish us to note the 41 per cent cut; no, we deplore it, as do leading economists throughout the world. We are seeing the economics of the mad house at the moment.

 

Cyfeiriaf at y newidiadau yn gyflym. Mae’r Torïaid yn dymuno inni nodi’r toriad o 41 y cant; na, yr ydym yn ei resynu, fel ag y mae economegwyr blaenllaw ar draws y byd. Gweld economeg y gwallgofdy a wnawn ni ar hyn o bryd.

 

The second amendment refers to private finance initiatives. It is very interesting that the Tories in London have been blaming expensive PFI projects in the NHS for the cuts imposed by trusts in England. Therefore, I am not sure why the Tories in Wales are so keen on this dangerous model. However, to show that I am a fair-minded person, I have accepted amendment 3.

 

Mae’r ail welliant yn cyfeirio at fentrau cyllid preifat. Mae’n ddiddorol iawn bod y Torïaid yn Llundain wedi bod yn beio prosiectau PFI drud yn y gwasanaeth iechyd gwladol am y toriadau a orfodwyd gan ymddiriedolaethau yn Lloegr. Felly, nid wyf yn siŵr pam y mae’r Torïaid yng Nghymru mor frwd am y model peryglus hwn. Fodd bynnag, er mwyn dangos fy mod yn berson teg, yr wyf wedi derbyn gwelliant 3.

 

The reference to the Olympics in amendment 4 is passé; it will not create a single new job, however unpleasant the facts are.

 

Mae’r cyfeiriad at y Gemau Olympaidd yng ngwelliant 4 yn hen ffasiwn; ni fydd yn creu yr un swydd newydd, pa amhleserus bynnag yw’r ffeithiau.

 

With regard to amendment 5, I echo Jane Hutt’s remarks about the uncertainty at present with regard to whether we have the powers and, indeed, whether it would work in Wales. However, it is worth pursuing at a later date.

 

O ran gwelliant 5, ategaf sylwadau Jane Hutt ynghylch yr ansicrwydd ar hyn o bryd o ran a oes gennym y pwerau ac, yn wir, p’un ai a fyddai’n gweithio yng Nghymru ai peidio. Serch hynny, mae’n werth mynd ar drywydd hynny yn nes ymlaen.

 

We accept amendment 6, which refers to the importance of patents, including new patents, in developing the Welsh economy.

 

Yr ydym yn derbyn gwelliant 6, sydd yn cyfeirio at bwysigrwydd patentau, gan gynnwys patentau newydd, wrth ddatblygu economi Cymru.

 

I would like to make quick reference to Mick Antoniw’s comments. I agree with the main thrust of his arguments. He mentioned that borrowing powers were more important than anything else, but the ability to raise money is the flip side of borrowing and will bring responsibility to the actions of the Welsh Government.

 

Hoffwn gyfeirio’n gyflym at sylwadau Mick Antoniw. Cytunaf â phrif fyrdwn ei ddadleuon. Soniodd fod pwerau benthyca yn bwysicach na dim arall, ond y gwrthwyneb i fenthyca yw’r gallu i godi arian a bydd yn dod â chyfrifoldeb i weithredoedd Llywodraeth Cymru.

 

I agree entirely with Mike Hedges, who quoted extensively from Gerry Holtham’s speech to the Institute of Welsh Affairs. Once again, this requires a huge change in tactics and approach on the part of the Government. It is undeniably a huge challenge to do that. The prize is worth aiming for, but it requires commitment, and we have not seen that commitment yet. However, I accept the words of the Minister for Finance, who is actively pursuing some of the avenues that have been suggested.

 

Cytunaf yn llwyr â Mike Hedges, a ddyfynnodd yn helaeth o araith Gerry Holtham i’r Sefydliad Materion Cymreig. Unwaith eto, mae hyn yn gofyn am newid enfawr o ran tactegau ac ymagwedd ar ran y Llywodraeth. Yn ddiau, mae’n her enfawr i wneud hynny. Mae’r wobr yn un gwerth anelu ati, ond mae’n gofyn am ymrwymiad, ac nid ydym wedi gweld yr ymrwymiad hwnnw eto. Fodd bynnag, derbyniaf eiriau’r Gweinidog Cyllid, sydd wrthi’n mynd ar drywydd rhai o’r llwybrau sydd wedi cael eu hawgrymu.

 

I will finish the debate with a call for decisive action, and for that action to take place as soon as possible in the context of the dire economic situation that we face, and the fact that so many of our young people now face lengthy periods on the dole.

 

Hoffwn gloi’r ddadl gyda galwad am weithredu pendant, ac i’r gweithredu hwnnw ddigwydd cyn gynted ag y bo modd yng nghyd-destun y sefyllfa economaidd enbyd sy’n ein hwynebu, a’r ffaith bod cymaint o’n pobl ifanc yn awr yn wynebu cyfnodau hir ar y dôl.

 

The Deputy Presiding Officer: The proposal is to agree the motion without amendment. Does any Member object? I see that there is an objection. I therefore defer all voting on this item until voting time.

 

Y Dirprwy Lywydd: Y cynnig yw cytuno ar y cynnig heb ei ddiwygio. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Gwelaf fod gwrthwynebiad. Felly, gohiriaf yr holl bleidleisio ar yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.

 

Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.
Voting deferred until voting time.

 

Dadl Democratiaid Rhyddfrydol Cymru
Welsh Liberal Democrats Debate

 

Canser
Cancer

 

Y Dirprwy Lywydd: Yr wyf wedi dethol gwelliant 1 yn enw Jocelyn Davies a gwelliant 2 yn enw Jane Hutt.

 

The Deputy Presiding Officer: I have selected amendment 1 in the name of Jocelyn Davies and amendment 2 in the name of Jane Hutt.

 

Cynnig NDM4824 Peter Black

 

Motion NDM4824 Peter Black

 

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

 

To propose that the National Assembly for Wales:

 

1. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:

 

1. Calls on the Welsh Government to:

 

a) Sefydlu Cynllun Canser cynhwysfawr sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn i:

 

a) Establish a comprehensive person-centred Cancer Plan to:

 

i) bennu targedau clir i sicrhau bod y triniaethau gorau sydd ar gael ar gael i bawb yng Nghymru ni waeth pa fath o ganser sydd ganddynt na lle maent yn byw;

 

i) set clear targets on making the best available treatment available to everybody in Wales regardless of the type of cancer they have or where they live;

 

ii) datblygu cynlluniau clir ar gyfer canfod canser yn gynharach yng Nghymru.

 

ii) develop clear plans for detecting cancer earlier in Wales.

 

iii) sicrhau bod cefnogaeth holistaidd yn cael ei darparu i’r rheini sy’n byw â chanser a’u teuluoedd o’r funud maent yn amau bod ganddynt ganser, yn ystod eu triniaeth ac ar ei hôl yn ogystal ag ar ddiwedd bywyd;

 

iii) ensure holistic support is provided for those living with cancer and their families from the moment they suspect they have cancer, during and beyond treatment as well as at the end of life;

 

b) Sefydlu Cronfa Cyffuriau Canser; ac

 

b) Establish a Cancer Drugs Fund; and

 

c) Datblygu cynllun i gefnogi’r rheini sy’n goroesi canser.

 

c) Develop a plan to support cancer survivors.

 

Kirsty Williams: I move the motion.

 

Kirsty Williams: Cynigiaf y cynnig.

 

We will support Plaid Cymru’s amendment 1, which refers to last week’s debate, but we will oppose amendment 2 from the Government.

 

Byddwn yn cefnogi gwelliant Plaid Cymru 1, sy’n cyfeirio at y ddadl yr wythnos ddiwethaf, ond byddwn yn gwrthwynebu gwelliant 2 gan y Llywodraeth.

 

As I said earlier, I welcome the cross-party consensus shown in the Chamber last Wednesday when we supported Plaid Cymru’s amendment to establish a cancer plan. That is a welcome signal to the people of Wales about the intention of this Government and opposition parties in the Assembly to work together to create a cancer service of which we can all be proud. I do not wish to rehearse all the arguments that we had last week, but rather I wish to put on record what I hope will be crucial elements of the cancer plan that the Minister will bring forward later this year. I hope that, even at this last stage, as her officials continue to draft their consultation paper, it is not too late to influence some of that work and that the paper that is published later this year will attract widespread support across the Chamber.

 

Fel y dywedais yn gynharach, yr wyf yn croesawu’r consensws trawsbleidiol a ddangoswyd yn y Siambr ddydd Mercher diwethaf pan roesom ein cefnogaeth i welliant Plaid Cymru i sefydlu cynllun canser. Mae hynny’n arwydd, a groesewir, i bobl Cymru o fwriad y Llywodraeth a’r gwrthbleidiau yn y Cynulliad i weithio gyda’i gilydd i greu gwasanaeth canser y gallwn oll fod yn falch ohono. Nid wyf yn dymuno ailadrodd yr holl ddadleuon a gawsom yr wythnos ddiwethaf, ond yn hytrach yr wyf am gofnodi’r hyn yr wyf yn gobeithio a fydd yn elfennau hanfodol o’r cynllun canser y bydd y Gweinidog yn ei gyflwyno yn nes ymlaen eleni. Yr wyf yn gobeithio, hyd yn oed cyn hwyred â hyn, wrth i’w swyddogion barhau i ddrafftio eu papur ymgynghori, nad yw’n rhy hwyr i ddylanwadu ar rywfaint o’r gwaith hwnnw ac y gwnaiff y papur a gyhoeddir yn nes ymlaen eleni ddenu cefnogaeth eang ledled y Siambr.

 

We have set out what we believe should be key elements of a cancer plan. The first is that it must have clear targets about what people can expect of cancer services in Wales. It is important for patients, for those who commission services on behalf of patients and for those who are responsible for delivering those services that there should be no ambiguity about what can be expected should you receive a diagnosis of cancer. It should also include what the Minister and the Government expect of the service.

 

Rydym wedi nodi’r hyn a ddylai fod, yn ein tyb ni, yn elfennau allweddol o gynllun canser. Y cyntaf yw y dylai fod â thargedau clir am yr hyn y gall pobl ei ddisgwyl gan wasanaethau canser yng Nghymru. Mae’n bwysig i gleifion, i’r rhai sy’n comisiynu gwasanaethau ar ran cleifion ac i’r rhai sydd yn gyfrifol am gyflwyno’r gwasanaethau hynny na ddylai fod unrhyw amwysedd ynghylch yr hyn y gellir ei ddisgwyl pe dderbyniech ddiagnosis o ganser. Dylai hefyd gynnwys yr hyn y mae’r Gweinidog a’r Llywodraeth yn ei ddisgwyl gan y gwasanaeth.

 

The plan should also seek to achieve consistency across Wales, which means that wherever you are, you can expect a certain standard of service, whether you live in an urban area or the countryside. The plan should also mean that, regardless of your age, and especially if you are an older citizen, you can be confident that you will receive treatment and that you will not be consigned to lesser treatment because you are deemed to be too old and it has been decided that resources should be spent on someone younger. You should also receive a certain standard of service whether you are female or male: we are aware of the statistics on bowel cancer, in particular, and the challenge of getting men to interact earlier with the health service to participate in screening.

 

Dylai’r cynllun hefyd geisio sicrhau cysondeb ar draws Cymru, sy’n golygu, ble bynnag yr ydych, gallwch ddisgwyl safon benodol o wasanaeth, p’un ai a ydych yn byw mewn ardal drefol neu yng nghefn gwlad. Dylai’r cynllun hefyd olygu, beth bynnag eich oedran, ac yn enwedig os mai dinesydd hŷn ydych, y gallwch fod yn hyderus y byddwch yn derbyn triniaeth ac na chewch eich traddodi i driniaeth lai oherwydd ystyrir eich bod yn rhy hen a’i bod wedi’i benderfynu y dylid gwario’r adnoddau ar rywun iau. Dylech hefyd gael safon benodol o wasanaeth, boed yn fenyw neu’n wryw: rydym yn ymwybodol o’r ystadegau ar ganser y coluddyn, yn arbennig, a’r her o gael dynion i ryngweithio yn gynharach gyda’r gwasanaeth iechyd i gymryd rhan mewn sgrinio.

 

The plan should also mean that it should not matter what race you are, as the plan should recognise that some members of our ethnic communities will have a particular predisposition to cancer, and that significant cultural issues may need to be addressed in the process of commissioning and providing services for people from different religious and racial backgrounds. It should also be a plan that focuses on the individual in their journey through the system and provides support for the individual and their family.

 

Dylai’r cynllun hefyd olygu na ddylai fod gwahaniaeth o ran eich hil, gan y dylai’r cynllun gydnabod y bydd gan rai aelodau o’n cymunedau ethnig ragdueddiad arbennig i ganser, ac y gallai bod angen mynd i’r afael â materion diwylliannol arwyddocaol yn ystod y broses o gomisiynu a darparu gwasanaethau ar gyfer pobl o wahanol gefndiroedd crefyddol a hiliol. Dylai hefyd fod yn gynllun sydd yn canolbwyntio ar yr unigolyn yn ei daith drwy’r system ac yn rhoi cefnogaeth i’r unigolyn a’i deulu.

 

We want to make sure that the individual has access to a comprehensive range of treatments—everything from the latest in medical technology that we can offer in terms of cures and prolonging life, through to the support that the individual needs to cope with the diagnosis and the huge impact that it can have. That includes everything from spiritual and emotional support through to the practical issues of transport, maintaining your job or livelihood, and coping with the additional bills that a cancer diagnosis may bring.

 

Rydym eisiau sicrhau bod yr unigolyn yn cael mynediad at ystod gynhwysfawr o driniaethau—popeth o’r diweddaraf mewn technoleg feddygol y gallwn ei gynnig o ran iachâd ac ymestyn bywyd, hyd at y gefnogaeth y mae ar yr unigolyn ei angen i ymdopi â’r diagnosis a’r effaith enfawr y gall ei chael. Mae hynny’n cynnwys popeth o gymorth ysbrydol ac emosiynol drwodd i’r materion ymarferol o deithio, cynnal a chadw eich swydd neu eich bywoliaeth, ac ymdopi â’r biliau ychwanegol y gall diagnosis o ganser ddwyn ar eich traws.

 

In addition, we need to focus on one of the things that have dogged us as a nation, namely the early detection of cancer. The sad reality is that many cancer patients will only receive a cancer diagnosis after an incident at an accident and emergency department. They go in only to find that the symptoms that led them to the accident and emergency department, that particular moment of crisis, are the result of a long-standing disease. We need to redouble our efforts at screening. David Rees spoke eloquently earlier about the amazing strides that we have seen in screening recently, but also acknowledged that we can do even better in terms of the number of people whom we screen, when we screen them and by focusing on the people who receive screening invitations, but do not take them up—the women who do not attend for a mammography or the people who do not send back their bowel cancer screening kits. We need to redouble our efforts, because if we want our cancer survival rates to go up, we need to detect more of our cancers earlier.

 

Yn ogystal â hyn, mae angen i ni ganolbwyntio ar un o’r pethau sydd wedi ein llethu fel cenedl, sef canfod canser yn gynnar. Y gwirionedd trist yw mai dim ond ar ôl digwyddiad mewn adran ddamweiniau ac achosion brys y bydd llawer o gleifion canser yn derbyn diagnosis o ganser. Ânt yno dim ond i ganfod bod y symptomau a’u harweiniwyd at yr adran ddamweiniau ac achosion brys—yr argyfwng penodol hwnnw—yn ganlyniad i glefyd hir-sefydlog. Mae angen i ni ailddyblu ein hymdrechion wrth sgrinio. Siaradodd David Rees yn huawdl yn gynharach am y camau rhyfeddol yr ydym wedi’u gweld mewn sgrinio yn ddiweddar, ond cydnabu hefyd y gallwn wneud hyd yn oed yn well o ran nifer y bobl yr ydym yn eu sgrinio, pan fyddwn yn eu sgrinio a thrwy ganolbwyntio ar y bobl sy’n derbyn gwahoddiadau i sgrinio, ond nad ydynt yn eu derbyn—y benywod nad ydynt yn mynd i gael mamograffeg neu’r bobl nad ydynt yn dychwelyd eu citiau sgrinio am ganser y coluddyn. Mae angen inni ailddyblu ein hymdrechion, oherwydd os dymunwn i’n cyfraddau goroesi canser godi, mae angen inni ganfod mwy o’n canserau ynghynt.

 

A key part of that is training and support for GPs. Many people who go on to have a cancer diagnosis will have visited their GP on a number of occasions reporting symptoms that have been diagnosed as something else. Teenagers in particular can expect to make six visits to a GP on average before cancer is even considered. It is difficult because cancer symptoms can often be symptoms that point to much less dangerous and serious conditions, but we must do more to train and support GPs so that they can get people moving through the system more quickly.

 

Rhan allweddol o hynny yw hyfforddiant a chefnogaeth i feddygon teulu. Bydd llawer o bobl sy’n mynd ymlaen i gael diagnosis o ganser wedi ymweld â’u meddyg teulu ar nifer o achlysuron yn adrodd symptomau sydd wedi cael diagnosis fel rhywbeth arall. Gall pobl yn eu harddegau, yn arbennig, ddisgwyl gwneud chwe ymweliad â meddyg teulu, ar gyfartaledd, cyn i ganser gael ei ystyried hyd yn oed. Mae’n anodd oherwydd gall symptomau canser yn aml fod yn symptomau sy’n cyfeirio at amodau llawer llai peryglus a difrifol, ond mae’n rhaid inni wneud mwy i hyfforddi a chefnogi meddygon teulu fel y gallant symud pobl drwy’r system yn gyflymach.

 

The most controversial aspect of our motion today is the issue of a cancer drugs fund. We spent a great deal of time talking about this last week, when I acknowledged what a difficult issue this is for the NHS because of the huge improvements in science. It was also clear last week that our current system is not working for patients or clinicians and that we need to get patient groups, clinicians and pharmaceutical companies to sit around a table. I will pick this point to say that I regret the slightly intemperate language that the First Minister has used about the pharmaceutical industry. The reality is that it is a significant industry for the UK. It employs an awful lot of people, it spends an awful lot of money on research and development and on economic development, and those are the people who will come up with the therapeutical treatments that we will need in the future. We need to find a way for the right treatment to be given to the right patient at the right time. I believe that we need to look at a cancer drugs fund; the Government does not accept that. We need to do something that works better for patients than what we have at the moment. I will be pleased to hear from the Minister if she has a better idea than what we have at the moment.

 

Agwedd fwyaf dadleuol ein cynnig heddiw yw mater y gronfa cyffuriau canser. Treuliasom gryn amser yn siarad am hyn yr wythnos ddiwethaf, pan gydnabûm pa mor anodd oedd y mater hwn i’r gwasanaeth iechyd gwladol oherwydd y gwelliannau mawr mewn gwyddoniaeth. Roedd hefyd yn glir yr wythnos ddiwethaf nad yw ein system bresennol yn gweithio i gleifion na chlinigwyr a bod angen inni gael grwpiau cleifion, clinigwyr a chwmnïau fferyllol i eistedd o amgylch bwrdd. Ar y pwynt hwn hoffwn ddweud fy mod yn gresynu at yr iaith anghymedrol braidd y mae’r Prif Weinidog wedi ei defnyddio am y diwydiant fferyllol. Y gwir amdani yw ei fod yn ddiwydiant arwyddocaol i’r Deyrnas Unedig. Mae’n cyflogi llawer iawn o bobl, mae’n gwario llawer iawn o arian ar ymchwil a datblygu ac ar ddatblygu economaidd, a’r rheiny yw’r bobl a fydd yn cyflwyno’r triniaethau therapiwtical y bydd arnom eu hangen yn y dyfodol. Mae angen inni ddod o hyd i ffordd o gael y driniaeth gywir wedi’i rhoi i’r claf cywir ar yr adeg gywir. Credaf fod angen inni ystyried cronfa cyffuriau canser; nid yw’r Llywodraeth yn derbyn hynny. Mae angen inni wneud rhywbeth sy’n gweithio’n well i gleifion na’r hyn sydd gennym ar hyn o bryd. Byddaf yn falch clywed gan y Gweinidog os oes ganddi syniad gwell na’r hyn sydd gennym ar hyn o bryd.

 

Earlier this afternoon, the Minister said that her consultation paper will address many of the issues that we have outlined today. I hope that it will; time will tell. However, this afternoon, I would like to hear from the Minister—this is what worried me most about her response earlier—how she will ensure that her plan makes a difference on the ground. From what she said earlier in response to the Conservative Party debate, there is much agreement between us about what a cancer plan looks like, a consensus about the need for a person-centred approach and about treating cancer patients and their families in the round, a willingness to engage with the third sector, which has a crucial role to play in this—we are not a million miles apart. However, what we did not hear from the Minister this afternoon, in her answer to the Tory debate, was what safeguards she will put in place so that this cancer plan will result in real differences for people on the ground. Too often have I sat on committees of various kinds in the Assembly and heard professionals say, ‘The plan was great—it was absolutely right—it is just that we fell down on the implementation.’ The goals and aspirations of Ministers have not resulted in a better service for patients.

Yn gynharach y prynhawn yma, dywedodd y Gweinidog y bydd ei phapur ymgynghori yn mynd i’r afael â llawer o’r materion yr ydym wedi’u hamlinellu heddiw. Yr wyf yn gobeithio y gwnaiff hynny; amser a ddengys. Fodd bynnag, y prynhawn yma, hoffwn glywed gan y Gweinidog—dyma’r hyn a oedd yn fy mhryderu fwyaf am ei hymateb yn gynharach—sut y bydd yn sicrhau bod ei chynllun yn gwneud gwahaniaeth ar lawr gwlad. O’r hyn a ddywedodd yn gynharach mewn ymateb i ddadl y Blaid Geidwadol, mae llawer o gytundeb rhyngom am ymddangosiad cynllun canser, consensws ynghylch yr angen am ddull sy’n canolbwyntio ar y person ac am drin cleifion canser a’u teuluoedd yn gyffredinol, parodrwydd i ymgysylltu â’r trydydd sector, sydd â rôl hanfodol i’w chwarae yn hyn—nid ydym filiwn o filltiroedd ar wahân. Serch hynny, yr hyn na chlywsom gan y Gweinidog y prynhawn yma, yn ei hateb i ddadl y Torïaid, oedd pa gamau diogelu y bydd yn eu cymryd fel bod y cynllun canser hwn yn arwain at wir wahaniaethau i bobl ar lawr gwlad. Yn rhy aml yr wyf wedi eistedd ar bwyllgorau o wahanol fathau yn y Cynulliad a chlywed gweithwyr proffesiynol yn dweud, ‘Roedd y cynllun yn wych—roedd yn llygad ei le—dim ond ein bod wedi methu gyda’r gweithredu.’ Nid yw nodau a dyheadau Gweinidogion wedi arwain at wasanaeth gwell i gleifion.

 

5.30 p.m.

 

If nothing else, perhaps we can hear from the Minister this afternoon about how the plan that she comes up with—I am sure that there will be a lot of consensus about its content—will translate into transformational change for patients, clinicians and staff. This time, we cannot let that implementation gap prevent the service from being as good as anyone in the Chamber would want.

 

Os dim byd arall, efallai y gallwn glywed gan y Gweinidog y prynhawn yma o ran sut y bydd ei chynllun—yr wyf yn sicr y bydd llawer o gonsensws am ei gynnwys—yn arwain at newid trawsffurfiol i gleifion, clinigwyr a staff. Y tro hwn, ni allwn adael i’r bwlch gweithredu atal y gwasanaeth rhag bod cystal ag y byddai pawb yn y Siambr yn dymuno iddo fod.

 

Gwelliant 1 Jocelyn Davies

 

Amendment 1 Jocelyn Davies

 

Cynnwys ar ddechrau pwynt 1:

 

Insert at start of point 1:

 

‘Yn nodi cymeradwyaeth unfrydol y Cynulliad ar 5 Hydref 2011 i lunio a gweithredu Cynllun Canser Cenedlaethol ac felly’.

 

‘Notes the unanimous endorsement of the Assembly on 5 October 2011 for drawing up and implementing a National Cancer Plan and therefore’.

 

Lindsay Whittle: I move amendment 1 in the name of Jocelyn Davies.

 

Lindsay Whittle: Cynigiaf welliant 1 yn enw Jocelyn Davies.

 

Our position in Plaid Cymru is, first and foremost, to take heed of what organisations like Macmillan Cancer Support and the Wales Cancer Alliance are telling us loudly and clearly. One disturbing feature is that the Welsh Government does not seem to have made much effort to draw those organisations— [Interruption.]

 

Ein safbwynt ni ym Mhlaid Cymru yw, yn gyntaf ac yn bennaf, i gymryd sylw o’r hyn y mae sefydliadau fel Cymorth Canser Macmillan a Chynghrair Canser Cymru yn ei ddweud wrthym yn uchel ac yn glir. Un peth sy’n peri pryder yw nad yw’n ymddangos bod Llywodraeth Cymru wedi gwneud llawer o ymdrech i dynnu’r sefydliadau hynny— [Torri ar draws.]

 

I will take your intervention.

 

Cymeraf eich ymyriad.

 

The Deputy Presiding Officer: Order. He has only been at it for 20 seconds, but as the Member has given way, I call Andrew R.T. Davies.

 

Y Dirprwy Lywydd: Trefn. Dim ond am 20 eiliad y mae wedi siarad, ond gan fod yr Aelod wedi ildio, galwaf Andrew R.T. Davies.

 

Andrew R.T. Davies: On the point that you make about taking research and evidence from the voluntary sector, Macmillan Cancer Support and the Wales Cancer Alliance, one of the tenets of their argument is that we need a cancer co-ordinator to drive through a national cancer plan, yet you are rejecting that.

 

Andrew R.T. Davies: O ran y pwynt a wnaethoch am gymryd ymchwil a thystiolaeth o’r sector gwirfoddol, Cymorth Canser Macmillan a Chynghrair Canser Cymru, un elfen o’u dadl yw bod angen cydlynydd canser i yrru cynllun canser cenedlaethol yn ei flaen, ond yr ydych yn gwrthod hynny.

 

Lindsay Whittle: You have a reputation for being a bull in a china shop; I am coming to that. Try to be patient. You will enjoy it, I promise. Sorry, Dirprwy Lywydd, I am getting into a debate that I should not.

 

Lindsay Whittle: Mae gennych hanes o fod fel tarw mewn siop lestri; yr wyf yn dod at hynny. Ceisiwch fod yn amyneddgar. Byddwch yn ei fwynhau, yr wyf yn addo. Mae’n ddrwg gennyf, Ddirprwy Lywydd, yr wyf yn cymryd rhan mewn dadl na ddylwn.

 

First, Plaid Cymru believes that we should not focus our attention and our much-valued resources on creating a national drugs fund. As important as that might be, Kirsty Williams—and we recognise that—we want to focus on a patient-centred plan that offers support before, during and after treatment. That is the most important issue. Secondly, we must ensure that services across Wales are not patchy; that has been a common theme throughout the debate. They are inconsistent, and that is the opinion of the Wales Cancer Alliance itself. We must make sure, particularly in rural parts of Wales, that people are not subject to this now-famous postcode lottery as far as access to diagnosis, screening and treatment is concerned. We need a strategic plan that recognises that survival rates in Wales are worse than in comparable countries in Europe. That is a fact. We need further research to clarify why that is so, because it should not be so. We need to make resources available to tackle the problems when we have identified them.

 

Yn gyntaf, mae Plaid Cymru yn credu na ddylem ganolbwyntio ein sylw a’n hadnoddau gwerthfawr ar greu cronfa cyffuriau cenedlaethol. Er mor bwysig yw hynny, Kirsty Williams—ac rydym yn cydnabod hynny—yr ydym am ganolbwyntio ar gynllun sy’n canolbwyntio ar y claf ac sy’n cynnig cefnogaeth cyn, yn ystod ac ar ôl triniaeth. Dyna’r mater pwysicaf. Yn ail, rhaid inni sicrhau nad yw gwasanaethau ledled Cymru yn anghyson; mae hynny wedi bod yn thema gyffredin trwy gydol y ddadl. Maent yn anghyson, a dyna yw barn Cynghrair Canser Cymru. Mae’n rhaid i ni sicrhau, yn enwedig mewn rhannau gwledig o Gymru, nad oes loteri cod post cyn belled ag y mae mynediad at ddiagnosis, sgrinio a thriniaeth yn y cwestiwn. Mae arnom angen gynllun strategol sy’n cydnabod bod cyfraddau goroesi yn waeth yng Nghymru na mewn gwledydd tebyg yn Ewrop. Mae hynny’n ffaith. Mae angen ymchwil pellach i egluro’r rheswm dros hynny, oherwydd ni ddylai fod felly. Mae angen i ni ddarparu adnoddau i fynd i’r afael â phroblemau pan ydym wedi eu nodi.

 

Our plan in Plaid Cymru is to provide all patients with a specialist cancer nurse to work with local authorities to ensure that cancer patients get the social care services that they need, as well as advice on all of their welfare rights. We have to ensure improved co-ordination of services among and between professionals. As Helen Mary Jones—who is much missed in the Chamber—has said, we must appoint a director of cancer services to help draft a new strategy and work with health boards to drive forward implementation. We are paying the piper, and we will ensure that he plays our tune.

 

Ein cynllun ym Mhlaid Cymru yw darparu nyrs canser arbenigol ar gyfer pob claf i weithio gydag awdurdodau lleol i sicrhau bod cleifion canser yn cael y gwasanaethau gofal cymdeithasol y mae arnynt eu hangen, yn ogystal â chyngor ar bob un o’u hawliau lles. Mae’n rhaid i ni sicrhau gwell cydlyniant ar gyfer gwasanaethau ymysg a rhwng gweithwyr proffesiynol. Fel y dywedwyd gan Helen Mary Jones—sy’n cael ei cholli’n fawr yn y Siambr—mae’n rhaid i ni benodi cyfarwyddwr gwasanaethau canser er mwyn helpu i ddrafftio strategaeth newydd a gweithio gyda byrddau iechyd i fwrw ymlaen â’r gwaith. Ni sy’n talu’r pibydd, a byddwn yn sicrhau mai ni sy’n dewis y dôn.

 

We are all agreed that what we need is a more holistic approach. Designing an updated cancer plan means not just supporting and encouraging professionals to work more closely together; it also means that this Welsh Government must work in partnership with specialist, third sector organisations. They need to be central to the processes. We owe this to the sufferers of cancer, the survivors of cancer, and the relatives of those who have lost their lives to cancer.

 

Rydym i gyd yn cytuno mai’r hyn y mae arnom ei angen yw dull mwy cyfannol. Mae dylunio cynllun canser wedi ei ddiweddaru yn golygu nid yn unig cefnogi ac annog gweithwyr proffesiynol i weithio’n agosach gyda’i gilydd; mae hefyd yn golygu bod yn rhaid i Lywodraeth Cymru weithio mewn partneriaeth gyda sefydliadau arbenigol o’r trydydd sector. Mae angen iddynt fod yn ganolog i’r prosesau. Mae dyletswydd arnom yn hynny o beth i ddioddefwyr canser, goroeswyr canser, a pherthnasau’r rhai sydd wedi colli eu bywydau i ganser.

 

Gwelliant 2 Jane Hutt

 

Amendment 2 Jane Hutt

 

Dileu pwyntiau b.) ac c.) a rhoi yn eu lle:

 

Delete points b.) and c.) and replace with:

 

sicrhau bod pobl yn gallu cael gafael ar driniaethau canser diogel ac effeithiol mewn modd teg a phrydlon.

 

ensure people have equity of access, promptly, to safe and effective cancer treatment.

 

The Minister for Health and Social Services (Lesley Griffiths): I move amendment 2 in the name of Jane Hutt.

 

Y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol (Lesley Griffiths): Cynigiaf welliant 2 yn enw Jane Hutt.

 

Aled Roberts: In making these remarks, I want to recognise that there are examples in Wales of excellent cancer treatment. However, I think that we would all recognise that the difficulty we have is the lack of consistency. I say that because the Minister will know that my father-in-law has been a prostate cancer sufferer for many years. He was lucky in that his GP recognised it at an early stage and, accordingly, he was referred to Ysbyty Glan Clwyd, where the department that deals with different forms of cancer is excellent.

 

Aled Roberts: Wrth wneud y sylwadau hyn, rwyf am gydnabod bod enghreifftiau yng Nghymru o driniaeth canser rhagorol. Fodd bynnag, yr wyf yn meddwl y byddem i gyd yn cydnabod mai’r anhawster sydd gennym yw diffyg cysondeb. Dywedaf hynny oherwydd bydd y Gweinidog yn gwybod bod fy nhad-yng-nghyfraith wedi bod yn dioddef o ganser y prostad am flynyddoedd lawer. Roedd yn ffodus gan fod ei feddyg teulu wedi ei adnabod yn gynnar ac, yn unol â hynny, cafodd ei gyfeirio i Ysbyty Glan Clwyd, lle mae’r adran sy’n ymdrin â gwahanol fathau o ganser yn ardderchog.

 

I will confine my remarks to the preventative agenda and, particularly, to screening to ensure early diagnosis. The reality of the situation is that, currently, Wales has more instances of bowel cancer than England, we have higher levels of male forms of cancer than any other parts of the UK, and, as other speakers have said, we have problems with our survival rates, which are well below the European average. However, despite all of those, there has been reluctance, as far as the Welsh NHS is concerned, to take on board the most modern screening programmes. In fact, Minister, in a recent written response to Kirsty Williams, you made it clear that there was no current proposal for flexible sigmoidoscopy to be used in Wales. You said that it was used as far as the diagnosis of individual patients was concerned, but that you did not accept that it should be adopted as a screening method for bowel cancer.

 

Cyfyngaf fy sylwadau at yr agenda ataliol ac, yn arbennig, i sgrinio i sicrhau diagnosis cynnar. Realiti’r sefyllfa yw, ar hyn o bryd, bod gan Gymru fwy o achosion o ganser y coluddyn na Lloegr, mae gennym lefelau uwch o ffurfiau gwrywaidd o ganser nag unrhyw rannau eraill o’r DU, ac, fel y dywedwyd gan siaradwyr eraill, mae gennym broblemau gyda’n cyfraddau goroesi, sydd yn llawer is na’r cyfartaledd Ewropeaidd. Fodd bynnag, er gwaethaf hynny i gyd, bu amharodrwydd, cyn belled ag y mae’r GIG yng Nghymru yn y cwestiwn, i ystyried y rhaglenni sgrinio mwyaf modern. Yn wir, Weinidog, mewn ymateb ysgrifenedig diweddar i Kirsty Williams, fe’i gwnaethoch yn glir nad oedd unrhyw gynllun presennol i ddefnyddio sigmoidosgopi hyblyg yng Nghymru. Dywedasoch ei fod yn cael ei ddefnyddio cyn belled ag y mae diagnosis cleifion unigol yn y cwestiwn, ond nad oeddech yn derbyn y dylid ei fabwysiadu fel dull sgrinio ar gyfer canser y coluddyn.

 

Therefore, while Wales, as a result of strategies, is getting closer to the UK average, the reality is that Welsh citizens are less likely to survive an instance of cancer than their English counterparts. It is our belief, as stated in this motion, that good screening programmes are crucial to detect cancer at an early stage. Early detection provides an early opportunity for treatment and, ultimately, to save lives. Therefore, our belief is that the Welsh Government needs to make the early detection of cancer a priority for the NHS, which includes embracing new, more effective screening methods than is currently the case.

 

Felly, er bod Cymru, o ganlyniad i strategaethau, yn dod yn nes at gyfartaledd y Deyrnas Unedig, y realiti yw bod dinasyddion Cymru yn llai tebygol o oroesi achos o ganser na’u cymheiriaid yn Lloegr. Rydym yn credu, fel y nodwyd yn y cynnig hwn, bod rhaglenni sgrinio da yn hanfodol i ganfod canser yn gynnar. Mae canfod achosion yn gynnar yn rhoi cyfle i gael triniaeth gynnar ac, yn y pen draw, i achub bywydau. Felly, credwn fod angen i Lywodraeth Cymru sicrhau bod canfod canser yn gynnar yn flaenoriaeth i’r gwasanaeth iechyd gwladol, sy’n cynnwys mabwysiadu dulliau sgrinio newydd, mwy effeithiol na’r rhai sy’n cael eu defnyddio ar hyn o bryd.

 

I will also refer to intensity-modulated radiation therapy, which allows the accurate treatment of tumours. That is particularly important in the pelvic area and in the head and neck forms of cancer, where there are a number of organs and structures that could easily be damaged by more conventional treatments. Wales’s current capacity is to treat fewer than 50 patients with this treatment per annum. Surely, as part of a national cancer plan, we should be looking at increasing our capacity in this area. This revolutionary treatment brings together a number of benefits; not only does it allow more accurate treatment, but also provides fewer side-effects for patients. It is also relatively inexpensive, and requires investment from the Welsh Government of £1 million a year, according to Cancer Research UK. It is our belief that the national cancer plan, which, as other speakers have already said, has been broadly welcomed across the Chamber, should ensure that we invest in these newer treatments, which are more effective in reducing long-term side-effects and could save money in the long term. It is an indictment on us here that this treatment has been available for five years. Today, 42 per cent of cancer patients the other side of the border are receiving this revolutionary treatment. Yet, in Wales, our current capacity only allows two patients per month who are suffering from neck, head and prostate cancer to receive the treatment.

 

Byddaf hefyd yn cyfeirio at therapi ymbelydredd fodiwleiddio dwyster, sy’n caniatáu i’r tiwmorau gael eu trin yn gywir. Mae hynny’n arbennig o bwysig yn ardal y pelfis a gyda chanser y pen neu’r gwddf, lle mae nifer o organau a strwythurau y gellir eu difrodi’n hawdd gan driniaethau mwy confensiynol. Y capasiti presennol yng Nghymru yw trin llai na 50 o gleifion gyda’r driniaeth hon bob blwyddyn. Yn sicr, fel rhan o gynllun canser cenedlaethol, dylem fod yn edrych ar gynyddu ein capasiti yn y maes hwn. Mae’r driniaeth chwyldroadol hon yn dwyn ynghyd nifer o fuddion; nid yn unig y mae’n caniatáu triniaeth fwy cywir, ond mae hefyd yn darparu llai o sgil-effeithiau ar gyfer cleifion. Mae hefyd yn gymharol rad, ac angen buddsoddiad o £1 miliwn y flwyddyn gan Lywodraeth Cymru, yn ôl Cancer Research UK. Credwn y bydd y cynllun canser cenedlaethol, sydd, fel y mae siaradwyr eraill wedi ei ddweud yn barod, wedi’i groesawu’n gyffredinol ar draws y Siambr, yn sicrhau ein bod yn buddsoddi yn y triniaethau mwy newydd hyn, sydd yn fwy effeithiol wrth leihau sgil-effeithiau hirdymor, ac y gallai arbed arian yn y tymor hir. Mae’n dditiad arnom ni yma fod y driniaeth hon wedi bod ar gael ers pum mlynedd. Heddiw, mae 42 y cant o gleifion canser ar ochr arall y ffin yn derbyn y driniaeth chwyldroadol hon. Fodd bynnag, yng Nghymru, mae ein capasiti presennol ond yn caniatáu i ddau o gleifion y mis sy’n dioddef o ganser y gwddf, y pen neu’r prostad i gael y driniaeth.

 

Fortunately, there have been major advances in cancer treatments over the past few years, but the reality is that one in three of us are likely to develop cancers during our lifetime. It is, therefore, imperative that, as an Assembly and Government, we ensure that our citizens have access to the best surgery, radiotherapy and medicines. The Welsh Government has a duty to make IMRT available, and I hope that the national cancer plan will address that. It is only by making this treatment more accessible that we can turn the tide and ensure that Wales does not fall further behind in this sphere.

 

Yn ffodus, cafwyd datblygiadau sylweddol mewn triniaethau canser dros y blynyddoedd diwethaf, ond y gwir amdani yw bod un o bob tri ohonom yn debygol o ddatblygu canser yn ystod ein hoes. Y mae, felly, yn hanfodol ein bod, fel Cynulliad a Llywodraeth, yn sicrhau bod gan ein dinasyddion fynediad at y llawdriniaethau, radiotherapi a meddyginiaethau gorau. Mae gan Lywodraeth Cymru ddyletswydd i ddarparu bod radiotherapi dwyster modyledig ar gael, ac yr wyf yn gobeithio y bydd y cynllun canser cenedlaethol yn mynd i’r afael â hynny. Dim ond drwy wneud y driniaeth hon yn fwy hygyrch y gallwn droi’r llanw a sicrhau nad yw Cymru’n disgyn ymhellach y tu ôl yn y maes hwn.

 


Mick Antoniw: This is an important debate and there is no doubt that there is commonality among everyone here—I doubt that anyone here has not had either a member of their family or a friend who has suffered from cancer. It is, therefore, right that we explore some of the sensitive issues that arise. I am sure that we all share the same objective, which is the best form of cancer treatment and prevention.

 

Mick Antoniw: Mae hon yn ddadl bwysig ac nid oes amheuaeth bod yna brofiadau cyffredin gan bawb yma—yr wyf yn amau nad oes unrhyw un yma nad oes ganddynt aelod o’u teulu neu ffrind sydd wedi dioddef o ganser. Y mae, felly, yn briodol ein bod yn archwilio rhai o’r materion sensitif sy’n codi. Yr wyf yn siŵr ein bod i gyd yn rhannu’r un amcan, sef y math gorau o drin ac atal canser.

 

My comments are more to do with the drug companies. I have a number of concerns about the way that drug companies operate. There has been a lot of what I think is groundbreaking research in America on this issue that raises concerns that we have to take into consideration, whichever way we go on these particular arguments. Referring to a number of particular new drugs, the commentary in America from some cancer experts is that these drugs sell well. Last year, Gleevec, one particular drug, grossed $4.3 billion. Roche’s Herceptin, which I mention because Vaughan Gething and I were involved in a judicial review of its use when the Minister for health rightly stepped in to overrule the National Institute for Health and Clinical Excellence on its allocation of the drug, did even better—it grossed $6 billion.

 

Mae fy sylwadau yn ymwneud yn fwy â’r cwmnïau cyffuriau. Mae gennyf nifer o bryderon ynghylch y ffordd y mae cwmnïau cyffuriau yn gweithredu. Bu llawer o’r hyn yr wyf yn ei ystyried yn ymchwil arloesol yn America ar y mater hwn sy’n codi pryderon y mae’n rhaid inni eu hystyried, pa bynnag ffordd yr ydym yn mynd o ran y dadleuon penodol hyn. Gan gyfeirio at nifer o gyffuriau newydd, mae’r sylwebaeth yn America gan rai arbenigwyr canser yn dweud bod y cyffuriau hyn yn gwerthu’n dda. Y llynedd, gwnaeth Gleevec, un cyffur penodol, gros o $4.3 biliwn. Gwnaeth Herceptin, gan Roche, yr wyf yn ei grybwyll am fod Vaughan Gething a minnau wedi cymryd rhan mewn adolygiad barnwrol yn ymwneud â’i ddefnydd pan gamodd y Gweinidog iechyd i mewn, yn gywir, a herio’r Sefydliad Cenedlaethol dros Iechyd a Rhagoriaeth Glinigol ar ei ddyraniad o’r cyffur, hyd yn oed yn well—bu iddo wneud gros o $6 biliwn.

 

Cancer drugs could rescue major drugs makers from a tricky situation. More than $50 billion-worth of drugs will lose their patent protection in the next three years, so the drug companies are looking for alternatives to replace them to maximise their profit-making capacity. Experts say that cancer plays a huge role in increasing costs for America’s National Institutes of Health. They predict that spending on all cancer treatment in the States will rise from $125 billion last year to $158 billion in 2020, potentially reaching as high as $207 billion. They also say that not all of these drugs work. In December, America’s Food and Drugs Administration said that Avastin’s side effects outweigh its meagre impact on breast cancer. Some experts believe that new cancer drugs offer small benefits at an exorbitant price. Provenge costs $93,000 for a course of treatment and extends life by an average of four months. Yervoy costs $120,000 and extends life by three and a half months. The chief medical officer of the American Cancer Society notes that some patients spend a lot but get little in return. He adds that the next frontier of treatments is not buying any significant prolongation of life. Experts recognise the dilemma that we all face, with dying patients understandably placing a high value on life and being willing to pay more for treatments. According to the experts at the University of Chicago, this means that firms can charge steep prices. It has also been said that this is corporate chutzpah and that there are no checks in the system.

 

Gallai cyffuriau canser achub gwneuthurwyr cyffuriau mawr o sefyllfa anodd. Bydd gwerth mwy na $50 biliwn o gyffuriau yn colli eu patent yn y tair blynedd nesaf, felly mae’r cwmnïau cyffuriau yn chwilio am bethau eraill i gymryd eu lle i wneud yr elw mwyaf posibl. Mae arbenigwyr yn dweud bod canser yn chwarae rhan enfawr mewn codi costau ar gyfer sefydliadau iechyd cenedlaethol America. Maent yn rhagweld y bydd gwariant ar driniaeth canser yn ei chyfanrwydd yn yr Unol Daleithiau yn codi o $125 biliwn y llynedd i $158 biliwn yn 2020, ac o bosibl yn cyrraedd mor uchel â $207 biliwn. Maent hefyd yn dweud nad yw pob un o’r cyffuriau hyn yn gweithio. Ym mis Rhagfyr, dywedodd gweinyddiaeth bwyd a chyffuriau America bod sgil-effeithiau Avastin yn gorbwyso’i effaith pitw ar ganser y fron. Mae rhai arbenigwyr yn credu bod cyffuriau canser newydd yn cynnig manteision bach am bris afresymol. Mae Provenge yn costio $93,000 am gwrs o driniaeth ac yn ymestyn bywyd gan bedwar mis, ar gyfartaledd. Mae Yervoy yn costio $120,000 ac yn ymestyn bywyd gan dri mis a hanner. Mae prif swyddog meddygol cymdeithas canser America yn nodi bod rhai cleifion yn gwario llawer ond yn cael ychydig yn ôl. Ychwanegodd nad yw’r grŵp newydd o driniaethau yn ymestyn bywyd mewn ffordd arwyddocaol. Mae arbenigwyr yn cydnabod y sefyllfa anodd yr ydym oll yn ei wynebu, gyda chleifion sy’n marw wrth reswm yn rhoi gwerth uchel ar fywyd ac yn barod i dalu mwy ar gyfer triniaethau. Yn ôl yr arbenigwyr ym Mhrifysgol Chicago, mae hyn yn golygu y gall cwmnïau godi prisiau uchel. Dywedwyd hefyd mai chutzpah corfforaethol yw hwn ac nad oes unrhyw rwystrau yn y system.

 

The reason that I raise these points is that anyone in a situation where a family member needs or wants a particular drug is incredibly vulnerable. We have to pay attention to the role of the drug companies and question whether they are out of control, whether they are abusing the system and whether they are charging exorbitant prices for drugs because they know that they can get away with it. Vaughan and I know that drug companies have their own mechanisms for raising public opinion on specific drugs, particularly those that come in when a patent is about to run out. There is an important debate to be had. We want the best drugs, but what are they? As the British Medical Association said, we have to be very alert so that we do not fall into a trap set by the drug companies.

 

Y rheswm yr wyf yn codi’r pwyntiau hyn yw bod unrhyw un sydd mewn sefyllfa lle mae aelod o’u teulu angen neu’n dymuno cael cyffur penodol yn hynod agored i niwed. Mae’n rhaid i ni dalu sylw at rôl y cwmnïau cyffuriau a gofyn a ydynt allan o reolaeth, a ydynt yn camddefnyddio’r system ac a ydynt yn codi tâl prisiau afresymol ar gyfer cyffuriau oherwydd eu bod yn gwybod na fydd unrhyw un yn eu herio. Mae Vaughan a minnau’n gwybod bod gan gwmnïau cyffuriau eu mecanweithiau eu hunain er mwyn gwella barn y cyhoedd am gyffuriau penodol, yn enwedig y rhai sy’n dod i mewn pan fod patent ar fin rhedeg allan. Mae trafodaeth bwysig i’w chael. Rydym am gael y cyffuriau gorau, ond beth yw’r rhain? Fel y dywedodd Cymdeithas Feddygol Prydain, mae’n rhaid i ni fod yn effro iawn fel nad ydym yn syrthio i fagl a osodwyd gan y cwmnïau cyffuriau.

 

William Powell: As Mick Antoniw said, very few of us have not been touched by this disease, either through family or friends. It is, therefore, entirely right and proper that we should focus on it again today. I confine my remarks to support services for families and to mutual support groups. The Welsh Liberal Democrats feel that the Welsh Government should be playing a stronger and more proactive role in organising support groups to provide comfort, reassurance and advice. Knowing that there is somebody there who can help and who has experience of going through similar trauma can make the whole process so much easier, and aid recovery.

William Powell: Fel y dywedodd Mick Antoniw, ychydig iawn ohonom sydd heb ein cyffwrdd gan y clefyd hwn, naill ai drwy deulu neu ffrindiau. Y mae, felly, yn hollol gywir a phriodol y dylem ganolbwyntio arno eto heddiw. Cyfyngaf fy sylwadau i gefnogi gwasanaethau i deuluoedd a grwpiau cyd-gymorth. Mae Democratiaid Rhyddfrydol Cymru yn teimlo y dylai Llywodraeth Cymru fod yn chwarae rhan gryfach a mwy rhagweithiol o ran trefnu grwpiau cymorth i ddarparu cysur, sicrwydd a chyngor. Mae gwybod bod yna rywun yno sy’n gallu helpu ac sydd â phrofiad o fynd trwy drawma tebyg yn gallu gwneud y broses gyfan gymaint yn haws, a helpu’r adferiad.

 

5.45 p.m.

 

During the previous debate, Suzy Davies referred to the Bracken Trust and its work in Llandrindod Wells. Many will also be familiar with the work of Usk House in Brecon, and we have the services of Macmillan and other enormously appreciated services across the whole of Wales.

 

Yn ystod y ddadl flaenorol, cyfeiriodd Suzy Davies at y Bracken Trust a’i gwaith yn Llandrindod. Bydd llawer hefyd yn gyfarwydd â gwaith Usk House yn Aberhonddu, ac mae gennym wasanaethau Macmillan a gwasanaethau hynod o werthfawr eraill ar draws Cymru gyfan.

 

A cancer strategy needs to provide services for families as well as patients, because a holistic approach is required. We are advocating a service for people whose relationships have been affected by a cancer diagnosis, as well as counselling and practical and financial advice. An ideal service would offer help to individuals, couples and their families, all of whom will have been affected. That is exactly the kind of service that the Welsh NHS should be providing as a matter of course. Thousands of people in Wales are living with and, indeed, beyond cancer and, as has been stated previously, that figure is likely to rise. Many survivors of cancer are left with physical or psychological effects from the diagnosis and treatment of their disease. Many more will have social, spiritual, financial and other needs. For those survivors, we are neither identifying nor meeting their needs.

 

Mae angen i strategaeth ganser ddarparu gwasanaethau i deuluoedd yn ogystal â chleifion, oherwydd mae angen dull gweithredu cyfannol. Rydym yn argymell gwasanaeth ar gyfer pobl y mae eu perthnasau wedi gweld effaith diagnosis o ganser, yn ogystal â chwnsela a chyngor ymarferol ac ariannol. Byddai gwasanaeth delfrydol yn cynnig help i unigolion, cyplau a theuluoedd, bob un ohonynt wedi gweld effaith hynny. Dyna’r union math o wasanaeth y dylai’r gwasanaeth iechyd gwladol yng Nghymru ei ddarparu fel mater o drefn. Mae miloedd o bobl yng Nghymru yn byw gyda ac, yn wir, y tu hwnt i ganser ac, fel y dywedwyd o’r blaen, mae’r ffigur hwnnw’n debygol o godi. Gadewir llawer o oroeswyr canser ag effeithiau corfforol neu seicolegol o ddiagnosis a thriniaeth eu clefyd. Bydd gan lawer mwy anghenion cymdeithasol, ysbrydol, ariannol ac eraill. I’r rheiny sydd wedi goroesi, nid ydym yn adnabod nac yn diwallu eu hanghenion.

 

Cancer survival rates are improving, and we must not lose sight of that. If you were diagnosed with cancer 30 years ago, you had a one in four chance of survival. Today, it is one in two. We have to recognise that progress. Obviously, it is good news that medical science is improving enough to enable more people to survive, but this means that we now have a greater responsibility to those who are survivors of cancer. The Welsh Government needs to develop a clearer plan to deal with the thousands of survivors of cancer. It is important that the increasing numbers of people living with and beyond cancer, their carers and their wider families, have the support and services that they need to resume as normal a life as possible, as soon as possible. We would develop a national cancer survivorship programme to aid those survivors, their families and carers to deal with the after-effects of the disease. Wales can tackle cancer, but that requires that the Government give it more priority and attention, as it rightly deserves. As a party, we have set out today our plans to develop a comprehensive, national cancer plan for the whole of Wales. We would redirect money currently in the NHS budget to fund newer medicines and modern equipment to tackle cancer. We will ensure that better facilities are available to help cut waiting times and to further improve patients’ quality of life.

 

Mae cyfraddau goroesi canser yn gwella, a rhaid inni beidio â cholli golwg ar hynny. Os oedd eich diagnosis o ganser 30 mlynedd yn ôl, roedd gennych un ymhob pedwar cyfle i oroesi. Heddiw, un ymhob dau ydyw. Rhaid inni gydnabod y cynnydd hwnnw. Wrth gwrs, mae’n newyddion da bod gwyddoniaeth feddygol yn gwella digon i alluogi mwy o bobl i oroesi, ond mae hyn yn golygu bod gennym bellach fwy o gyfrifoldeb i’r rheiny sydd yn oroeswyr canser. Mae angen i Lywodraeth Cymru ddatblygu cynllun cliriach i ymdrin â’r miloedd o bobl sy’n goroesi canser. Mae’n bwysig bod y nifer cynyddol o bobl sy’n byw gyda chanser a thu hwnt i ganser, eu gofalwyr a’r teuluoedd ehangach, yn derbyn y cymorth a’r gwasanaethau y mae arnynt eu hangen er mwyn iddynt ailddechrau bywydau mor normal ag y bo modd, cyn gynted ag y bo modd. Byddem yn datblygu rhaglen goroesi canser cenedlaethol i helpu’r goroeswyr hynny, eu teuluoedd a gofalwyr i ymdrin ag ôl-effeithiau’r clefyd. Gall Cymru fynd i’r afael â chanser, ond mae hynny’n golygu y bydd yn rhaid i’r Llywodraeth roi mwy o flaenoriaeth a sylw iddo, fel y mae’n ei haeddu. Fel plaid, yr ydym wedi gosod allan heddiw ein cynlluniau i ddatblygu cynllun canser cenedlaethol, cynhwysfawr ar gyfer Cymru gyfan. Byddwn yn ailgyfeirio arian sydd ar hyn o bryd yng nghyllideb y gwasanaeth iechyd gwladol i ariannu meddyginiaethau newydd ac offer modern i fynd i’r afael â chanser. Byddwn yn sicrhau bod gwell cyfleusterau ar gael i helpu i gwtogi amseroedd aros ac i wella ansawdd bywyd cleifion ymhellach.

 

Darren Millar: I am pleased that we are having another debate on cancer this afternoon, because it is so crucial. There is a great deal of consensus across the Chamber on many of the themes within the two debates that we have had this afternoon. We will be supporting the Liberal Democrats’ motion in full. We will reject amendment 1 and we will also be opposing amendment 2. It is rather disappointing that the Government wants to delete point c) in the motion, which calls for developing a plan to support cancer survivors. I would have hoped that that was something that we could all agree upon.

 

Darren Millar: Yr wyf yn falch ein bod yn cael dadl arall ar ganser y prynhawn yma, oherwydd ei fod yn hollbwysig. Mae llawer iawn o gonsensws ar draws y Siambr ar lawer o’r themâu o fewn y ddwy ddadl a gawsom y prynhawn yma. Byddwn yn cefnogi cynnig y Democratiaid Rhyddfrydol yn llawn. Byddwn yn gwrthod gwelliant 1, a byddwn hefyd yn gwrthwynebu gwelliant 2. Mae braidd yn siomedig bod y Llywodraeth am ddileu pwynt c) y cynnig, sy’n galw am ddatblygu cynllun i gefnogi goroeswyr canser. Byddwn yn gobeithio bod hynny yn rhywbeth y gallem ni oll gytuno arno.

 

Turning to the theme of the ingredients of a cancer plan, there are four fundamental ingredients that we should all be in agreement upon. There is a need to improve assessment and care planning. There is a need to reform the follow-up care for cancer victims. There is a need for a much more tailored approach to cancer care for individuals who are suffering from cancer, and for support for their wider families, and there is also a need for key workers to be appointed when somebody has been diagnosed. Another ingredient is broccoli; I am glad that we saw some broccoli in the Chamber, because it reminds us that healthy eating is an important part of the preventive measures that we need to be taking more seriously as a nation in order to reduce our risk of developing cancer in the future, as is reducing our alcohol consumption, dealing with smoking addiction and the need to take more exercise. I am sure that all of us in the Chamber today are listening to those lessons. However, of course, a cancer plan in itself will not help the current situation unless it is delivered. That is why we are still firmly wedded to this principle of the need for a cancer co-ordinator to ensure delivery. We have had debate after debate in this Chamber where we have heard references to reports saying that national service frameworks are not being implemented, where we have heard that guidance issued to local health boards is not being implemented, and where we have heard that targets are being missed. Frankly, another glossy document on a shelf is not going to make a blind bit of difference to the quality of care that cancer patients need to see or in terms of the improvements that we want to bring forward.

 

Gan droi at y thema o gynhwysion cynllun canser, ceir pedwar cynhwysyn sylfaenol y dylem i gyd fod yn gytûn arnynt. Mae angen gwella asesu a chynllunio gofal. Mae angen diwygio gofal dilynol ar gyfer dioddefwyr canser. Mae angen dull llawer mwy addas i ofal canser ar gyfer unigolion sy’n dioddef o ganser, ac am gymorth ar gyfer eu teuluoedd ehangach, ac y mae hefyd angen penodi gweithwyr allweddol pan fydd rhywun wedi cael diagnosis. Cynhwysyn arall yw brocoli; yr wyf yn falch y gwelsom ychydig frocoli yn y Siambr, oherwydd y mae’n ein hatgoffa bod bwyta’n iach yn rhan bwysig o’r mesurau ataliol y mae angen inni eu cymryd yn fwy o ddifrif fel cenedl er mwyn lleihau ein risg o ddatblygu canser yn y dyfodol, fel y mae lleihau ein defnydd o alcohol, delio â bod yn gaeth i ysmygu a’r angen i wneud mwy o ymarfer corff. Mae’n siŵr gennyf fod pob un ohonom yn y Siambr heddiw yn gwrando ar y gwersi hynny. Fodd bynnag, wrth gwrs, ni fydd cynllun canser yn ei hun yn helpu’r sefyllfa bresennol oni bai iddo gael ei ddarparu. Dyna pam yr ydym yn dal yn gadarn at yr egwyddor hon o’r angen am gydgysylltydd canser i sicrhau cyflawniad. Yr ydym wedi cael dadl ar ôl dadl yn y Siambr hon, lle yr ydym wedi clywed cyfeiriadau at adroddiadau a dweud nad yw fframweithiau gwasanaeth cenedlaethol yn cael eu gweithredu, lle yr ydym wedi clywed nad yw’r canllawiau a gyhoeddwyd i fyrddau iechyd lleol yn cael eu gweithredu, a lle yr ydym wedi clywed bod targedau yn cael eu colli. A dweud y gwir, nid yw dogfen sgleiniog arall ar silff yn mynd i wneud unrhyw wahaniaeth i ansawdd y gofal y mae cleifion canser angen ei weld neu o ran y gwelliannau yr ydym am eu cyflwyno.

 

Turning to some of the other points made by other Members today, I was very pleased that Lindsay Whittle and William Powell referred to the involvement of the third sector in the debate, because it has a really important role to play in the successful delivery of cancer services, particularly palliative care services, and we all have examples from in and around our constituencies of the good work being done by the hospice movement. Personally, I would like to see more of the hospice-at-home care, which is a very cost-effective way of providing hospice care in Wales. We do not have access to hospice-at-home services in every part of Wales, and I hope that the national cancer plan will seek to address that in future.

 

Gan droi at rai o’r pwyntiau eraill a wnaethpwyd gan Aelodau eraill heddiw, yr oeddwn yn falch iawn bod Lindsay Whittle a William Powell wedi cyfeirio at rôl y trydydd sector yn y ddadl, oherwydd mae ganddo rôl bwysig iawn i’w chwarae yn llwyddiant gwasanaethau canser, yn enwedig gwasanaethau gofal lliniarol, ac mae gennym i gyd enghreifftiau o’n hetholaethau, ac o’u hamgylch, o’r gwaith da a wneir gan y mudiad hosbis. Yn bersonol, hoffwn weld mwy o ofal hosbis yn y cartref, sydd yn ffordd gost-effeithiol iawn o ddarparu gofal hosbis yng Nghymru. Nid oes gennym fynediad at wasanaethau hosbis yn y cartref ym mhob rhan o Gymru, a gobeithiaf y bydd y cynllun canser cenedlaethol yn ceisio ymdrin â hynny yn y dyfodol.

 

Aled Roberts referred to the need for early diagnosis, which is critical if people are to have positive outcomes when it comes to cancer. Of course, the Government is committed to a national screening programme for the over 50s, operated on an annual basis here in Wales, which is commendable. However, the question is whether that is an affordable thing to aim for. I hope very much that the Minister and the Government will be able to put their money where their mouths are when it comes to a national screening programme, because people are quite right to say that, very often, it is through screening that cancers are picked up, before the person becomes ill and the cancer develops into something that cannot be treated.

 

Cyfeiriodd Aled Roberts at yr angen am ddiagnosis cynnar, sy’n hanfodol os yw pobl am gael canlyniadau cadarnhaol pan ddaw i ganser. Wrth gwrs, mae’r Llywodraeth wedi ymrwymo i raglen sgrinio genedlaethol ar gyfer rhai dros 50 oed, sy’n gweithredu yn flynyddol yma yng Nghymru ac i’w ganmol. Fodd bynnag, y cwestiwn yw: ai dyna’r peth fforddiadwy i anelu ato? Rwyf yn gobeithio’n fawr y bydd y Gweinidog a’r Llywodraeth yn gallu rhoi eu harian ar eu geiriau o safbwynt y rhaglen sgrinio genedlaethol, gan fod pobl yn hollol iawn i ddweud, yn aml iawn, mai drwy sgrinio’r canserau y sylwir arnynt, cyn bod y person yn mynd yn sâl a bod canser yn datblygu yn rhywbeth na ellir ei drin.

 

Another element that needs to be included in the cancer plan, which no-one has mentioned as yet is the importance of cross-border care in the delivery of cancer services. There are some very specialised services that can be provided only on a cross-border basis, particularly in the areas of Wales where the bigger hospitals and populations are on the English side of the border. It is very important that those important links are spelt out in any national cancer plan. Very briefly, I want to refer to funding and the need for a cancer drugs fund. It is very regrettable that people are better able to access the more modern treatments that Aled and other speakers have referred to in other parts of the UK.

 

Elfen arall y mae angen ei chynnwys yn y cynllun canser, nad oes unrhyw un wedi’i chrybwyll eto, yw pwysigrwydd gofal trawsffiniol wrth ddarparu gwasanaethau canser. Ceir rhai gwasanaethau arbenigol iawn y gellir eu darparu yn drawsffiniol, yn enwedig yn yr ardaloedd o Gymru lle mae’r ysbytai a’r poblogaethau mwy ar ochr Lloegr y ffin. Mae’n bwysig iawn bod y cysylltiadau pwysig hynny’n cael eu hamlygu mewn unrhyw gynllun canser cenedlaethol. Yn fyr iawn, yr wyf am gyfeirio at arian a’r angen am gronfa cyffuriau canser. Mae’n anffodus iawn bod pobl yn gallu cael gafael ar y triniaethau mwy modern y cyfeiriwyd atynt gan Aled a siaradwyr eraill yn haws mewn rhannau eraill o’r Deyrnas Unedig.

 

The Deputy Presiding Officer: Conclude now, please.

 

Y Dirprwy Lywydd: Rhaid ichi orffen nawr, os gwelwch yn dda.

 

Darren Millar: There is a great deal of resentment about that. It is a very affordable thing to provide. The figure that has been put on this by independent organisations is £3.3 million. I urge the Minister to really consider whether it is possible to achieve that in Wales.

 

Darren Millar: Mae llawer o ddrwgdeimlad ynghylch hynny. Mae’n beth fforddiadwy iawn i’w ddarparu. Y ffigur a roddwyd ar hyn gan sefydliadau annibynnol yw £3.3 miliwn. Anogaf y Gweinidog i wir ystyried a oes modd cyflawni hynny yng Nghymru.

 

The Minister for Health and Social Services (Lesley Griffiths): Cancer is a very important and emotive issue, and one that, as several Members have said, has touched most of us at some time in our lives. However, this is the third debate on cancer within a week, and the second today. The issues raised for discussion are the same that we debated last week and just an hour or so ago. So, I am concerned about the adverse effect this may have on the Welsh public, who, as a result of these multiple debates on the same cancer issues, may be unnecessarily worried about cancer services in Wales. Therefore, I hope that my comments now will reassure all of our constituents across Wales that the prevention and treatment of cancer are priorities for the Welsh Government.

 

Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol (Lesley Griffiths): Mae canser yn fater pwysig ac emosiynol iawn, ac yn un, fel y dywedodd sawl Aelod, sydd wedi cyffwrdd â’r rhan fwyaf ohonom ar ryw adeg yn ein bywydau. Fodd bynnag, dyma’r drydedd ddadl ar ganser o fewn yr wythnos, a’r ail heddiw. Mae’r materion a godwyd ar gyfer trafodaeth yr un fath ag y trafodwyd gennym yr wythnos ddiwethaf, a dim ond awr neu ddwy yn ôl. Felly, yr wyf yn pryderu am yr effaith niweidiol y gall hyn ei chael ar bobl Cymru, sydd, o ganlyniad i’r dadleuon niferus hyn ar yr un materion canser, efallai yn poeni’n ddiangen am wasanaethau canser yng Nghymru. Felly, gobeithiaf y bydd fy sylwadau i bellach yn sicrhau pob un o’n hetholwyr ledled Cymru bod atal a thrin canser yn flaenoriaethau i Lywodraeth Cymru.

 

Cancer is no longer thought of as the death sentence it once was. It is now a chronic condition and, as such, more people are living longer with and after cancer. A great deal of progress has been made on improving cancer services across Wales in recent years. We have better and improved awareness and screening programmes; improved diagnosis; access to new technologies, treatment and drugs; and dedicated and caring staff within the health service in Wales. However, I am not complacent and I know that there is still more that we can do. This afternoon, we have already thoroughly debated the need for a cancer plan in Wales, which this Government is in the process of developing and which will include the need for holistic, person-centred care, so I have no intention of covering this point for a third time. All I will say is that you are quite right, Kirsty, there should be no discrimination on the basis of race, gender or age in relation to care.

 

Nid yw canser bellach yn cael ei ystyried fel y ddedfryd farwolaeth ag y bu. Bellach, cyflwr cronig ydyw ac, fel y cyfryw, mae mwy o bobl yn byw yn hwy gydag ac ar ôl canser. Gwnaed llawer o gynnydd ar wella gwasanaethau canser ar draws Cymru yn y blynyddoedd diwethaf. Mae gennym well ymwybyddiaeth a rhaglenni sgrinio; diagnosis gwell; mynediad i dechnolegau newydd, triniaeth a chyffuriau; a staff ymroddedig a gofalgar o fewn y gwasanaeth iechyd yng Nghymru. Fodd bynnag, nid wyf yn hunanfodlon, a gwn fod mwy y gallwn ei wneud. Y prynhawn yma, yr ydym eisoes wedi trafod yn drylwyr yr angen am gynllun canser yng Nghymru, y mae’r Llywodraeth hon yn y broses o’i ddatblygu ac a fydd yn cynnwys yr angen am ofal holistaidd, sy’n canolbwyntio ar y person, felly nid wyf yn bwriadu cynnwys y pwynt hwn am y trydydd tro. Y cyfan a ddywedaf yw eich bod yn hollol iawn, Kirsty, na ddylid gwahaniaethu ar sail hil, rhyw neu oedran mewn perthynas â gofal.

 

I made the Welsh Government’s position on a cancer drugs fund for Wales very clear in the debate last week. It is interesting that the Liberal Democrats are now echoing the Conservatives’ call for such a fund. I will say once again that I do not see the need for a cancer drugs fund, because we already spend £5 more on cancer treatment per head in Wales than is spent in England, regardless of the fund.

 

Gwneuthum safbwynt Llywodraeth Cymru ar gronfa cyffuriau canser ar gyfer Cymru yn glir iawn yn y ddadl yr wythnos ddiwethaf. Mae’n ddiddorol bod y Democratiaid Rhyddfrydol bellach yn adleisio galwad y Ceidwadwyr ar gyfer cronfa o’r fath. Dywedaf unwaith eto na welaf angen am gronfa cyffuriau canser, oherwydd rydym eisoes yn gwario £5 mwy y pen ar driniaeth canser yng Nghymru na’r hyn sy’n cael ei wario yn Lloegr, cronfa neu beidio.

 

Kirsty Williams: Of course, the cancer drugs fund is only a short-term measure and cannot possibly be a long-term solution to the challenges that new pharmaceutical developments bring. The pharmaceutical price regulation scheme has provided stability, but it has not promoted innovation. Therefore, what discussions have you and your officials had with regard to the consultation on value-based pricing, which will be a long-term solution?

 

Kirsty Williams: Wrth gwrs, mesur tymor byr yn unig yw’r gronfa cyffuriau canser ac ni all fod yn ateb tymor hir i’r heriau y mae’r datblygiadau fferyllol newydd yn eu creu. Mae’r cynllun rheoleiddio prisiau fferyllol wedi darparu sefydlogrwydd, ond nid yw wedi hybu arloesi. Felly, pa drafodaethau ydych chi a’ch swyddogion wedi eu cael o ran yr ymgynghoriad ar brisio ar sail gwerth, a fydd yn ateb tymor hir?

 

Lesley Griffiths: You are quite right to say that it is only a temporary scheme, which is something that the Conservatives do not tell us. It will be finishing in 2013, when value-based pricing for drugs is introduced. I met the National Institute for Health and Clinical Excellence this week, and those discussions are happening. Other things that you do not hear from the Welsh Conservatives are that clinicians in England are openly questioning the viability of the scheme, that evidence is now emerging that the fund is creating a postcode lottery for access to drugs, and that the cancer drugs fund is paid for by top-slicing the existing NHS budget in England, so it is little more than an alternative funding mechanism.

 

Lesley Griffiths: Yr ydych yn hollol iawn i ddweud mai cynllun dros dro yn unig ydyw, sy’n rhywbeth nad yw’r Ceidwadwyr yn ei ddweud wrthym. Bydd yn dod i ben yn 2013, pan gyflwynir prisio ar sail gwerth ar gyfer cyffuriau. Cyfarfûm â’r Sefydliad Cenedlaethol dros Iechyd a Rhagoriaeth Glinigol yr wythnos hon, ac mae’r trafodaethau hynny yn digwydd. Pethau eraill nad ydych yn eu clywed gan y Ceidwadwyr Cymreig yw bod clinigwyr yn Lloegr yn cwestiynu, yn agored, hyfywedd y cynllun, a bod tystiolaeth yn dod allan bellach bod y gronfa yn creu loteri cod post ar gyfer mynediad at gyffuriau, ac y telir am y gronfa cyffuriau canser drwy frigdorri cyllideb bresennol y gwasanaeth iechyd gwladol yn Lloegr, felly nid yw fawr mwy na mecanwaith ariannu amgen.

 

Darren Millar: Will you take an intervention?

 

Darren Millar: A gymerwch chi ymyriad?

 

Lesley Griffiths: No. I will keep going.

 

Lesley Griffiths: Na. Fe wnaf barhau.

 

Several Members spoke about pharmaceutical companies and it was reported in the media again on Monday that it is pharmaceutical companies and lobbyists who are pursuing vehemently the need for a cancer drugs fund in Wales. The York-based health economist Alan Maynard, when talking about the cancer drugs fund, said that he suspected that there would be a pharmaceutical industry lobby, because companies have run into problems with NICE because they have been unable to demonstrate that the drugs that they have brought to the market are cost-effective.

 

Soniodd sawl Aelod am gwmnïau fferyllol ac adroddwyd yn y cyfryngau unwaith eto ddydd Llun mai cwmnïau fferyllol a lobïwyr sy’n mynd, yn chwyrn, ar drywydd yr angen am gronfa cyffuriau canser yng Nghymru. Dywedodd yr economegydd iechyd o Gaer Efrog Alan Maynard, wrth sôn am y gronfa cyffuriau canser, ei fod yn amau y byddai lobi diwydiant fferyllol oherwydd bod cwmnïau wedi cael trafferthion gyda NICE gan nad ydynt wedi gallu dangos bod y cyffuriau y maent wedi eu dwyn i’r farchnad yn gost-effeithiol.

 

Kirsty Williams: Will you take an intervention?

 

Kirsty Williams: A gymerwch chi ymyriad?

 

Lesley Griffiths: No, I will not take any more interventions.

 

Lesley Griffiths: Na, ni dderbyniaf fwy o ymyriadau.

 

I draw your attention to the recently published Lancet Oncology Commission report ‘Delivering affordable cancer care in high-income countries’. This sets out a strategic, thought-provoking, whole-system overview of costs and pressures now and into the future. It is these issues that I believe we should focus on.

 

Tynnaf eich sylw at adroddiad Comisiwn Oncoleg Lancet a gyhoeddwyd yn ddiweddar ‘Delivering affordable cancer care in high-income countries’. Mae hyn yn nodi trosolwg strategol, system-gyfan, sy’n procio’r meddwl, o’r costau a phwysau yn awr ac yn y dyfodol. Credaf mai dyma’r materion y dylem ganolbwyntio arnynt.

 

There are difficult issues that we need to tackle looking to the future, such as how we are going to afford to deliver high-quality and equitable care. As the report states, the challenge is how to collectively deliver reasonably priced care to all citizens. It goes on to confirm that, when assessing the use of health dollars, consideration should be given to the entire spectrum of intervention, including prevention and screening strategies, as well as diagnosis, treatment and hospital care.

 

Ceir materion anodd y mae angen inni fynd i’r afael â hwy wrth edrych i’r dyfodol, megis sut yr ydym yn mynd i fforddio i ddarparu gofal o ansawdd uchel a theg. Fel y dywed yr adroddiad, yr her yw sut mae cyflawni ar y cyd gofal am bris rhesymol i bob dinesydd. Mae’n parhau i gadarnhau, wrth asesu’r defnydd o ddoleri iechyd, y dylid rhoi ystyriaeth i’r sbectrwm cyfan o ymyrraeth, gan gynnwys strategaethau atal a sgrinio, yn ogystal â diagnosis, triniaeth a gofal ysbyty.

 

I welcome this report. It challenges us, rightly, to think about a whole-system approach, based around the patient, and that will be the focus of our national cancer plan—not a simplistic headline cancer drugs fund. Therefore, I repeat again that we will not be taking that fund forward in Wales.

 

Croesawaf yr adroddiad hwn. Mae’n ein herio ni, yn briodol, i feddwl am ymagwedd system gyfan, yn seiliedig ar y claf, a hynny fydd ffocws ein cynllun canser cenedlaethol—nid cronfa cyffuriau canser gor-syml. Felly, yr wyf yn ailadrodd eto na fyddwn yn cymryd y gronfa honno yn ei blaen yng Nghymru.

 

Aled Roberts mentioned flexible sigmoidoscopy being used as part of bowel cancer screening. You may be aware that there are three pathfinder sites being established in England to trial different models of implementation. The preliminary findings have uncovered a few issues, which are being looked at before a pilot scheme is run in England. Therefore, my officials and, most importantly, screening experts, will consider the findings of the pathfinder sites and the pilot scheme before making any recommendations.

 

Soniodd Aled Roberts am ddefnyddio sigmoidosgopi hyblyg fel rhan o sgrinio am ganser y coluddyn. Efallai y byddwch yn ymwybodol bod tri safle braenaru yn cael eu sefydlu yn Lloegr i dreialu modelau gwahanol o weithredu. Mae canfyddiadau rhagarweiniol wedi datgelu rhai materion, sydd yn cael eu hystyried cyn rhedeg cynllun peilot yn Lloegr. Felly, bydd fy swyddogion ac, yn bwysicach, arbenigwyr sgrinio yn ystyried canfyddiadau’r safleoedd braenaru a’r cynllun peilot cyn gwneud unrhyw argymhellion.

 

You also mentioned IMRT. There are funding arrangements in place for six local health boards to have a phased implementation plan, which will be processed as we go through the year. The other LHB is the Betsi Cadwaladr University Local Health Board in north Wales. IMRT is available for some patients there, but the health board is looking to roll that out further.

 

Soniasoch hefyd am radiotherapi dwyster modyledig. Mae trefniadau ariannu ar waith ar gyfer chwe bwrdd iechyd lleol i gael cynllun gweithredu fesul cam, a gaiff eu prosesu wrth inni fynd drwy’r flwyddyn. Y bwrdd iechyd lleol arall yw Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn y Gogledd. Mae IMRT ar gael ar gyfer rhai cleifion yno, ond mae’r bwrdd iechyd yn ystyried cyflwyno hynny ymhellach.

 

To conclude, this is what the Welsh Government is committed to achieving. There is a consensus and it would therefore be helpful for Members from opposition parties to feed into the development of the cancer plan.

 

I gloi, dyma’r hyn y mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i’w gyflawni. Ceir consensws, ac felly byddai’n ddefnyddiol petai Aelodau o’r gwrthbleidiau yn bwydo i mewn i ddatblygiad y cynllun canser.

 

Peter Black: The motion that we have tabled very much feeds into the development of the cancer plan. I hope, therefore, that the Minister will support it. I notice, however, that she did not answer Kirsty Williams’s question about value-based pricing, whether she is committed to it and whether she will be introducing it in Wales at the same time that it is introduced in England. That is an important question that requires an answer from the Minister now, or at a later date.

Peter Black: Mae’r cynnig a gyflwynwyd gennym yn sicr yn bwydo i mewn i ddatblygiad cynllun canser. Gobeithiaf, felly, y bydd y Gweinidog yn ei gefnogi. Sylwaf, fodd bynnag, nad oedd hi wedi ateb cwestiwn Kirsty Williams ynghylch prisio ar sail gwerth, a ydyw hi wedi ymrwymo iddo ac a fydd hi’n ei gyflwyno yng Nghymru ar yr un pryd ag y caiff ei gyflwyno yn Lloegr. Mae hynny’n gwestiwn pwysig y mae angen ei ateb gan y Gweinidog yn awr, neu ar ddyddiad diweddarach.

 

6.00 p.m.

 

The Minister makes the point that we are spending £5 per head more in Wales than in England, but the fact is that the outcomes and uptakes are worse here than they are in England. Although we are spending more, it seems that the money is not being spent effectively, because England is getting better outcomes for people who suffer from cancer.

 

Mae’r Gweinidog yn gwneud y pwynt ein bod yn gwario £5 y pen yn fwy yng Nghymru nag yn Lloegr, ond y ffaith yw bod y canlyniadau a’r defnydd yn waeth yma nag y maent yn Lloegr. Er ein bod yn gwario mwy mae’n ymddangos nad yw’r arian yn cael ei wario’n effeithiol, oherwydd mae gan Loegr ganlyniadau gwell ar gyfer pobl sydd yn dioddef o ganser.

 

Other countries develop person-centred cancer services: Welsh policy is lagging behind with an approach still dominated by the clinical and acute aspects of care. Government policy focuses on prevention, early detection, improved access and better services, but not on how people who have survived cancer can rebuild their life, or how care should be centred on the needs of the patient—a point made by Lindsay Whittle.

 

Mae gwledydd eraill yn datblygu gwasanaethau canser sydd yn canolbwyntio ar yr unigolyn: mae polisi Cymru ar ei hôl hi, gyda dull sydd yn dal i fod wedi ei ddominyddu gan agweddau gofal clinigol ac aciwt. Mae polisi’r Llywodraeth yn canolbwyntio ar atal, canfod yn gynnar, gwell mynediad a gwell gwasanaethau, ond nid ar sut y gall pobl sydd wedi goroesi canser ailadeiladu eu bywydau, neu sut y dylai gofal gael ei ganolbwyntio ar anghenion y claf—pwynt a wnaed gan Lindsay Whittle.

 

There are also questions about access to medicine and treatment. England has a cancer drugs fund, which means that patients over the border are able to access treatment that is denied to Welsh patients. Despite the fact that clinicians in Wales have recommended certain drugs for them, the drugs are not funded and the patients are denied. These patients often receive treatment in English hospitals, sitting next to English cancer sufferers who can access those drugs. The principle should be that if the clinician prescribes a medicine, it should be funded.

 

Mae yna gwestiynau hefyd am fynediad at feddyginiaeth a thriniaeth. Mae gan Loegr gronfa cyffuriau canser, sy’n golygu bod cleifion dros y ffin yn gallu cael mynediad at driniaeth nad yw ar gael i gleifion Cymru. Er gwaethaf y ffaith bod clinigwyr yng Nghymru wedi argymell cyffuriau penodol ar eu cyfer, nid yw’r cyffuriau yn cael eu hariannu ac mae’r cleifion yn cael eu gwrthod. Mae’r cleifion hyn yn aml yn derbyn triniaeth mewn ysbytai yn Lloegr, yn eistedd nesaf i ddioddefwyr canser o Loegr sy’n gallu cael y cyffuriau hynny. Yr egwyddor a ddylai fod yw: os yw’r clinigydd yn rhagnodi meddyginiaeth, dylid ei hariannu.

 

David Rees: I often hear about patients having access to drugs in England. However, is it not true that not every patient in England will have the ability to get those drugs, but that only a limited number get them? Yes or no.

 

David Rees: Yr wyf yn aml yn clywed am gleifion sy’n cael mynediad at gyffuriau yn Lloegr. Fodd bynnag, onid yw’n wir na fydd pob claf yn Lloegr â’r gallu i gael y cyffuriau hynny, a dim ond nifer gyfyngedig sy’n eu cael nhw? Ydyw neu nac ydyw.

Peter Black: The point is, David, that there is a fund, so patients are able to access those drugs. That is not the case in Wales. There are patients in Wales who cannot access those drugs who are being treated next to patients in England who can. That is the problem.

 

Peter Black: Y pwynt yw, David, bod cronfa; felly mae cleifion yn gallu cael mynediad at y cyffuriau hynny. Nid yw hynny’n wir yng Nghymru. Mae yna gleifion yng Nghymru sy’n methu cael mynediad at y cyffuriau hynny ond yn cael eu trin nesaf i gleifion yn Lloegr sy’n gallu. Dyna’r broblem.

 

We believe that the cancer plan needs to be driven forward by a co-ordinator who is a clinician in their own right and able to understand and deliver the treatment that sufferers need. We are in danger of losing the best cancer doctors and of not having access to trials because we are not delivering the latest treatments or medicines.

 

Credwn fod angen i’r cynllun canser gael ei yrru ymlaen gan gydlynydd sy’n glinigwr ac yn gallu deall a darparu’r driniaeth y mae ar ddioddefwyr ei hangen. Yr ydym mewn perygl o golli’r meddygon canser gorau ac o beidio â chael mynediad at dreialon oherwydd nad ydym yn cyflawni’r triniaethau neu’r meddyginiaethau diweddaraf.

 

Mick Antoniw implied that the cancer drugs fund is somehow a conspiracy by the drugs companies to boost their profits. I am shocked by such cynicism. The fact is that many of those disputed drugs can prolong life, even if it is just for a few months. Other drugs are not even evaluated, because they apply to rarer cancers, so NICE takes the view that they are uneconomic because of the small numbers of patients involved. These drugs will sometimes be more effective for some individuals than others, and I suggest that we should be led by clinicians; as I said, if they recommend a contested drug, it should be funded. That is what a people-centred service is all about. We talk on all sides of the Chamber about providing a people-centred service, but if you are not providing the drugs that clinicians say people need, you are not delivering it.

 

Awgrymodd Mick Antoniw mai cynllwyn gan y cwmnïau cyffuriau i hybu eu helw, rywsut, yw’r gronfa cyffuriau canser. Yr wyf wedi’m synnu gan sinigiaeth o’r fath. Y ffaith yw y gall llawer o’r cyffuriau dadleuol hynny ymestyn bywyd, hyd yn oed os mai dim ond am ychydig fisoedd y mae hynny. Nid yw cyffuriau eraill yn cael eu gwerthuso hyd yn oed, oherwydd eu bod yn berthnasol i ganserau prin, felly mae NICE o’r farn eu bod yn aneconomaidd oherwydd y nifer fach o gleifion dan sylw. Weithiau, bydd y cyffuriau hyn yn fwy effeithiol i rai unigolion nag eraill, ac awgrymaf y dylem gael ein harwain gan glinigwyr; fel y dywedais, os ydynt yn argymell cyffur dadleuol, dylid ei ariannu. Dyna beth y mae gwasanaeth sy’n canolbwyntio ar y bobl yn ei olygu. Rydym yn siarad ar bob ochr i’r Siambr ynglŷn â darparu gwasanaeth sy’n canolbwyntio ar y bobl, ond os nad ydych yn darparu’r cyffuriau y mae clinigwyr yn dweud eu bod yn angenrheidiol i bobl, nid ydych yn ei gyflwyno.

 

It is when rarer cancers that affect the kidneys, for example, that the drugs fund comes into its own. About 500 people in Wales suffer from kidney cancer, and fewer than 9,000 in the UK every year. A drug such as Afinitor could extend life by up to nine months, but it is considered uneconomic because of the small number of people affected by that particular type of cancer. However, it is available in England for patients for whom it is recommended by their clinicians, but it is not available in Wales. I find that unacceptable.

 

Pan fo canserau mwy prin sy’n effeithio ar yr arennau, er enghraifft, dyna lle y mae’r gronfa cyffuriau yn dod i fri. Mae tua 500 o bobl yng Nghymru yn dioddef o ganser yr arennau, a llai na 9,000 yn y Deyrnas Unedig bob blwyddyn. Gallai cyffur megis Afinitor ymestyn bywyd hyd at naw mis, ond ystyrir ei fod yn aneconomaidd gan mai nifer fach o bobl yr effeithir arnynt gan y math penodol hwnnw o ganser. Fodd bynnag, mae ar gael yn Lloegr ar gyfer cleifion lle y mae clinigwyr wedi ei argymell iddynt, ond nid yw ar gael yng Nghymru. I mi, mae hynny’n annerbyniol.

 

I also find it unacceptable that English primary care trusts appear to have more funding routes available to them for those drugs than Welsh local health boards, and there is also less bureaucracy involved.

 

Mae’n annerbyniol hefyd bod ymddiriedolaethau gofal sylfaenol yn Lloegr yn ymddangos i gael mwy o lwybrau cyllid ar gael iddynt ar gyfer y cyffuriau hynny na byrddau iechyd lleol Cymru, ac y mae yna hefyd lai o fiwrocratiaeth ynghlwm.

 

Rhodri Glyn Thomas: Will you take an intervention?

 

Rhodri Glyn Thomas: A wnewch chi dderbyn ymyriad?

 

Peter Black: I have less than a minute left, Rhodri, so I will give you 10 seconds to come in.

 

Peter Black: Mae llai na munud ar ôl gennyf, Rhodri, felly rhof 10 eiliad ichi ddod i mewn.

 

Rhodri Glyn Thomas: Just for clarification, are you suggesting that clinicians should be given total freedom to prescribe whatever drugs they see fit to their patients?

 

Rhodri Glyn Thomas: Dim ond ar gyfer eglurhad, a ydych yn awgrymu y dylai clinigwyr fod yn hollol rydd i ragnodi cyffuriau i’w cleifion fel y gwelant yn dda?

 

Peter Black: I am certainly not suggesting that I should prescribe the drugs, as I have no idea what they do. The clinicians are the people who know what is needed for their patients and what drugs are necessary for diseases. Are you saying that clinicians should not be trusted? I trust doctors and clinicians because that is what they are paid to do, and that is why we pay a fortune on training them to such a level. Why are we putting more money into this service than in England, yet patients are getting a worse service?

 

Peter Black: Yn sicr, nid wyf yn awgrymu mai fi a ddylai ragnodi’r cyffuriau, gan nad oes gennyf unrhyw syniad beth y maent yn ei wneud. Y clinigwyr yw’r bobl sy’n gwybod beth sydd ei angen ar gyfer eu cleifion, a pha gyffuriau sydd eu hangen ar gyfer afiechydon. A ydych yn dweud na ddylid ymddiried yn y clinigwyr? Yr wyf yn ymddiried ym meddygon a chlinigwyr gan mai dyna beth y maent yn cael eu talu i’w wneud, a dyna pam yr ydym yn talu ffortiwn i’w hyfforddi i lefel o’r fath. Pam ydym yn rhoi mwy o arian i mewn i’r gwasanaeth hwn nag yn Lloegr, ac eto mae cleifion yn cael gwasanaeth gwaeth?

 

The Minister complained that we are spending too much time on this issue. I am not complaining, as I do not think that we are; I do not think that we can spend too much time on it until we get it right. We need more debates until the Government listens to what needs to be done for Welsh patients.

 

Cwynodd y Gweinidog ein bod yn treulio gormod o amser ar y mater hwn. Nid wyf yn cwyno, gan nad wyf yn credu bod hynny’n wir; nid wyf yn credu y gallwn dreulio gormod o amser ar hyn nes i ni ei gael yn iawn. Mae arnom angen fwy o ddadleuon nes bod y Llywodraeth yn gwrando ar yr hyn y mae angen ei wneud ar gyfer cleifion Cymru.

 

The Deputy Presiding Officer: The proposal is that the motion be agreed without amendment. Is there any objection? I see that there is. Therefore, voting on this item will be deferred until voting time.

 

Y Dirprwy Lywydd: Y cynnig yw bod y cynnig yn cael ei dderbyn heb ei ddiwygio A oes unrhyw wrthwynebiad? Gwelaf fod gwrthwynebiad. Felly, caiff y bleidlais ar yr eitem hon ei gohirio tan y cyfnod pleidleisio.

 

Before we proceed to voting time, are there three Members who want the bell to be rung? I see that there are not, so we will move straight to voting time.

 

Cyn i ni symud ymlaen i’r cyfnod pleidleisio, a oes tri Aelod yn dymuno i’r gloch gael ei chanu? Gwelaf nad oes, felly symudwn yn syth at y cyfnod pleidleisio.

 

Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.
Voting deferred until voting time.

 

Cyfnod Pleidleisio
Voting Time

 

Cynnig NDM4821: O blaid 17, Ymatal 0, Yn erbyn 38.
Motion NDM4821: For 17, Abstain 0, Against 38.

 

Pleidleisiodd yr Aelodau canlynol o blaid:
The following Members voted for:

Pleidleisiodd yr Aelodau canlynol yn erbyn:
The following Members voted against:

 

Asghar, Mohammad
Black, Peter
Davies, Andrew R.T.
Davies, Byron
Davies, Paul
Davies, Suzy
Finch-Saunders, Janet
George, Russell
Graham, William
Isherwood, Mark
Millar, Darren
Parrott, Eluned
Powell, William
Ramsay, Nick
Roberts, Aled
Sandbach, Antoinette
Williams, Kirsty

Andrews, Leighton
Antoniw, Mick
Chapman, Christine
Cuthbert, Jeff
Davies, Alun
Davies, Jocelyn
Davies, Keith
Drakeford, Mark
Elis-Thomas,
Yr Arglwydd/Lord
Evans, Rebecca
Gething, Vaughan
Gregory, Janice
Griffiths, John
Griffiths, Lesley
Gruffydd, Llyr Huws
Hart, Edwina
Hedges, Mike
Hutt, Jane
James, Julie
Jenkins, Bethan
Jones, Alun Ffred
Jones, Ann
Jones, Carwyn
Jones, Elin
Lewis, Huw
Mewies, Sandy
Morgan, Julie
Neagle, Lynne
Price, Gwyn R.
Rathbone, Jenny
Rees, David
Sargeant, Carl
Thomas, Gwenda
Thomas, Rhodri Glyn
Thomas, Simon
Watson, Joyce
Whittle, Lindsay
Wood, Leanne

Gwrthodwyd y cynnig.
Motion not agreed.

 

Gwelliant 1 i NDM4821: O blaid 40, Ymatal 0, Yn erbyn 13.
Amendment 1 to NDM4821: For 40, Abstain 0, Against 13.

 

Pleidleisiodd yr Aelodau canlynol o blaid:
The following Members voted for:

Pleidleisiodd yr Aelodau canlynol yn erbyn:
The following Members voted against:

 

Andrews, Leighton
Antoniw, Mick
Black, Peter
Chapman, Christine
Cuthbert, Jeff
Davies, Alun
Davies, Jocelyn
Drakeford, Mark
Elis-Thomas,
Yr Arglwydd/Lord
Evans, Rebecca
Gething, Vaughan
Gregory, Janice
Griffiths, John
Griffiths, Lesley
Gruffydd, Llyr Huws
Hart, Edwina
Hedges, Mike
Hutt, Jane
James, Julie
Jenkins, Bethan
Jones, Ann
Jones, Carwyn
Jones, Elin
Lewis, Huw
Mewies, Sandy
Morgan, Julie
Neagle, Lynne
Parrott, Eluned
Powell, William
Price, Gwyn R.
Rees, David
Roberts, Aled
Sargeant, Carl
Thomas, Gwenda
Thomas, Rhodri Glyn
Thomas, Simon
Watson, Joyce
Whittle, Lindsay
Williams, Kirsty
Wood, Leanne

Asghar, Mohammad
Davies, Andrew R.T.
Davies, Byron
Davies, Paul
Davies, Suzy
Finch-Saunders, Janet
George, Russell
Graham, William
Isherwood, Mark
Millar, Darren
Ramsay, Nick
Rathbone, Jenny
Sandbach, Antoinette

Derbyniwyd y gwelliant.
Amendment agreed.

 

 

Gwelliant 2 i NDM4821: O blaid 38, Ymatal 0, Yn erbyn 17.
Amendment 2 to NDM4821: For 38, Abstain 0, Against 17.

 

Pleidleisiodd yr Aelodau canlynol o blaid:
The following Members voted for:

Pleidleisiodd yr Aelodau canlynol yn erbyn:
The following Members voted against:

 

Andrews, Leighton
Antoniw, Mick
Chapman, Christine
Cuthbert, Jeff
Davies, Alun
Davies, Jocelyn
Davies, Keith
Drakeford, Mark
Elis-Thomas,
Yr Arglwydd/Lord
Evans, Rebecca
Gething, Vaughan
Gregory, Janice
Griffiths, John
Griffiths, Lesley
Gruffydd, Llyr Huws
Hart, Edwina
Hedges, Mike
Hutt, Jane
James, Julie
Jenkins, Bethan
Jones, Alun Ffred
Jones, Ann
Jones, Carwyn
Jones, Elin
Lewis, Huw
Mewies, Sandy
Morgan, Julie
Neagle, Lynne
Price, Gwyn R.
Rathbone, Jenny
Rees, David
Sargeant, Carl
Thomas, Gwenda
Thomas, Rhodri Glyn
Thomas, Simon
Watson, Joyce
Whittle, Lindsay
Wood, Leanne

Asghar, Mohammad
Black, Peter
Davies, Andrew R.T.
Davies, Byron
Davies, Paul
Davies, Suzy
Finch-Saunders, Janet
George, Russell
Graham, William
Isherwood, Mark
Millar, Darren
Parrott, Eluned
Powell, William
Ramsay, Nick
Roberts, Aled
Sandbach, Antoinette
Williams, Kirsty

Derbyniwyd y gwelliant.
Amendment agreed.

 

 

Cynnig NDM4821 fel y’i diwygiwyd:

 

Motion NDM4821 as amended:

 

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

 

The National Assembly for Wales:

 

1. Yn nodi cymeradwyaeth unfrydol y Cynulliad ar 5 Hydref 2011 i lunio a gweithredu Cynllun Canser Cenedlaethol ac felly yn galw ar Lywodraeth Cymru i:

 

1. Notes the unanimous endorsement of the Assembly on 5 October 2011 for drawing up and implementing a National Cancer Plan and therefore calls on the Welsh Government to:

 

a) Sefydlu ‘Cynllun Canser Cenedlaethol’; a

 

a) Establish a ‘National Cancer Plan’; and

 

b) Adolygu pa gymorth sydd angen ei roi ar lefel Cymru gyfan i gynorthwyo GIG Cymru i fynd i’r afael â chanser.

 

b) Review what support is needed at an all Wales level to support NHS Wales in tackling cancer.

 

Cynnig NDM4821 fel y’i diwygiwyd: O blaid 55, Ymatal 0, Yn erbyn 0.
Motion NDM4821 as amended: For 55, Abstain 0, Against 0.

 

Pleidleisiodd yr Aelodau canlynol o blaid:
The following Members voted for:

 

 

Andrews, Leighton
Antoniw, Mick
Asghar, Mohammad
Black, Peter
Chapman, Christine
Cuthbert, Jeff
Davies, Alun
Davies, Andrew R.T.
Davies, Byron
Davies, Jocelyn
Davies, Keith
Davies, Paul
Davies, Suzy
Drakeford, Mark
Elis-Thomas,
Yr Arglwydd/Lord
Evans, Rebecca
Finch-Saunders, Janet
George, Russell
Gething, Vaughan
Graham, William
Gregory, Janice
Griffiths, John
Griffiths, Lesley
Gruffydd, Llyr Huws
Hart, Edwina
Hedges, Mike
Hutt, Jane
Isherwood, Mark
James, Julie
Jenkins, Bethan
Jones, Alun Ffred
Jones, Ann
Jones, Carwyn
Jones, Elin
Lewis, Huw
Mewies, Sandy
Millar, Darren
Morgan, Julie
Neagle, Lynne
Parrott, Eluned
Powell, William
Price, Gwyn R.
Ramsay, Nick
Rathbone, Jenny
Rees, David
Roberts, Aled
Sandbach, Antoinette
Sargeant, Carl
Thomas, Gwenda
Thomas, Rhodri Glyn
Thomas, Simon
Watson, Joyce
Whittle, Lindsay
Williams, Kirsty
Wood, Leanne

 

Derbyniwyd cynnig NDM4821 fel y’i diwygiwyd.
Motion NDM4821 as amended agreed.

 

Cynnig NDM4822: O blaid 43, Ymatal 0, Yn erbyn 12.
Motion NDM4822: For 43, Abstain 0, Against 12.

 

Pleidleisiodd yr Aelodau canlynol o blaid:
The following Members voted for:

Pleidleisiodd yr Aelodau canlynol yn erbyn:
The following Members voted against:

 

Andrews, Leighton
Antoniw, Mick
Black, Peter
Chapman, Christine
Cuthbert, Jeff
Davies, Alun
Davies, Jocelyn
Davies, Keith
Drakeford, Mark
Elis-Thomas,
Yr Arglwydd/Lord
Evans, Rebecca
Gething, Vaughan
Gregory, Janice
Griffiths, John
Griffiths, Lesley
Gruffydd, Llyr Huws
Hart, Edwina
Hedges, Mike
Hutt, Jane
James, Julie
Jenkins, Bethan
Jones, Alun Ffred
Jones, Ann
Jones, Carwyn
Jones, Elin
Lewis, Huw
Mewies, Sandy
Morgan, Julie
Neagle, Lynne
Parrott, Eluned
Powell, William
Price, Gwyn R.
Rathbone, Jenny
Rees, David
Roberts, Aled
Sargeant, Carl
Thomas, Gwenda
Thomas, Rhodri Glyn
Thomas, Simon
Watson, Joyce
Whittle, Lindsay
Williams, Kirsty
Wood, Leanne

Asghar, Mohammad
Davies, Andrew R.T.
Davies, Byron
Davies, Paul
Davies, Suzy
Finch-Saunders, Janet
George, Russell
Graham, William
Isherwood, Mark
Millar, Darren
Ramsay, Nick
Sandbach, Antoinette

Derbyniwyd y cynnig.
Motion agreed.

 

 

Cynnig NDM4824: O blaid 17, Ymatal 0, Yn erbyn 38.
Motion NDM4824: For 17, Abstain 0, Against 38.

 

Pleidleisiodd yr Aelodau canlynol o blaid:
The following Members voted for:

Pleidleisiodd yr Aelodau canlynol yn erbyn:
The following Members voted against:

 

Asghar, Mohammad
Black, Peter
Davies, Andrew R.T.
Davies, Byron
Davies, Paul
Davies, Suzy
Finch-Saunders, Janet
George, Russell
Graham, William
Isherwood, Mark
Millar, Darren
Parrott, Eluned
Powell, William
Ramsay, Nick
Roberts, Aled
Sandbach, Antoinette
Williams, Kirsty

Andrews, Leighton
Antoniw, Mick
Chapman, Christine
Cuthbert, Jeff
Davies, Alun
Davies, Jocelyn
Davies, Keith
Drakeford, Mark
Elis-Thomas,
Yr Arglwydd/Lord
Evans, Rebecca
Gething, Vaughan
Gregory, Janice
Griffiths, John
Griffiths, Lesley
Gruffydd, Llyr Huws
Hart, Edwina
Hedges, Mike
Hutt, Jane
James, Julie
Jenkins, Bethan
Jones, Alun Ffred
Jones, Ann
Jones, Carwyn
Jones, Elin
Lewis, Huw
Mewies, Sandy
Morgan, Julie
Neagle, Lynne
Price, Gwyn R.
Rathbone, Jenny
Rees, David
Sargeant, Carl
Thomas, Gwenda
Thomas, Rhodri Glyn
Thomas, Simon
Watson, Joyce
Whittle, Lindsay
Wood, Leanne

Gwrthodwyd y cynnig.
Motion not agreed.

 

Gwelliant 1 i NDM4824: O blaid 42, Ymatal 0, Yn erbyn 12.
Amendment 1 to NDM4824: For 42, Abstain 0, Against 12.

 

Pleidleisiodd yr Aelodau canlynol o blaid:
The following Members voted for:

Pleidleisiodd yr Aelodau canlynol yn erbyn:
The following Members voted against:

 

Andrews, Leighton
Antoniw, Mick
Black, Peter
Chapman, Christine
Cuthbert, Jeff
Davies, Alun
Davies, Jocelyn
Drakeford, Mark
Elis-Thomas,
Yr Arglwydd/Lord
Evans, Rebecca
Gething, Vaughan
Gregory, Janice
Griffiths, John
Griffiths, Lesley
Gruffydd, Llyr Huws
Hart, Edwina
Hedges, Mike
Hutt, Jane
James, Julie
Jenkins, Bethan
Jones, Alun Ffred
Jones, Ann
Jones, Carwyn
Jones, Elin
Lewis, Huw
Mewies, Sandy
Morgan, Julie
Neagle, Lynne
Parrott, Eluned
Powell, William
Price, Gwyn R.
Rathbone, Jenny
Rees, David
Roberts, Aled
Sargeant, Carl
Thomas, Gwenda
Thomas, Rhodri Glyn
Thomas, Simon
Watson, Joyce
Whittle, Lindsay
Williams, Kirsty
Wood, Leanne

Asghar, Mohammad
Davies, Andrew R.T.
Davies, Byron
Davies, Paul
Davies, Suzy
Finch-Saunders, Janet
George, Russell
Graham, William
Isherwood, Mark
Millar, Darren
Ramsay, Nick
Sandbach, Antoinette

Derbyniwyd y gwelliant.
Amendment agreed.

 

 

Gwelliant 2 i NDM4824: O blaid 38, Ymatal 0, Yn erbyn 17.
Amendment 2 to NDM4824: For 38, Abstain 0, Against 17.

 

Pleidleisiodd yr Aelodau canlynol o blaid:
The following Members voted for:

Pleidleisiodd yr Aelodau canlynol yn erbyn:
The following Members voted against:

 

Andrews, Leighton
Antoniw, Mick
Chapman, Christine
Cuthbert, Jeff
Davies, Alun
Davies, Jocelyn
Davies, Keith
Drakeford, Mark
Elis-Thomas,
Yr Arglwydd/Lord
Evans, Rebecca
Gething, Vaughan
Gregory, Janice
Griffiths, John
Griffiths, Lesley
Gruffydd, Llyr Huws
Hart, Edwina
Hedges, Mike
Hutt, Jane
James, Julie
Jenkins, Bethan
Jones, Alun Ffred
Jones, Ann
Jones, Carwyn
Jones, Elin
Lewis, Huw
Mewies, Sandy
Morgan, Julie
Neagle, Lynne
Price, Gwyn R.
Rathbone, Jenny
Rees, David
Sargeant, Carl
Thomas, Gwenda
Thomas, Rhodri Glyn
Thomas, Simon
Watson, Joyce
Whittle, Lindsay
Wood, Leanne

Asghar, Mohammad
Black, Peter
Davies, Andrew R.T.
Davies, Byron
Davies, Paul
Davies, Suzy
Finch-Saunders, Janet
George, Russell
Graham, William
Isherwood, Mark
Millar, Darren
Parrott, Eluned
Powell, William
Ramsay, Nick
Roberts, Aled
Sandbach, Antoinette
Williams, Kirsty

Derbyniwyd y gwelliant.
Amendment agreed.

 

 

Cynnig NDM4824 fel y’i diwygiwyd:

 

Motion NDM4824 as amended:

 

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

 

To propose that the National Assembly for Wales:

 

1. Yn nodi cymeradwyaeth unfrydol y Cynulliad ar 5 Hydref 2011 i lunio a gweithredu Cynllun Canser Cenedlaethol ac felly yn galw ar Lywodraeth Cymru i:

 

1. Notes the unanimous endorsement of the Assembly on 5 October 2011 for drawing up and implementing a National Cancer Plan and therefore calls on the Welsh Government to:

 

a) Sefydlu Cynllun Canser cynhwysfawr sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn i:

 

a) Establish a comprehensive person-centred Cancer Plan to:

 

i) bennu targedau clir i sicrhau bod y triniaethau gorau sydd ar gael ar gael i bawb yng Nghymru ni waeth pa fath o ganser sydd ganddynt na lle maent yn byw;

 

i) set clear targets on making the best available treatment available to everybody in Wales regardless of the type of cancer they have or where they live;

 

ii) datblygu cynlluniau clir ar gyfer canfod canser yn gynharach yng Nghymru.

 

ii) develop clear plans for detecting cancer earlier in Wales.

 

iii) sicrhau bod cefnogaeth holistaidd yn cael ei darparu i’r rheini sy’n byw â chanser a’u teuluoedd o’r funud maent yn amau bod ganddynt ganser, yn ystod eu triniaeth ac ar ei hôl yn ogystal ag ar ddiwedd bywyd; a

 

iii) ensure holistic support is provided for those living with cancer and their families from the moment they suspect they have cancer, during and beyond treatment as well as at the end of life; and

 

b) Sicrhau bod pobl yn gallu cael gafael ar driniaethau canser diogel ac effeithiol mewn modd teg a phrydlon.

 

b) Ensure people have equity of access, promptly, to safe and effective cancer treatment.

 

Cynnig NDM4824 fel y’i diwygiwyd: O blaid 55, Ymatal 0, Yn erbyn 0.
Motion NDM4824 as amended: For 55, Abstain 0, Against 0.

 

Pleidleisiodd yr Aelodau canlynol o blaid:
The following Members voted for:

 

 

Andrews, Leighton
Antoniw, Mick
Asghar, Mohammad
Black, Peter
Chapman, Christine
Cuthbert, Jeff
Davies, Alun
Davies, Andrew R.T.
Davies, Byron
Davies, Jocelyn
Davies, Keith
Davies, Paul
Davies, Suzy
Drakeford, Mark
Elis-Thomas,
Yr Arglwydd/Lord
Evans, Rebecca
Finch-Saunders, Janet
George, Russell
Gething, Vaughan
Graham, William
Gregory, Janice
Griffiths, John
Griffiths, Lesley
Gruffydd, Llyr Huws
Hart, Edwina
Hedges, Mike
Hutt, Jane
Isherwood, Mark
James, Julie
Jenkins, Bethan
Jones, Alun Ffred
Jones, Ann
Jones, Carwyn
Jones, Elin
Lewis, Huw
Mewies, Sandy
Millar, Darren
Morgan, Julie
Neagle, Lynne
Parrott, Eluned
Powell, William
Price, Gwyn R.
Ramsay, Nick
Rathbone, Jenny
Rees, David
Roberts, Aled
Sandbach, Antoinette
Sargeant, Carl
Thomas, Gwenda
Thomas, Rhodri Glyn
Thomas, Simon
Watson, Joyce
Whittle, Lindsay
Williams, Kirsty
Wood, Leanne

 

Derbyniwyd cynnig NDM4824 fel y’i diwygiwyd.
Motion NDM4824 as amended agreed.

 

The Deputy Presiding Officer: Order. Will those Members who are leaving please do so quickly and quietly?

 

Y Dirprwy Lywydd: Trefn. A wnaiff yr Aelodau sy’n gadael wneud hynny yn gyflym ac yn dawel, os gwelwch yn dda?

 

Daeth Sandy Mewies i’r Gadair am 6.09 p.m.
Sandy Mewies took the Chair at 6.09 p.m.

 

Dadl Fer
Short Debate

 

Busnesau Bach, Effaith Fawr
Small Businesses, Big Impact

 

Joyce Watson: I have agreed to give Nick Ramsay, Rebecca Evans and Julie James a minute each in my debate. ‘Small traders’, ‘small and medium-sized enterprises’, ‘micro-enterprises’ are some of the terms that we use to describe the variety of small businesses that form the backbone of the Welsh economy, which is another phrase that we often use. What does it mean? Taken together, SMEs account for more than half of the total employment in Wales, with micro-enterprises—businesses that employ fewer than 10 people—accounting for nearly a third of private sector employment. It is hardly surprising that, as politicians, we are eager to talk up the SMEs and small traders, the micro-enterprises and social entrepreneurs in our constituencies. At a time when public sector employment is suffering the combined effects of prevailing economic uncertainty and hostile UK Government policies, the success of our small businesses is crucial to Wales’s economic wellbeing.

 

Joyce Watson: Yr wyf wedi cytuno i roi munud yr un i Nick Ramsay, Rebecca Evans a Julie James yn fy nadl. ‘Masnachwyr bach’, ‘mentrau bach a chanolig’, a ‘micro-fentrau’ yw rhai o’r termau a ddefnyddiwn i ddisgrifio’r amrywiaeth o fusnesau bach sydd yn asgwrn cefn i economi Cymru, sydd yn ymadrodd arall y byddwn yn aml yn ei ddefnyddio. Beth mae’n ei olygu? Gyda’i gilydd, mae mentrau bach a chanolig yn cyfrif am fwy na hanner cyfanswm cyflogaeth yng Nghymru, gyda micro-fentrau—busnesau sy’n cyflogi llai na 10 o bobl—yn cyfrif am bron i draean y gyflogaeth yn y sector preifat. Nid yw’n syndod ein bod, fel gwleidyddion, yn awyddus i siarad i fyny’r mentrau bach a chanolig, y masnachwyr bach, y micro-fentrau a’r entrepreneuriaid cymdeithasol yn ein hetholaethau. Ar adeg pan mae cyflogaeth yn y sector cyhoeddus yn dioddef o effeithiau cyfunol yr ansicrwydd economaidd cyffredinol a pholisïau gelyniaethus Llywodraeth y DU, mae llwyddiant ein busnesau bach yn hanfodol i les economaidd Cymru.

 

The problem is that talking up is not the same as talking to. As politicians, we come from all sorts of backgrounds, so we will not necessarily understand all the issues that small businesses face on a day-to-day basis. In life before politics—and yes, I did have a life before politics—I happened to run and manage pubs and shops in several rural west Wales communities, but that was long before the financial collapse, and way before broadband. That is why I spent this summer visiting businesses in Mid and West Wales, and why I signed up for the business buddies scheme organised by the forum for private business. I also visited individual traders, and arranged meetings with town business groups and trade boards. I wanted to get hands-on experience of day-to-day life at different firms and talk to businesspeople from different sectors about what support and opportunities they need to successfully start and grow their businesses. At the same time, I put a survey together that trade organisations were kind enough to send out to their members, and which businesspeople were good enough to send back to me. It simply asked for their priorities for the near future, and it received 50 responses. The information that I collected and collated is a valuable resource for me as a backbench Assembly Member, and I hope that it can help to shape and inform Welsh Government policies as well.

 

Y broblem yw nad yw siarad i fyny yr un peth â siarad â nhw. Fel gwleidyddion, yr ydym yn dod o bob math o gefndiroedd, felly ni fyddwn o reidrwydd yn deall yr holl faterion y mae busnesau bach yn eu hwynebu o ddydd i ddydd. Yn fy mywyd cyn gwleidyddiaeth—oedd, roedd gennyf fywyd cyn gwleidyddiaeth—bûm yn rhedeg ac yn rheoli tafarndai a siopau mewn sawl cymuned wledig yn ngorllewin Cymru, ond roedd hynny ymhell cyn y cwymp ariannol, ac ymhell cyn band eang. Dyna pam y treuliais yr haf hwn yn ymweld â busnesau yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru, a dyna pam yr wyf wedi cofrestru ar gyfer y cynllun cyfeillion busnes a drefnwyd gan y fforwm ar gyfer busnes preifat. Ymwelais hefyd â masnachwyr unigol, gan drefnu cyfarfodydd â grwpiau busnes trefi a byrddau masnach. Roeddwn i eisiau cael profiad ymarferol o fywyd bob dydd mewn gwahanol gwmnïau a chael siarad â phobl fusnes o wahanol sectorau am y cymorth a’r cyfleoedd y mae arnynt eu hangen i ddechrau a thyfu eu busnesau yn llwyddiannus. Ar yr un pryd, creais holiadur a ddosbarthwyd gan sefydliadau masnach, yn garedig ddigon, i’w haelodau, a bu pobl fusnes yn ddigon caredig i’w anfon yn ôl ataf. Yn syml, gofynnodd am eu blaenoriaethau ar gyfer y dyfodol agos, a derbyniodd 50 o ymatebion. Mae’r wybodaeth a gasglwyd ac a goladwyd gennyf yn adnodd gwerthfawr i mi fel Aelod Cynulliad mainc gefn, ac yr wyf yn gobeithio y gall helpu i lunio a llywio polisïau Llywodraeth Cymru hefyd.

 

For example, the Enterprise and Business Committee has just started an inquiry looking at ways to regenerate town centres. High street vibrancy was a concern that came up repeatedly in my meetings, with issues including out-of-town retail development, town centre parking and planning. Over half of the businesses surveyed said that town centre parking costs and capacity was an issue, particularly in Dolgellau, Bala, Aberystwyth, Milford Haven and Carmarthen. Carmarthen is a good example of innovative town centre management. The Carmarthen town centre strategy group is working jointly with Carmarthen market to keep the centre alive and thriving, and market manager Eifion Evans has worked hard to broaden its appeal by opening six days a week, with an outdoor market every Wednesday and Saturday. The town hosts themed days with music and entertainment, which is a great way to support local community groups. They spread the entertainment across the town, with a town crier at the development telling shoppers about events in King Street. The council owned that land and developed it with what the town needed to keep it vibrant. The council thought outside the box.

 

Er enghraifft, mae’r Pwyllgor Menter a Busnes newydd ddechrau ymchwiliad yn edrych ar ffyrdd i adfywio canol trefi. Mae bywiogrwydd y stryd fawr yn bryder a gododd dro ar ôl tro yn fy nghyfarfodydd, gyda materion yn cynnwys datblygiadau manwerthu y tu allan i’r dref, parcio canol tref a chynllunio. Dywedodd dros hanner y busnesau a holwyd bod costau a lleoedd parcio canol tref yn broblem, yn enwedig yn Nolgellau, y Bala, Aberystwyth, Aberdaugleddau a Chaerfyrddin. Mae Caerfyrddin yn enghraifft dda o reoli canol tref yn arloesol. Mae grŵp strategaeth canol tref Caerfyrddin yn gweithio ar y cyd â marchnad Caerfyrddin i gadw canol y dref yn fyw ac yn ffyniannus, ac y mae rheolwr y farchnad, Eifion Evans, wedi gweithio’n galed i ehangu ei apêl drwy agor chwe diwrnod yr wythnos, gyda marchnad awyr agored bob dydd Mercher a dydd Sadwrn. Mae’r dref yn cynnal diwrnodau o gerddoriaeth ac adloniant, sy’n ffordd wych o gefnogi grwpiau cymunedol lleol. Maent yn lledaenu’r adloniant ar draws y dref, gyda chrïwr y dref yno i ddweud wrth siopwyr am ddigwyddiadau yn Heol y Brenin. Y cyngor a oedd yn berchen ar y tir ac fe’i datblygwyd gyda’r hyn yr oedd y dref ei angen i’w chadw’n fywiog. Meddyliodd y cyngor y tu allan i’r bocs.

 

We do not have all the economic levers at our disposal in Wales, of course, and Welsh businesses want to see the UK Government act on things like bank lending, the cost and terms of credit, a targeted value added tax cut to help boost the construction industry, a national insurance tax, and breaks for small businesses that take on new staff. Access to broadband, making sure public bodies pay invoices promptly, making sure that small firms are not unfairly disadvantaged when competing for public sector contracts, improving town centre parking, and helping small businesses make the most of training and apprenticeship schemes—these are all things that we can do here in Wales. At a time when youth unemployment is on the rise, I am tremendously encouraged that half of the businesses surveyed said that support for SME employers to offer apprenticeships and training places was a big issue, or quite important to them. Schemes such as GO Wales have been successful in helping more small businesses take on trainees, but more can be done. Let us put small businesses at the heart of our training programme for young people.

 

Nid oes gennym yr holl sbardunau economaidd wrth law yng Nghymru, wrth gwrs, ac y mae busnesau Cymru am weld Llywodraeth y DU yn gweithio ar bethau fel benthyciadau banc, costau a thelerau credyd, toriad pwrpasol i dreth ar werth i helpu i roi hwb i’r diwydiant adeiladu, treth yswiriant gwladol, a thoriadau ar gyfer busnesau bach sy’n cyflogi staff newydd. Mynediad at fand eang, sicrhau bod cyrff cyhoeddus yn talu anfonebau yn brydlon, sicrhau nad yw cwmnïau bach o dan anfantais annheg wrth gystadlu am gontractau sector cyhoeddus, gwella parcio canol tref, a helpu busnesau bach i wneud y gorau o gynlluniau hyfforddi a phrentisiaethau—mae’r rhain i gyd yn bethau y gallwn eu gwneud yma yng Nghymru. Ar adeg pan fo diweithdra ymhlith pobl ifanc ar gynnydd, mae’n eithriadol o galonogol bod hanner y busnesau a holwyd yn dweud bod cefnogaeth i gyflogwyr mentrau bach a chanolig i gynnig prentisiaethau a lleoedd hyfforddi yn beth mawr, neu’n eithaf pwysig iddynt. Mae cynlluniau fel GO Wales wedi bod yn llwyddiannus wrth helpu mwy o fusnesau bach i gyflogi hyfforddeion, ond gellir gwneud mwy. Gadewch inni roi busnesau bach wrth wraidd ein rhaglen hyfforddiant ar gyfer pobl ifanc.

 

Carmarthenshire has a good example of the college, the Welsh Government, the local training association and local constructor traders teaming up to form a shared apprenticeship scheme.

 

Mae gan Sir Gaerfyrddin enghraifft dda gyda’r coleg, Llywodraeth Cymru, y gymdeithas hyfforddiant leol a masnachwyr adeiladu lleol yn cydweithio i ffurfio cynllun prentisiaethau ar y cyd.

6.15 p.m.

 

Young people get to develop a diversity of skills with different firms, and small businesses that would have struggled to support a traditional three-year apprenticeship are able to take on trainees on a rotational basis. It is an excellent example of a model where people deliver by working together, and I believe that it should be extended.

 

Mae pobl ifanc yn cael cyfle i ddatblygu amrywiaeth o sgiliau gyda gwahanol gwmnïau, a gall busnesau bach a fyddai wedi cael trafferth i gefnogi prentisiaeth tair blynedd draddodiadol gymryd hyfforddeion ar batrwm cylch. Mae’n enghraifft wych o fodel lle mae pobl yn cyflawni drwy gydweithio, a chredaf y dylid ei ymestyn.

 

The Welsh Government has announced that £75 million will be invested over the next three years in Jobs Growth Wales, a scheme to help 4,000 young people every year to access training and employment opportunities. Let us put small businesses at the heart of that plan.

 

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi y bydd £75 miliwn yn cael ei fuddsoddi dros y tair blynedd nesaf yn Twf Swyddi Cymru, cynllun i helpu 4,000 o bobl ifanc bob blwyddyn i fanteisio ar gyfleoedd hyfforddiant a chyflogaeth. Gadewch inni roi busnesau bach wrth wraidd y cynllun hwnnw.

 

People across Mid and West Wales have told me that living in a broadband slow spot was holding their businesses back. In all, nearly one in three of the businesses surveyed said that access to broadband was an issue for them. Not surprisingly, a map of broadband provision published by Ofcom at the beginning of the summer showed that as many as a quarter of households and businesses in Mid and West Wales were still not receiving 2Mb per second broadband speed.

 

Mae pobl ar draws Canolbarth a Gorllewin Cymru wedi dweud wrthyf fod byw mewn man araf o ran band eang yn dal eu busnesau yn ôl. I gyd, dywedodd bron i un o bob tri o’r busnesau a holwyd fod mynediad at fand eang yn broblem iddynt. Heb fod yn syndod, dangosodd map o ddarpariaeth band eang a gyhoeddwyd gan Ofcom ar ddechrau’r haf fod cymaint â chwarter o aelwydydd a busnesau yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru yn parhau i beidio â derbyn band eang o gyflymder 2Mb yr eiliad.

 

The broadband support scheme was set up by the Welsh Government to directly fund properties that were unable to receive current generation broadband; it provides a subsidy for satellite equipment or allows funds to be pooled to provide community services. That project was responsible for ensuring that all exchanges in Wales are ADSL enabled. The Government has now committed to delivering broadband provision to all households and businesses by 2015. Let us prioritise the small businesses in those areas that have been held back up until now by the commercial telecommunications companies.

 

Sefydlwyd y cynllun cymorth band eang gan Lywodraeth Cymru i ariannu yn uniongyrchol tai a oedd yn methu â derbyn band eang y genhedlaeth bresennol; mae’n darparu cymhorthdal ar gyfer offer lloeren neu yn caniatáu i arian gael ei gyfuno i ddarparu gwasanaethau cymunedol. Roedd y prosiect hwnnw yn gyfrifol am sicrhau bod pob cyfnewidfa yng Nghymru yn gallu darparu ADSL. Mae’r Llywodraeth bellach wedi ymrwymo i gyflwyno darpariaeth band eang i bob cartref a busnes erbyn 2015. Gadewch i ni flaenoriaethu busnesau bach yn yr ardaloedd hynny sydd wedi cael eu dal yn ôl hyd yn hyn gan y cwmnïau telathrebu masnachol.

 

Small, smart tourist operators that are looking to take advantage of the growth in the last-minute-break market, procurement practices and delays in local authorities paying invoices in time were big issues for the businesses that I contacted, and over a third said that it was a particular problem for them.

 

Roedd gweithredwyr twristiaeth bach, smart sy’n awyddus i fanteisio ar y twf yn y farchnad egwyl funud-olaf, arferion caffael ac oedi mewn talu anfonebau ar amser gan awdurdodau lleol yn faterion mawr ar gyfer y busnesau y cysylltais â hwy, ac yr oedd dros draean yn dweud ei fod yn broblem benodol iddynt.

 

Fifty per cent of the £4.3 billion public spend in Wales now goes to Wales-based suppliers, mostly SMEs. That is welcome news, as the figure is up from 35 per cent in 2003. It benefits our businesses and communities, but we believe that more can be done to simplify the process that allows small firms and new start-ups to compete fairly for contracts with large companies. It should not be a question of who can tick the most boxes on the tendering application, but rather who delivers value for public money and community benefit at that time.

 

Mae 50 y cant o’r £43 biliwn o wariant cyhoeddus yng Nghymru yn awr yn mynd i gyflenwyr sydd wedi’u lleoli yng Nghymru, busnesau bach a chanolig yn bennaf. Mae hynny’n newyddion i’w groesawu, gan fod y ffigwr wedi codi o 35 y cant yn 2003. Mae o fudd i’n busnesau a’n cymunedau, ond credwn y gellir gwneud mwy i symleiddio’r broses sy’n caniatáu i gwmnïau bach a busnesau newydd i gystadlu’n deg am gontractau gyda chwmnïau mawr. Ni ddylai fod yn gwestiwn o bwy a all dicio’r mwyaf o’r blychau ar y cais tendro, ond yn hytrach pwy sy’n darparu’r gwerth am arian cyhoeddus a budd i’r gymuned ar y pryd.

 

The draft budget sets out a plan for growth and jobs, and I am certain that SMEs will be at the heart of that vision. The Minister has already set our her stall by announcing five new enterprise zones, the microbusiness strategy and three additional priority sectors for Wales. This Labour Government is committed to supporting business and to supporting the recovery, and I will be submitting a report based on my tour and survey to the Minister, and I hope that it can feed into the process that is already under way with the microbusiness task group and other new programmes to tailor and tweak support for business. Our small businesses have the potential to drive the Welsh economy forward, steering it to a more prosperous, fair and sustainable future.

 

Mae’r gyllideb ddrafft yn amlinellu cynllun ar gyfer twf a swyddi, ac yr wyf yn sicr y bydd busnesau bach a chanolig wrth wraidd y weledigaeth honno. Mae’r Gweinidog eisoes wedi gosod ei stondin drwy gyhoeddi pum parth menter newydd, y strategaeth microfusnesau a thri sector blaenoriaeth ychwanegol i Gymru. Mae’r Llywodraeth Lafur wedi ymrwymo i gefnogi busnesau ac i gefnogi’r adferiad, a byddaf yn cyflwyno adroddiad yn seiliedig ar fy nhaith a’r arolwg i’r Gweinidog, yn y gobaith y gall gyfrannu at y broses sydd eisoes yn mynd rhagddi gyda’r grŵp gorchwyl microfusnesau a rhaglenni newydd eraill i deilwra ac addasu cefnogaeth i fusnes. Mae gan ein busnesau bach y potensial i yrru economi Cymru yn ei blaen, gan ei lywio i ddyfodol mwy llewyrchus, teg a chynaliadwy.

 

Nick Ramsay: I am pleased to contribute to this short debate, and I am pleased that Joyce Watson has chosen this topic for it: ‘Small Businesses, Big Impact’ says so much in just four words. I agree that small and medium-sized enterprises should be at the centre of our policy making. In the same way that this place has sustainability as part of its constitution, small businesses are key to that. The small businesses of today are the big businesses of tomorrow, and it is too easy, at the outset of a business’s life, to stifle what could be a big employer in the future, so I am pleased that you have brought forward this topic.

 

Nick Ramsay: Yr wyf yn falch o gyfrannu at y ddadl fer hon, ac yr wyf yn falch bod Joyce Watson wedi dewis y pwnc hwn ar ei gyfer: mae ‘Busnesau Bach, Effaith Fawr’ yn dweud cymaint mewn dim ond pedwar gair. Yr wyf yn cytuno y dylai mentrau bach a chanolig fod wrth wraidd ein gwaith o lunio polisi. Yn yr un modd ag y mae cynaliadwyedd y lle hwn yn rhan o’i gyfansoddiad, mae busnesau bach yn allweddol i hynny. Busnesau bach heddiw yw busnesau mawr yfory, ac mae’n rhy hawdd, ar ddechrau bywyd busnes, i fygu’r hyn a allai fod yn gyflogwr mawr yn y dyfodol, felly yr wyf yn falch eich bod wedi dwyn y pwnc hwn ymlaen.

 

It is a timely debate because we have had these discussions in the Enterprise and Business Committee. I know that you have done a lot of work in terms of gathering evidence and research, and we are currently undertaking an inquiry on the regeneration of town centres. There is no doubt at all that small businesses should be a key part of that.

 

Mae’n ddadl amserol gan ein bod wedi cael y trafodaethau hyn yn y Pwyllgor Menter a Busnes. Gwn eich bod wedi gwneud llawer o waith o ran casglu tystiolaeth ac ymchwil, ac ar hyn o bryd rydym yn cynnal ymchwiliad ar adfywio canol trefi. Nid oes amheuaeth o gwbl y dylai busnesau bach fod yn rhan allweddol o hynny.

 

I spoke during First Minister’s questions yesterday about the importance of having a one-stop shop-type mechanism within the Welsh Government, so that small businesses and big businesses that rely heavily on quick access to information and officials know where they are going. That is how we will put small businesses at the heart of policy making, where they should be.

 

Siaredais yn ystod cwestiynau’r Prif Weinidog ddoe am bwysigrwydd cael mecanwaith siop un-stop o fewn Llywodraeth Cymru, fel bod busnesau bach a busnesau mawr sy’n dibynnu’n helaeth ar fynediad cyflym i wybodaeth a swyddogion yn gwybod i ble y maent yn mynd. Dyna sut y byddwn yn rhoi busnesau bach wrth wraidd llunio polisïau, lle y dylent fod.

 

Rebecca Evans: I would like to talk briefly about crime against small businesses, which takes many forms, including theft, fraud and deliberate damage to commercial premises. Sometimes, it also involves violence against staff. The impact of crime on the business community is huge, with the average annual loss to businesses running at around £8,000. The Federation of Small Businesses estimates that crime against business in Wales accounts for 20 per cent of all crime. For this reason, I am very pleased that one of Welsh Labour’s manifesto pledges was to seek to establish a Welsh business crime unit. I hope that this will build on the good work of the Business Safety Wales project and the e-Crime Wales initiative.

 

Rebecca Evans: Hoffwn siarad yn fyr am droseddau yn erbyn busnesau bach, sy’n cymryd sawl ffurf, gan gynnwys lladrad, twyll a difrod bwriadol i eiddo masnachol. Weithiau, mae hefyd yn cynnwys trais yn erbyn staff. Mae effaith troseddu ar y gymuned fusnes yn enfawr, gyda’r golled flynyddol i fusnesau, ar gyfartaledd, tua £8,000. Mae’r Ffederasiwn Busnesau Bach yn amcangyfrif bod troseddu yn erbyn busnesau yng Nghymru yn cyfrif am 20 y cant o’r holl droseddau. Am y rheswm hwn, yr wyf yn falch iawn mai un o addewidion maniffesto Llafur Cymru oedd ceisio sefydlu uned troseddu yn erbyn busnesau yng Nghymru. Yr wyf yn gobeithio y bydd hyn yn adeiladu ar y gwaith da o brosiect Diogelwch Busnes Cymru a menter e-Drosedd Cymru.

 

When the Minister considers the forward work programme for the unit, I hope that she will consider the delivery of an active campaign to encourage every business in Wales to report every crime every time. I would like to take this opportunity to commend the Welsh Government on its commitment to strong partnership working with the police in relation to crime against business. I would ask the Minister to consider using that strong partnership approach to discuss the introduction of designated police officers to concentrate on crime against business, and to seek to encourage a clearer recording system to increase our understanding of the types and impact of crimes against business, in order to better prevent those crimes and respond to them in future.

 

Pan fydd y Gweinidog yn ystyried y blaenraglen waith ar gyfer yr uned, gobeithiaf y bydd yn ystyried cyflwyno ymgyrch weithredol i annog pob busnes yng Nghymru i roi gwybod am bob trosedd bob tro. Hoffwn fanteisio ar y cyfle hwn i ganmol Llywodraeth Cymru am ei hymrwymiad i gydweithio mewn perthynas gref gyda’r heddlu ar droseddu yn erbyn busnesau. Byddwn yn gofyn i’r Gweinidog ystyried defnyddio’r dull partneriaeth gref hwnnw i drafod cyflwyno swyddogion dynodedig gan yr heddlu i ganolbwyntio ar droseddau yn erbyn busnesau, ac i geisio annog system gofnodi gliriach i gynyddu ein dealltwriaeth o’r mathau o droseddau yn erbyn busnesau a’u heffaith, er mwyn atal y troseddau hynny yn well ac ymateb iddynt yn y dyfodol.

 

When small businesses are victims of crime, they can face closure, families can be robbed of their livelihoods, and these crimes can contribute to the demise of our high streets. I welcome the seriousness with which this Government views the problem, and the commitment that it has made to address it.

 

Pan fydd busnesau bach yn ddioddefwyr trosedd, gallant wynebu cau, gall teuluoedd golli eu bywoliaeth, a gall y troseddau hyn gyfrannu at dranc ein strydoedd mawr. Yr wyf yn croesawu’r ffordd y mae’r Llywodraeth hon yn edrych ar y broblem gyda chymaint o ddifrifoldeb, a’r ymrwymiad y mae wedi’i wneud i roi sylw iddo.

 

Julie James: I, too, am delighted to take part in this debate. I believe that the title says much of what we all want to say here tonight. In the very short time available, I would like to mention several things. I will begin with the shared apprenticeship scheme that we have all mentioned several times. This has had a great impact on youth unemployment and is a really good way to spread skills that are in decline across a wider number of people involved in small and microbusinesses, which might not otherwise have access to trainees and the opportunities to pass on the skills necessary. I wish to declare an interest here, as my husband runs a microbusiness. I know that the shared apprenticeship scheme has had a really good effect on his ability to pass on a specialist skill to a large number of people in a rotational system—an opportunity that would not have been available to him without the support of the Welsh Assembly Government’s shared apprenticeship scheme.

 

Julie James: Yr wyf innau wrth fy modd cael cymryd rhan yn y ddadl hon. Credaf fod y teitl yn dweud llawer o’r hyn yr ydym i gyd am ei ddweud yma heno. Yn yr amser byr iawn sydd ar gael, hoffwn sôn am nifer o bethau. Dechreuaf gyda’r cynllun prentisiaeth ar y cyd yr ydym i gyd wedi sôn amdano sawl gwaith. Mae hyn wedi cael effaith fawr ar ddiweithdra ymhlith pobl ifanc ac yn ffordd arbennig o dda i ledaenu’r sgiliau sy’n dirywio ar draws nifer ehangach o bobl sy’n ymwneud â busnesau bach a microfusnesau, efallai na fyddant fel arall â mynediad i hyfforddeion a’r cyfleoedd i drosglwyddo’r sgiliau angenrheidiol. Hoffwn ddatgan diddordeb yma, gan fod fy ngŵr yn rhedeg microfusnes. Gwn fod y cynllun rhannu prentisiaeth wedi cael effaith dda iawn ar ei allu i drosglwyddo sgil arbenigol i nifer fawr o bobl mewn system patrwm cylch—cyfle na fyddai wedi bod ar gael iddo heb gefnogaeth cynllun rhannu prentisiaeth Llywodraeth y Cynulliad.

 

In terms of our efforts on retail, we are looking at this issue in the Enterprise and Business Committee. I would like to commend small businesses for their efforts to prevent the growth of cloned high streets: the syndrome that we all know about, where every town looks the same. I commend their efforts to reflect our culture and our society in the unique and varied effort that they put into our high streets. I commend the Welsh Government’s support for that as well, and I ask it to do even more to help small businesses reflect their local areas, use local product chains and generally reflect their communities. In particular, I wish to commend people who work in our markets. In my constituency, Swansea West, these people make a big impact in that way, as do other small traders in the city centre.

 

O ran ein hymdrechion ar fanwerthu, rydym yn edrych ar y mater hwn yn y Pwyllgor Menter a Busnes. Hoffwn ganmol busnesau bach am eu hymdrechion i atal twf strydoedd mawr wedi’u clonio: syndrom yr ydym i gyd yn gwybod amdano, lle mae pob tref yn edrych yr un fath. Cymeradwyaf eu hymdrechion i adlewyrchu ein diwylliant a’n cymdeithas yn yr ymdrech unigryw ac amrywiol a wneir yn ein strydoedd mawr. Cymeradwyaf gefnogaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer hynny hefyd, a gofynnaf iddo wneud hyd yn oed yn fwy i helpu busnesau bach i adlewyrchu eu hardaloedd lleol, i ddefnyddio cadwyni cynnyrch lleol ac i adlewyrchu eu cymunedau yn gyffredinol. Yn benodol, hoffwn ganmol pobl sy’n gweithio yn ein marchnadoedd. Yn fy etholaeth i, Gorllewin Abertawe, mae’r bobl hyn yn cael effaith fawr yn y ffordd honno, fel y mae masnachwyr bach eraill yng nghanol y ddinas.

 

The last thing that I want to say is something that I mentioned in a previous debate held today, which relates to the big impact that innovators and entrepreneurs can have on our scene. They are always small businesses, and they are often clustered around our universities. I commend the Welsh Government’s efforts to include them in many of the schemes that are available to them.

 

Y peth olaf yr wyf am ei ddweud yw rhywbeth y soniais amdano mewn dadl blaenorol a gynhaliwyd heddiw, sy’n ymwneud â’r effaith fawr y gall arloeswyr ac entrepreneuriaid ei chael ar ein sefyllfa. Busnesau bach ydynt bob amser, ac y maent yn aml wedi’u clystyru o amgylch ein prifysgolion. Cymeradwyaf ymdrechion Llywodraeth Cymru i’w cynnwys mewn llawer o’r cynlluniau sydd ar gael iddynt.

 

The Minister for Business, Enterprise, Technology and Science (Edwina Hart): I welcome this debate. Small and medium-sized businesses in Wales account for nearly 60 per cent of employment and 40 per cent of turnover in Wales. Their growth is critical to the growth of the Welsh economy. Growth and sustainable jobs are at the heart of the programme for government, which sets out our commitment to review the support needed by start-ups and small firms. It is important that I review what is required by businesses in these difficult economic times. I thank Joyce Watson for the work that she undertook during the summer recess with her survey and I will be interested to see the results in detail. Many of the issues that she raised in her opening speech are issues that I have raised in my meetings with small businesses and with various business organisations when I have been out and about holding discussions.

 

Y Gweinidog Busnes, Menter, Technoleg a Gwyddoniaeth (Edwina Hart): Croesawaf y ddadl hon. Mae busnesau bach a chanolig yng Nghymru yn cyfrif am bron i 60 y cant o gyflogaeth a 40 y cant o drosiant yng Nghymru. Mae eu twf yn hanfodol i dwf economi Cymru. Mae twf a swyddi cynaliadwy wrth wraidd y rhaglen lywodraethu, sy’n nodi ein hymrwymiad i adolygu’r gefnogaeth y mae ar gwmnïau newydd a chwmnïau bach ei hangen. Mae’n bwysig fy mod yn adolygu’r hyn y mae ar fusnesau ei angen yn y cyfnod economaidd anodd sydd ohoni. Hoffwn ddiolch i Joyce Watson am y gwaith a wnaed ganddi yn ystod toriad yr haf gyda’i harolwg a bydd gennyf ddiddordeb mewn gweld y canlyniadau yn fanwl. Mae llawer o’r materion a godwyd ganddi yn ei haraith agoriadol yn faterion yr wyf wedi’u codi yn fy nghyfarfodydd gyda busnesau bach a gyda gwahanol gyrff busnes pan fyddaf wedi bod allan yn cynnal trafodaethau.

 

We need to use the resources that we have to our best advantage. That is the message that comes across strongly from business leaders and entrepreneurs. We need to look at which barriers affect business and at what more we can do. In that context, I have also met my sector panels, the science advisory panel for Wales and the National Endowment for Science, Technology and the Arts. Perhaps some people think the sector panels, such as the one for advanced manufacturing, are grand things that involve only large firms, but of course they are not. If you look at the panels for ICT and the creative industries many of them are tiny businesses—microbusinesses that are punching well above their weight. They are very good at telling Government what is required to help those particular sectors. I have had some very practical advice from them, and I now need to consider that.

 

Mae angen i ni ddefnyddio’r adnoddau sydd gennym at ein mantais gorau. Dyna’r neges sy’n dod drosodd yn gryf gan arweinwyr busnes ac entrepreneuriaid. Mae angen i ni edrych ar ba rwystrau sy’n effeithio ar fusnes ac ar beth arall y gallwn ei wneud. Yn y cyd-destun hwnnw, yr wyf hefyd wedi cwrdd â’m paneli sector, y panel cynghori gwyddonol ar gyfer Cymru a’r Gwaddol Cenedlaethol ar gyfer Gwyddoniaeth, Technoleg a’r Celfyddydau. Efallai bod rhai pobl yn meddwl bod y paneli sector, megis yr un ar gyfer gweithgynhyrchu uwch, yn bethau mawreddog sy’n cynnwys dim ond cwmnïau mawr, ond wrth gwrs, nid ydynt. Os edrychwch chi ar y paneli ar gyfer technoleg gwybodaeth a chyfathrebu a’r diwydiannau creadigol, mae llawer ohonynt yn fusnesau bach iawn—microfusnesau sy’n perfformio cryn dipyn yn well na’r disgwyl. Maent yn dda iawn am ddweud wrth y Llywodraeth beth y mae ei angen i helpu’r sectorau penodol hynny. Rwyf wedi cael rhywfaint o gyngor ymarferol iawn oddi wrthynt, ac mae angen i mi ystyried hynny yn awr.

 

I recognise that there is a broad consensus in Wales on the direction of travel. We also have broad support for the economic renewal programme. However, my goal is to build on the start that has been made and to integrate our economic, education, skills and planning policies. Julie James, the Member for Swansea West, made a very good point about shared apprenticeships, which is a key area for many SMEs and microbusinesses. They could never afford to do apprenticeships individually, but they can do more on shared apprenticeships. However, we must recognise that the economy is fragile and that business conditions are very tough. I need to ensure that support is right for businesses today as well as tomorrow. So, I am currently considering the problems that businesses are having accessing finance. I will be looking at a policy review of business rates. I am also considering ways to encourage more entrepreneurship.

 

Yr wyf yn cydnabod bod consensws eang yng Nghymru ar gyfeiriad teithio. Mae gennym hefyd gefnogaeth eang ar gyfer rhaglen adnewyddu’r economi. Fodd bynnag, fy nod yw adeiladu ar y dechreuad sydd wedi’i wneud ac i integreiddio ein polisïau economaidd, addysg, sgiliau a chynllunio. Gwnaeth Julie James, yr Aelod dros Orllewin Abertawe, bwynt da iawn am brentisiaethau a rennir, sy’n faes allweddol ar gyfer llawer o fusnesau bach a chanolig a microfusnesau. Ni allent byth fforddio i wneud prentisiaethau yn unigol, ond gallant wneud mwy ar brentisiaethau a rennir. Fodd bynnag, rhaid inni gydnabod bod yr economi yn fregus a bod amodau busnes yn galed iawn. Mae angen i mi sicrhau bod cymorth yn iawn ar gyfer busnesau heddiw yn ogystal ag yfory. Felly, yr wyf yn ystyried ar hyn o bryd y problemau y mae busnesau yn eu hwynebu wrth geisio cael gafael ar gyllid. Byddaf yn edrych ar adolygiad polisi o ardrethi busnes. Rwyf hefyd yn ystyried ffyrdd o annog mwy o entrepreneuriaeth.

 

My microbusiness task and finish group is looking at the key issues that will help. It is going to identify evidence on microbusiness support in Wales, drawing on evidence and best practice. It will establish benchmarks in that area and is looking at cost-effective options for Government delivery and support for microbusinesses. It also needs to provide for me a strategic direction for the work of developing the strategy, give me guidance on the future of a regional service centre, and promote the strategy for our business sector. That work is already well under way with that group.

 

Mae fy ngrŵp gorchwyl a gorffen ar ficrofusnesau yn edrych ar y materion allweddol a fydd yn helpu. Mae’n mynd i ganfod tystiolaeth am gefnogaeth microfusnesau yng Nghymru, gan dynnu ar dystiolaeth ac arferion gorau. Bydd yn sefydlu meincnodau yn y maes hwnnw ac y mae’n edrych ar opsiynau cost-effeithiol ar gyfer darpariaeth a chymorth gan y Llywodraeth i ficrofusnesau. Mae hefyd angen iddo ddarparu i mi gyfeiriad strategol i waith datblygu’r strategaeth, rhoi arweiniad i mi ar ddyfodol canolfan gwasanaeth rhanbarthol, a hyrwyddo’r strategaeth ar gyfer ein sector busnes. Mae’r gwaith hwnnw eisoes ar y gweill gyda’r grŵp hwnnw.

 

Mention has been made in the debate of broadband and the issues around next-generation broadband. If we could start using the phrase ‘access to twenty-first-century technology’ we would be on better ground, because this is not just a broadband issue; it is a mobile phone issue and there are many other issues involved. Obviously, I am in the middle of a competitive dialogue on the process, so I cannot comment on that, but I can say that our broadband support schemes and the changes that we have made have been warmly welcomed by businesses. So far, we have supported 1,347 applications under our support scheme, 11 per cent of which were from businesses: 134 were SMEs and 71 were home businesses. The information that we are getting on that scheme is quite positive.

 

Soniwyd yn y ddadl am fand eang a’r materion yn ymwneud â band eang y genhedlaeth nesaf. Pe gallem ddechrau defnyddio’r ymadrodd ‘mynediad i dechnoleg yr unfed ganrif ar hugain’ byddem ar dir gwell, oherwydd nid mater band eang yn unig yw hwn; mater yn ymwneud â ffonau symudol ydyw, ac y mae llawer o faterion eraill yn gysylltiedig. Yr wyf ynghanol deialog gystadleuol ar y broses, wrth gwrs, felly ni allaf roi sylwadau ar hynny, ond gallaf ddweud bod ein cynlluniau cefnogi band eang a’r newidiadau yr ydym wedi’u gwneud wedi cael croeso cynnes gan fusnesau. Hyd yn hyn, rydym wedi cefnogi 1,347 o geisiadau o dan ein cynllun cymorth, gydag 11 y cant ohonynt yn dod o fusnesau: busnesau bach a chanolig oedd 134 ohonynt, gyda 71 ohonynt yn fusnesau cartref. Mae’r wybodaeth yr ydym yn ei chael ar y cynllun hwnnw yn eithaf cadarnhaol.

 

Turning to innovation, which is the future, it is very important that we have continued our innovation voucher scheme and that I am looking at other ways to deal with innovation. The focus that we have had on small and medium-sized enterprises in debates in the Assembly over the past couple of weeks has been very good. We had a very good discussion this morning in committee in the context of the budget about the whole economy, how to deal with things and how to be fleet of foot, so to speak.

 

Gan droi at arloesi, sef y dyfodol, mae’n bwysig iawn ein bod wedi parhau â’n cynllun talebau arloesi a’m bod yn edrych ar ffyrdd eraill i ymdrin ag arloesi. Mae’r ffocws yr ydym wedi’i gael ar fentrau bach a chanolig mewn dadleuon yn y Cynulliad dros yr ychydig wythnosau diwethaf wedi bod yn dda iawn. Cawsom drafodaeth dda iawn y bore yma yn y pwyllgor yng nghyd-destun y gyllideb am yr economi gyfan, sut i ymdrin â phethau a sut i fod yn ysgafndroed, fel petai.

 

However, there are many other issues that small businesses want us to tackle, and some of these are key issues for us. They are very worried about procurement practices in Wales. I welcome the decision of the committee to set up a small task and finish group on that area. There is an issue to do with framework contracts, which militate against some small businesses. They are also very concerned about our town centres and whether we have a retail policy. That is coming across quite strongly in my discussions with them. So, there is a great deal for us to do, but it is important that we recognise that small businesses are here and need our support. We are going through some tough times, and we must provide the support they require and not necessarily the support that we, as Government, think they want.

 

Fodd bynnag, mae llawer o faterion eraill y mae busnesau bach yn dymuno inni fynd i’r afael â hwy, ac y mae rhai o’r rhain yn faterion allweddol i ni. Maent yn bryderus iawn am arferion caffael yng Nghymru. Croesawaf benderfyniad y pwyllgor i sefydlu grŵp gorchwyl a gorffen bach ar y maes hwnnw. Mae yna broblem yn ymwneud â chontractau fframwaith, sydd yn llesteirio rhai busnesau bach. Maent hefyd yn bryderus iawn am ganol ein trefi ac a oes gennym bolisi manwerthu. Mae hynny yn dod drosodd yn eithaf cryf yn fy nhrafodaethau â hwy. Felly, mae yna gryn dipyn i ni ei wneud, ond mae’n bwysig ein bod yn cydnabod bod busnesau bach yma a’u bod angen ein cefnogaeth. Yr ydym yn mynd drwy rai cyfnodau anodd, ac y mae’n rhaid i ni ddarparu’r cymorth y mae arnynt ei angen ac nid o reidrwydd y gefnogaeth y credwn ein bod, fel Llywodraeth, yn ei ddymuno.

 

Sandy Mewies: Thank you. That brings today’s proceedings to a close.

 

Sandy Mewies: Diolch yn fawr. Daw hynny â thrafodion heddiw i ben.

 

Daeth y cyfarfod i ben am 6.29 p.m.
The meeting ended at 6.29 p.m.

 

Aelodau a’u Pleidiau
Members and their Parties

 

Andrews, Leighton (Llafur – Labour)
Antoniw, Mick (Llafur – Labour)
Asghar, Mohammad (Ceidwadwyr Cymreig – Welsh Conservatives)
Black, Peter (Democratiaid Rhyddfrydol Cymru – Welsh Liberal Democrats)
Burns, Angela (Ceidwadwyr Cymreig – Welsh Conservatives)
Butler, Rosemary (Llafur – Labour)
Chapman, Christine (Llafur – Labour)
Cuthbert, Jeff (Llafur – Labour)
Davies, Alun (Llafur – Labour)
Davies, Andrew R.T. (Ceidwadwyr Cymreig – Welsh Conservatives)
Davies, Byron (Ceidwadwyr Cymreig – Welsh Conservatives)
Davies, Jocelyn (Plaid Cymru – The Party of Wales)
Davies, Keith (Llafur – Labour)
Davies, Paul (Ceidwadwyr Cymreig – Welsh Conservatives)
Davies, Suzy (Ceidwadwyr Cymreig – Welsh Conservatives)
Drakeford, Mark (Llafur – Labour)
Elis-Thomas, Yr Arglwydd/Lord (Plaid Cymru – The Party of Wales)
Evans, Rebecca (Llafur – Labour)
Finch-Saunders, Janet (Ceidwadwyr Cymreig – Welsh Conservatives)
George, Russell (Ceidwadwyr Cymreig – Welsh Conservatives)
Gething, Vaughan (Llafur – Labour)
Graham, William (Ceidwadwyr Cymreig – Welsh Conservatives)
Gregory, Janice (Llafur – Labour)
Griffiths, John (Llafur – Labour)
Griffiths, Lesley (Llafur – Labour)
Gruffydd, Llyr Huws (Plaid Cymru – The Party of Wales)
Hart, Edwina (Llafur – Labour)
Hedges, Mike (Llafur – Labour)
Hutt, Jane (Llafur – Labour)
Isherwood, Mark (Ceidwadwyr Cymreig – Welsh Conservatives)
James, Julie (Llafur – Labour)
Jenkins, Bethan (Plaid Cymru – The Party of Wales)
Jones, Alun Ffred (Plaid Cymru – The Party of Wales)
Jones, Ann (Llafur – Labour)
Jones, Carwyn (Llafur – Labour)
Jones, Elin (Plaid Cymru – The Party of Wales)
Jones, Ieuan Wyn (Plaid Cymru – The Party of Wales)
Lewis, Huw (Llafur – Labour)
Melding, David (Ceidwadwyr Cymreig – Welsh Conservatives)
Mewies, Sandy (Llafur – Labour)
Millar, Darren (Ceidwadwyr Cymreig – Welsh Conservatives)
Morgan, Julie (Llafur – Labour)
Neagle, Lynne (Llafur – Labour)
Parrott, Eluned (Democratiaid Rhyddfrydol Cymru – Welsh Liberal Democrats)
Powell, William (Democratiaid Rhyddfrydol Cymru – Welsh Liberal Democrats)
Price, Gwyn R. (Llafur – Labour)
Ramsay, Nick (Ceidwadwyr Cymreig – Welsh Conservatives)
Rathbone, Jenny (Llafur – Labour)
Rees, David (Llafur – Labour)
Roberts, Aled (Democratiaid Rhyddfrydol Cymru – Welsh Liberal Democrats)
Sandbach, Antoinette (Ceidwadwyr Cymreig – Welsh Conservatives)
Sargeant, Carl (Llafur – Labour)
Skates, Kenneth (Llafur – Labour)
Thomas, Gwenda (Llafur – Labour)
Thomas, Rhodri Glyn (Plaid Cymru – The Party of Wales)
Thomas, Simon (Plaid Cymru – The Party of Wales)
Watson, Joyce (Llafur – Labour)
Whittle, Lindsay (Plaid Cymru – The Party of Wales)
Williams, Kirsty
(Democratiaid Rhyddfrydol Cymru – Welsh Liberal Democrats)
Wood, Leanne (Plaid Cymru – The Party of Wales)